Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Ail Eisteddfod Ifora-idd Dyffryn…

Eisteddfod Sciwen.

Nodiadau Ymylon y Fiordd.I

LLITII YR ESTRON.

News
Cite
Share

LLITII YR ESTRON. MR. GOL.—Yn y GWLAJDGARWR cyn y di- weddaf, rnae cyfaill a eilw ei hun Brochwel Ysgythrog yn fy meio am gofnodi peth yr ail°waith. Mae'r cyfaill wedi gweled rhyw- beth na welodd neb arall o'r lie hwn. Holed Brochwel" ef ei hun eto, feallai mai breuddwydio a wnaeth. Gobeithio nad oes dim yn fy llith yn peri iddo anesmwytho a chynddeiriogi, oblegyd felly maè'r llewod yn myned pan y cant eu haflonyddu. Pa beth mae'r cantorion, y sonia ef am danynt, wedi wneuthur iddo 1 Clywais fod chwilio mawr am yr Estron," efallai ei fod yn credu fy mod yn eu plith, a thrwy hyny ymosod arnynt un ac oil. Na, 'rwyf fi fel yntau yn meddu ar ormod a "hunanoldeb" i fyned i gardota. Carwn pe bae'r eyfaill yn gadael y dieuog yn llonydd, a pheidio rhoddi enw gweinidog yr efengyl yn ei lith cenfigenllyd. Pa le mae'r llawer o newyddion dyddorol oedd ef yn son am danynt 1 Methodd a chael dim ond un o'r diwedd. Yr oeddem yn disgwyl cael hanes yr anrhegu mawr fu yma; ond, fel y dywedodd yntau, "rhag bod neb yn syrthio i ddinodedd," rhoddaf fi yr hanes. Daeth boneddigesau'r Heol Fach i'r penderfyniad o roddi anrheg i gyfaill ag sydd yn hoff iawn am dano, a'r anrheg oedd penny whistle, yr hon a gynwynwyd gan Miss Clywais fod y eyfaill yn falch iawn o'r anrheg. Y maent yn bwriadu cyffwyno un eto iddo, sef cod ledr, fel y gall uno'l' ddwy anrheg yn nghyd er gwneuthur bagpipe, ac yna bydd y cyfaill yn myned o fan i fan i gardota. Hefyd, bydd yn derbyn engagements fel solo singer a bagpipe player mewn cyngherddau, &c. Mae'r canu yn flodeuog iawn yma yn awr, os canu hefyd; mae rhywbeth gan y bechgyn yma yn y gwaith na chlywais i erioed y fath beth, y maent yn gwaeddu dyro i mi ffa" a hyny byth a hefyd^: rhyfedd iawn na fuasent yn galw am bys ambell dro. Rhaid i mi dynu at y terfyn yn awr, gan obeithio na fydd i neb glwyfo wrth ddarllen fy llith, yn enwedig y LI d onide, ni fyddaf end megys gwybedyn yn eu crafangau. Cewch dipyn o hanes y V -l-t-es genyf y tro nesaf, os bydd y llinellau uchod yn dderbyniol.—Yr eiddoch, ESTRON O'R YSTRAD. MR. GOL.Yn y GWLADGARWRam Chwef. 23ain, ymddangosodd ysgrif gan un a eilw ei hun "Brochwel Ysgythrog. Mae yn y lie cyntaf yn cwyno fod hanes cyfarfod adrodd- iadol wedi dygwydd ymddangos yr ail waith yn eich newyddiadur diau fod hyny yn angenrheidiol, a phe buasai heb ymddangos unwaith ni fuasai yn un colled i'r wlad. Ond nid dyna yr oil, ewyna fod pethau pwysig a dyddorol ereill yn cael eu hesgeuluso, ac yn myned heibio heb sylw. Cymerodd arno ei hun i roddi banes neillduol o ddyddorol, sef hanes cantorion o'r lie uchod a fu yn cadw gwylnos i ganu yr hen flwyddyn allan a ehroesawu yr un newydd i mewn. Mae hefyd yn cofnodi eu bod wedi canu yn dda o dan effeithiau "ysbrydoedd" (spirits) mewn gwestdy, ac mai yn y Gyfeillach grefyddol y nos Saboth hyny y buont yn parotoi eu gwaith. Os cymerodd y fath bethau le, pa ddyddordeb sydd o'u cyhoeddi ar led gwlad. Gwelir yma mai nid o ysbryd cariad at y cantorion y mae y "Brochwel Ysgythrog" hwn wedi anfon ei drwyth allan ysbryd cenflgen sydd dan wraidd yr oil, onite buasai yn eu cynghori gartref am eu diffygion cuddia gariad luaws o bechodau. Y mae Brochwel Ysgythrog" wedi addaw enwau y personaufu yncadw yr wylnos fyth-gofiadwy hon. Felly, dymunem arno eu henwi un ac oil, fel y caifo yr eglwys weinyddu atynt yn unol a'u tros- eddau, am fod yr ysgrif eisoes wedi creu teimladau digofus ond cofied y "Brochwel Ysgythrog" hwn ddyfod allan o dan ei enw prioclol, fel dyn gonest, ac nid llechu dan gysgod ffugenw, oni fydd iddo fod yn un a'i addewid. Ni fydd ei holl ymdrech ond ofer, ac ystyrir ef yn anwireadus holiol. Oyniann a hyna yn bresenol.—Yr eiddoch; MIN Y MYNYDD.

NEW SOUTH WALES.

GrOHEBXAETH 0 L'SEPWL.