Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
MASNACH Y GLO.
Hong fawr ar greigiau anhygyrch ffolineb a 1 diystyrwch, a daw yr un dynged eto ir wib- i long a nofia yn bresenol ar ddyfroedd ansicr, yn cael ei chwythu gan awelon dychymyg. MASNACH Y GLO. Mewn cynadledd o berchenogion glofeydd yn mharthau o siroedd Derby a York, ym- driniwyd a materion perthynol i fasnach y lie, ac er fod sefyllfa bresenol y farchnad lo yn galw am ostwng cyflugau yn ol un bunt ar ddeg y cant, penderfynwyd, er mwyn atal annghydfod, i wneyd y gostyngiad yn ol chwech a haner y cant, i'r hyn y cytunwyd yn gyffredinol, heb un eithriad. Mae rhy- bnddion allan mewn amryw lofeydd, a phan orphenir hwynt fe fydd tua, mil o ddynion a hogiau allan o waith o fewn cymydogaeth Wheatley Hill, a'r cwbl i'w briodoli i wasg- feuon masnachol. Mewn gair byr, mae y wlad o'r bron mewn penbleth masnachol, a'r tebygolrwydd ydyw y bydd yn rhaid i'r werin ddyoddef. Yn y cyfeiriad hwn, nid oes dim i'w gael ond cyfres hynod o ddigalon i'r glowr o ganlyniad, nidaf iymhelaethu, ganobeithio cael rhywbeth mwy ca.lonogol yr wythnos nesaf. Maedigoll i'w ddweyd, ond y perygl ydyw dweyd gormod gan hyny, er bod yn ddyogel y tru hwn, terfynaf yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
LLYFRGELL A DARLLENFA RYDD…
LLYFRGELL A DARLLENFA RYDD I ABERDAR. MB. GOL.Hawlia y testyn hwn ein sylw mewn canlyniad i gyfarfod o drethdalwyr (?) a gynaliwyd yn y N euadd Ddirwestol, dydd Gwener diweddaf. Ffurfiwn ein barn oddiar y sylwadau gawsom tros ac yn erbyn y sefydl- iad yn y cyfarfod hwnw ac nid ar ei ganlyn iadau yn condemnio sefydlu Darllenfa a Llyfrgell Rydd yn mhlwyf Aberdar. Yr oedd pith rhesymeg yr holl siaradwyr yn cyduno am ddaioni sefydliad o'r fath (oddieithr un) y buasai yn sicr o fod yn anrhydedd i'n cymydogaeth, ac yn ddefnydd- iol i'r ieuenctyd a'r dosbarth gweithiol. Nis gallaiy cadeirydcl--D. Davis, Ysw.yn ngwres ei syniadau gwjthwynebol, lai na chydnabod y daioni.o gael Darllenfiiau Rhydd yn y plwyf There was no one present, he felt sure, who would be more delighted than he to have free libraries in every Tillage of the parish." Hefyd, R. H. Rhys, Ysw., ac ereill, a siar- adodd yn erbyn y mudiad a gydnabyddent y daioni o'r cyfryw, pe bai bosibl ei ddwyn oddiamgylch heb fyned i'w llogellau hwy. CIY Yr oedd cyfoethogrwydd rhesymau ypromoters AIr daioni pe llwyddem gael y sefydliad, yn gyfryw a gydnabyddir gan bob dyn addfed ei "fai'ii 6wylly3 i roddi manteision addysg yn°mhlwyf Aberdar i'r rhai hyny ag sydd yn sychedu am wybodaeth ac yn an- alluog i'w gael, yn deilwng o ystyriaeth y trethdalwyr. Cawsom eithriad i'r syniad hwn gan an siaradwr, sef Mr. John Prosser, Heol- yfelin. Rhesymau un dosbarth o'r gwrthwyneb- wyr (ac efallai y lluosocaf) ydyw yr amgylch- iadau yn nglfn a'r talu marweidd-dra masnachol-y trethoedd yn codi-mteable .value y plwyf yn d'od yn llai, &c. rhesymau ag sydd ynddynt eu hunain yn gofyn ein hystyriaeth llwyraf. Nid oes dim a'u trecha ond yn unig yr ymroddiad i'r ddyledswydd o wneyd aberth er cynorthwyo y sawl sydd yn analluog i gynal eu hunain yn angenrheidiau addysg. Dosbarth arall a hawlia fod gosod treth orfodol (compulsory) yn annghyson a'u heg- wyddorion