Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
IFOR PITW O'R •. EINBLAS:…
IFOR PITW O'R •. EINBLAS: ..l" -LA -J-. ¡J NEU Y Cymro Llwyddianus yn un o ,r. Drefydd Lloegr. III. Daeth yr adeg o'r diwedd i anfon Ifor i'r ypgol/ac felly un diwrnod anfonwyd ef yno yn ngofal Betsy, y forwyn. Yr oedd Betsy wedi bod yr forwyn yn y teulu er adeg priodas Howel a Gwen ac er i lawer ffrwgwd gymeryd lie rhwng ei meistres a hithau yn ysbaid y tymhor ysa, fel y tyst- iai y (orwyn yn fynych na fuasai hi ar un cyfrif yn aro/yno yn hwy na Chalangauaf, a'i meistres o'r tu arall yn bvgwth llawn mor ddifxifol mai ymndael fuasai raid ond pan ddeuai y tymhor hwnw i fyny, nid oedl yr un ohonynt yn cofio dim am hyny. Na yn wir, un tro pepderfynodd Betsy f^n'ed i ffair y dref er ch-vilio am le newydd, ac yn hollol benderfyuol i beidio dychwelyd. Pan yn vmadael boreu dranoeth, gorchym- vnodd Gwen am iddi ofala na ddeuai yno ond hyny. Ffwrdd yr aeth Betsy tua'r flair, ac yn faan aeth Gwen yno ar ei hoi er chwilio am forwyn newydd. in heol y Bont—hen le enwog am gyflogi-pwy a evfarfvddodd a'u gilydd ond Gwen a Betsy. "A ydwyt ti, ferch, wedi cael lie ? gofrnai Gwen. "Nac ydwyf," atebai Betsy. "Wei," meddai Gwen, gan fod eisieu lie arnat'ti, ao eisieu morwyn arnaf finau, onid gwell fyddai i ni gytuno an gilydd ? "Wei a dywedyd y gwir wrthych, aaeiatres," meddai Betsy, "Nid oeddwn i ddim wedi meddwl gofyn am le arall. Aeth y ddwy adref gyda'u gilydd, ae nid aeth meistres na morwyn adref erioed yn fwy llawen nag yr aeth Gwen a Betsy y diwrnod hwnw 0 ffair y dref. Yr oedd serch Betsy at Ifor yn angerddol; ni chawsai y gwynt chwythu na'r haul daro arno pe medrai hi. Y diwrnod yr aeth ag Ifor i'r .ysgol, gofalodd rybuddio yr vsgolfeistr i ymddwyn yn dmon tuag ato, I pheidio a'i niweidio ac er nad ymddang- osai fod yr hen ysgolfeistr yn gofalu rhyw lawer am ei rhybuddion, eto teimlai ei bod yn onest yn yr hyn a geisiai Ar y cyntaf id ymddangosai fod gan Ifor ryw dalent neillduol at ddysgu; araf iawn oedd ei srynydd, ond er hyny yr oedd yn ddysgwr cywir, manwl, a phenderfynol, fel yr oedd yn eithaf sicr ond cael Ifor 1 ymgymeryd at tinrhyw orchwyl y buasai yn sicr 0 ddyfod trwyddo yn orchfygwr. Syndod y fath amrywiaeth chwaeth a thalent oedd yn mysg ysgolheigion y pen- tref y pryd hwnw. Dyna Gruffydd, mab y Tvhen, os mai rhifyddiaeth fyddai y LrB tebyg ydyw mai llun tau' Deu bedair o longau fyddai ar ei lechen ef-un neu ddwy ohonynt yn marchog y tonau yn eu llawn hwyliau, a'r lleill yn archolledig gan y gwynt a'r dymhestl. Tynu llun reilffordd y byddai Owen, Ty'ralarch, ar agerdd- ieiriant gvda Berth bron yn wyrthiol yn tynu rhyw losgwrn anferthol ar ei ol. Ond am fab y Tymawr, cwn fyddai ganddo ef, ac ond odid na fyddai rhyw ddau ohonynt yn ymladd a'u gilydd ac yn wir eithriad fuasai ei weled heb ddau neu dn 0 gwn i^irone.'dol yn ei ganlyn, gan eu hysio ar greadur dinged. Tynu arlumau ceff"l«au ydoedd hoff «aith lOaa, Ty nwera, a'r