Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
LLANDYBIE.
LLANDYBIE. CYFARFOD CYSTADLEITOL.—Cynaliwyd cyf- arfod cystadleuol yn nghapel Trefnyddion y lie uchod nos Saclwrn, Chwefror y lOfed, dan lywyddiaetli Mr. J. Job, Sunny Hill. Clorianwyd y cantorion gan Mr. W. Lewis, Penygroes a'r adroddiadau gan y Parch. T. J. Pl.'itchal'd, Cross Inn. Wedi cael anerch- iad gan y cadeirydd, a dywediadan gan y beirdd, awd yn mlaen a gwaith y cyfarfod yn y drefn ganlynol :—Adrodd Salm xiii, i blant dan 14 oed chwech yn cystadlu rhanwyd y wobr "rhwng Mr. Daniel Pugh a Miss Jane Lloyd, Llandybie. Canu "Alexander" (o lyfr leuaii Gwyilt), i rai dros 40 oed un yn trio, sef Mr. Thos. Williams, Piode Cottage, a chafodd y wobr. Dadganu y bass "Ham- burg" (o lyfr Stephens a Jones) deg yn cystadlu goreu, Mr. J. Jones, Rock. Dar- .1 llen unrhyw ddernyn roddir ar y pryd deg o ddarllenwyr; goreu, Mr. J. Williams, Piode Cottage. Un cor o blant a gynygodd ar Wele ni yn dyfod (o'r Band of Hope), sef cor y Wesleyaid, dan arweiniad J. Williams, a chafodd y wobr. Areithio ar Yr Ysgol Sill pedwar o areithwyr; rhan- wyd y wobr rhwng Mr. W. Llewelyn, Piode, a Mr. E. Morgan, shoemaker. Canu "St. Peters," i rai dan 16 oed 24 yn cystadlu rhanwyd y wobr rhwng Mr. W. Walters, Red Cow, a Miss J. Jones, Cross Inn. Canu y Saboth," i bedwar chwech parti yn treio; goreu, Mr. J. Williams a'i gyfeillion. Canu y tenor Glanrhondda:" dau yn cystadlu, sef Mri. J. Williams ac 0. Oliver, Penygroes, a rhanwyd y wobr rhyngddynt. Y wenynen sillebol: pump sillebwr; goreu, Mr. J. Willianjs. Canu "Y weddwfam," iferched chwech yn cystadlu goreu, Miss E. Morgan, Saron. Araeth ddifyfyr 11 yn trio goreu, Mr. E. Morgan. Canu "Sarah:" dau gor yn cystadlu, sef eiddo'r Wesleyaid a'r Trefn- yddion, Llandybie y blaenaf dan arweiniad .J. Williams, a'r olaf dan arweiniad J. Davies a rhanwyd y wobr rhyngddynt. Yna, deuwyd fX brif destyn y cyfarfod, sef canu "Salome:" dau gor yn cystadlu, sef yr un dau ag oedd ar y testyn diweddaf, a rhanwyd y wobr rhyngddynt. Yna, terfynwyd y cyfarfod, ac aeth pawb i'w cartrefleoedd yn gysurus; wedi cael cyfarfod adeiladol, hwylus, a da.- Musebius.
LLANELLI.