rhyddfrydig, trwy eu cyfyngu i dalu ond ychydig sylltau yn y flwyddyn, yn hytrach na rhoddi scope iddynt ar y voluntary list, lie y cyfranent fwy o guineas yn flyn- yddol at sefydliad mor ganmoladwy a theilwng. Ereill a wrthwynebent y sefydliad trwy gamddealltwriaeth o barthed cyfleusderau yr outskirts, Sc., tra y bu Mr. John Prossfer yn ceisio argymhell y trethdalwyr nad oes ei hangen ar y dosbarth gweithiol o gwbl. Rhy faith fyddai sylwi ar y gwahanol bleidiau yr wythnos hon. Boddloner ar un yn unig. Dechreuwn ar yr olaf. Mai fod Mr. Prosser yn dadleu nad oes angen Darllenfa a Llyfrgell Rydd ar y dos- barth gweithiol bron yn fanatical. Onid addysgu y werin ydyw un o bynciau blaenaf yr oes yn mhob gwlad1 Ac onid safon addysg y dosbarth gweithiol ydyw y criterion ar ba un yr ystyrir gallu a llwyddiant unrhyw wlad neu ddosbarth ? Gredwn na fu Mr. Prosser, a llawer ereill oedd yn y cyfarfod, erioed o fewn cyrhaedd manteision addysgiadol sefydliadau o'r fath ac felly, nis gallent o angenrheidrwydd eu gwerthfawrogi, na siarad oddiar brofiad am eu dylanwad ar foesau y dosbarth gweithiol. Gresyn meddwl fod dyn sydd yn dal safle o arweinydd y dosbarth gweithiol yn y lie wedi bod yn foddion i beryglu cymeriad moesol ac addysgiadol gweithwyr y lie trwy ddweyd na fuasent yn gwerthfawrogi Llyfrgell a Darllenfa Rydd, pe cawsant hi; y mae hyny yusarhad ac yn niwed i'w ddosbarth. Onid yw y ffaith fod y gweithwyr wedi cyfranu dros 300p. at y sefydliad yn profi eu bod yn awyddus am dano l Yn mhellach, sicrhaf pe buasai sicr- wydd y llwyddid i'w gael y cyfranent eto yn helaeth pe bai amgylchiadau yn caniatau. Mae fod Prosser, a llawer ereill, wedi llwyddo i gael ty ar eu henwau, wedi profi eu bod yn elynion cynal Llyfrgell a Darllenfa Rydd ar draul y trethoedd, am y buasent yn gorfod talu ryw swllt yn y flwyddyn, neu lai, tuag ati. Rheswm y cadeirydd, Mr. R. H. Rhys, *c ereill, yn ei herbyn oedd, y buasai yn myned yn ddwfn i'w llogellau, ond nid felly Mr. Prosser. Gobeithiwn na chymer y gweiflhwyr eu harwain gan Mr. Prosser parthed y mater hwn. Mae ei fod yn cwyno y buasai yn rlraid iddo dalu treth er cynorthwyo i gael manteis- ion addysg i'r lie yn siarad yn groew faint mae yn deimlo yw ei ddyledswydd tuag at ddyrchafu y dosbarth hwnwy mae efe a minau yn perthyn iddo.—Yr eiddoch, Aberdar. HENRY
GOFYNIADATI. )
GOFYNIADATI. ) MR. GOL.—Dygwyddais fyned i gwmni y dydd o'r blaen yn gydmarol hanesyddol a pholiticaidd, ac yr oeddynt^n dadleu yn frwd yn nghylch teiti Tywysog Cymru. Dy- wedai un, pan fydd ein parchus Frenines farw a'r Tywysog presenol gael ei goroni, byddai ei fab hynaf yn Dywysog Cymru. Dadleuai y llall, fod yn rhaid iddo gael ei eni yn Dywysog Cymru, fod yn rhaid i'w dad fod cl yn ben coronog ar ei enedigaeth, neu nid oes ganddo hawl i'r teitl o gwbl. Carem i chwi Mr. Gol., neu rhai o'ch gohebwyr ateb y gofyniadau canlynol: — 1. Pan coronir y Tywysog presenol, a fydd ei fab hynaf a hawl i ddwyn y teitl o Tywysog Cymru, neu a oes yn rhaid i'w dad neu ei fam i fod yn gwisgo'r goron ar ei enedigaeth yn ol cyfraith y wlad ? 2. Pa sawl Tywysog Cymru sydd wedi bod oddiar yr hwn a anwyd yn Nghas- tell Caernarfon hyd yn bresenol 1 — Yr eiddocli, UN A GARAI WYBOD.
Y SENEDD.
