Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
kberda;r-Dydd Gwener y Groglith. Newport—Dydd Llun y Pasc. 44 SAMSON" Miss Marian Williams, Llundain. Mm Jennie Lewis, Caerdydd. Af1.. James Sauvage, Llundain. Mr. Thomas Brandon, Llundain. Mg-. Gordon Gooch, lAundain. Cor Undrbol Aberdar. Orchestra— Ugain o Ojferynwyr Detholedig. Cynorthwyir gan y Grand, Organ yn Newyort, 1512 Hhoddir elw cyngherddau Abordar i Gronfa I Cofadail y diweddar Asaph Glantaf. Y MAE Miss LIZZIE WILLIAMS, RAM. (LLINOS Y DE,) YN agored i dderbyn Engagements i ganu mewn Eisteddfodau, Cyngherddau, &c. Cyfeiriad,— 27, Fabian-street, St. Thomas, Swansea. 1491 I ——- MR. & MRS. J. W. PARSON PRICE (OF AMERICA), For Concerts, Eisteddfodau, (be. Address, GWLADGARWl1. Office, Aberdare. 1477 DYMUNA Mr. John Bryant (Eos Brychan), Gynt o Hinvain, TTYSBYSU y cyhoedd ei fod yn agored i dder- byn engagements i ganu mewn Eisteddfodau a Chyngherddau. Cyfeiriad- Mr. JOHV BRYANT (Eos Brychan), 1509 10, Ofk Street, Aberdare. ===-
HWRDD Y GOLYGYDD.I
HWRDD Y GOLYGYDD. Ysgrifena "Tomos y Crydd" fel y canlyn :— Dygwyddodd gwall bychan yn fy ysgrif ar hanes y gyngherdd, a rhag i mi gael fy hun o dan ewinedd y oantorion, byddweh mor garedig a gadstel i'r hyn a ganlyn ymddangos -Darllener, can, Y Bachgen Dewr,' gan Eos Llwyd; eanig, 4 The Drum March,' gan Mr. E. Daniel a'i barti. Clywais yn ddystaw fach fod y berdonyddes wedi codi ei thalu am yr ail noson, ac fod un o'r cantonou wedi anfon bill i mewn i'r pwyllgor am haner gini. Os ydyw hyny yn wir, y mae hyny yn go wael o ymddygiad, gan ei fod ef yn un o r pwyllgor. T. P. Mae hanes y ddarlith yn rhy hen bellach. Ioaaj ALED.-Ofer cyhoeddi rhagor ar fater mor ddibwys.. O&WTSON.—Diolch am eich llythyr a ch dymun- iadau da. CYSTADLEUWR* (Ystradgynlais).—Mae y mater yn un rhy ddibwys i wneyd sylw ohono. GOHEBYDD (¥ strad).—Yr oedd hanes y farwol- aeth wedi ein cyrhaedd o gyfeiriad arall. Derbyniwyd—-Hanesydd, Harri Ddu, Hywel, Briwsionydd, Shon Hnw, M., Mabonwyson, Llythyr o Nova Scotia, Gohebydd (Maesteg), Dai yr Hen Dy, Orlando, Griffith Davies, Brychan Brycheiniog, loan Glan Tees, lal- iesin, Dewi ap loan, Carwr Gwirionedd. CRWYDRYN (Cwmrhondda).—Byddant yn dder- byniol iawn yr oedd ereill wedi danfon o ch blaen y tro hwn. Diolch, er hyny. CRLYN EBWY.—Gadawyd all an yn anfwriadol o hanes y cyngherdd yn y lie uchod enwau Mri. Wm. Davies a John Evans, y rhai a ganasant yn wir dda. YN EIN NESAE.—Cymydog. Parson Price, Eos Ffyllon, Calfin P., Mathonwy, Gwyddonydd Glan fan, Hen Bydler, Hen Golfyn o Graig y Gilfach.
