Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

IF OR PUW O'R EENBLAS: NEXT…

News
Cite
Share

IF OR PUW O'R EENBLAS: NEXT Y Cymro Llwyddianns yn un o Drefydd. Lloegr. AT Y DARLLEFYDD. Anfonwyd y Ffuglianes canlynol i gystadleuaeth Eisteddfod Gordofigion Liverpool a Birken- head, Dydd Nadolig, 1876. Cyhoeddwyd hi yn ail oreu a'r prif fai ynddi ydoedd ei bod 'yn cynwys gormod o gelwydd. Nid ydyw yr awdwr am honi mai ei gyfansoddiad ef ydoedd y goren, ond creda nad ydyw yn cynwys y cyhuddiad a ddyga y beirniac1 i'w erbyn. Gan obeithio y gwna les moesol i feddyliau darllen- wyr lluosog y GWLA'DGARWR,—YR AWDWR. I. YN un o ddyffrynoedd mwyaf hynod a rhamsntus Cymru, ar y dydd cyntaf o EbriH, y ganwyd Ifbr Puw, unig blentyr; Howel a Gwen Puw, Tyllwyd. Tua thri mis cyn geni I for, cafwyd (i dad, Howel Puw. wedi marw, a hyny mewn rcoud tra anc-isgwyliadwy ac amheus; ae felly yr oedd Gwen, Tyllwyd, yn weddw pan y llawenychodd ei cbalon c-herwydd geni dyn i'r byd. Ond buasai ci sirioldeb yn gryf- aJh pe buasai Howel, priod hoff ei mynwes, yn fyw i gydlawenhau a hi. Ond gor- weddai ef yn dawel a digyffro yn hen fyn went Llandyfyriog, 'gan adael Gwen yn werldw ieuanc i alaru am ei dirfawr golled. Deuai y cymydogion i'r Tyllwyd y boreu hWDW er cyfarch gwell i'r fam am mai bacbgen oedd y newyridanedig, gan y tyb- ieIJt fod gevi merch ar y dydd cyntaf o Ebrill yn arwydd sier o aflwyddiant a thr.allod, tra yr oedd jjpni barbgen yn brawf diamheuol o fawredd a llwyddiimt. Lluosog oeddynt y chwedlau a adroddwyd y boreu hwnw er cadarnbau eu tybiau. Gadawyd Gwen ar adeg marwolaeth ei phriod mewn amgylchiadau eysurus. Yr cedd Howel drwy ei ymdrech a'i ddiwydrwydd cyn ei briodas wedi erynhoi swm gweddol wrth ei gefn, yr hyn a fu yn gymhorth iddo ar ol priodi i gael y trechaf ar y byd; ac yn ystod yr ychydig amser y buont yn cyd- ddwyn yr iau, ychwanegasant at eu golud i'r fath raddau fel yr cedd yn eitbaf amlwg y buasai par ieuaicc Tyilwyd yn dyfod yn fuan yn gyfoethog iawn. I Yn mhen tri diwrnod wedi geni Ifor, daeth y newydd i'r Tyllwyd fo 1 Morgan yr Henblas wedi marw, Hen gymeriad hynod ydoeddjMorgan. Hen lane, fel y dywedir, ydoedd, ac rd fu neb erioed yn teimlo yn fwyeiddigeddus dros yr urdd hen-laneyddol; a dywedir fod ei gasineb gymaint at y rhyw deg fel na ddarfu i'r un o ferehed Efa groesi rhiniog yr Henblas fel morwyn yn ystod ei oes. Tebygai ei got o ran lliw i siaced Joseph a phan yn ddamweiniol y d; gwyddai gyfarfod a rhwygiad disymwth, yn hytrach na gwastraffu ei ariftn ar y pethau bychain afreidiol a elwir nodwyddau, gwnai ddefnydd helaeth o ddrain y berth er dwyn y darnau gwahanedig i undeb a pherthynas agosach a'a gilydd. Ni cheid un amser lanhau ei esgidiau, am y byddai hyny yn beryglus i ysi;-o ei es-ieirlau crin- il Ilyd a g\v- wed g. Noswaith y cafwyd Howel Puw yn farw, seth y si allan fod yna lawer o arian wedi eu colli o'r Henblas, ac fod cynwysiad yr hen goffr mawr, y sonid cymaint drwy y "wlad am danr. wedi ei ddxrya ymaith. Dywedai traddodiad fod Morgan wedi cynyg yr hen goffr i ddau o'r dynion cryfaf yn v piw;,f, ond iddyut ci g?mo i ben Mod y- Bwch, EC iddynt, arol ymdreeh galed, fethu a'i syflyd. Beth byriug am hyny, er fod yr hea ForgiHl wedi ei fendithio a chyfan- soddiad cawrfiluidd, gwywo a gwaethygu a wnaeth, fel yn mhen tri mis yr oedd y corff cadarn, yr hwn oedd wedi dal ystormydd a chroeswyntoedd triugain a phump o auafau wedi ei dd wyn yn ysglyfaeth i bryf y bedd. Gan mai Gwen, Tyllwyd, oedd ei berth- yeas agosaf, daeth yr Henblas yn nghyd a'i holl gyfoeth i'w rhan. Ond nid oedd y cyfryw yn agos gymaint a'r bya a dybid oedd yn ei feddiant. Yn fuan wedi marw- olaeth Morgan, symudodd Gven i'r Hen- blas; ac fel Gwen o'r lienbias yr adwaenid hi o hyny allan. Gwenodd ffawd