Y SENEDD. Y CWESTIWN DWYREINIOL. Dydd Gwener, dywedodd Mr. Gladstone ei fod yn dymuno rhoi rliybudd am y ddau ofyniad canlynol i'r Llywodraeth — Yn gyntaf, pa un a fyddent i osod ar y bwrdd y neges pellebrol cyfeiriedig ato yn nodyn papyrau Rhif 1, tud. 105, fel yn cynwys sylwedd bryslythyr Medi 5ed. Yr oedd y bryslythyr wedi ei roddi, ond nid oedd y genadwri bellebrol wedi ei dwyn ger bron. Y mater arall oedr-A gofyn pwy oeddynt y personau pwysig, gyda golwg ar ba rai yr oedd Syr H. Elliott yn hysbysu yn ei frys- lythyr Rhag. 18eg, 1876, ddarfod iddynt wneyd arddatganiad fod yn rhaid gyru y Tyrciaid allan o Ewrop. (Cymeradwyaeth a gwrth-gymeradwyaeth). Pan gododd Mr. Gladstone yr ail waith, diolchodd i'w gyd-aelodau am roi ffordd i'w fater ef ar y Cwestiwn Dwyreiniol, a dy- wedodd ei fod wedi darllen y Llyfr Glas ar y mater yr hwn oedd tua 1200 o dudalenau, ac nad oedd yn bosibl iddo fyned dros yr holl fanylion y noson hono. Dywedodd iddo ddarllen y boreu hwnw mewn papyr cyfrifol o Ogledd Lloegr, fod cynllun ar waith er ys cryn amser i ddiorseddu Sultan Twrci a gosod Dug o Edinburgh ar yr orsedd yn ei le-(chwerthin)-ac. mai awdwyr y cynllun hwnw oedd Tywysog Bismarck, Ymerawdwr Rwsia, Iarll Beaconsfield, a Mr. Gladstone. (Chwerthin uchel). Yr oedd ef yn sicrhau y Ty, nad oedd un gwirionedd o gwbl yn y mynegiad yna. Wedi hyn, daeth yn mlaen at y bryslythyr dyddiedig Medi 5ed, 1876. Yr oedd Argl. Derby yn hwnw yn hysbysu Syr H. Elliott "fod unrhyw gydymdeimlad a deimlid yn y wlad hon yn flaenorol at Twrci wedi ei andwyo yn hollol ar gyfrif yr erchyll- derau yn Bulgaria, a phe byddai Rwsia gy- hoeddi rhyfel yn erbyn Twrci, y byddai Llywodraeth ei Mawrhydi yn ei theimlo yn anmhosibl yn ymarferol i ymyraeth mewn amddiffyn yr Ymerodraeth Ottomanaidd." Ymddangosai fod y brawddegau yna yn taflu cryn lawer o oleuni, mwy nag oedd ef yn feddianol arno o'r blaen, ar fwriadau Llyw- odraeth ei Mawrhydi cyn y cyfwng hwnw canys pan drosglwyddasant i Twrci y ffaith fod, yn eu barn hwy, ddatguddiadau penod- ol diweddar wedi cymeryd lie, yr hyn a'i gwnai yn anmhosibl iddynt i ymyraeth er amddiffyn Twrci, mewn rhyfel a Rwsia, y mae yn sicr ei fod yn cynwys, hyd nes i'r datguddiadau hyn gael eu gwneyd, eu bod yn eglur feithrin y bwriad hwnw. (Clywch, clywch). Yna dyfynai y paragraph nesaf fel y canlyn Byddai y fath amgylchiad, set cyhoeddiad rhyfel rhwng Rwsia a Twrci, trwy yr hyn y byddai cydymdeimladau y genedl i gael eu dwyn mewn gwrthsafiad uniongyrch- ol i'w hymrvvymiadau cytundebol, yn gosod Lloegr mewn cyflwr anfoddhaol ac hyd yn nod darostyngol, eto ei bod yn anmhosibl dweyd, os parhai yn ymgyreh, na ohyfodai yr achlysur hwnw." Yna a y bryslythyr yn mlaen i wasgu ar Lywodraeth Twrci, ar gyfrif hyny i ysgoi gyru materion i eithafion, gan adael i Syr H. Elliott i ddefnyddio ei I iaith ei hun wrth drosglwyddo y genadwri i Lywodrwaeth Twrci. Yn awr, dywedir wrth- ym, os torai rhyfel allan rhwng Rwsh, a Twrci, y dygid cydymdeimladau y genedl i wrthwynebiad uniongyrchol i'w hymrwym- iadau cytundebol. Nis gallai Mr. Gladstone weled fod y fath iaith yn ddyogel i'w defnyddio. Dywedodd Llywodraeth ei Mawr- hydi wrth Syr H. Elliott ar y 25ain o Fai diweddaf, nad oedd Llywodraeth Twrci i ddisgwyl oddiwrthi hi ddim yn fwy na chefnogiad moesol. Yna condemniai