LLANELLI. "OLIVER CROMWELL."—Nos Fawrth, 13eg cyfisol, cawsom yr anrhydedd o glywed ein cydwladwr hyglod, y Parch. E. H. Evans, Caernarfon, yn traddodi darlith ar y testyn uchod yn nghapel Als. Cymerwyd y gadair gan Dr. Jones (meddyg enwog a pharchus yw ef, ac yn ddiweddar y daeth yma), a chafwyd ychydig eiriau ganddo yn dra phwrpasol i'r hyn fu yn canlyn. Cafwyd cynulleidfa luosog iawn, ac nid oedd gan y dorf ond un farn am y darlithiwr, a hono yn un ffafriol. Nid oedd y pryd hwnw, ac nid oes yn awr, derfyn ar y ganmoliaeth iddo-nid yn unig fel dar- lithiwr, ond fel dyn gwybodus a galluog, ac fel gwr Duw. Yn gymaint a bod hanes Cromwell wedi ei gyhoeddi mewn newydd- iaduron a chyfrolau, a bod ei deilyngdod yn wybyddus led-led y Dywysogaeth, ni fyddai ond gwastraff ar eich gofod pe gwnaem fanylu arno, ac felly digon yw dweyd ein bod wedi ein boddhau yn y ddarlith a'r darlithiwr hy- glyw, fel nad oes yn ein meddiant iaith i ddarlunio y yleser a'r llawenydd a deimlwyd genym pan yn gwrando aino. Deallwn fod Mr. Evans wedi derbyn "galwad" unfrydol oddiwrth eglwys y diweddar Barch. Dr. Parker, Manceinion a mwy na thebyg. os a ef yno, y bydd ei gyflog tua l,000p. y flwyddyn. Ond betli bynag am hyny, yr ydvm yu dymuno am i fendith yr Arglwydd eiddilyn i ba Ie bynag yr elo tra parhao ei yrfa yn y byd hwn. Aethpwyd i fewn i'r ddarlith drwy docynau swllt yr un, a chredwn fod pob un wedi enill llog gwir dda y noson grybwylledig. Defnyddir yr elw at ddileu dyled y capel. SEFYLLFA MABNACH.—Y mae sefyllfa mas- nach yn y He hwn a'r cylchoedd yn parhau yn gymylog a thywyll iawn hyd yn hyn, er fod rhai cangenau masnachol yn fwy brysg a bywiog nag y maent wedi bod, megys y glo- wyr. Y mae rhan luosog ohonynt liwy yn gweithio ar hyn o bryd, ac y maent oil mewn gobaith o gael dychwelyd mor fuan ag y gellir cael lie clir i weithio yn y pyllau. Hefyd, y mae yr alcanwyr yn cael gweithio yn fwy cvson nsg y maent wedi bod ond eto, nid yw ein gweithfeydd yn gwisgo yr agwedd a 'hoffein weled yn eu hamgylchynu hwy. Gobeithiwn fod amser gwell gerllaw. pryd y bvdd olwynion masnach yn troi gyda chyflymdra melltenaidd trwy gyrau ein gwlad. —J. Llandlian James. SEXEDD GYMREIG."—Noson ddifyrus ac adeiladol i'r pen oedd nos Sadwrn ddivveddaf gydag aelodau dosbartli araethyddol y Llan. Cedwid math co "Ssnedd Gymreig yno. Y pwnc ag y cafwyd dadl arno oedd Pa un a ddylai Prydain" amddiffyn Twrci ai peidio." Rhanwyd y dosbartli yn ddwy blaid, sof Tori- aid a Rhy ddf ry dwyr arweinydd y blaid Doriaidd oedd Ap Elli, yr hon blaid oedd Doriaidd mewn enw yn unig arweinydd yr ochr Ryddfrydig oedd Mr. D. Griffiths. Cafwyd areithiau galluog o'r ddwy ochr. Bydd y ddadl ne-saf yn mhen mis, a'r pwnc dan sylw fydd "Dadsefydliad." Rhad ar ein cyf- eillion ieuainc. TREBOR ALAVV.— Cyfarfyddodd y bardd a'r cerddor ieuanc galluog hwn a damwam bur ddifrifol nc-s Wener ddiweddaf yn ngwaith alcan yr Ilea Gastell. Bu ages i'r cerddor a cholli ei droed, end da genym ganiod nag ydyw sefyllfa pethau mor alaethus ag y credasom ar y cyntaf eu bod. Bachgen campus yw Trebor, nid oes yr un dyn ieuanc yn y Llan wedi dringo grisiau aurhydedd yn gyflymach nag ef y blynyddau diweddaf yma. Nid oes dadl yn ein meddwl ni na fydd hwn mewn ychydig yn un o gedyrn Cymru, ac y n bydd yn anrhydedd i Walia Wen. Hir oes iddo i ddyrchafu ei liun ac i wasanaethu ei genedl. Un deilynga'r enw gwron Ydyw Trebor Alaw wiwlon, Haeclda'i restri yn mhlith doethion, Campus fachgen yw; 'Mhen rhyw luaws o flynyddau, Cymru Wen a'i banog fryniau, Dadsain wnant gan swn caniadau, Gwaith y cerddor gwiw. Plentyn hoff Ceridwen, Dysglaer fel yr haulwen, Ydyw'r bardd a'r cerddor mwyn, Mae'n swyno Gwalia geinwen. Meibion lien aydd yn ei holli, Gwerthfawroga'r bardd :i gwmni, Plant y gan all sy'n ei garu, Bythol byddo byw. -Ap Elli.
ABERDAR.