ihai hyny uiewn 11awu nwjfiant ar fac-s y I hedegfà; ae yn ami byddai y marchog- «r yr^di svrthio oddi&r ei larch, a^uyna ne y bvddai Tii ei ledorwedd, gan edrych yn Sdi^rifol ar ystranciau pfiyTodraethus yr anifail. Ac 0 I fel y byddai Evan yn mwynhau ei hun uwchben yr olygfa fel mai nid petb anfynych fyddai ei glywed yn chwerthin allan yn iachus, nes yr oedd ei cydysgolheigion yn methu amgyffred pa beth a allasai ei gyuhyru 1 hyny. Bardd- oni y byddai Wmffre, Cae'rbwthyn, bob amser, ae ni fa erioed newyn testynau na defáyddiau arno. Ni fu testyn erioed yn rhy ddwfn fel nas gallaaai ei awen ddisgyn ato, nae ychwaith yn rhy aruchel fel ac i herio esgyll ei awen i fyned ai, ei ol Llawer tro anhapus ddigwyddodd i W mffre oher- wydd ei ganeuon, fel nad oedd braidd ddiwrnod yn myned heibio heb fod M mitre yn CiSi ei geryddu.. Un diwraodd tybiold mifre lddo weled rhywbeth nad oes angeorhaid ei enwi yn cerdded vn awdurdodol yn mhen mab y Caswell "Yr oedd yr olygfa mor ddyddorol ac vn wir farddonol hefyd, fel yr oedd yn anmhosibl i'w awen beidio a chynhyrfu, ac ar hyn daeth allan nifer o benillion ysgorp- ionog. Dysg-vyd hwy gan blant yr ysgol, nes o'r diwedd y daethant i glustiau rhieni mab y Castell; ac yn uniongyrchol dyma wr y Castell yn llidiog ei wedd a brochus ei dymher yn dyfod i Cae'rbwtbyn i fynu .dial ar Wmffre, druan. Y noson hono taloddbedwen glymog, yr hon a ddygwyd fyny mewn perth yn agos i ddrws Cae'r- bwthyn, ymweliad pur.annymunol a'i gefn. Ond er ei guro a gwialenodau lawer, ni lumydei hen *ast 0 Wmffre Ond 0 holl gymeriadau ysgol y pentref y prydhwn, diamheu mai yr hynotaf ohonynt oil ydoedd Edward, Ty'reapel. Pregetha fv ddai ei hoff waith ef, a mynych y bloedd- iai nes dadseinio y creigiau a'r bryniau p -a ci cymvdogaethol; a beth bynag am gymhwys- derau ereill, yr oedd gan Edward geg pregethwr. Yr oedd efe ychydig yn hyn na'i gydysgolheigion, ac yn ami y byddai yn eu casglu at eu gilydd er gwrando ei hyawdledd. Un tro aeth i ben cangen hen dderwen i anerch ei wrandawyr, Ei destyn y tro hwn ydoedd syrthiad caerau Jericho. Yn mhen eny<1 bloeddiodd Edward, gan ar yr un pryd roddi ysgyd- wad i'w gorff,—Y mae y caerau yn d'od i lawr." Arhyn torodd y gaugen grinllyd nes y syrthiodd y pregethwr "yn bur an- nyben, ac er mai mewn cyfarfod pregethu yr oeddynt, methodd y gynulleidfa a dal heb chwerthin. Cynhyrfodd hyn y pregeth- wr, am hyny cyfleoid foddion arall at eu cyflyrau, sef y dyrnau; ac yn wir nid hir y bu hono cyn llwyddo yn yr hyn yr am- canwyd hi Nis gwn a ddarfu iddynt oil gyrhaedd enwogrwydd yn yr hyn yr ymhyfrydent ynddo. Mae amser erbyn hyn wedi eu gwasgaru i bedwar cwr y byd, fel nas L dichon eto i un gloch eu galw byth yn nghyd. Faint bynag 0 ofidiau a tbrallodau a fu yn curo arnynt, a faint bynag y pleser- au a gawsant yn nhaith bywyd, y maent oil yn edrych yn ol ar yr adeg pan yn blant yn ysgol y pentref gydag adgofion 0 hiraeth a mwynhad. (I'VJ barhau.)
Crynodeb Seneddol.