Mr. Gladstone mewn iaith gref, fod rhyw oheb- iaethau ll««hwraidd yn pasio i wrthweithio dylanwad cenadwriaethau o duedd iachus. A chyda golwg ar fod Lloegr yn myned i gael ei gosud mewn safle fel na fedrai gyf- lawni ei hymrwymiadau cytundebol, yr oedd ef yn gwrthwynebu hyny o gwbl ac ni chredai ef y gallem gael ein gosod yn y cyfryw sefyllfa. (Clywch, clywch). Cododcl yr Ysgrifenydd Rhyfel, a gwnaeth araeth faith iawn i amddiffyn y Llywodraeth, ac i geisio tori rhesymiadau cadarngryf Glad- stone i'r Hawr, ond bu yn hollol aflwyddianus. Bu Arglwydd G. Hamilton yn taflu rhai ergydion llawchwith at Mr. Gladstone hefyd ond os do, buasai yn well iddo beidio, canys cafodd y mellt mwyaf llosgawl yn ol ag a ddarllenasom erioed, o enau yr Hercules seneddol hwn. Achwynai fod Gladstone yn ysgrifenu pamphledau, ac yn ymbresenoli mewn cyfarfodydd cynhyrfus i gondemnio y Weinyddiaeth yn ei thrafodaeth a Thwrci. Gofynai Gladstone iddo yntau paha-m na fyddai ef ac ereill yn ysgrifenu pamphled mewn atebiad iddo, neu yn dyfod i'r cyfarfod- ydd hyny i siarad yn ei erbyn. Yn sicr, yr oedd nos Wener diweddaf yn nos i'w chofio yn hir ar balmant St. Stephan, ac yr oedd y brawd cyhy rog Gladstone wedi dyfod allan yn anterth ei nerth. Yr oedd yn addaw, hefyd, fod ganddo pills lied chwerwon i'w rhoi i'w wrthwynebwyr cyn hir. Y mae arwyddion yr amserau yn pwyntio yn gryf ac eglur mai y pwnc Dwyreiniol fydd y graig ar ba un yr a llestr y Weinyddiaeth Doriaidd yn ddrylliau. Y mae Arglwydd Derby, ac ereill gydag ef, yn enwedig y gwr o Beacons- field, wedi dangos eu hunain yn geiliogod y gwynt yn y fusnes hon. Daw y pwnc yn mlaen eto heddyw, a cheir manylion pellach yn ein nesaf.
EISTEDDFOD MELINIFANDDU.
EISTEDDFOD MELINIFANDDU. Daeth y cyfansoddiadau canlynol i law ar y gwahanol destynau :— Haelioni. -— Mongton, Dyledwr yr hael, Hirel, Calon lawn.-4. Llythyr Tad Duwiol at Fctb Afracllon.- Arthur Hughes, Dafydd Jones, Profiadol, John Jones, Demetreus, Gofidus.—6. Ysgrif ar Melinifanddu. — Mab Shon y Crydd, Ithel, Nathan-3. Pont Melinifanddu.—Saermion, Saermaen, Contractor, Shon o bont y Frithwaen, Pen saer, Sylldremydd, Ifan Ddu, .race, Peir- ianydd, Athel.—10. Can y Baban Cyntaf.—Ei Dad, Ei Fam, Mwynaidd.—3. Y Beddfaen.—In Memoriam, Meudwy Hen, Awel o'r Llan.—3.—Yr eiddoch, DAFYDD 0 WENT.
DOWLAIS.
DOWLAIS. CAPEL IVOR.-Dydd Llun, y 12fed cyfisol, rhoddwyd te a bara brith i'r plant, perthynol i'r capel uchod, sydd yn mynychu cyfarfod y plant a gynelir yn wythnosol, o dan arolyg- iaeth y Parch. F. A. Walker, gweinidog y lie. Yr oedd dros chwech ugain yn cyfranogi o'r danteithion. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod o adrodd, areithio, a chanu, pryd y gwasan- aethwyd gan Mri. U. Roberts, D. W. Jones, J. E. Jones, T. Staples, aT. Thomas. Wedi talu y diolchiadau arferol, ymadawodd pawb wedi eu llwyr foddloni. .DARLITH.-Yr un noson, bu y Parch. J. Evans, Caerfyrddin, yn traddodi darlith Seisnig ar Aids to self-culture yn ysgoldy Libanua. Hon oedd y drydedd o'r gyfres sydd i'w traddodi eto. Drwg iawn genym na fuasai llawer yn rhagor yn ymdrechu bod yn bresenol, gan fod y darlithiwr yn un mor enwog. Llywyddwyct yn ddeheuig iawn gan Mr. E. Cartwright, llyfr-werthwr. MR. H. RICHARD, A.S.