1 IWERDDON A R SABOTH.
1 IWERDDON A R SABOTH. Y mae y mesur i atal gwerthiad diodydd meddwol yn yr Iwerddon ar y Saboth wedi pasio ei ail ddarlleniad yn Nhy y Cyffredin, a hyny gyda mwyafrif godidog. Nis gallesid dysgwyl i Weinyddiaeth ag sydd mor ddyledus i'r fasnach hon gefnogi mesur o'r fath er hyny, rhaid addef nad oedd eu gwrthwynebiad y tro hwn ond ffurfiol-yn "wir nis gallasai braidd fod yn wahanol, oblegyd yr oedd y deisebau o Iwerddon o blaid y mesur yn fwy liuosog braidd nag a welwyd erioed o'r blaen, Eto, wrth ystyr- ied anadl y Llywodraeth, policy arferol y Toriaid, yn nghyda chyfansoddiad y Ty presenol, y tnae yn achos o syndod ac o lawenydd i'r Weinyddiaeth gael ei gorch- fygu gyda mwyafrif o 57. Alynai rhai ddadleu y byddai y Bil yn annghvmeradwy gan fwyafrif mawr o'r genedl Wyddelig, ond y mae y ffeithiau fel arall yn hollol. Cynaliwyd nifer mawr o gyfarfodydd cy- lioeddus ar hyd a lied lwerddon wedi y sessiwn diweddaf, oil yn datgan teimhd ffafriol, ac yn datgan biraeth hefyd am na fuasai y mesur wedi dod yn ddeddf eisoes. Yr oedd yn ddealledig yn niwedd y seossi wn «'r blaen, y buasai y Bil yn cael ei ddwyn i mewn y sessiwn presenol, a hyny gyda phob argoelion o basio a phe buasai corff y genedl yn wir wrthwynebol i'r peth, troesid yr Ynys Wordd rhwng y ddau senedd-dymor yn bair gorferwedig. Pobl danllyd, fel ayni ein hunain, yw y bobl Wyddelig, a diameu y buasent yn cynaJ gyfarfodydd ystormus dios yr holl wlad, cyfarfodydd mwy ystormus nag hyd yn I nod y cyfarfodyd cynhyrfus a gynaliwyd yn ein plith ni yn nghylch y creulonderau yn Bulgaria. Ond fel arall y bu arosodd y bobl yn dawel oiterwydd fod y mudiad wrth eu bodd. Fe fynai y Llywodraeth Doriaidd y llynedd adael allan bedair ar bymtheg o brif drefydd Iwerddon, am y byddai cau y tafarndai yn y cyfryw dref- ydd, yn eu tyb hwy, yn annghyfleusder i'r trigolion; ond hyd y nod yn y trefydd hyn eu hunain fe wnaethpwyd ymchwiiiad manwl am y teimlad cyhoedd ychydig amser yn ol, ac fe ddarfu i 96,934 o dy- ddalwyr dystio ar ysgrifen eu bod hwy yn ffafriol i'r mesur, tra nad oedd ond 11,331 yn wrthwynebol iddo. Diameu y buasai y lleiafrif dibwys hwn yn llai fyth pe gadewsid y bobl iddynt eu hunain, oblegyd nid oes neb yn deall y ffordd i sicrhau pleidleisiau yn well na darllaw-wyr a thafarnwyr. Darfu i SYR MICHAEL HICKS- BEACH gynyg yn lie y Bil hwn Fil arall yn cyfyngu oriau'r fasnach o ddau i bump o'r gloch yn y wlad, ac o ddau hyd saith yn y trefydd. Ni fyddai hyny fawr gwell na gadael y tafarndai yn agored trwy y dydd Saboth, oblegyd y mae tair awr yn fwy na digon o amser i feddwi pobl-heb son am bum awr. Mae'n debyg y gwna y Llywodraeth gais mewn "committee" i eithrio Dublin, Belfast, Cork, Limerick, a Waterford, rhag amodau y mesur, oddiar ryw dystiolaethau a dderbyniwyd oddiwrth ynadon a heddgeidwaid yn y lleoedd hyn. Nis gwyddom eto beth yw natur a nerth y tystiolaethau hyn, ond yr ydym yn ameiius yn eu cylch. Os gall tref o ddeng mil poblogaeth ddodi i fyny a'r ataliad hwn am un dydd o'r saith, paham nad all tref o gan' mil wneyd yr un modd ? Ac os na fyddai y peth yn annghyfleus i dref o gan' mil, paham y byddai yn annghyfleus i Cork, Dublin, neu Lundain ei hun ? Yr un peth yw y "bobl" yn mhob nnni a'u gilydd, a mantais y bobl" sydd mewn golwg gan wrthwynebwyr y mudiad dai- onus a llesolfawr hwn Ie, yr un peth yw gweithiwr mewn pentref ag mewn dinas-nid oes fawr ddim o "amrywiaeth" yn ei sefyllfa ef, druan llethedig, yn y wlad hon, cAn belled ag y mae ein sylw ni wedi cyrhaedd. Y mae iachach awyr i' anadlu gan weithiwr glia. y nant nag sydd gan weithiwr glan y Dafwys—dyna'r cwbl. Y mae llwyddiant y mesur yn sicr, a bydd yn ddechreu cyfnod newydd mewn miloedd ar filoedd o deuluoedd Gwyddelig, os na lindagir ef mewn "committee." Diwedda y Times erthygl rymus ar y mater hwa gyda'r geiriau doeth a chymedr- ol a gunlyn I I Y mae barn gyffredicol yn ffynu, pe gwnai pobl Lloegr, fel pobl Iwerddon, heb dafarnau ar y Saboth, y byddai hyny yn fantais iddynt; ac os bydd i'r esiampl bon ymledu, ni fydd neb yn hiraethu o'r herwydd oddigerth rhai o'r tafarnwyr."