Crynodeb Seneddol. Dof a difwyd i raddau ydyw pethau ar hyn o bryd yn nau dy y Senedd. Bu tipyn 0 siarad go yabrydol yno dydd Mercher cyn y diweddaf, ar ysgrif Syr J. Lubbock ar Hen Gofgolofau. Amean yr ysgrif hon yw dyogelu hen weddillion o golofnau henafol, a rhwystro iddynt gael eu dinystrio. Cynygiodd Syr J. Lubbock ail ddarlleniad yr ysgrif, a dywedai fod ei ddarbodion yn hysbys i'r Ty oddiar y siarad fu arno mewn eisteddiadau blaenorol. Cododd Arglwydd F. Hervey i gynyg gwrthodiad y mesur. Meddyliai ef fod y barwnig anrhydeddus yn pwyso gormod ar y mwyafrif a gafodd yn 1875. Nid oedd ef yn golygu fod y mesur yn nodi allan yn ddigonol beth oedd i'w ystyried fel cofgolofn genedlaethol. Darganfyddesid tyllau cyloh- grwn yn ddiweddar yn Rhydychain, a thystiai hynafiaethwyr eu bod yn weddill- ion pentref Prydeinig Yr oedd y 8ceptic yn gwawdio ac yn tystio nad oeddent ddim yn amgen na ces8pools yr Angel Inn, yr hyn yn ddiau oeddynt. Nid oedd ef yn deall fod galwad ar y Saeson i ddangos y fath radd 0 frwdfrydedd fel ag i basio yr ysgrif hon, a hyny dros golofnau rhywog aeth farbaraidd ae anwareiddiedig; y rhai y darfu i'n tadau gymeryd cymaint 0 dra- fferth i'w halltudio o'r tir. Daeth ein cyn- dadau yn groes i'r mor i yru allan y bobl druenus hyn—(Oh!). Lladdasant rai ac alltudiasant ereill. Os na yrasant hwynt allan, pa le yr oeddynt ? Mewn atebiad i'r coeg-siaradwr uchod, traddododd Mr. B. Hope ychydig eiriau a dorent i'r byw. Wedi i amryw siarad dros ac yn erbyn y mesur, atebodd Syr J. Lubbock, a rhanwyd Ty, pan y cafwyd Dros yr ail ddarlleniad 211 Y.i erbyn 163 I.' Mwyafrif dros 48 Derbynvyd yr bysbysiadd gyda chyiaer- adwyaeth. Ni fa unrhyw fesur 0 bwys a dyddordeb neiilduoll arall 0 fiaen y Ty yn ddiweddar. Bydd genym air i'w ddweyd mewn man arall am Arglwydd F. Hervey.
[No title]
PELENI HOLLOWAY.—Mae y cyfnewidiad :ml yn yr hin yn y wlad hon yn beryglus iawn i rai egwan eu hysgyfaint, ac i'r rhai nervous. Dylai pawb ydynt yn cael eu blino yn y ffyrdd hyn ddefnyddio y feddyginiaeth ragorol hon mor gynted ag y teimlant anesmwythder corfforol, neu y teimlad aflonydd sydd y meddianu y cyfansodd- iad, ac yn dynodi fed peirianau y treuliad allan o Ie. Cymerer un o Beleni Holloway tua chanol dydd, a dilyner hono gyda dogn digon mawr i ryddhau y coluddion, pan mai y dyoddefydd yn neillduo i orphwys, a cheir y bydd iddynt yn ddioed wellliau yr anhwyldeb, ac adferu trefn drwy yr holl gyfansoddiad. Dylid gwneyd prawf ,ar unwaith o feddyginiaeth mor syml, dyogel, a llwyddianus yn ei heffeithiau, pan fyddo afiechyd, drwy anwyd neu rhyw achos arall, yn bygwthym- osod ar y corff. PELENI HOLLOWAY.