-Deallwn ei fod wedi pasio na ofynir i'r aelod Rhyddfrydig roddi cyfrif am ei oruchwyliaeth yn awr, gan ei fod wedi anei-ch dau gyfarfod ar "Yr erchyllderau yn Bulgaria "-un yn Merthyr, a'r llall yn Aberdar-yn Medi diweddaf. Ond beth am Dowlais, wys ? CYFARFOD LLENYDDOL.—Nos Sadwrn di- weddaf, cynaliwyd cyfarfod o'r natur hwn yn Shiloh, o dan lywyddiaeth Mr. William Griffiths, Bethania. Enillwyd y gwobrwyon fel y canlYh :-Canu "Wyres fach Ned Puw;" cydfuddugol, Mri. Evan a Wm. Jones. Canu Cais y colledig;" bsddugol, y Llew Bach. Darllen cerddoriaeth ar y pryd; buddugol, Mr. D. Oliver Evans. Y dcladl fyrfyfyr; buddugol, Mr. J. Thomas a'i gyfaill. Darllen tair adnod ar y pryd budd- ugol, Ivor Bach. Araeth ar "Arch y Cyf- amod;" Mr. John Marshall (Gwaladr) ydoedd y buddugwr. Canodd Mr. Edwin Lewis "Goleu yn y ffenestr" yn swynol iawn, a chanodd Eos Fach a'i gyfeillion "Daniel's balld" yn rhagorol. Canodd y Llew Bach "Caf farw gyda'm hanwyl fam" yn dda odiaeth. Darllenodd Mr. L. Lewis Y wraig wastraffus," a chafwyd adroddiad gan Mr. Thomas Thomas. Felly y terfynwyd un o'r cyfarfodydd llenyddol goreu y buom ynddo erioed.—Morgrugyn Morlais.
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. Traddodwyd darlith ardderchog ar y testyn "Y Meddwyn Diwygiedig," gan y Parch. W. I. Morris, Chwef. 14eg, mewn ystafell eang a chyfleus perthynol i'w le ei hun. Lly- wyddwyd yn ddeheuig gan George Griffiths, Ysw., Heolyfelin. Parhaodd y ddarlith am awr a haner, ac ni fuasai yn flin genym i eistedd i wrando arno lawer yn hwy. Yr ydym yn meddwl nad a hanes a gweddi y gwr rhyfedd John Benjamin Gough, yn fuan o'n cof. Yr ydym yn dymuno i' Mr. Morris hir oes, fel y byddo llawer o feddwon Pont- ypridd a'r byd yn cael eu gwneyd yn sobr. Teg fyddai hysbysu fod y ddarlith yn rhad.- Elianfab.
DERRI.
DERRI. DAPLiTH. —Y mae y Derri wedi ei frointio a llawer o gyfarfodydd yn ddiweddar, pa rai oeddynt 11 amrywio llawer yn eu chwaeth. Nid wyf. ar hyn o bryd, yn bwriadu dweyd dim oiid am un ohonynt, sef darlith ar Madagascar le, a darlith benigamp oedd hefyd. Traddodwyd hi nos Lun, y 12fed o Chwefror, yn Nazareth, gan y Parch. D. Jones, B.A., Merthyr. Yr oedd y darlithiwr enwog yn ei hwyliau goreu yn ein harwain ar adenydd clychymyg i'r wlad eangfaMjr hono a rhoddodd i ni gipolwg ar eu dull 6 addoli, a'r erlidigaeth ar y CristionogL-n, &c. Cadeiriwyd yn fedrus gan y Parch. John Jones, gweinidog y lie. Cafwyd cynulliad lluosog a gwrandawmd astud. Yr elw at ddileu dyled yr addolay. NOSWEITHIAU GYDA MABONWYSON.—Y mae y rhai hyn yn ami a lluosog y dyddiau hyn. Darllenais a chlywais lawer am danynt; ac ar ol y cwbl, y mae llawer o bethau yn ymddangos yn dywyll iawn i mi ynddynt. Os mai eisieu cymhorth i fyned i wlad y Gorllewin Wdd arno, paham na chynaliai ei gyfarfodydd yn anrhydeddus ? paham y gwna gysylltu llenyddiaeth a thafarnyddiaeth a'i gilydd ? a phaham y ceisia wneyd yr hen gyf- rwng bendigedig, sydd gan ein cenedl anwyl i foesoli eu cyd-ddynion, yn bont dros afon [ rhinwedd er arwain ei gyd-ddynion i for o lygredd. I
ALLTWEN. j
