Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
[No title]
"beitniad ar ei draed, a phawb yn gwrando yn astud dechreuodd draddodi ei feirniadaeth, aeth at y pwnc ar unwaith, a rhoddodd feirn- iadaeth fanol ac eglur ar bob cor—dywedodd eu diffygion a'u rhagoriaethau; dangosodd yn amlwg pa le yr oedd y buddugol yn rhagori, ac anfonodd ei feirniadaeth i'r newyddiadur, fel y gallasai pawb weled yn eglur ei resymau dros ei. ddyfarniad. Ni chlywsom fod cymaint ag un yn ameu ei gywirdeb. Da genym weled Mr. Jenkins yn tori y maes newydd yma, a gobeithio, er mwyn anrhydedd yr eisteddfod, y gwna ein beirniaid yn y dyfodol ddilyn ei esiampl. Maddeuwch fy meithder. —Tonarian.
LLYTHYRAU Y LIMITED COMPANY.
LLYTHYRAU Y LIMITED COMPANY. MR. GOL. Hawdd canfod oddiwrth lyth- yrau y "Limited Company" fod ynddynt liunanoldeb lon'd eu cotiau. Yn wir, yr ydym wedi rhyfeddu lawer gwaith na byddent wedi burstk), yn enwedig felly am "T." Gwyddoch, syr, fod llonaid cwpan te o rice yn dyfod allan o'r ffwrn yn lon'd tin bara-y -swelling propensity yn fawr. Nid felly yr L. C. aent hwy i fewn mewn tin bara, a deuant allan mewn cwpan te. Dywedant am dlodi meddwl; hyd yma ni orfodwyd Oeniri i droi yr un o'i lythyrau yn un personol, fel y darfu i'r L. C." wneyd, ac wrth hyny brofi (yr unig beth ttiaent wedi brofi) nad oedd ganddynt resym- au. Dywed un o'r "Prejudiced speakers among the Welsh hills," fely geilwy wasg Seis- nig hwynt,—" Gwybydded Oenin ei wrth- wynebydd yn iawn pan yn dweyd fod Byron yn 37 yn marw." Wedi gwneyd rhagymadrodd hir a thoddaid (?), dywed y Shareholder arall fod Oenin wedi bradychu ei anwybod- aeth wrth osod ei oedran yn 36." Pe buasai Byron yn byw wyth mis ychwaneg buasai yn St; ond fel yr oedd, gwelodd 36, ac nis gwelodd 37. Ganwyd ef yn 1788, a bu farw yn 1824. Yn awr, ynte, pwy ellir goelio, a phwy sydd ar gam? Gan ein bod wedi dechreu ar Byron mewn man arall, wnawn ni ddim yn y fan hon ond dweyd mai syniadau, yn ami iawn brawddegau Macaulay—tystiol- aeth yr hwn sydd annhraethol fwy pwysig nag eiddo'r personau y cyfeiriwyd atynt- ydym wedi ac a ddyfynwn. Gyda golwg ar yr awduron enwyd, dywedwn naill ai ynte fod yr "L. C." yn bechadurus o hurt, neu fod eu hamcan yn ddrwg. Ni ddarfu i ni brisio gweithiau Essyllt, am eu bod yn an- mhrisiadwy ond, atolwg, a ydyw Essyllt yn foddlawn i'w waith gael ei gymysgu gyda chaneuon fel y canlyn — There's the fox and the hare, The badger and the bear, The birds in the green wood tree The pretty little rabbits Engaging with the rabbits, They all get their meet but me. Neu, atolwg, a fuasai Eben Fardd yn fodd- lawn clywed fod ei waith yn mhlith pethau fel "Under the trees," "Mrs. Brown's lug- gage," a Julietta Belle ? Mae y ddau Shareholder" fel pe yn ein gorchymyn i atal ein dwylaw, ond drwg iawn genym ddweyd na