Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Tancliwa Ddychrynllyd ger…

News
Cite
Share

Tancliwa Ddychrynllyd ger Abertawe. DEUNAW .0 BERSONAU WEDI EU LLADD. Dyma newydd trist adfydus eto o Fforest- ach, ger Abertawe, fod y gelyn tanddaearol wedi bod wrth ei waith, ac wedi hyrddio i fyd arall ddeunaw o bersonau megys ar darawiad. Y mae pwll Fforestfach rhwng tair a phedair milldir o Abertawe, .a gweithir ef gan y Landore Steel Works Co., a un 'Thomas Glasbrook yw y cy far wry dd wr trefn- iadol. Dyma r ddamwain gyntaf or nod- wedd yma a gvmerodd le yn y pwll hwn er dechreuwyd ei weithio. Ymddengys fod tua 200 yn gweithio yn y pwll. Boreu dydd lau, aeth y dynioa at eu gwaith fel arfer tua chwech o'r gloch, ac erbyn y pryd hwn yr oedd y fireman wedi dychwelyd ar ol bod yn archwilio ac arolygu y gwaith. Yna aeth pawb i'w le ac at ei waith. Fel yr oedd y rhai olaf, fodd bynag, yn myned i fewn yn y trams, sefyrdanwyd iiwy gan swn ffrwydriad uchel, a dyma hwy ar unwaith yn cael ei gorchfygu gan y nwy •ofaadwy. Wedi iddynt ddyfod atynt eu hunain, gwnaethant eu ffordd allan o'r level yn nghanol llefain y rhai oddynt yn mhellach yn mlaen yn y pwll. Anfonwyd yn uaion i'r hen bwll at Mr. Benjamin Thomas, a dygodd hwnw barti -gydag ef er mwyn myned i'r pwll tanedig; ond oherwydd cyflwr peryglus y lie, buwyd am. grya amser yn analluog i anturio yn mlaen at y cyrif, ac yr oedd yn 12 o'r glocli cyn y gallwyd casglu y cyrff at eu gilydcl ar y gwaelod. "Daeth Mri. Thomas a Evans, meddygon, Abertawe,, yno; ond ni fu galw am eu gwasanaeth gan fod y cyrff ddygwyd allan yn feirwon, a'r rhai ddiangasant heb dderbyn braidd un niwed. Ymgasglodd tyrfa fawr at enau y pwll, ac yr oedd yr olygfa yn galonrwygol i'r eithaf jyno—gwragedd, plant, a pherthynasau, mewn mor o alar a thristwch. Dywedir y byddai y trychineb yn debyg o fod yn llawer helaeth- ach oni bai fod lluaws o ddynion yn absenol yn herwydd ffair_Llangyfelach. Ni wyddis etc am wir achos y ddamwain, ond meddylir fod y nwy wedi peri i un o lampau y glowyr Jfrwydro. RHESTR Y LLADDEDIGION :— Abraham Bevan, 48, overman, gwraig a phlant. Isaac Williams, 30, gwraig a phump o blant. David Davies, 30, glowr, Llanelli, sengl.. Job Davies, 16, sengl. r David Williams, 33, glowr, gwraig a phed- "war o blant. William Williams, 20, sengl. I. Thomas Thomas, 46, glowr, gweddw, wedi -gadael dau o blant. John Griffiths, 37, glowr, gwraig a dau o Want. David Anthony, 24, glowr, gwraig ac un plenty n. Evan Davies, 29, glowr, gwraig a dau o blant. Henry Jones,' 27, labrwr, gwraig ac un I plentyn. (0 Bencader, sir Gaerfyrddin.) r David Davies, 31, tanwr, gwraig a phlant. David Thomas, Cwmbach, 29, glowr, .gwraig a thri o bla,nt. V < Robert Howells, 15, sengl. Charles Cooper, 23, glowr (Caerloew), I gwraig ac un plentyn. John Prosser, 56, glowr, gwraig a phlant. William Matthews, 21, sengl. David Thomas, 37, glowr, gwraig a phlant. Hefyd llosgwyd David Thomas ychydig ar '1 -e1 wyneb a'i ddwylaw. Aed trwy y ffnrfiau er agor y trengholiad i ar gyrff y lladdedigion yn y clanchwa uchod dydd Sadwrn, o flaen Mr. Strick, crwner. ■Dechreuwyd yn y CwmbwrJa Inn, ac yna aed i'r Marquis Inn, Fforestfach, er bod yn fwy cyfleus i'r rheithwyr ymweled a'r cyrff. Dywedodd y crwner mai yr amcan wrth agor y trengholiad oedd, er bod yn alluog i Toddi yr eirchion gofynol i gladdu y cyrff. Yna gohiriwyd hyd ddydd Mercher diwedd- af. Cymerodd yr angladdau le dydd Sul, a daeth vn nghyd dyrfaoedd aruthrol.

Llith yr Hen Bydler.

Y LLWYNOG A'I BEBTHYNASAU.

EISTEDDFOD OINOINNATf A GJVOBRI…

u 8 IT ON IIUTY" AG "EST RON…

AT GYFRINFAOEDD ODYDDOL DOSBARTH…

MYNYDDOG YN DYCIIWELYD 0 AMERICA.

EOS NAINT A'I OHEBIAETH.

B UDD- G YNGIIEBDD EOS TVYN.

C! OHEBIAETH 0 L'SRPWL.