LLYTHYR LLUNDAIN.
LLYTHYR LLUNDAIN. Nos LUN. Y mae pawb, ond odid, yn hysbys fod pleidleisio yn enw person arall mewn ethol- iadau yn beth eyffredin ond hwyrash mai peth newydd hollol i lawer yw fod personoli mewn arholiadau galwedigaethol wedi dyfod yn dra chyffredin- yn ein gwlad. Dygwyd o flaen yr ynad yn Bow-street, Llundain, dydd Sadwrn diweddaf, achos a ddangosai yn amlwg y gellir cyflawni y cyfryw ystrano gyda'r rhwyddineb mwyaf. Cyhuddwyd dyn ieuanc o bersonoli un arall, a myned drwy arholiad yn ei le ac yn ei enw o flaen Bwrdd y Pharmaceutical Society. Er bod yn aelod o'r gymdeithas uchod, y mae yn ofynol i'r ymgeiaydd fyned drwy dri arholiad. Y mae y cyntaf yn gynwysedig o wybodaeth o'r Lladin, Rhifyddiaeth, Gramadeg, &c. Gan nad oedd Colegrove yn gyfarwydd iawn a'r cangenau hyn o wybodaeth, cafodcl gan ddyn ieuanc o'r enw Andrew R. Hunter i fyned drwy yr arholiad yn ei Ie. Bu Hunter yn llwyddianus ac ar ol hyn llwyddodd I Colegrove i fyned drwy'r arholiadau medd- ygol, a chafodd ei drwydded fel aelocl o'r gymdeithas. Ond drwy ryw amryfusedd anftodus, daeth y twyll yn wybodus i'r awdurdodau, ac y mae y dclau frawd yn y ddalfa. Nid Colegrove yw yr unig berson sydd wedi bod yn euog o'r twyll hwn. Y lie cryf i ofni fod llawer meddyg yn y wlad yn ddyledus am ei diploma, a bod lluaws o bersonau sydd yn dal swyddi pwysig ac enill-' fawr o dan y Llywodraeth yn ddyledus am eu sefylifaoedd i'r unrhyw rascality. Dai; beth sydd yn eisieu er cyflawni y twyll- rascal yn meddu ar ymenydd a gwybodaeth, a dyhiryn diegwyddor yn meddu ar arian i dalu am y twyll. Golygwn fod swydcl yn Whitehall yn cael ei rhoddi yn agored i arholiad cystadlenol. Y mae John Jones yu awyddns am y swydd, ond nid yw yn ddigon o ysgolhaig i ymgeisio am y dorch. Y mae yn cyfarfocl a Evan Morris, yr hwn sydd wedi clerbyn addysg golegawl. Dyma hi yn myned yn fargen rlnvng y ddau, sef fod Evan Morris i bersonoli John Jones, a myned i'r arholiad yn ei enw er ymgeisio am y swydd, a bod y blaenaf i dderbyn 20 punt, mwy neu lai, am ei wasanaeth. John Jones yn gyru ei enw i mewn fel ymgeisydd, ac yn derbyn papyrau i'w 'llanw i fyny, ae i'w gyru yn ol i'r swyddfa. Yn mhen amser y mae John Jones yn cael rhybudd i ddyfod i fyny rr arholiad. Evan Morris yn myned i fyny yn ei Ie, yn ateb i'w enw, ac yn myned dnvy yr arholiad. Gad fod yr ymgeis- wyr yn Iluosog, a phawb ohonynt yn hollol ddy- eithr i'r arholwyr, y mae yn anmhosibl iddynt I eu hail-adnabod. Yn mhen tair wythnos neu fis dyma John Jones yn derbyn rhybudd mai efe sydd wedi bod yn fuddugol, ac y gall dde- chreu ar ei ddyledswyddau yn mhen yr amser penodedig. Yn awr, y mae braidd yn anmhosibl, oddieithr drwy ryw ddamwain ddall, fel y dygwyddodd yn achos Colegrove a Hunter, i neh wybod nad yr un yw John Jones sydd yn eistedd wrth y desk yn Whitehall a'r person a aeth o dan yr enw John Jones yn yr arholiad. Y mae ystranciau o'r fath hyn yn cael eu cyf- lawni yn gyson, a phe gellid dyfod o hyd i'r gwirionedd, odid na cheid ugeiniau sydd wedi derbyn graddau o Brifysgol Llundain yn yr un modd. Y mae yn biti