fedrwn wneyd hyny yn bresenol. A display of his own deop ignorance" ddarfu i un o'r L. C." ddangos wrth ddweyd mai Aven oedd swnio Afon a cham- synied y Hall oedd yr hyn a ddywedodd am y tafarn ac hefyd cyfarfodydd osodwyd yn' ein llythyr, er mai "cyfarfod ddaeth allan. • Gwyddoch, syr, fod dwy ffordd beryglus iawn i amddiffyn golygiadau. Y cyntaf yw, y dadleuydd yn cael ei ddallu i'r fath raddau gan set ei bwnc, nes colli bob golwg ar res- ymau. Yr ail i'w ceisio (fel y darfu i'r Cwmni) gwneuthur eu gwrthwynebydd yn ddirrnygedig drwy gyfeirio at ryw frychau yn ei gymeriad nas gellir eu pigo i fyny yn ei ysgrifau. Methodd y dull cyntaf bob amser a gwneyd drwg dirfawr i'r golygiad fydd yr ysgrifenydd am amddiffyn. Mae yr ail, yr hwn a elwir yn personal abuse," mor ffiaidd ynddo ei hunan nes peri pob dyn o synwyr cyffredin gadw oddiwrtho er ei fwyn ei hun. Os bydd gweithiau rhyw ysgrifenydd yn am- -ddifad o'r peth da, yn peryglu hapusrwydd a llwyddiant y cyhoedd, y mae yn ddyledswydd ar bob dyn i wneuthur ei oreu i'w gosod yn ddirmygedig ger bron ei gyd-ddynion—cyn belled a hynyna mae yn gweithredu rhan dyn gonest a dinesydd da ond a'i hanes dirgel- aidd nid oes a fyn, nac ychwaith a'i gymer- iad, ond cyn belled ag yr amlygir ef yn ei waith. Yn wir, y fynud y gollynga yr ys; grifenvdd ei hun i'r tir yna, mae yn colli ei ddylanwad, canys myn y dadlenydd gredu nad oes ganddo well offerynau i'w defnyddio, ac yn wir, ar a wyddom ni, mae yn iawn. 0 barth ein hunain, dywedwn ein bod erioed, ac y byddwn byth yn barod i ganmol rhagori aeth lie bynag y bydd ond nis gwnaiff uchder cyfoeth, anrhydedd swydd, sneers hunanoldeb, gwaedd y sciolist, na gwrtliwyn- ..ebiad yr adyn diegwyddor, fyth ein gyru i gaumoi opiniynau drwg, na sothach diwerth ;gymysgir a llenyddiaeth mewn rhai manau. Pe gwnelem hyny, boddhaein ychydig ond gweil genym, os rhaid, ddigio llawer. Hefyd, pe gwnelem hyny, derbyniem ganmoliaeth nad ydym yn ei gwerthfawrogi.—Yr eiddoch, OENIN. cla-
Advertising
PELENI HOLLOWAy-Ieehyd a Hoenusrwydd- Mae yr afu mwyaf iach ar brydiau yn ddarostyng- -edig i aiVciuiokliiai yoiriant treuliol, ond gellir ;:ar unwaith ddychwelyd trefn trwy gymeryd y Pelenau byd-enwog hyn, y rhai nis gellir eu can- tnol yn rhy uchel. Byddai dogn yn awr ac eil- waith yn llesiol i bawb, ond dylai dyn claf gymeryd cwrs o honynt yn rheolaidd. Mae yn rhyfeddol ■canfod fel y cryfheir yr archwaith a'r treuliad gaL y Pelenau hyn; a'r gallu a feddianant i ddwyn y trefniant corff orol i weithrediad iachus. Ychwan- egant at gryfder gewynol a nerth meddyliol y rhai -a'u defnyddiant. Mae Pelenau Holloway yn ami 3 n gwellhau clefydau y peiriant treuliol ar ol i tob moddion arall fethu, ac y maent yn neillduol "Wasanaethgar mewn achosion o anhwylderau yr sfu a'r arenau. 366
Llith Eryr y Graig.