ABERDAR. Oddiwrth hysbysiad a ganfyddir mewn colofn arall. gwelir fod Christy Minstrels y Brodyr Mathews i dalu ymweliad a'r dref dyddiau Gwener a Sadwrn nesaf. Mae y cwmni hwn yn enwog am ei allu cerddorol a'i arabedd. Mae gweinidogion yr efengyl, ac ereill sydd yn dal cysylltiad a'r gwahanol enwadau crefyddol yn Aberdar, wedi penderfynu galw yn nghyd gyfarfod cyhoeddus i gymeryd i ystyriaeth y priodoldeb o wneyd ymchwiliad o dy i dy er sicrhau nifer y rhai nad ydynt yn mynychu un lie o addoliad, gyda'r dyben o drefnu mesurau i'w cael o hyd i bregethiad yr efengyl: Cynelir cyfarfod cyhoeddus yn ngtyn a'r mudiad nos Lun nesaf yn Seion, capel y Wesleyaid, pryd y traddoefrr anereh- iadau gan Mr. Williams, Gwaelodygarth House, Merthyr Mr. Davies, Maesyffynon ac ereill.
NEBO, GLYNCORWG.
NEBO, GLYNCORWG. Cynaliodd Annibynwyr y lie uchod eu cy- farfod blynyddol ar y Sul a'r Llun, y 4ydd a'r 5ed cyfisol. Yr oeddid yn disgwyl y Parch. D. Onllwyn Brace i fod yma ar y Saboth, ond methodd ddyfod o herwydd afiechyd. Y gweinidogion a gymerasant ran yn y gwasan- aeth cyhoeddus oeddynt y Parchn. Davies, Siloah, Llanelli; Rogers, Penbre; Jones (B.), Glyncorwg Davies, Glynnedd Morgans, Maesteg Morgans, Resolven a Jones, Pen- bre, yr hwn a gafodd ei sefydlu yn weinidog yr eglwys hon yn y cyfarfod dau o'r gloch dydd Llun. Rhoddwyd y siars i'r eglwys gan y Parch. Rogers, Penbre, a siaradwyd gan y gweinidogion a enwyd uchod. Yr oedd yn dda genym weled y capel mor llawn yn ystod yr holl gyfarfodydd, a'r gwrandawiad mor astud ar weision Duw yn traddodi y genadwri. Hyderwn y bydd i lawer o bech- aduriaid gael eu troi o gyfeiliorni eu ffyrdd. Ily Bydded i ddyfodiad Mr. Jones i'n plith fod o fendith fawr i'r lIe yw dymuniad llawer heb- law-Elanc o'r lle.
PENILLION
PENILLION A gyfinsoddwyd ar gyfiwyniad tysteb i Mr. T. Bees, Gadlys-st., Aberdar, gan yr Ifor- iaid, sef darlun hardd o hono ei liun art. teidu. Nid yw Rees yn ddyn cyfoethog, Nac o wych arglwyddol waed Nid yw uchel freiniol swyddog A wna lethu'r tlawd dan draed Ond mae ef yn wr boneddig, Yn wladgarwr twymgar, lion, Parod, hawddgar, a haelfrydig, Didwyll, o serchgarol fron. Un sy'n meddu gwerthfawr riniau Fel ei perchir gan ryw lu, Dwyn gelynion wna yn ffryndiau Trwy ei ymadroddion cu Didwyll, serchog, fel cymydog Yn ei waith ac yn ei dy Dyn wna roddi—rhoddi'n serchog, Dyna nwyd ei fynwes gu. Cymdeithaswr gweithgar, dibaid Gweithia fwy nag unrhyw un Gweithiodd gyda'r Urdd Iforaidd, Prawf o hyn yw rhodd y llun Ie, rhodd, ac nid tal ydyw, Am ei werthfawr lafur cu Na, rhyw femorandum ydyw,' Adlewyrcha'i glod a'i fri. Ac na foed rhyw rodd fel yma Ymfoddloni'th feddwl certh, 0 hyn allan ymwrola A myn roddion mwy eu gwerth Oh boed iti, Thomas wiwlon, Ddydaiau hir a llawn o hedd— Dyddiau i enill haei wobrwyon Fo'n blodeuo uwch dy fedd. CAR.
CAERFYRDDINT
CAERFYRDDINT PENUEL. -Nos Fercher, Chwef. 14eg, tra- ddodwyd darlith yn v capel uchod, gan y p Parch. E. H. Evans, Carnarvon, ar "Oliver Cromwell a'i Amserau." Llywyddwyd gan y Parch. Mr. Jones, Pencader. Yr oedd testyn y ddarlith yn ddyddorol ac adeiladol, a'r dar- lithydd fel arfer yn hynod hyawdl. Siaradodd am ddwy awr a chwarter, ac nid oedd yr ol leiaf o flinder arno, na chwaith flinder ar neb o'i luosog wrandawyr. Afraid canmol Mr. Evans bellach, gan y gwyr y byd am ei dalent. Yr oedd elw y ddarlith at yr ysgol ddyddiol yn y lie, a gwerthwycl o docynau uchlaw gwerth deg punt ar ugain. Go lew ar gefn "Cromwell" onide 1—Yr Ehedydd.