garw na ellid dyfeisio rhyw gynllun a roddai atalfa ar gam-arferion o'r fath hyn. Y mae y cerddorion yn fwy ffodus o lawer. Gallant hwy wneyd eu hunain yn aelodau o'r Royal Academy of Music heb un trafferth yn y byd, ac heb un perygl. Y cwbl sydd ganddynt hwy i'w wneyd yw talu pum' gini o entran:e fee i'r Academy, gwneyd rhyw esgus o fyned yno am dair wythnos neu fis, a thyna hwy yn R. A. M. yn eu llawn maintioli, ac yn agored i dderbyn engagements fel tenor mewn cyng- herddau neu fel beirniad mewn eisteddfodau." Y mae yr R. A.M's ffugiol yma wedi dyfod mor ami yn ddiweddar a gwybed mis Awst, ac y mae yn sarliad i ddyn teilwng i ddefnyddio y llythyrenau ar ol ei enw. Rhaid i Gymrn ddi- wygio yn y peth hwn, onide fe ddygir gwarth ar ei chymeriad cerddorol. Ydym yn dweyd hyn yri ystyriol, digied a ddigio. Os bydd rhyw ol' Gymro yn awr yn meddu ar dipyn o lais gwedd- ol, ni wnaiff dim y tro heb iddo i ddyfod i fyny i Lundain i'r Royal Academy of Music. Nid yw yn wahaniaeth yn y byd pa mor ddiffygiol y gall fod mewn cymhwysderau ereill, os bydd ganddo lais da. Camsynied dybryd ydyw hyn. Nid llais Sims Reeves yn unig yw y rheswm ei fod yn sefyll mor uchel fel cerddor. Nid ydym ni yn cymeryd arnom ein bod yn gerddor, ond yr ydym yn deall cymaint a hyn, sef ei bed yn ofynol i ddyn feddu ar gymhwysderau ereill heblaw llais da cyn y gellir artist ohono. Rhaid i ni derfynu ein llith yr wythnos hon yn y fan yma, ond hwyrach y bydd genym ychydig sylw- adau s'pellach ar y mater hwn mewn rhifyn dyfodol.
Boddiad yn Nghwm Rhondda.
Boddiad yn Nghwm Rhondda. Dydd Llun diweddaf, cynaliwyd trengholiad yn y Colliers' rms Hotel, Pontypridd, o flaen Mr. Thos. Williams, is-grwner, mewn cysylltiad a marwolaeth Jane Evans, gwestyweaig y Gyf- eillon Inn, yr hon a gafwyd yn farw yn afon y Rhondda. boreu dydd Sadwrn. Odcliwrth dystiolaeth Miss Howell, merch y drancedig, o wr blaenorol, ymddengys i'w llys- dad a'i mham fyned allan o'r ty am haner awr wedi wyth o'r gloch, gan fyned i gyfeiriad y Farmers' Arms. Arosodd hi i fyny hyd nes i'r awrlais daro un, ac nid oeddynt wedi dychwelyd yna aeth hi i'r gwely. Yr oedd y ty wedi ei gatt am un-ar-ddeg o'r gloch. Cododd am haner awr wedi chwech boreu dranoeth, a chafodd ei llys- dad yn eistedd yn y taproom. Gofynodd i'w chefnder os gwelsai ei mam, yr hwn a atebodd naddo. Ni ofynodd i'w llysdad. Yna aeth allan i edrych am dani, a chlywodd yn fuan fod ei chorff wedi ei gael yn yr afon. Wedi holi am- ryw dystion, dychwelwyd y rheithfarn Cafwyd wedi boddi." Mae y gwr wedi ei gymeryd i'r ddalfa ar ddrwgdybiaeth.
Proffwydi y Tywydd.
Proffwydi y Tywydd. YR YSTOEM DYDD LMrN. Y mae gwybodaeth o bob rhyw a natur yn myned ar gynydd parkaus. Derbyniwyd telegram gyda'r pellebyr Tanweryddol o'r America yn hysbysu y byddai ystorm nerthol i gymeryd lie yn Mhrydain ar y 19eg o'r mis hwn (dydd Llun). Nid oedd argoel fod y broffwydoliaeth i gael ei chyflawni hyd tua saith neu wyth o'r gloch y prydnawn, pan y dechreuodd y gwynt chwythu, y gwlaw a'r cenllysg ddisgyn, yr hyn a barhaodd gydag angerddolder mawr trwy y nos.