ami, a daeth ffurfafen ei hamgylchiadau yn ddi- gwmwl. II. Dywedir fod gan olygfeydi natur ran hebictb er rhoddi ffurf i agweddiad y meddwl ieuanc, Os mai mewn gwlad wastad, ffrwytblawn, baradwysaidd, y dad- blygir athrylith, tynerwch a swyn fydd ffurf ei gwisg; ond os mai yn ngwlad y creigiau a'r mynyddau, caftref yr ystorm a'r melit,-beid "gar %,ch a gwroldeb fydd ei neillduolrwydd. Efalki nad oes yr un lanerch yn ein gwlad lie y ceir cyfuniad mwy hapus o'r prydferth a'r mawreddog na dyffryn Llawmant. Ar ei fynwes ceir y gweirgloddiau breision yn dwyn y gwenith melynwawr, ac yn llawn o'r perllanau ffrwythlon a'r rhosynau prydferth. Yn ei furio ceir y mynyddau a'r creigiau cedyrn, ar byd ochrau serth y rhai y dringa y 4iefaid a'r geifr, ac ar gopaau pa rai y nos- wylia yr ystorm, Res y deffroir hi gan ys- grechiad gorpbwyllog y dymhestl groch. Yn nghanol y golygfeydd hyn yr agorodd Ifor ei lvgaid, ac y treuliodd flynyddoedd cyntaf boreu oes. Ac 0, gyfnod dedwydd blynyddoedd bachgenaidd, pan yr oedd y meddwl heb ei lethu gan y byd a'i dra- fferthion'a'i ofidiau-paw b ar eu heithaf yn talu gwarogaetb i ymerawdr y teulu ac 0, fel bydd yr holl filwyr amddiffynol yn gwylio oddiamgylch y gwron pan yn rhoddi y cam cyntaf; a phan y waith gyntaf erioed y cyflawnir yr orchestgamp o groesi cyfan- dir mawr yr aelwyd, tardr yr holl fagnelau er anrhydeddu yr amgylchiad pwysig Dygwyddodd fod holl deulu yr Henblas yn wyddfodol pan wnaeth Ifor y daith bwysig hon y tro cyntaf, ac nid oes eisii u hysbysu fod yno lawenydd y noswaith hono. Un o'r pethau cyntaf y cofiai Ifor am dano ydoedd ei fod yn myned yn llaw ei fam tua hen frnwent Llandyfyriog, ac yno, wrth ochr hen ywen wylofus, penliniai ei fam ar fedd, gan blanu blodau ar ei fynwes oer, a'u mwydo a dagrau brwd ei bran, ac yn dywedvd mewn llais calon-rwygol wrth Ifor,—"Dyma fedd tada Ifor bach." Ychydig feddyliai Ifor y pryd hwnwam gVDwysiad yr ymsdrodd, sef fod tada Ifor Bach yn ei fedd. Er hyny, o'r adeg hono allan teimlai ryw barch cysegredig at "fan fechan ei fedd." Er nad oedd Ifor wedi gweled gwedd na chlywed llais yr hwn a gysgai farwol hun yn ei fynwes, eto an- wylai y fangre, ac yr oedd ei flodau a'i laswellt yn fil harddach yn ngolwg Ifor na boll flodau a glaswellt y greadigaeth. Ond dyna oedd yn dyrysu Ifor, fod tadau plant ereill yn dyfod adref bob nos, gan eu caru a'u hanwylo; ond beth a allasai fod y rheswm fod ei dad yn aros cyhyd cyn codi a dyfod. Un noswaith, pan wedi dyfod adref o dy cymydog, gofyrtai i'w fam gyda sydynrwydd a difrifwch,—" Mam," meddai, pa bryd y daw 'nhad adref i mi ei weled a chael cusan ganddo ? Wedi i Gwen gael amser i adfeddianu ei theimladau. dywedodd fod boreu yn dyfod pryd y cawsai weled ei dad-fod yna ddiwrnod pan y "byddai y meirw oil yn dyfod o'u beddau i gyfarfod a'r Barnwr yn yr awyr er derbyn y ddedfryd o'i law, ac fod plant da yn cael myned at Iesu Gaist i'r nefoedd, ond fod plant drwg yn cael eu hanfon i'r tan tra- gywyddol. Yn nghanol y meddyliau hyn cysgodd Ifor, a buan y dechreuodd freudd- wydio gweled ei dad yn dyfod adref, gan ei godi ar ei lin, ei anwylo ai gusanu ae 0, y fath lawenydd a lanwai ei galon pan yn canfod ei hun yn mynwes ei dad-teimlai ei fod y dedwyddaf ar wyneb y ddaear; ond Och! y fath siomedigaeth a deimlai boreu dranoeth pan yn canfod nad oedd ei dad yno. Gan nad oedd yr Henblas yn mhell oddiwrth yr eglwys, ac fod ffenestr yr ystafell lie y cysgai Ifor yn gwynebu ar y fynwent, y peth cyntaf a wnaeth dra- noeth ar ol codi o'i wely ydoedd edrych tua'r bedd ond canfyddai hwnw megys cynt heb yr arwydd leiaf fod ei breswylydd wedi aflonyddu arno. (I'w barhau.)

Mr. Gladstone a Syr H. Elliott.

Twrci a Rwsia.

Cystadleuwyr Cerddorol ,ein…

[No title]

Llwynog y Daren.

Breuddwyd.

Advertising