LLANSAWEL.
LLANSAWEL. Nos Lun, lor;wr 22ain, cynaliwyd cyfarfod jylioeddus gan obcithlu Bethel yn y lie uchod, i'r dyben o gyflwyno tysteb i'r brawd Wm. Williams (Gwilym Cynlais), am ei lafur a'i pmdrechion yn nglyn a'r achos dirwestol yn y lie hwn. Cafwyd anerchiadau gwresog jan y cadeirydd, Mr. Llewelyn, ac henuriaid pr eglwys. Adroddwyd a chanwyd amryw ldarnau pwrpasol gan y plant, o dan arwein- ad Mr. S. Williams, yr arweinydd presenol. Da genym allu dweyd fod y gobeithlu a'r remlwyr Da yn cario dylanwad mawr yn y le hwn y dyddiau presenol.—Good Templar.
YSTRAD RHONDDA.
YSTRAD RHONDDA. Dydd Llun, Chwefror 12fed, bu farw y pregethwr, a'r gweinidog, a'r Cristion duwiol, y Parch. John Rufus Williams. Teimlir galar drwy y gymydogaeth ar ol Mr. Williams fel cymydog a phregethwr ac yn ei golli ef cawn golled cyffrftdinol mown cysylltiad a phob achos da. Daearv/yd yr hyn oedd farwol o none dydd Iau canlyn ol, wrth ochr mur y capel lie bu yn gweinidogaethu. Dyma fwlch yn rhengau Seion yn mhlith y Bedyddwyr. Daeth tyrfa luosog yn nghyd i weini y gymwynas olaf i'w weddillion, o bob enwacl yn ddiwahaniaeth, yn weinidogion a lleygwyr. Anerchwyd y gynulleidfa fawr wrth y bedd gall Dr. Price, Aberdar, ac ereill. Huned yn dawel, nes "byddo dorau beddau'r byd ar un gair yn agoryd.
TREORCI.
TREORCI. Cynaliwyd cyngherdd ardderchog yn y He uchod, er budd i Thomas Jones, glowr, Pencae, yr hwn a gyfarfyddodd a dam wain drwm er ys tri mis yn ol yn nglofa y Dare, yn nghyd a ch'addu ei anwyl wraig ac un o'i blant. Yn yr amser cyfyng hwn a'r y brawd, ffurfiodd ei gydweithwyr bwyllgor er chwilio i mewn ac i ddwyn oddiamgylch .Y ryw gynllun i'w gynorthwyo. Penderfyn- asant fod cyngherdd i'w chynal er budd iddo, yr hwn a gynaliwyd yn yr Ysgoldy Brytan- aidd nos Iau, Chwefror 15fed. Gwasanaeth- odd y boneddigesau a'r boneddigion canlyn- ol:—Misses E. Jones (Llinos Rhondda), E. Weeks, Maggie Hughes, a Mri. G. Williams, Tom Felix, Eos Ogwy, Eos Hafod, Cerddor Ebbwy, D. Davies, W. Watkins, G. E. Lewis, a chwareuwyd y cyfeiliant gan H. J. England mewn modd meistrolgar iawn. Aethant oil drwy eu gwaith yn ganmol- adwy iawn. Teg ydyw dweyd am rai 11 y o'r boneddigion hyn, eu bod wedi dangos llawer o gydymdeimlad tuag at wrthrych y cyngherdd, ac wedi rhoi eu gwasanaeth yn rhad. Dyma un o'r cyngherddau goreu fu yma erioed. Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn, a phawb yn ymddwyn yn foneddigaidd. Teilynga y pwyllgor ganmoliaeth uchel am eu parodrwydd i roddi cymhorth i'r gwan a'r anghenus. Hwn yw yr ail gyngherdd sydd wedi ei gynal er cynorthwyo y rhai sydd wedi eu niweidio yn ngwaith y Dare, ac y maent wedi bod yn grand success.—TJn oedd yno.
TREHERBERT.