Øig Americanaidd.
Øig Americanaidd. Yn yr ager-Jong Wyoming, yr hon a berthyn i Linell y Guion, trawsforiwyd 225 o dunelli o gig eidion, a 400 o ddefaid, yr hya, yn ol y cyfryw, ydyw y swm mwyaf a ddaeth drosodd ya y" ua agar-long. My* rkywrai awgrynm nad yw y fasnach yn debyg o barhau ond mewn atebiad, gellir dweyd nad yw ond megys yn dechreu. Mae cwmni cyfoethog yn Efrog Newydd yn gwario y swm o ddeuddeg mil ar ugain o bunau er gwneyd lie cyfaddas i ladd yr anifeiliaid, a thrin y cig cyn ei osod yn yr ager-longau. Mae digon o anifeiliaid corn- iog yn yr Amerig i gyflenwi marchnad y wlad hon gyda mil o dunelli yn wythnosol, ar ol dwyn pethau i drefn reolaidd mewn cyflwr marchnadol. Mae y pwnc yn cael sylw arbenig amaethwyr yn y wlad hon, a'r tebyg- olrwydd ydyw y bydd i allforiad y cig Americanaidd greu cyffro yn mhlith amaeth- wyr y wlad hon. Mae gwir angen am chwyl- droad gwelliantol o rywle yn mhrisoedd y cig, a gall fod yr adeg wedi dyfod er gwneyd y cyfnewidiad yn effeithiol. Cydwaedded y bobl "Amen!" am gael cig rhad.—Gymro.
P RIOD AS A U.
P RIOD AS A U. Y 13eg cyfisol, yn nghanel Ebenezer, Aber- tawe, priododd Mr. Wm. Evans, tin-man, Ilen- bont, a Miss Margaret Roberts, o ardal Castell- nedd. Cynorthwywyd ar yr achlysur gan y Parch. Wm. E. Jones. Bydded hir oes iddynt i fwynhau cymdeithas eu gilydd.—Alasco.
Advertising
THROAT IRRITATION.—The throat a,nd windpipe are especially liable to inflammation, causing sore- ness and dryness, tickling and irritation, inducing cough and affecting the voice. For these symptoms use glycerine in the form of jujubes. Glycerine, in these agreeable confections, being in proximity to the glands at the moment they are excited by the act of sucking, becomes actively healing. Sold only in 6d. and Is. boxes (by post for 14 stamps), labelled "JAMES Epps & Co., Homoeopathic Chemists, 48, Threadneedle Street, and 170, Pic- cadily, London. 332
CLAFDY NEWYDD
CLAFDY NEWYDD CYNYGIEDIG Perthynol i Morganwg a Mynwy, Yn NGHAEBDYDD. Tyniad Givobrau Mawreddog er cynortluvgo y Drysorfa Adeiladu. FE gymer y "Tynu" ie yn y Grand Circus, I Caerdydd, trwy ganiatful y Meistriaid HUTCHINSON a TAYLEURE, dydd Mercher, y ISfed o Ebrill, 1877, yn mhresenoldeb y Maer a boneddigion dylanwadol ereill. Rhoddir y gwobrau gwerthfawr canlynol, ac hefyd, yn yehwanegol, tua mil o rai ereill. 1. Can' Pant o Arian—lOOp. 2. Haner Can' Punt-50p. 3. Pum' Punt ar Ugain—25p. 4. Perdoneg—30p. 5. Oriawr Aur a Chadwyn ardderchog-20p. 6. Set o Lestri Ciniaw gorwych-9p. 7. Peiriant Gwnio—lOp. 8. Harneis ag addurniadau arian—lOp. 9. Un-lath-ar-bymthcg o Sidan Du—4p. 10s. 10. Cnddy, yn cynwys ugain pwys o'r Te Du goreu-3p. 11. Modnvy Dimwnt addas i foneddiges—6p. 12. Awrlais hardd i'r ystafell giuiaw—op. 13. Te a Choffi Pot, Llestr Llaeth, a Disgl Siwgr o arian golchedig ( electro)—op. 14. Ilarmoniuni-al). 