ALLTWEN. j Nos Sadwrn, Chwefror IsOfed, cynaliwyd | cyfarfod llenyddol yn reading room y lie uchod. j Beirniad y gerddoriaeth, Asaph Godre'r Graig; y rhyddiaeth, y farddoniaeth, a'r adroddiad- au, Mr. D. Anthony, Alltwen. Llywyddwyd gan Mr. T. Lewis, Pontardawe, ac wedi cael ychydig sylwadau arweiniol ganddo, awd yn mlaen fel y canlyn :—Ca.nu Yr awr.weddi," goreu, D. Davies canu" Y bwthyn mynydd- ig," goreu J. Evans a M. John; adrodd "Cariad brawdol," goreu, D. Hopkin canu, Arglwydd, dyina fi," rhanwyd y wobr rhwng y tair gystadleuodd, sef M. Jones, A. Jones, M. Rees; am y ddau benill i'r "Athraw ffyddlon," goreu, J. Thomas canu Y milwr clwyfedig," goreu, Brythoniaid adrodd dadl "Y creadur symudlawn," goreu, T. Jones a'i gyfeillion canu "0 am nerth i gyrhaedcl adref," rhanwyd y wobr rhwng Brythoniaid a Phreswylwyr chynygiodd neb ar adrodd "Esgyniad Elias;" canu "Ar lan yr afon," goreu, J. Clat worthy adrodd dadl "Y faril a'r ffynon," goreu, J. Evans a M. John canu Y meddyg mawr," goreu, C. Davies canu Dos, cuddia dy ofid," goreu, J. Morgan a'i barti ni chynygiodd neb ar yr araeth ar Gynildeb;" canu y prif ddarn Nashville," rhanwyd y wobr rhwng R. Roberts a'i barti, ac E. Jones a'i barti. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu "Gawn ni gwrdd tudraw i'r afon." Pawb wedi eu boddloni, ac yn dymuno cael cyfarfod o'r fath eto yn fuan.—Oomar.
CASTELLNEDD.
CASTELLNEDD. SOAR.—Nos Lun y 12fed cyfisol, traddoclwyd darth yn capel uchod ar Pregethu a Phre- gethwyr" gan y Parch. D. Brythonfryn Griffiths. Llywyddwyd gan y Parch J. Mathews, gweinidog y lie. Daeth yn nghyd gynulleidfa barchus, a bu y ddarlith yn llwyddiant rhagorol.—Gohebydd.
Purwch eich Gwaed a Chryfhewch…
eich Cyfansoddiad! TRWY GYMERYD EVANS, QUININE BITTERS, NEU VEGETABLE TONIC. Y MAE y Bitters hyn yn hollol lysieuol, ac yn cynwys y canlyn :-Quinine, Sars- parilla, Saffron, Lavender, Burdock, liverwort, Gentian Root, &c. Mewn gair, y mae bron pob Llysieuyn a gwreiddyn gwerthfawr yn y feddyg- iniaeth ryfeddol hon, ac y maent wedi cael eu parotoi ar ol llawer o fyfyriaeth yn y modd goreu er eu perffeithio i fod yn wellhad difeth- iant at y doluriau canlynol (1). Gwendidau o bob math yn ymddangos fel un neu r agor o'r anhwylderau canlynol—iselder ysbryd, nervousness, curiad y galon, y gwaed yn rhuthro yn ddisymwth i'r gwyneb, llewygon, teimlad o bwysau ar y chest, poen ar y chest, poen rhwng yr ysgwyddau, cliffyg anadl, peswch a thueddiad at y darfodedigaeth (decline). (2). Diffyg treuliad a'i ganlyniadau, sef gwael- der cyn bwyd, trymder anarferol ar ol bwyd, diffyg archwaeth at fwyd, yr ystumog yn chwyddo trwy wynt, yr afu yn afiach, a thrwy hyny yn achosi y clefyd melyn, poen yn groes i'r llygaid, ac ysgafnder yn y pen. (3). Trwy effaith y Sarsaparella a'r Burdock ar gylchrediacl y gwaed, y maent yn hynod o effeithiol at y blast neu'r awelon, gwynegon, ystyffdra y cymalau, a phob math o ddistemper yn y gwaed. Y mae tystiolaethuu pwysig yn cael eu derbyn yn barhaus. Cyhoeddir tri yn unig o'r lluaws. Gellir cael pob hysbysrwydd trwy ysgrifenu at y perchenog. Old Globe, New Dock, LlaneUi/, May 24th, 1876. ANWYL SYR,—Dymunaf hysbysu i chwi fy mod wedi cael fy llwyr iachau trwy gymeryd eich Quinine Bitters. Yr oeddwn wedi myned bron yn rhy wan i gerdded, ae yr oedd y clwyf ar fy mraich yn myned yn waeth bob dydd. Yr oedd meddyg- on Llanelli a'r ardaloedd am dori fy mraich ymaith er achub fy mywyd; ond trwy gymeryd y Quinine Bitters, yr ydwyf yn awr wedi gwella, ac yn gweithio bob dydd. Rhoddaf fy enw yn llawn, fel y gallo ereill gael manylion pellach oddiwrthyf os mynant.