TREHERBERT. CYFARFOD LLENYDDOL.—Cynelir y cyfar- fodydd hyn yma yn bur ami yn ystod y gauaf h'wn, ac y mae yn eglur wrthynt eu bod yn gwella bob gafael. Nos Lun, Chwefror 12fed, cynaliwyd un yn y Neuadd Gyhoeddus ar raddfa dra eang. Llywydd, Mr. J. James, grocer, Treherbert. Beirniadwyd y cantorion gan Mr. R. Evans (arweinydd Cor Undebol Aberdar), y Uenorion gan Mr. D. Weeks (Honddu), Treherbert. Methasom gael enw- au yr oil o'r buddugwyr, felly, ni wnawn ond coffa am y prif bethau. I agor y cyfarfod, cafwyd can gan Mr. E. Mason (Ehedydd Penpych), a'r gynulleidfa yn uno yn y cyd- gan. Enillwyd yr unawdau gan Mri. E. Thomas a T. Howells, Treherbert, ag Evan Jones, Tynewydd. Teimlad hapus i ni ydoedd gweled boys yr arclal yn cipio y gwobrwyon oddiar o wyth i ddeuddeg o gystadleuwyr ar bob un o'r unawdau yma. Wei done, boys Treherbert. Dau obeithlu gystadleuodd ar "Doweh at y Ceidwad," a'r goreu ydoedd gobeithlu y Ton, Ystrad. Daeth chwech cor yn mlaen i gystadlu ar St. Peter allan o lyfr Ieuan Gwyllt, a'r goreu oedd cor Siloh, Pentre, dan arweiniad Mr. T. Davies. Dan draethawd ddaeth i'r beirniad ar yr "Awyr a'r Llosgnwy;" goreu, Ehedydd Penpych, Blaenrhondda. Pedair can ar Y Fam yn Marw goreu, R. S. Williams, Treherbert. Pump englyn ar Reswm goreu, Daronwy, Treorci. Enillwyd yr adrodd gan Miss Davies, Bute Row, Treherbert; Gwilym Dyfodwg a rhyw lane arall na chefais ei enw. Yr oedd nifer y cystadleuwyr ar bob peth yn llawer, fel y gorfodwyd gadael ar ol rhyw bump o'r darn- au oedd ar y programme hyd ryw dro eto. Er fod yr hin yn arw ac yn anffafriol iawn y boreu, daeth ychydig yn well y prydnawn, fel y daeth yno ganoedd yn ughyd. Yr oedd y cyfarfod yn llawer lluosocach nag y medd- yliodd neb y buaspi. Cafwyd cystadleuaeth ardderohug, noson lawen, ac elw da. "Melus moes eto." Lhvyclian.
PENTRE RHONDDA.
PENTRE RHONDDA. SILOH.-Nos Iau, yr 8fed cyfisol, traddod- wycl darlith yn y capel uchod gan y Parch. D. Evans, gweinidog y lie y testyn oedcl Ishmael Jones." Nid oes eisieu dweyd am Mr. Evans fel darlithydd, y mae pawb yn gwybod am dano. Carwn pe buasai Mr. Evans yn gwasgu rhagor ar y gynulleidfa i fod yn fwy gvveddusyn y capel, yn lie gwneyd ty Dduw yn deml i'r diafol. Yr oeddwn yn falch i glywed Mr. Thomas yn rhoddi y fath gymeriad i Mr. Evans yn ei hen Ie, ac yr wyf yn gobeithio y bydd iddo enill yr un parch yn ei le liewydd.—Slum G-lanteifi.
TON, YSTRAD.