15. Dernyn o Liain Iwerddon, 3p. 10s. 16. Cod-Trwsio i Foneddwr, 3p. 17. COd-Trwaio i Foneddiges— 3p. 18. Rhes o Gloriau Disglau—4p. 19. Set o Lestri Te arddercliog—op. 20. Llestri y Perddysgleidiau—3p. 21. Darlun o'r Frenines-A utotype Process— yn mesur 31 mod. wrth 24 mod. mewn ymyl- goecl goreuredig a gwydr, fel yr arddangosir ef vn Siop Mr. Lane, Heol-yr-Eglwys, Caerdydd —2p. 12s. Gc. 22. Hefyd o Tywysog Cymru—2p. 12s. 6c. 23. ArglwyddBeaconsifeld,2p.l2s.6c. 24. Arglwydd Derby, 2p. 12s. 6c. 25. Mr. Gladstone—2p. 12s. 6c. 26. „ Mr. John Bright—2p. 12s. 6c. 27. Safle Costrelau, Clwyd Crasfara, a Safle Wy, arwysgedig ag arian—4p. 28. Teisen Briodas—3p. 29. Ystlys o Gig Moch wedi ei Halltu yn dda-3p. 30. Ham Cumberland, tua 40 pwys o bwysau —2p. 31. Dernyn o Frethin Hir Horrock-2p. 32. Safle Costrelau (Cruet Stand)—2p. 10s. 33. Rhych-ddrull Martini-Henri, rhodd M. Morgan, Ysvr., cyfreitiiiwr; i'w weled yn nhy Mr. D. Thomas, Gwn-werthwr, Caerdydd—16p. Bydd j Tyniad, yr hwn a gymer le yn y Gireua, Caerdydd, dydd Mercher, y ISfed o Ebrill, 1877, yn cael ei gario allan yn ol cynllun yr Art Union; ac fe gyhoeddir y Rhifedigion llwyddianus yn y South Wales Daily News, y Western Mail, a'r Bristol Mercury, am y o Fai, 1877. Toqjntm—CHWECH EIN IOG yr un. Try swydd— CLEMENT LUCAS, Ysw., West of England Bank. Tsrp-ifenyddi'on Mygedol-F. W. ARMSTRONG, W. DATIOR, W. BURNETT, D. W. EVANS, H. B. MORETON, A. SMITH, oil o Gaerdydd. Golygieyr—W. ALEXANDER, Ysw., a C. W. DAVID, Ysw., Henaduriaid, Caerdydd. Gwneled pob un yr hyn a allo tuag at y gwrthddrych mawreddog a dyngarol hwn. Dy/Jrniad 0 araeth Arglwydd Esgob Llandaf. Danfonst pob cais am Docynau, &c., i'r Ysgn. Mygedol, F v Swyddfa Ganolog, St. Mary-street, Caerdydd. } Gxmtchwylhwr dros Aberdar, Merthyr, a'r Cylchoedd — Mr. DAVID EVANS, Auctioneer, Merfrhyr ao Aberdar. 1457
Advertising
Goreu Arf, Arf Dysg. EISTEDDFOD LLANTRIBANT- CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod dydd LLUN, MEHEFIN ISfed, 1877. Bevrniad y Farddoniacth a'r Mhi/tldiaeth — y Parch. D. BRYTHONFRYN GRIFFITHS, Aberda-Bi Prif Desbyiwiu.—Barddoniaeth. Am y Bryddast oreu ar £ 1 Y Llenad; gwobc, 2p. Rhydcdaetlk. Am y Teaethawd goreu yn Gymraeg neu Saes- onaeg as Y GIo;" gwobr, 2p. Cerdd'^riaeth. Fr Cheb fod dan 60 mewa sbif, a, gsaso yn oreu Rbyfelgaai Gwalia," o'r Gerddvrfa gwobr, X^r C4*, heb fod dan 30 mewn rhif, a gwa# yn oreu Ilhyddid," gan Mrs. Watts Hughes; gwobr, 4p. I'r Drmn and Fife Band a chwareuo yn oreu "Llwyn Onn gwobr, 1p, 10s. BTDD CYNGHERDD i'w gynal yn yr hwyr, pryd y cymerir rhan-ynddo gan rai o brif gantorion Cymru. Telerau. 1. AtcMr wobr oni fydd teilyngdod, a chedwir pris tocyu blaensedd o wobr y buddugol, os bydd yn absenol o'r Eisteddfod. 2. Y cyfansoddiadau buddugol i fod yn eiddo i'r pwyllgor. 