Skip to main content
Hide Articles List

17 articles on this Page

Stop yr Eilliwr.)

News
Cite
Share

Stop yr Eilliwr. ) Nos Fawrth am Saith i'r fynud, cododd yr Eilliwr, ac aeth at y ddor, a throdd yr allwedd; gyda hyn, gwelem Ben Dduwinydd yn cyfodi er symud ei gadair i'r cornel, pan y dywed- odd ychydig eiriau i'r perwyl a ganlyn :— Fy nghyfeillion. dyma y drydedd noson i ni gyfarfod, a gwelaf wrth ein rhif heno fod ein cymdeithas yn enill tir. Yr wyf yn gweled yma heno hen gyfaill i mi, ac oddiar fy ngwybodaeth am dano, yr wyf yn beiddio dweyd ei fod yn un a brawf felly i chwi; ac yn awr, gan fod yr amser i fyny, ac os ydych oil yn cydsynio i gymeryd Billy Ffair Fach yn frawd, cyhoeddaf i chwi eich arferol ryddid. Pasiwyd yn union, gyda tharanau o gymer- adwaeth, ein bod yn cymeryd Billy yn frawd, a chyda ein bod yn cael tawelwch, wele Huw Gadarn ar ei draed, pryd yr anerchodd ni fel hyn :—Fy nghyfeillion, yr ydym oil, fel ag yr ydym yn gwybod, yn cynal ein cyfarfod mewn lie eithaf ysglyfiaethol, gan fod yn llechu yma lwynogod, eryrod, ac ar a wyddom ni lawer o bethau od ereill; er hyny, ni fydd Ityn yn un rhwystr i ni sefyll dros iawnder, heddwch, a moesoldeb, heb lygru na llychwino dim ar ein cymeriadau. Ond ar fy ngair, os na cha Darllenfa Rydd Aberdar ein sylw am y nos, yn sicr i chwi, byddwn cynddrwg os nad gwaeth nag un peth od. Clod i galon y boneddwr anrhydeddus Dr. Jones, bu ef yn ddyn, ac yn ddyn i ddyn nid ceisio gwneyd lies i'w gydradd yr oedd, eithr ceisio ein dyrchafu ni, fechgyn y pwll glo, a gadael i deilyngdod i gael chwareu teg. Pwy yw ein cyfeillion 1" Bu farw ein hundeb, a marw ofnwyf fel nas cyfodir ef byth mwy do, bu farw a chyllyll daufiniog Judasiaid yn ei galon, ac ofnwyf, os na wnawn ninau agor ein llygaid yn fuan, y bydd i ni syrthio i'r un dynged, ac ar yr un pryd wasgu i'n mynwesau achos ein dinystr. Dywed y Budget, Llun- dain, ei bod yn warthus meddwl fod lie mor boblog ag Aberdar heb Ddarllenfa Had, a hono yn deilwng o'r lie, a chanmola Mr. Phillips am ei welliant mawr ar y cynygion a roddwyd yn y cyfarfod. Dywedodd Judge Falconer, yn Merthyr, rywbeth i'r perwyl, ac y dylasai pobl y lie fynu un felly trwy daflu eu ceiniogau ati; ac yr wyf finau, fy nghyfeill- ion yn beiddio dweyd yr un peth, ac ychydig bach yn mhellach, sef y dylasenv ni, er fod mynydd rhyngom ni a'n hen breswylfa, er hyny gyfodi ein lief drosto, a gwneyd rhyw- beth gyda hwy, ein hen gyfeillion, a thros ein teidiau sydd yn byw yno yn bresenol. JOHN BEN CvRLOG Foneddigion, fel yr ydym gweled fod ein parchus Huw Gadarn wedi myned a ni strim, stram, strellach o'r testyn heno eto, ac wrth eich gweled oil mor llawen yn nghyd a'n hen dad Ben Dduwinydd ar ei wen, yr wyf yn deall fod iddo faddeuant rhwydd. Un peth yn ei araeth dda a dynodd fy sylw, sef ei fod yn warth i Aberd&r na fuasai yno Ddarllenfa Gyhoeddus gan bwyll, gyfeillion, rhaid i ni ddeall mai nid gweith- wyr y lie oedd yn y cyfarfod dan sylw; mai nid eu barn hwy oedd yn cael ei siarad yno, ac mai nid eu teimladau hwy a gariodd yno. Pa un o'r gweithwyr y buom ni yn cyd- lafurio a hwy a fuasai yn yngan y fath fraw- ddeg a hon—"The working men don't want such a place." Yr ydym yn siarad am swn taran, clywch leisiau byddarol fy nghyd- ddynion yn taflu y frawddeg yn ol at yr hwn a'i siaradodd. BILLY FFAIR FACH Gyfeillion hoff, y mae yn felus genyf eich clywed yn siarad mor alluog, a hyny ar bwnc mor bwysig er hyn i gyd, os ydwyf yn deall y natur ddynol yn dda, credwyf y buasai ymadroddion mwy cydnaws a'n hen galonau ni yn well a mwy effeithiol er cyrhaedd ein hamcan, gan fy mod yn deall wrth eich rheolau mai nid pardduo na drygu neb ydyw amcan y gymdeithas, ond llesoli ein cyd-ddyn, gan nad pa le bynag y byddo. Felly, credaf pe buasech wedi aw- grymu rhyw gynllun er cael Darllenfa y buasai eich areithiau yn fwy gorphenedig. NED Y CAWR Yr wyf fi yn hollol gyd- olygu a Billy, gan hyny, yr wyf yn cynyg os bydd i weifchwyr Aberdar i gyhoeddi cyfarfod er siarad mew. cysylltiad a chael Darllenfa, ein bod ni oil i fyned a chydweithredu a hwy er cael un felly. YR. EILLIWR Yr wyf fi, gyda phob pleser, yn eilio'r cynygiad. BEX DDUWINYDD Y mae yn dda genyf, gyfeillion, eich gweled yn uno mor unfrydol yn y penderfyniad ac yn awr, gan fod yr amser i fyny, bydd i chwi gael eich harwain y tro nesaf eto at yr hen bwnc, os na fydd rhywbeth mwy pwysig yn galw sylw ar y pryd eto, gobeithia,f y cedwir moivagos ag y byddo at y ddeddf, sef peidio crwydro. APPRENTICE.

PENTEE, YSTRAD.I

[No title]

MIDDLESBRO'-ON-TEES.

TREORCI.

MYNYDD OYNFFIG.

PE N YB 0 NT-AR - 0 G WT.

I . MERTHYR.

YSTRADFELLTE.

COCKETT.

CWMOGWR.

PONT YEATS A'1 HELYNTION:

.BRECHFAT

ABERGWILI.I

NODION 0 DOWLAIS.

PONTARDAWE.

[No title]