—Yr eiddoch, yn barchus, GRIFFITH WILLIAMS. Dylaswn ddweyd fy mod wedi bod dair blynedd heb weithio ond ychydig. The Grand Hotel, Brighton, July 28th, 1876. DEAR SIR,—I feel it is my duty to the public and yourself to inform you that I have derived immense benefit from your Quinine Bitters or Vegetable Tonic. I have been for some months a victim to headaches, pain in the back, and I believe a general derangement of the liver. I am happy to say I now feel well, but take a dose of your "Bitters" occassionally when my appetite fails.- Yours faithfully, ROBERT FOSTER. Ruthin, Awst 15fed, 1876. SYR,—Yr wyf wedi derbyn lies mawr oddiwrtb eich Quinine Bitters. Bu'm yn cael poenau an. nesgrifiadwy vn fy mhen a'm danedd, yn cael ei achosi (meddai'r Doctor) gan fy ystumog. Yr oedd y bwyd yn gwasgu cymaint fel yr oedd arnaf ofn bwyta. dim. Yr oedd y gwynt yn fy nghofidio, bias cas yn fy nghenau, yn enwedig yn y boreu, fel bwystl. Yr oeddwn yn hala haner fy amser yn y gwell trwy wendid, ac feallai ychydig iselder ysbryd. Cymerais ddwy botelaid o'ch moddion, ac yr ydwyf yn awr yn teimlo yn gryf a diboen.- Yr eiddoch. Mr. Gwilym Evans. JANE S. THOMAS. D.S.-Os bydd y corff yn wan, y mae yn agored i bob inath- o anhwylderau, a dylid cofio bod bron pob math o beleni yn gwanhau y cyf. ansoddiad. EHYBUDD.—Gofalwch fjmu gweled "Gwilym Evans, Ph.C., M.R.P.S. wedi ei ysgrifenu ar stamp y llywodraeth; heb hyn, twyll ydynt. Ar werth gan bob Chemist cyfrifol mewn botel- au 2s. 9c. yn unig, neu gan Mr. GWILYM EVANS, Pharmaceutical Chemist, Stepney-street, Phar- macy, Llanelly: Llundain, Barclay & Sons, &c. 1462.-
Advertising
Boneddigesau hyny nad ydynt wedi defnyddio Starch Glenfield, dymunir ar iddynt wneyd un prawf o hono, a bob yn ofalus am ganlyn y cafar- wydfliadau argraffedig ar bob pacyn. Y mae yn ychydig anhawddach ei wneyd na Starches ereill, ond pan y deuir dros yr anhawsdra. dywedir fel Golcbwraig y Frenhines, mai y Starch goreu a ddefnyddiwyd erioed ydyw, L92
"Dan nawdd Dnw a'i dangnef."
"Dan nawdd Dnw a'i dangnef." "O lesu na'd gam waith." EISTEDDFOD TON-Y-PANDY. BYDDED HYSBYS y cynelir yr eisteddfod uchod DYDD LLuN. SULGWYN, MAr 21ain, 1877, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn Rhyddiaeth, 'Barddoniaeth, Areitliyddiaeth, Adroddiadaeth, a Chiniadaeth. Ltywydd- vYM. WILLIAMS, Ysw., Grove Field. House. Beirniaid:— Y Rhyddiaeth a'r Farddoniaeth— DEWI WYS o ESSYLLT. Y Ganiculaeth-Mr. R. S. HUGHES, R.A M. a Mr. D. BUALLT JONES. TESTYNAU. Trciethodau. Am v Traethawd goreu a* Y priodoldeb o gau y Tafarndai ar y Saboth gwobr, 10s. Am yr Ysgrif oreu ar "Ralen" (cyfyngedig i rai dan 20 oed) gwobr, 10s. Am yr Ysgrif oreu ar Sebon (cyfyngedig i Fenywod) gwobr, 5s. 9 Barddoniaeth. Am y Bryddest -oreu ar Y Dymhestl—Mor- daith Paul i Rufain," gwel Act. xxvii. j. gwobr, Ip. Is. Am y 60 llinell goreu ar Urddasolrwydd yr- Areithfa gwobr, 10s. Am yr Hir a Thoddaid 'Beddargraff goreu i'r diweddar David Howells, Coedymeibion; gwobr, 10s. Am y Chwech Englyn Unodl-union goreu i'r Teapot; gwobr, 10s. Am y Ddau Englyn Unodl-union goreu i'r' "Peiriallt Llifio goreu, 5s. Adroddiadau. I'r Hwn a adroddo oreu '• Yr Ystorm (Hwfao Mon), gwel y programme gwobr, 7s. 6c. I'r Hwn, dan 15 oed, a adroddo oreu Clywch, daw cân" (Mynyddog), gwel y programme p gwobr, 4s. Areithio. I'r Hwn a areithio yn oreu ar frad pob- afraid," (tair mynud o amser i'w thraddodi) j.. gwobr, 3s. Cyfieithu. Am y cyfieithiad goreu o "A little learning a dangerous thing," (Pope), gwel y programme; gwobr, 53. Ganiadaeth. Am yr Alaw oreu—y geiriau i'w cael gan yr Ysgrifenydd gwobr, 103. I'r C6r heb fod dan 60 o nifer, a gano yn oreu- "Hallelujah Chorus," (Han del's Messiah); gwobr,. 