—YR YSGYFAINT A'R CYLLA —Y mae tywydd twym a boret au a phrydnawnau oerion bob amser yn creu anhwylderau yn rhanau treuliol y corff, y rhai ddylai gael gofal prydlawn. Nid oes dim yn debyg i Beleni Holloway am wella y treuliad. Maent yn cael eu cydnabod yn gar- trefol a thramor fel y feddyginiaeth sicraf ac effeithiolaf at benau anhwylus, poen yn y cylla, diffyg treuliad, gwynt, chwyddiad, gwrthwyneb- edd, pob math o ryddni, clefyd y gwaed, sychdery croen, a bol-rwymedd. Y maey Peleni hyn yn amdcliffyn y cyfansoddiad rhag y niweidiau am- rywiol sydd yn dilyn cyfnewidiadau y tywydd, ac felly o werth mawr yn y tymor hwn o'r flwyddyn. Nid ydynt yn ymyraeth dim a gwaith na phleeer. Boneddigesau hyny nad ydynt wedi defnyddio Starch Glenfield, dymunir ar iddynt wneyd un prawf o hono, a bob yn ofalus am ganlyn y cafar- wyddiadau argraffedig ar bob pacyn. Y mae yn ychydig anhawddach ei wneyd na Starches ereill, ond pan y deuir dros yr ahhawsdra, dywedir fel Golchwraig y Frenhines, mai y Starch goreu a ddefnyddiwyd erioed ydyw. L92
YR ARSYLLFA.¡
YR ARSYLLFA. ¡ Gall nad beth ddywed bechgyn Cwm- aman, a phob Cwm arall, am gael DABLLENJFA RYDD 1 ABEBDAE, y mae yn eglur ddigon fod eu gwrth-res- ymau yn frivolous ac yn geinioglyd i'r pen. Ofn y geiniog fawr sydd arnynt hwy; ond iddynt hwy gael cadw'r geiniog, boddlonant i weithwyr Cwm Aberdar farw mewn anwybodaeth. Trethir ein llogellau i osod cerig ar y ffyrdd, a pha annghyd- weddoldeb sydd mewn tipyn o dreth i wella ffyrdd y meddwl ? Talwn drethi am arwain dwfr yn bistyiloedd i'n tai, a pha afresymoldeb sydd mewn ceiniog o dreth i gludo ffrydiau gwybodaeth i'r meddwl. Yr ydym yn tahi llawer ceiniog o dreth y tlawd yn ystod y fiwyddyn, ac ni rwgnach- em ddim i dalu ceinjog arall i ymlid ym- aith o'n gwlad dlodi meddyliol, fel y gwneir gan ryw fechgyn o Gwmaman. Talu am oleu i'n ffyrdd a'n tai, a phaham na cheir ceiniog i oleuo'r boneddwr mawr ysbrydol sydd yn ein tai pridd. Board of Health yn trethu er iachuso cyrau a chonglau y dref a'r Cwm, a phaham y gwylltir ac y cynhyrfir am geiniog er iacheidio holl gonglau y meddwl? Yn wir, y mae case gwrthwynebwyr y muiiad hwn yn resynus a thosturiol i'r pen, ac i'n a'u heriwn bob copa walltog ohonynt, o Gwmdar i Gwmaman, i ddangos un rhes wm dros eu hochr ond y geiniog, tra y gallwn inau ddwyn yn mlaen gymanfa o resymau o'r ochr arall. Bobol! a ydyw yn well genych i hualau anwybodaeth dorfynyglu yr oes, yn Jjytrach nag i oleuni llachar diwylliant meddyliol fendithio ein gwlad ? Nid ydym yn golygu ateb Treth- dalwr yn ein rhifyn diweddaf, gan mae nid nyni sydd yn cadw cyfrifon plwyf Aberdar, ac nid nyni ychwaith ydyw yr arQftitect a benodwyd neu a benodir i adeiladu y ddar- llenfa newydd. Erbyn y daw y cyfle nes- af i ysgogi yn y mater hwn fe fydd gweith- wyr plwyf Aberdar wedi agor eu llygaid led pen, a dywedant Ni fynwn