3. Y cyfansoddiadau, gydar enwau priodol dan sel, ac enwau y personau a fwriadant g.y^tadlu ar y gerddoriaetli, i'w hanfon i'r ysgriieiiyd-iarneu cyn Mai 23ain, 1877. Y programme, yn cynwys y gweddill o'r testyn- au a phob manylion, i'w gael a-n geiniog, trwy y pest, ceiniog a dimai, oddiwrth yr ysgrifeiiydd,— THOMAS WILLIAMS, 1508 Bwth yr Ardd Wen, Llantrisant. u Cerddoriaetii Newydd gan D. Emlyn Evans "Y TYLWYTH TEG" (TEE FAIRY TRIBE). CANTAWD DDRAMAYDDOL. Geiriau Cymraeg a Saesonaeg gan MYNYDDOG a TITUS LEWIS, F.S.A. PlUS 2s. CYHOEDDIR yr uchod yn uniongyichol, a pherfformir 3 gwaith am- y tro cyntaf gan Gymdeithas Gorawl Professor Parry, yn Aber- ystwyth, yr haf dyfodol. Cyfeirier archebion at y Cyfansoddwr 34, Ffynone Terrace, Swansea. D. S. Y Gadlef," Can y Tywysog," Bedd Llewelyn," ac Adgofion Mebyd," — caneuon newydd gan yr un cyfanscddwr--i'w cael oddi- wrth- I. JONES, Stationer's Hal, 1510 Treherbert, Grlaui. NEWYDD PWYSIG 1DAHAM y dyoddefir oddhvrth glefydau c bob niath ? Am y .rb.eswm nad yw'r Bobl yn cymeryd y Feddyginis.eth bwrpasol at ? 1 Doluriau hyny ago y mae y corff yn dyoddef oddi wrthynt. Felly, daliersylw,—Pawb sydd yn dy. oddef oddiwrth y Dropsy, yr hyn sydd yn arwyddo cryiiodet) o ddwfr a gwynt yn ngwahanol bibellau y corff dynol, yr hyn sydd yn gwenwyno y gwaed, a thrwy hyny yn effeithio ar yr Ymenydd, yr Afu, yr Ysgyfaint, y Cylla, y Galon, yr Arenau, a'r Nerves, i'r fath raddau fel i achosi Foen yn y Cefn, yn yr Arenau a'r Perfedd, Diffyg Dwfv, yr hwn sydd yn dew a chymysglyd, (hvynt yn y cylla a'r perfedd, cramp, cwsg a phoen yn y clun- iau a'r traed, chwydd yn y traed, y cluniau, yr ymysgaroedd, a'r cylla, curiad y gal on, diffyg anadl, pesweh, syclied, corif-rwymedd, poen yn y pen, gloesiadau, penysgafnder, gwendid, diffyg archwaeth, oerfel, traed oer, asthma, nerves eg war at yr anhwylderau hyn y mae PATE riT p Rhag y Gwynt, y Dwfr, a'r Grafel, yn anffaeledig, Ac os cymerir hwynt mewn pryd, fe gynyrch- ant wellhad nniungyrchoL Pan fydd y clefyd o hir barliad dilyner arnynt am beth amser. Canoedd ailant dystiolaethu i effaith neilldu- ol'y Peleni rhyfedd hyn. Rhai ohonynt a ddodir yma C.af o Maes Iago, Pontardawe, a ddywed :— Derbyniais flychaid o'ch Pills hynod, Hughes's Patent Dropsy Pills' dydd Llun diweddaf, ac yr wyf yn eu cymeryd oddiar hyny hyd yn awr (dydd Sadwrn) ac y maent yn gwneuthur lies mawr i mi mewn cyn lleied o amser.-Rhoddes haner dwsin i fy nhad, ac y mae ar yr ychydig hyny Yll teimlo llawer o les. Yr oeddwnyn achwyn oddiwrth boea yn pen ac yn y cefn, gwynt yn y cylla, dim ar- chwaeth, ac yn ami ddiffyg dwfr." Mr, Phillips, Glanmor, Llanelli, wedi bod rhwng • pedair a phum mlynedd yn niethu cerdded oblegyd y dropsy, chwydd mawr iawn dros yr holl gorff, diffyg mawr ar y dwfr ac ar yr anadl, y galon yn curo yn. enbyd, yn awr, wedi cymeryd tua thri blychaid o Hughes's Patent Dropsy Pills" tuag at y gwynt, y dwfr. a'r gravel, yn gallu mvned oddi amgylch dref -y chwydd yu llawer llai, yr anadl yn llawer gwell, ac wedi teimlo mwy o les oddiwrth yr ychydig hyn na holl foddion y doctor- iaid a gymerais am yr amser maith yr wyf wedi bod yn glaf. Yr wyf yn gobeithio y caiff y byd wybod am danynt. GwellJmd hynod STH,—Yr wyf yn awyddus eich hysbysu fy mod wedi cael llwyr iachad wrth gymeryd eich Pills rhagorol chwi o'r enw Hughes's Patent Dropsy Pills." Yr oeddem er's amser bellach yn cael fy mlino gan Chwydd yn y Cluniau a'r YmysgaroedcL Diffyg Dwfr, ac ar yr Anadl, Poen yn y Cefn ac yn y Pen, y Galon yn Curo yn enbyd rhai gweith- iau, Diffyg Ireuliad, a'r gwynt yn fy mlino yn ami, ac er mawr syndod y maent hyd yn hyn wedi symud ymaith Fits neu Heintiau, y rhai sydd wedi fy mlino en's blynyddau. Yr 'oeddym yn eu cael weithi iw yn bur aml.