12p., a 3p. i'r arweinydd. I'r o'r un gynulleidfa, heb fod dan 50 a nifer, a gano yn oreu "Then round about the- starry throne," (Samson) gwobr, 8p. I'r Parti o 16 o nifer a gano yn oreu "Yr Alarch Gwyn," (GeineiaiCr Gerdd) gwobr, 2p. I'r Parti o 8 o nifer, a gano yn oreu y gan a. chydgan Cymru Lan," (Gems); gwobr, 12s. I'r Hon a gano yn oreu Y 'Deryn Pur," (Songs of Wales); gwobr, 10s. 1'r Hwn a gano yn oreu Honour and Arms, (Samson); gwobr, 7s. 6c. I'r Hwn a gano yn oreu "Total Eclipse," (Samson) gwobr, 7s. 6c. I'r Hwn a gano yn oreu Y Golomen Wen," (R. S. Hughes) gwobr, 7s. 6c. I'r ddau a ddarlleno dderny.n o gerddoriaeth rhoddedig ar y pryd gwobr, 4s. Ni chaniateir i'r ddwy Ysgrif i fod drosbedair- tudalen o note paper yr un, na'r Bryddest i fod. dros 150 o linellau. Y cyfansoddiadau i fod yn Haw y Beirniaid ar neu cyn Mai 7fed. Ceir pob manylion ar y programme, yr hwn a. geir am y pris arferol gan yr Ysgrifenydd,— EV, N LEWIS, 1494 Coedymejbion, Pandy.
Advertising
Eisteddfod Undebol Pontardawe a'r Alltwen. BYDDED HYSBYS y cynelir V Eisteddfod -D uchod DYBD LLUN SULAWYN/^MAI 21ain, 1877, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugo mewn Rhyddiaeth, Barddoniaeth, a Chaniad- aeth, &c. Prif Destynau.—Ganiadaeth. I'r C6r, heb fod dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu "Mor hawddgar yw dy bebyll," gatt Proffeswr Parry gwobr, lOp. I'r C6r a gano yn oreu Ti, 0 Dduw," o'r Gerdclorfa gwobr, 3p. 3s. Barddoniaeth. Am y Gan o Glod oreu i'r Parch. Philip- Griffiths, Alltwen gwobr, 2p. Traethawd. Am y Traethawd goreu ar y Cymdeithasau. Cydweithiol" (Co-operative Stores); gwobr, 2p. Bydd y programme, yn cynwys yr. oil o'r testynau, amodau, a threfn y dydd, &c., i'w gael gan yr Ysgrifenyddion am geiniog, drwy y post, 1 ic., yn mhen pythefnos. 2 Hysbysir enwau y Beirniaid yn fuan. Cynelir CYNGHERDD Ardderchog yn yr hwyr. Ysgrif enyddion—CHARLES JONES (Alltwen- ydd), a J JAMES JAMES, Co-operative Stores,. Alltwen, Pontardawe, Swansea. 1498 AT YMFUDWYR. -1 -i TO EMIGRANTS. General Agent to all American and Australitm Sailing Ships and Steamers. jVT" JONES (CYBIRO GWYLLT), Passenge* Broker, 28, TJnion-street, Liverpool, Gor- wylhvr i'r Llinellau canlynol :-Inman Line. Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, Stats- Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn hwylio i wa hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a, Tiriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael y cyfarwjrddiadau gofynol drwy anfon llythyr i'¡> cyfeiriad hwn. Caiit pawb a ymddiriedo eu gofai ddo y sylw manylaf. Cynorthwyir y Cymro gan Mr. JAS. REES, brodor o Merthyr Tydfil. Dymunol gan y Cymro allu hysbysu y Cyhoedd fod ganddo y TY CYMBEIG eangaf a mipgaf cyfleus i Deithwyr cte Ymfudwyr yn L'erpwl, a'r agosaf i'r Landing Stage.-Cofior y Cyfeiriad, N. M. JONES (CYMRO GWYLLT), 28, Union-street, Liverpool. D.S,—Gellir ymholi yn Aberdar & John Jamee; Crown HoteL