ddar- llenfa, a tharaned Cwmaman faint fyd a fyno. Y mae llawer o Saeson eto heft ddysgu talu parch i'r hen genedl Gymreig, ac yn meddwl nas gall dim da ddyfod oddiwrthi hi, fel y meddyliai yr Iuddewon am le arall ddwy fil o flynyddau yn ol. Y mae bech- gyn clyfer Cymru, trwy,drugaredd, wedi agor llygaid llawer mil o'r Saeson i ganfod mai nid rhyw baboons yw bechgyn hil Gomer. Fe wnaeth Ieuan Gwynedd, wrth amddiffyn diweirdeb merched Cymru, a Henry Richard, trwy ei ysgrifau a'i areith iau, waith mawr yn y cyfeiriad hwn. Dylem, hefyd, nodi y Parch. S. R., M.A., yr hwn a ysgrifenodd trwy ei oes dros ein hawliau a'n hurddaa. Y mae genym, hefyd, yn y Senedd Osborne Morgan a Watkin Williams, bochgyn llawn teimlad dros Gymru; ond y mae rhyw ddynion culfeddwl, gelynol, a rhagfarnllyd tuag 0 atom o hyd yn fyw yn debyg yn eu hysbryd i'r ARGLWYDD F. HERVEY hwnw a fu yn ein sarhau ar feinciau St. Stephan yr wythnos ddiweddaf. Yr oeddym yn disgwyl gweled fod rhai o'r aelodau dros Gymru yn codi fyny i ddweyd gair drosom, ond safodd neb. Pe digwyddasem ni fod yn selod o'r Ty, nid ydym yn credu y cawsem lonydd gan eia genau dros ein benw a'n hurddas. Galwai y pendefig pibrwynaidd, coegfalch. hwn gynfrodorion Prydain" yn ''wretched people." Y mae efe yn fwy o wretch, beth dychrynllyd, ei fod yn meiddio sarhau coffadwriaeth cenedl Caerdroia, am y rhai y canwyd yn nhan- gerddi Homer. Byddai yn burion peth anfon llythyr at y lordyn hwn, er hy- fforddi tipyn arno yn ei hynafiaeth afirhyd- eddus. Daeth ei henafiaid ef, meddai, dros y inor i'n euro, i'n lladd, ac i'n halltudio. Do, y cllwiw-ladron fel ag oeddynt. Beth oedd eu cymeriad yn Sacsoni, ni a garwn wybod ? Wel, yr hen lercod mwyaf di- ddaioni a lladronUyd a gerddodd daear, fel y mae profion digonol ar dudalenau hanes- iaeth. A'r hen sparkyn hwn o gyff Hengist yn myned i lysnafeiddio ein cenedl ni! Fe wnaeth y Cor Mawr i'r Saeson i agor eu llygaid, a gorfu i'r taranwr mawr y Times ein canmol y pryd hwnw; ac onid yw yn warthus o beth fod y torddyn torsyth Hervey yn ein bulragan? Beth ddywed gohebwyr Llundain a L'erpwl am hyn ?
FFYNON TAF.
FFYNON TAF. Nos Lun, Mawrth 5ed, cafwyd cyngherdd ardderchog yn Ysgoldy Frytanaidd y lie uchod, pryd y gwasanaethwyd gan Miss James, Canton; Mr. Watson, Eglwysnew- ydd Mr. Evans, Ffynon Taf; Mr. a Mrs. Barker, yn nghyd a Master W. T. Barker, Caerffili; Mr. D. M. Davies, British School; Mr. T. Williams, Pontypridd; a Mr. Gee, Caerdydd, fel cyfeilydd. Yr oedd datganiad Mr. Davies o'r Minstrel Boy," yn lew iawn. Hefyd Hearts of Oak gan Mr. T. Williams, Pontypridd; ond Master W. T. Barker oedd yn teilyngu y ganmoliaeth fwyaf wrth chwareu ar y tanau. Trueni na chawsai y llanc ieuanc hwn fanteision cyferbyniol i'w dalent.-Blackwell..