TON, YSTRAD. DARLITHAR GERDDORIAETH.—Nos Fawrth, y 13eg cyfisol, traduou»v'yd darlith gan y cerddor galluog, Alaw Ddu, ar y testyn, "Côr y Capel a chaniadaeth y Cysegr," yn Jerusalem, capel y Methodistiaid Calfin- aidd. Dyma y bumed o'r gyfres o ddarlith- iau a draddodir i'r gwyr ieuanc y lie uchod y gauaf hwn. Daeth tyrfa luosog yn nghyd er fod y tywydd dipyn yn anffafriol yr oedd bron yn anmhosibl i ddynion ddyfod o bell gan fel yr oedd y gwlaw yn disgyn, eto yr I y oedd y gwrandawyr yn llawer lluosocach nag pn un o'r cyfarfodydd blaenorol. Er fod yma rai o brif ddynion y genedl wedi bod yn darlithio, sef y Parchn. W. James, Aber- dar W. Thomas (Islwyn) R. Jones, Tre- herbert a D. Evans, Siloh, Pentre er hyny i gyd ychydig iawn oedd y cynulliadau. Mae hyny yn profi mai ychydig iawn, mewn cydmariaeth,. sydd yn hoffi llenyddiaeth ar- uchel a phur, hyd yn ftod yn y lie poblog hwn. Mae cerddoriaeth wedi cymeryd gafael dwfn yn meddyliau pobl ieuainc y cymydogaethau hyn, oherwydd mae y cyf- arfocl canu yn llawer mwy lluosog na'r un cyfarfod arall gan y dosbarth yma. ° Rhwydd hynt iddynt ddringo grisiau gwybodaeth yn cyfeiriad hwn, ond dylasent gofio gyda llaw mai dyn lied difudd i gymdeithas yw yr hwn sydd yn meddu ar ddim gwybodaeth yn ei ben ond yn unig s\vn, Cafwyd cyfarfod dydiorol dros ben, a chanwyd amryw donau gan gor y capel, dan arweiniad yr Alaw. Gwnaeth sylwadau tarawiadol ac ymarferol iawn ar ganu cynulleidfaol, yn nghyd a dyledswydd y corau yn nglyn a chaniadaeth y cysegr. Cymhella y corau i ddysgu ag ym- arfer cerddoriaeth dda a phur, a pheidio ym- foddloni byth a hefyd ar gerddoriaeth ar- wynebol a gwag ac i ymarfer Psalm-donau, Anthemau, a Chorawdau, &c., a'i dwyn i'r gwasanaeth crefyddol. Anogai mewn modd arbenig ar i'r corau beidio esgeuluso caniad- aeth y cysegr er mwyn y gystadleuaeth a'r eisteddfodau, &c., ond am iddynt gael eu lie priodol. Dangosai mai crefydd sydd yn gosod ac yn rhoddi gwir werth ar ein llafur yn y byd hwn, ac mae mewn cysylltiad a chrefydd yr oedd y prif gyfansoddwyr wedi enwogi ei hunain, megys eyfansoddiadau cysegredig Handel, a lluaws ereill oedd wedi gwneyd eu henwau yn anfarwol yn mhlith yr oesau. Yr eedd yn hyfrydwch mawr genym gael gwrandaw ar gerddor mor alluog ag Alaw Ddu yn trin y pynciau hyn. Cawsom lawer iawn o bleser ac addysg ar bethau mewn cysylltiad a chaniadaeth yn gyffredinol. Byddau yn rhwym o wneyd lies mawr pe caed cyfres o ddarlithiau neu bapyrau, fel y galwai y darlithydd hwy, ar wahanol bynciau cerddorol. Awgrymai yr Alaw fod yn ei feddwl i ysgrifenu rhyw haner dwsin o bapyrau a'u dwyn allan yn llyfr. Mae yn llawn bryd i ryw rai ddechreu yn y cyfeiriad hwn, ac yr ydym yn gobeithio y daw Alaw Ddu ag ef allan yn fuan, Gwel- som yr arweinwyr canlynol yn mhlith y gynulleidfa Eos Cynlais, T. Phillips, Tre- bert; David John, Ton Eos Glanteifi, a gwelsom hefyd Eos Hafod ac Eos Dyfi ar ddiwedd y cwrdd. Gobeithio y bydd yr awgrymiadau yn cael eu cario i weithrediad. -Tonai-iait.
HEOL FACH.
