Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Llythyr o Nova, Scotia.

Nodiadan Cerddorol.

Llith yr Hen Bydler.

AT YSGRIFENYDD EISTEDDFOD…

"A fDD."

HE LA LLWYNOJUD.

Y ORVPWR ETO.

News
Cite
Share

Y ORVPWR ETO. Mr. GOL. ,—-Nid oes dim yn llythyr Gwron Dar yn galw am sylw neillduol, yn gymaint nad yw ef wedi cyffwrdd dim a'r pwnc, sef Nodweddion y cropwr." W11 i ddim pahanr y tybia y Gwron fod y nodiadan yn gyfuir- iedig ato ef mwy na rhyw un arall sydd yn cyflawm y swydd urddasol. Os nad yw efe yn tcimlo fod y darluniad o'r cropwr yn ateb idJo ef ya bsrsonol, nid oedd achos iddo gy- sneryd yr liugan ar ei ysgwyddau. Mi wn y cydnebydd y Gwron fod y glowyr bob amser yn edt-ych ar y cropwr fel cymeriad anmheus ;t chwbl diymddiried, ac os nad yw fony beth. sydd yn achosi iddo ef daflu y swydd o'i law ? Hyd nes y profa y Gwrün, neu rywun arall, fy mod yn gyfeiliornns fe saif goaodiadaa fy Ilytliyr cyntaf mor ansigledig a C'hraig y Mynach. Heb yindroi ychwanag gyda'r Gwron. rhaid symud yn mlasn i wneyd sylw ar ebychiadau anirwd y dyn a. eilw ei hun yn loan ap Iago. Nid yw o un pwys yn mha le y triga y doniolddyn hwn, ond mae yn amlwg ei fad wedi camddeall y pwnc dan sylw. Edrvched eto ar y mater, ac os myn fe all weled ei fod wedi cam gymeryd ystyr y cropwr, yn ol fel y defnyddir ef ar lafar gwlad, a chan y dosbarth gweithiol yn y cyffredln. Pe cymerasai y dyn ychydig o bwyll ni buasai raid iddo wneyd y fath ymdrech ei casglu y fath irruglwyth o ansoddeiriau gwyntog ac ymffl imychawl. Er mwyn cywreinrwydd, atebaf y gofyniadau yn ol y rhif fel y maent ar lawr 1. Gwneycl ei ddyledswydd rhwng meistr a gweithwyr yn onest, yn ol rkeolau y gwaith, yna ni bydd lie gan neb i rwgnach yn ei erbyn, gan y dylai pawb fod yn liysbys o drefniadau y g ivaith. 2. Cadw cyfrifon cywir o amser y gweith- i\yr ydyw gwaith amserydd, yr hyn o'i Seis- nigeiddio ydyw timekeeper. 3. Nid c y gosod i lawr ddiwrnod pan na fydd dyn wedi gweithio ond chwarter neu haner diwruod. Mae y gofyniadau ynddynt eu hunain yn ddwl, ac yn arddangosiad o an- wybodaeth dybryd ac eithafol. 4. Rhfsymol wasanaetxi pob dyn yn y swydd o amserydd ydyw cadw cyfrifon cywir a bod yn ofalus o'r chwarterion a'r haner diwrnodau. Gallesid ateb y pedwar gofyniad o dan yr un penawd yn ddigon hwylus, ond er mwyn yr Ap Iago rhoe3 hwynt i lawr wrth y rhif, er fod yr un meddwl yn rhedeg drwy y pedwar- gofyniad. Er mwyn osgoi y drafferth o gael ymgom pellach ar y miter hwn cynygiaf sylw neu ddau ar y gair "cropwr." Nid yw ond llygriad o'r gair Seisneg cropper y Gymraeg ydyw tociwr. tociedydd, blacndociwr. Eto, y y gair timekeeper — amserydd, amseriadur, aynseriadydd, neu goflyfnjdd. Hwyrach y dengys hyn o eglurhad nad yw Twmi o'r Bwllfa yn goegyn anfedrus ac annysgedig. Coned y dyn fod gwahaniaeth mewn ystyron geiriau, a bod llawer o eiriau sathredig ar lafar gwlad nad ydynt yn ddim amgen na chymysgedd o Gymraeg a Seisneg, eto i gyd y mae y werin yn deall yr ystyr sydd yn cael ei gyfieu drwyddynt. Nid wyf yn honi fy msd yn ddyn mawr fel y Gwron a'r Ap Iago, ond credwyf fy mod yn deall y gwahaniaeth rhwng y lythyren B a llun troed buwch yn y baw. Ewch rhagoch ymffl unvcliwyr, y naill i amddiffyn urddas y swydd o dociwr, a'r Hall i ymdrabaeddu mewn camsyniadau a'r ystyron geiriau Cymreig a Seisnig. Tebyg nad oes genych Ie yn eich colofnau i lawer o bethau fel hyn, o ganlyn- lad tawaf am y tro presenol.—Yr eiddoch, TWMI O'R BWLLFA.

HYNODION Y PRESENOL.