Eisteddfod Treherbert Dydd…
Eisteddfod Treherbert Dydd Gwyl Dewi. BEIRNIADAETH YR ANTHEM. Daeth i law naw o anthemau dan y ffng- enwau canlynol :—Efrydydd, Motetto, Ap Tudor, Nemo, D. C., Goss, Dudley Buck, Adam Kruger, a J. Paul Richter. Er nad wyf wedi cael fy moddloni, y mae yma anthemau da. Yr wedi wedi nodi y copiau oil, fel na bydd angen darllen y gwall- au yn yr Eisteddfod. Efrydydd.—Canfyddwyf fod ynddo dalent at gyfansoddi, ond y mae yn ddiffygiol mewn gwybodaeth, yn neillduol musical forms. Efryded; am gynghanedd o waith Richter, a chyfansoddiant o waith Saroni. Byddai hefyd yn ddoeth i'r rhan fwyaf o'r cystadleu- wyr hyn fyfyrio gwaith Saroni ar musical phrasing (pa fodd y dywedaf, brawddegu cerddorol). Nid oes ond un o'r naw wedi brawddegu ei anthem yn gywir, a hwnw yw Adam Kruger. Dylai ein cyfansoddwyr ieu- ainc gofio, os ydynt yn gwybod, a dysgu os nad ydynt, fod yn rjjaid i bob math o gyfan- soddiad cerddorol gael ei ddosranu yn gyfar- al, ac yn briodol, fel y gwneir mewn bardd- oniaeth, ond fod gan y bardd fwy o ryddid na'r cerddor, oherwydd yr amrywiol fesarau. D. C.-Agor gyda solo bass gweddol, cyfeil- iant crwca. Y fugue yn dda rhyfeddol, gwell nag un yn y gystadleuaeth. Gellid perffeithio yr anthem hon, a'i gwneyd yn ddernyn defnyddiol. Nemo.—Gweddol yw anthem Nemo. Y mae ynddi rai symudiadau anmherthynasol; hefyd, y mae wedi lladd un adran drwy fethu gweithio allan ei destyn yn rheolaidd gwel y copi. Ap Tudor.-Dechreu gyda solo, yr hwn sydd yn dibenu fel y dechreua, yn ddiniwed felly. Er nad oes ynddi lawer o fai, nid oes ynddi ragoriaeth fawr, eto y mae yn rhwydd i'w dysgu, a gwnai y tro i bractisio tipyn. Goss.-Triawd bach tlws i ddechreu, semi- chorus swynol yn canlyn. Oydgan nerthol oddiyma hyd y diwedd, a'r cyfanwaith yn gwneyd anthem dda. Dylai Goss ysgrifenu cyfeiliant i'w anthem. Motetto.-Ar y cyfan anthem dda iawn, yn enwedig yr adran ddiweddaf. Amryw wallau, gwel y copi. Dim accompaniment. Dudley Buck.—Cyfansoddiad tlws. Er nad nad yw yn dangos gwreiddioldeb mawr, y mae yn anthem dda, swynol, felodaidd. Syml heb fod yn gyfftedin amrywiol er yn glynu wrth yn un nodwedd gerddorol, ac yn dynodi gallu, neu wybodaeth helaeth yn y cyfansodd- wr. Byddai yn fendith i gorau eglwysig, os cyhoeddir hi. Adam Kruger, a J. Paul Richter.—Mae'r ddau hyn yn rhagori ar y saith ereill yn eu dull o draethu y testyn, ac eto, y maent yn hollol wahanol yn eu golygiadau. A gadael allan destyn yr anthem, a'i ystyried yn offer- ynol yn unig, byddai Kruger ar y blaen, er fod Richter yn llawer mwy gofalus am ber- ffeithrwydd ei gynghanedd. Y mae Kruger yn myned drwy y rhan gyntaf gyda real trumpet music (er fod yr awdwr wedi ei nodi yn m.f. maestoso) fel pe byddai y geiriau yn gorchymyn i bawb a phob peth ymostwng, neu ynte drengu yn y fan tra mae Richter yn fwy gwylaidd yn cymell pawb a phob peth, gan eu denu i dderbyn yr awgrymkd. Ar ol yr adraii gyntaf mae'r ddau yn canu yn bur dlws mewn quartette, Kruger yn dechreu gyda'r geiriau "Eithr efe a wna, a Richter gyda "Canys mewn llawenydd," yr olaf yn llwyddo i raddau helaeth i gyrhaedd nod o "lawenydd mawr," tra mae Kruger yn y pumed ban yn aberthu barddoniaeth neu aceniaeth y geiriau er mwyn brawddegu y gerddoriaeth yn rheolaidd. Ni ddylid dar- ostwng yr un er mwyn dyrchafu y llall. Heb- law hyny, gallasai Kruger osgoi hynyna o fai, ac hefyd wneyd yr imitation o'r ddau fan cyntaf yn y trydydd a'r pedwerydd ban, yn llawer gwell. Efallai y buasai hyny yn agor ei lygaid at y pumau a'r wythau cudd yn y trydydd ban o'r quartette, yn nghyd ag amryw bethau ereill wyf wedi nodi ar ei gopi. Eto, y mae y ddau yn cydgychwyn gyda'r geiriau "y mynyddoedd a'r bryniau," &c., mewn cydganau grymus, amser allegro; y gwahan- iaeth mawr rhwng y ddau yn y cydganau hyn yw, fod cerddoriaeth Richter yn gwneyd i'r "mynyddoedd a'r bryniau" floeddio canu yn bur dda, tra mae eiddo Kruger yn bloedd- io gwylofain yn ddychrynllyd. Gwan iawn hefyd, Mr. Kruger, yw eich diweddglo. Gwell o lawer fuasai y ddau fan olaf gyda chordiau chwech-pedwar, seithfed, a dau donic. Cred- wyf pe byddai i Adam Kruger ddarllen y benorl yn gyfan, y cai wahanol ddrychfeddwl i'r hyn y mae wedi ddangos yn ei anthem. Mae Adam Kruger yn gerddor galluog, ond nid yw ei bortread o'r ddwy adnod dan sylw mor gyson a'm meddwl i ag yw hyny o eiddo J. Paul Richter. Gwobrwyer ef.—Yr eiddoch yn wir eisteddfol, PARSON PRICE.