HEOL FACH. Rhoddwyd cyngherdd ardderchog yn yr ysgoldy Brytanaidd, nos Lun, Chwefror 12fed, gan Mr. ldris Thomas, Porth, yn cael ei gy- northwyo gan Gwilym Thomas, Mr. a Mrs. Owens, Dinas; a Mrs. Mary Jane Dodd. Canasant amryw ddarnau yn chwaethus, o weithiau ein prif awduron, megys Glover, Sullivan, Brinley Richard, Alaw Ddu, Haydn, John Thomas, Pencerdd Parri, Calcott, Syr Henry R. Bishop, ac Owen Alaw. Aethant drwy eu gwaith yn gampus trueni na bae yr oil o honynt yn gallu cael addysg gerddorol o'r radd flaenaf digon yw dweyd fod y cy- feillion oil yn meddu talent gerddorol natur- iol-ldris Thomas fel bass, Gwilym Thomas fel baritone, S. Owen fel tenor, a Mrs. Dodd fel contralto a Mrs. Owen fel soprano. Y mae llais clir a threiddgar Mrs. Owens yn para yn hynod o dda, ac nid bob dydd gellir cael cystal treble. Enw cyntefig Mrs. Owens oedd Margaret Evans dyna fel yr oeddem yn arfer ei hadwaen. Yr oedd yr elw yn myned i gynorthwyo Mr. Idris Thomas i fyned i Brifysgol Cymru. Cyfeiliwyd gan Mr. Caird, Tredegar. DARLITH. -Cawsom yr hyfrydwch o wrando Robyn Ddu yn darlithio ar ddirwest, yn nghapel Bethel (T.C.), nos Iau, y 15fed cy- fisol. Yr oedd y ddarlith yn dda, a gwir- ioneddau pwysig yn cael eu gwasgu at feddyl- iau y gwrandawyr. Mae Mr. Parry yn para yn hynod fywiog, a chyfrif ei oedran—dywed- odd ei fod yn 73. Bydded byw eto yn hir i wneyd daioni. Nos Wener cawsom ddarlith arall yn y Ton, ar "Oliver Cromwell," gan y Parch. Herber Evans, Caernarfon. Darlith ardderchog, a'r darlithydd yn ei hwyliau goreu. Cadeiriwyd yn fedrusgan E. Thomas, Ysw., Llwyncelyn, yr hwn sydd bob amser yn barod i gynorth- wyo pob achos teilwng. Yr oedd yr elw yn myned i gynorthwyo yr achos AnnibyKol yn y lie. Cafwyd benthyg capel y brodyr parch- us y Bedyddwyr, ac yr oedd y capel eang yn Hawn o wrandawyr.—Dafydd.
AT Y imiirix
AT Y imiirix Bvpded i'n cyfeillion y Beiract, o hyn allan gy- t -yino eu holl Gynyrchiou Bardclonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol: REV. W. THOMAS (IsLWYN) Glyn, Pontllanfraith, (fwladgarwr.) Newport, Mon. Oartref fy nghariad.—Can yn odli a man. Rhaid i chwi fod yn fwy manwl gyda'ch acenion 0 na b'ai'r dydd yn gwawrio Pan welir fi a gwen Mewn undeb yn ymrwymo Wrth allor yr hymen Newy n.—Dechreu "Enaid ing, cenad angau." Ymddengys, Onoi t/fbaco, &c.—Cymeradwy. Ilyfedr, ondyr iaith braidd yn gref ac eithafol. Cwm-y-glo.—Engiyn galluog, ond y llinell olaf yn ddichwaeth. Y tro cynta' 'rioed."—Mae'n hawdd credu. Nis gwyddom beth yw'r testyn, ond wele'r cynyi ch:— Pan y byddo arnoch eisiau Cael hanesion am 'steddfodau, Gan yr un cewch am gyngherddau, Ac yn lli, daw lien, fon-Iles i ninau. Os am newyddion yn wythnosol, Gwladol, trefol, a thramorol, Cewch nwy gyson gan wasneithiwr, A i briodol enw yw GWLADGARWR." I
CYWYDD'"
CYWYDD A ddarlIenwyd ar gyfiwyniad tysteb i Calfin, yn ngtiapel y Driuclod, Llanelli, G wener y Groe- lith, 1876. J & Calfin, bardd ac elfen bur, Dyn ato ftodau natur; Holl anian yn dra Hon wych, I RJ dd yn ei gol roddion gwych. Dewr, hoew, rlied yr awen Hybarch, i'w gyfarch a gwen: I Iddo gwn y rhydd y gaeth, Gu, swynol, ei gwasanaeth. J Ei famwlad ni wad, na'i iaith, Na'i deulu yn v dalaeth Gyrai Sais o Gaer ei sir, I r India boethach rliandir; A'i gnul main i gauol m6r, Wag elfen i oer gulfor Hen Loffwr doniol hoffus, Da am rawn a dim o'r us Am y grawn y mae ei gri, Enbyd yn myd ein medi A dylai y medelwyr Hoffi r Llan am Loffwr llwyr. Calfin wych ar; liael fan hon, Dyngarwr dan ei goron Car diblyg, gair Duw o'i blaid, A'n Dedau ni Drindodiaid Un rodia mewn anrhydedd, Dyn a'i air yn dôn o hedd. Da noddydd Duwinyddiaeth, Gwlad y mgr, golud, a maeth. Hir fo'i oes dan arfau lesu, Ac eil-fan gwell i Calfin gu.
PENILLION I'R MOR.