Llith Eryr y Graig. Mr. Gob..—Gadawsom ein llith divveddaf gyda chanu ychydig o benillion fel math o ymborth i'r Llvvynog." Yn awr rho-ldwa ychydig eto o hanes y lie bychanjiwn. Y mae yma, fel y. dywedwyd eisocs, ganoedd o dai. Y mae yma, hefyd yn preswy Iio ynddvnt bob math o ddynion, o'r Crisfciou gluyvv i lawr at y bodau mwyaf dichellgar a drwg ag y tywynodd haul arnynt erioed. Kid oes yma yr un lie o addoliad cyhoeddus, ond y mae gan yr Annibynwyr ysgol Sul gyson yma yn cael ei chynal o dy i dy. Perthyn yr ys- gol i eglwys a chynulleidfa Saron, Aberaman, a mynych y sonir ganddynt am godi ysgoldy yma, ond clywsom fod eu brodyr o Gwmaman yn dweyd os y gwna Aberaman godi ysgoldy yma, y gwnant hwythau'godi un hefyd; a thyna i chwi y fath gariad sydd yn bod rhwng y ddwy chwaer, neu y "fam" a'r ferch" fel y gellir eu galw gyda mwy o briodoldeb. Credwn y buasai yn well pe buasai y brodyr y Bedyddwyr wedi parhau yn y blaen i gynal yr achos a' ddechreuwyd ganddynt; ac yna ni buasai rhaid nac achos i eglwysi o'r un enwad i yrnryson a'u gilydd. Yr ydym yn bwriadu, os cawn chwareuteg a goleu, i wneyd tipyn o adolygiad ar y rhai ydynt wedi ymuno yn gwmni dan yr "Un- limited Liability Act," ac wedi troi anedd-dy yn Aberdar yn ystordy budreddi, llygredd, cabledd, ac enllib. Uwchben ben drws y siop hon gwasanaetha llun cadno fel sign. Mae y cwmni yn gynwysedig o chwech neu saith o bersonau, ac un neu ddau o is-wasan- aethwyr tua Chwm Rhondda a Maesteg, y rhai ydynt yn gyYU rkywbeth allont ysglyfo i Llwyaog No. 1, yr hwn sydd yn gofalu am y siop. Bydd genym ddarlun o hono mewn wythnos neu ddwy, ac hyd hyny gadawn ef i fyned rhag ei flaen i larpio cymeriadau y diniwed a'r gonest. Mae y Llwynog-neu y cwmni—wedi byg- wth cyhoeddi llyfr, yn yr hwn y bydd hanes dyddorol am ryw bersonau tra byddont yn parotoi i ddwyn y llyfr allan byddwn ninau yn paentio panorama ardderchog, yn cynwys darluniau o'r rhai sydd yn shareholders yn y consarn. Gan ei bod hi yn arferiad i ganu can yn awr ac yn y man rhwng y scenes, byddaf finau yn dirwyn penill yn awr ac eil- waith. JUDAS I. JONES, D.D., ydyw y cymeriad bortreadir yn gyntaf. Mae yn fod pwysig yn nglyn a'r ymdrafodaeth, a thra byddo y darlun yn cael ei barotoi, cenir can, fel math o arweiniad i mewn Mae llawer yn cofio am helynt Pantmawr, Yr arian a gasglwyd nis talwyd i lawr, Ond gyrwyd am einioes i ran o'r sir hon Gan berson, mae'n debyg i boker neu ffon. Ai dyma y fox, ai dyma y fox, Os d'wedwch chwi hyny, cewch gauad eich box. Daeth yno i'r ardal yn wael iawn ei wedd, Mor welw ei olwg a dyn ar fin bedd, Ond buan dechreuodd a chodi i'r lan, Oblegyd gwnaed cyngherdd i hwn yn y fan Ai hwn ydyw'r y dyn ? Ai hwn ydyw'r dyn? Sy'n rhan fawr o'r Llwynog, mae hyny yn flin. Yn mhen 'chydig amser fe feddwodd y gwr, Yn wir, Mr. Gol., creodd hyny gryn 'stwr, Ond fel pobpeth arall fe basiodd yr hynt, Ond nid aeth yn anngho' fel peth gyda'r gwynt. 0 fie, fie, for shame 0 fie, fie, for shame, Fodd gall'set ti feddwi, a hyny'n ddilen Ryw ddydd wedi hyny cysylltwyd dau ddyn, Yn nliref Aberdar fe yfwyd pryd hyn A gorfu ar Judas, er lloni y top, I fyned i orphwys, ac yfed peth pop. Ffordd ddoniol yw hon i fyn'd yn y bla'n I godi cymeriad a'i gadw yn lan. Ar ol hyn mae'n myned i lawr i sir Gaer, Ac yno o whiskey fe yfwyd yn daer, A phan yn dychwelyd i Llan- ar ei hynt, Fe honai mai cabman fu'n Llundain fawr gynt. A thyma y gwr, a thyma y gwr, Sydd am feiau cym'dogion yn eadw mawr'stwr. I goroni yr helynt aeth i Aberdar, A chafpdd fried mushrooms gan gyfaill neu gar Ar ei ffordd yn dychwelyd fe syrthiodd y gwr Ar ei ben i hen ffos oedd yn llawn llaid a dw'r, A gwaeddai pryd hyn, a gwaeddai pryd hyn, Give me one drop of brandy, or a noggin of gin Hyd y tro nesaf, yr eiddoch yn adeinog, ERYR Y GRAIG.