At Etholwyr Plwyfol Dosbarth…
At Etholwyr Plwyfol Dosbarth Pontypridd. Yr wyf yn teimlo yn dra gwylaidd wrth feiddio eich anerch. Fy unig reswm dros hyn yw fy mod yn teimlo y dyddordeb mwyaf yn nyledswyddau fy nghydgenedl. Chwi wyddoeh oil ein bod am rhy hir o amser wedi gadael pethau, i fyned yn y blaen gyda'r etholiadau nid fel y carem, ond fel v gwelai rhyw wr mawr, drwy ei gaffers bychain, yn dda. Nid ydym wediarfer edrych ar y pwnc etholiadol fel un o bwys cyffredmol, eithr fel peth lleol yn unig ac nid ar deilyngdod yr ymgeisydd i'r swydd yr edrychir, ond ar y blaid yr hona ei fod yn perthyn iddi. Mae yn wir fod plaid yn ofynol er llywodraethu, ond yr hyn wyf am osod ger eich bron yw y dylem dalu mwy o sylw i addasrwydd y gwr sydd am ein cynrychioli yn y blaid, canys heb hyn nid oes plaid ond mewn enw yn unig, a hyny er mwyn eich dallu, a'r canlyn- iad yw men, not measures—personau, ac nid deddfau llesiol. .Mae y dosbarth gweithgar wedi bod yn ffol ac esgeulus yn hyn o beth. Hyd yn ddi- weddar rhyw barti bychan yn mhob cantref" oedd yn dal tynged pob etholiad yn eu dwy- law eu hunain, a'u favourites hwy geid yn llanw pob swydd yn mhob man. Rhyw ys- bryd gwasaidd, hollol annheilwng o hen genedl urddasol y Cymry, a barodd i hyn gy- meryd lie ond y mae yr amser wedi cyf- newid, ac y mae yr hen ysbryd godidog oedd yn llosgi yn mynwesau ein cyndeidiau dewr- ion wedi ei ddadebru o drwmgwsg hirfaith, a'r canlyniad yw y cynydd mawr a welir yn ein plith yn bresenol mewn gwybodaeth a diwylliant. Yr wyf am i'r waedd Ffrengig "Marchon citoyens !"—(yn mlaen ddinasydd- ion !)—i gael ei bloeddio o benau y mynydd- oedd, yn nghilfachau pa rai y gorwedd gweddillion hen wladgarwyr, yn mynwesau y rhai yr oedd cariad at eu gwlad yn deimlad cysegredig, ac anrhydedd eu cenedl yn fwy yn eu golwg nag unrhyw beth arall o dan haul. Syndod pawb yw eu hanes, o dylai fod mor anwyl genym am dano a hanes yr Iuddew- on, beth bynag. Un o ddyledswyddau arbenig y mis hwn yw ethol Guardians ein plwyfi. Mae o bwys. dirfawr, a dylem fod ar ddihun er gosod pobl briodol ar Fwrdd y Gwarcheidwaid-" am- ddiffynwyr y tlodion" ddylent fod. Y fath ymddiriedaeth bwysig ydyw hi "Mae y tlodion gyda chwi bob amser," a gwelodd yr Hwn a lefarodd fel na lefarodd neb o'r blaen-yn dda i alw sylw arbenig at hyn. Yr wyf, er ys rhai blynyddau, wedi cael cyfleusderau i weled Gwarcheidwaid Ponty- pridd yn cyflawni eu dyledswyddau a da genyf dystio eu bod fel rheol yn dyner wrth yr hen a'r methiantus. Yr wyf yn priodoli hyn, i raddau mawr, i'r ffaith mai dynion self-made yw mwyafrif aelodau y bwrdd ac nid rhyw impsach" sydd yn cyfrif pawb is- law iddynt hwy, am fod rhyw dadcu iddynt hwy yn prynu can wrth y sach, ac nid