- Yn dra diochg&r, ydwyf, A. E. JONES, William St., LlanellL Registered Trade Mark—"Dropsy Pills." Y mae'r Pelenau hyn wedi eu Registro ac yn Patent. Cospir pob dynwarediad. (lofaler cael enw "JACOB HUGHES" ar Stamps y Llywodraeth. Ar werth mcnon B'ychau gan holl Chemists y deyrnas am Is. lie., r?s. [)coo a 4s. 6c., gyda'r Poet Is. 2c., 28.. He,, a 4s. 9c., gan y Patentee— Jacob Hughes, Apothecaries' Ilall, Llandhj. London Agents—Barclay & Sons, Sutton. & Co., Sanger, Hovendon, Newbury, Herron. Squire, and Francis Bristol: Pearce & Co., Warren & Co.; Liverpool: Evans & Co., Baimes & Co., and John Thompson. 14^1 Town Hall, Castellnedd. BYDDED hysbysol y cynelir EISTEDDFOD ya NBLLVDD Y DREF, G WEN AN Y CRPOGLIFFE 1877. Testynau. heb fod dan 50 mewn rhif, a gano "Clyw-, O Dattw, fy Hefain" (D. Jenkins), gwobr, 10ft Fr pa-rti, heb fod daa 25 mewn rhif, a srano oreu y "Soldieies Chorus," allan o Faust (Gounod); gwotJl; 3p. I'r feweft a gtrnw oreu, "Dafydd y Gareo- Wen;" gprobr, h. I'v hwm a gaaio oreu, "Mae'n Gymro byth;" gwobr, 5a. I'r hWJi a gaso oreu, "In native worth," (Creaton); gwobr, 5s. I'r peclwar a ddarJLleno oreu unrhyw don ar y pryd; gwobr, 4s. I'r sawl a adroddo oren, "Tymhestl ar y mor," (o'r Adroddiaduf); gwobr, 5s. I'r sawl a adroddo oreu, "F'ewyrth William," (0 Gvinau'r Adroddwr); gwobr, 5s. Beirniad yr holl destynau—EOS MORLAI3. Cyfarfodydd yr eisteddfod i ddechreu am 11 a 2 o'r gloch. Cynelir CYNGHERDD arddercliog yn yr hwyr, a, cliymerir rhan ymJdo gan Eos MOKLA: a cherdd- orion enwog ereill. Y mae y Programme, yn cynwys yr h. 1 fanvlion, yn barod, ac i'w gael drwy y post am li J. oddiwrth yr ysgrifenydd, EVAN WILLIAMS, 1489 3, Albert Street, Keath. Y MAE CYMDEITHAS ADEILADS MERTHYR A DOWLAI8 YN BAROD i roddi Bent.hyg, ar Mortgage, JL ar y Rhybudd byraf, Symiau o U £100 i £ 10,000, i'w talu yn ol yn Gyfranau Misol neu C3;warteroI. Y mae i Fentliycwyr yn y ayuuk-ithas hon fauteislon arbenig na cheirmewn cymcleithasau ereill, neu gan bersonau unigol. Telir y treuliau cyfreithiol gan y gymdeithas, a dyogelir" aimibyn- iaeth y benthyevdd, cyhyd ag y parheir i dalu'vr ad-daliadau addawedig, gan y Cofreitrydd dan Gyfraith y Cymdeithasau Cyfeillgar. Cadwir y dirgelwch manyiaf. Dymuna. y Cyfarwydtlwyr liysbysw eu bod yn barod i dderbyn symiau o arian fel "arian benthvg ar y telerau canlynol 0 elw':— £ 4 y cant i'w galw ar ddau fis; £ 4j y cant ar bedwar mis; a £ o y cant ar ehwe' mis. Am liysbysrwydd pellach, ymofyner a Mr. E. ROBERTS, yn Swyddfa y gymdeithas, 3i, Yictona- street, Merthyr. 14S7