PENILLION I'R MOR. Unwaith eto tremio'n llawen Ar dy ddysglaer donau wyf, Tra yn rhedeg ar dy lanau Lleinw'm hystwyth gorff a nwyf Yfed o'th awelon cryfion Ddeuant o derfynau byd, Bair i'm natur lwyr anngliofio Swyn seguryd cartref clyd. Mwyniant mawr yw gwel'd dy donaw Yn ymgodi yn eu gwyn, Ac yn gyru am y gorau At y lan o fol y Ilyn Rhai gyrhaeddant yn ddirodres Odre llaith y creigiau certh, Ereill lamant yn eu chwarae, Uchder mynydd yn eu nerth. Rhaid mai gallu mawr a'th geidw Beunydd yn dy wregys gron, Ac a'th rwystr i dori'th ddorau Rhag it' foddi byd o'r bron Er it' ruo uwch taranau, Llyncu Iluoedd yn dy drai, Eto, gair y nef a erys Onis d'wed Hyd yma'r ai ?" 1 Meddwl wyf a raid it' boeni Mal yr wyt bob dydd yn gwneyd, Raid it' ferwi o'th waelodion Haf a gauaf, boed it' ddweyd Raid it' ufydd ganlyn hyntiau Lloer, drwy laethog lwybrau nef ? Raid it' fenthyg par o edyn Achos amal awel gref ? Ateb wnai fod rhaid it' boeni Mal yr wyt bob dydd yn gwneyd, Er it wynu tan dy drafferth, Mwy yw'th waith nas gelli ddweyd Cronfa lechyd ydwyt heddyw, Pan ysgydwi'th wely llaith, Cronfa llygredd fyddet 'fory, Pe darfyddai'th gyffro maith. Yn dy ateb gwelaf finau Dynged pawb o ddynolryw M6r yw'r byd sydd hallt ei donau, Rhyfedd bair Rhagluniaeth yw Yn ei donau du y golchir Pryuedigion pen y bryn, Er eu gwared rhag tyngedfen Meibion Hid yn inhoeuau'r Ilyn.
LLINELLAU
LLINELLAU Ar famvolaeth Mr. William Williams, Three Bells, Aberaman. Bu farw Tachwedd 27aint 1876, yn 38 mlwydd oed. Fel nifwl yn yr wybren fry yn nofio, Neu ewyn dwfr yw'n hoes yn myned heibio 0w! William Williams o'r Three Bells a hunodd; Yn anterth bywyd haul ei oes fachludodd. Dyn da i ddyn bob amser yma ydoedd,- Dyn barchai clrlyn o dalent a galluoedd Un hoff oedd o farddoniaeth, can, ac englyn, A gwir ffractbineb ac ymadrodd diilyn. I r fynwent oer y mae of lieddyw'n eiddo, Ni feddwn ni oud adgof prucld am dano I A'r adgof yn ein cof drista'n meddyliau, Pa ryfedd yw ein bod yn wylo'r dagrau 0 golli'r cyfaill ffyddlawn gwii ioneddol ? Meddianai hwn ar ysbryd cymdeithasol; Tra gallodd of, llafuriodd yma'n ddibaid I daenu buddiol Urdd yr Hen Frutaniaid. Os dynol serch, gonestrwydd, rhin, a chariad, I ddyn sy'n glod, ac addurn i'w gymeriad Genau'n traethu'r gwir, a chalon lawn hoo1- frydedd,— Y rhai'n feddianodd oil, er ei anrhydedd. I'w blant bu'n dyner, ac yn briod tirion, A'u lies oedd yn glymedig wrth ei galon. Ei weddw ar ei ol sy'n dwys alaru, A thristwch du ymdoa'n awr ei deulu. Pa ddyn na theimla'n ddwys wrth wel'd eu trallod ? Pa lygad na faidd wylo'r dagrau'n gafod, Wrth feddwl fod holl ffrydiau en cysuron Yn hyn o fyd braidd wedi sycliu'r awrhon ? Yr hwn sydd yn Rheolydd yr elfenau, Trngarog yw, a mawr ei dosturiaethau • O'i law haelionns, drwy ei fawr Ra^lun'iaeth Boed iddynt bob bendithion yn ehelaeth. Mae'n ddichon y gall balm rhinweddol amser Leddfn poen eu clwyf, rhoi iddynt beth es- rn wyth der Ni fedra hwn, na'r byd a'i holl gysuron, Ddileu yn llwyr y rhwyg wnaeth yn eu calon Adgofion am eu tad sy'n nglyn marwolaeth, Yn nghraidd y fron argraffa yn ddwfn hiraeth. 0, gyfaill hofr! yr ydwyf inau'n dyfod Yn fuan ar dy ol i'r dystaw feddrod Boed heddweh i dy lwch yn y priddellau, Nos gwawrio'r dydd y chwelir dulawr angau. G. AB lOAN.