wrth y scor. Yn yr etholiad diweddat daeth y llanw etholiadol a nifer o bysgod mawrion arian- aiddi'r porthladd, sef bechgyn y "blues," neu mewn geiriau mwy eclur-tafarnw yr. Gan mai tafarndai sydd yn achosi mwyaf o dlodi yn ein gwlad, myn rhai ddweyd fod rhyw briodoldeb yn y gwaith o anfon tafarn- wyr i ymdrin a'r achos o weinyddu trugaredd i'r tlodion. Fy marn ostyngedig i yw nad oes fawr grym yn y gosodiad, gan mai o'r trethi, ac nid o logellau y tafarnwyr y daw y drugaredd. Eto, cyfaddefaf fod yn mhlith y tafarnwyr sydd yn cynrychioli plwyf Ystrad- dyfodwg ddynion ag sydd wedi llanw y swydd gydag anrhydedd i'r plwyf a gynrychiolant. Mae yr etholiad nesaf wrth y drws. De- wiser gan yr etholwyr ddynion addas yn ol eu tyb, ac na chefnoger y sawl sydd mor haer- llug a myned i dai yr etholwyr i lanw eu papyrau pleidlsisio. Coiled yr etholwyr mai un o'r pethau mwyaf pwysig yn ngwaith dinesydd o'r wlad hon yw pleidleisio, ac y mae pob dyn a gymero ci arwain gerfydd ei drwyn i bloidleisio .fel y gwel arall yn dda, yn annheilwng o gael pieidlais o gwbl. Plentyn yw a gymer ei ddenu gan deganau, ac nid dyn teilwng o'r ymddiriedaeth a roddir ynddo gan y gyfraith. Gwyddom mai own hela Ystradyfodwg oedd yn ethol guardians yn y blynyddoedd sydd wedi myned heibio, ac nid y bobl. Anwyl gydwladwyr, gosod- wch eich gwynebau o hyn allan yn erbyn y cywilydd hwn. Etholwch bobl addas, ac na fydded y own yn dylanwadu arnoch. Yr wyf, mewn llawer cyfarfod ar lechweddau y mynyddoedd, wedi cael cyfleusdra i edmygu eich gwybodaeth a'cli gallu meddyliol. Yr wyf yn cofio gohebydd arbenig y Times, o, Lundain, yr hwn sydd far-gyfreithiwr yn perthyn i lysoedd barn ei Mawrhydi, yn y brifddinas, a'r hwn sydd yn awr yn cynrych- ioli y prif newyddiadur yn Bulgaria, yn.dy- wedyd wrthyf mewn cyfarfod o'r glowyr yn amser y strike, ei fod yn synu wrth barod- rwydd bechgyn Cymru i draddodi areithiau ar destynau mewn dadl, a bod yn rhaid eu bod yn feddianol ar allu meddyliol cryfion. Dywedais ei fod yn eithaf yn ei Ie, ac mai fy farn i nad oedd y fath bobl a gweithwyr Cymru o dan haul y ffurfafen. Dywedais fod tuedd y wlad i farnu ein gweithwyr yn ol yr hyn welir am weithredoedd y gwehilion o honynt yn y papyrau, ond mai y gwir yw fod naw o bob deg o weithwyr Cymreig yn ddinas- yddion rhagorol, yn anrhydedd i'w gwlad a'u cenedl. Yn mhlith y gwarcheidwaid mwyaf addawol ar y bwrdd yn Mhontypridd, hyd yr etholiad diweddaf, oedd Mr. Mbaes Rowlands, Peny- graig, ond yn nghyngrair cwn hela Ystrady- fodwg taflwyd ef allan. Safed yr etholwyr fel un gwr o'i blaid yn yr etholiad sydd wrth y drws. Na chymered neb yn unrhyw blwyf yn nosbarth Pontypridd ei arwain yn erbyn ei ewyllys ei hun, o hyn allan, medd MORIEN.