TWMI O'R BWLLFA A NODWEDD…
TWMI O'R BWLLFA A NODWEDD Y OROPWR. Mr. GOL. ,Byddwch cystal a chaniatau lie i'r llinellau canlynol, gan fod Twmi o'r Bwll- fa yn cyfeirio ataf yn anuniongyrchol. Er rhoddi eglurliad i'r cyhoedd ffordd y mae pethau yn bod, dymunaf eich caniatad i ddweyd a ganlyn :—Yr oedd achwyniad byth a hefyd am ein glo, ei foR yn rhy frwnt gan slags; a gwyr pawb, a wyr rywbeth, am y wythien hon (y 7 troedfedd) mae un front yd- yw. Yr oedd y slags hyn yn cael eu hanfon yn ol yn y trucks yn ddibaid, nes gwneyd y fasnach yn slack, fel nad oeddym yn cael ond rhyw dri diwrnod o waith yn yr wythnos. 0 ganlyniad, anfonodd Mr. Fothergill lythyr (a darllenwyd ef i lawer o'r glowyr), fod yn rhaid cael y glo yn lanach, neu y byddai yn rhaid i'r pwll sefyll. Y n ngwyneb hyn, dy- wedod y goruchwyliwr y byddai yn rhaid cael rhagor o ddwylaw ar ben y screen wedi pwyso'r glo, er cael y slags yn glir o'r glo ac yn niwedd y mis, y byddai i'r slags hyny gael eu llanw i'r trucks a'u pwyso, a rhanu'r crop- pings hyny gogyfer a pliob glowr. Gwelsom ninau, fel gweithwyr, fod hyny yn anghyfiawn, am y rheswm y byddai yr hwn a fyddai yn llanw yn lan yn cael ei gospi yr un modd a'r rhai a lanwent yn frwnt. Yn ngwyneb hyn, galwyd cyfarfod o'r holl lowyr yn nghyd, a daethpwyd i'r penderfyniad o ddodi dyn i lanau y slags o'r glo ar ben y pwll cyn ei bwyso, (gan hyny, "bydded yr hwn oedd lan lan eto, a bydded yr hwn oedd frwnt, frwnt eto") a'n bod ni fel glowyr yn talu un haner, a'r meistr i dalu yr haner arall, a chytunwyd a'r amodau hyn. Gofynwyd i'r is-oruch- wyliwr a oedd ganddo ef ddyn mewn golwg, ac atebodd yntau nad oedd, ac am iddynt ddewis dyn eu hunain. Yn nghwyneb hyn, cynigiwyd, eiliwyd, a phasiwyd yn nnfrydol fy mod i (Gwron Dar) i gymeryd y swydd. Fe!. hyn y ba pethan a.a liaoedd lawer. Fe!. hyn y ba pethan a,.a liaoedd lawer. M-idd Viyn=ig, o'r diwedd aeth rh li i achwyn, wi eiwicu iy ,$t->oo ,ar unwaith. Iieb un rhy- it. i ib dywedo M y go.-iiuh-vyiiwr n.d oed.d yii deg, ac y gwyJdai ef nad oedd ond ychyd- ig nifer yn cynhyrfu am hyny. Hafyd, lly. wedodd un hen lowr (nid wyf yn caru ei ell- wi ar hyn o bryd) nad oedd hyny yn <#eg ond os oeddynt yn penderfynu ar hyny, am iddynt roddi mis o rybydd i mi. Yn ystod yr holl drafodaeth hon, ni ddaeth neb yn swyddogol ataf i ddweyd un gair yn wrth- wynebol hyd nes v gwelais lythyr mewn new- yddiadur. Boreu dydd Iau, yr 18fed cynfis- ol, galwyd cyfarfod mewn perthynas a'r glo L, tai cymerais inau fantais ar yr amgylchiad i osod yr achos ger bron y gweithwyr, a gofyn- ais iddynt os oeddynt wedi cyfnewid yn ei barnan, paham y buasent wedi dweyd wrth- yf o'r blaen, a hyny yn ddidderbynwyneb nad oedd y peth wedi ei wneyd yn ol 'eyfraith y Mediaid a'r Persiaid, yr hon ni newidir a'm bod yn dymuno ar iddynt roddi i mi fis o rybudd, fel y gallaswn inau wneyd yr un modd a'r goruchwi^vr, ac yna gallaswn fyned i dori glo ar derfyi^r amser fel cynt. Cyfododd y cadeirydd, a gofynodd i mi adrodd pa fodd y safai y cytundeb, ac adroddais yr uchod. Wedi i'r eadeirydd roddi y peth i'r cyfarfod, cynygiodd un fod i'r dyn ddilyn ei waith fel o'r blaen. Eiliwyd y cynigiad. Gofyn- odd y eadeirydd a oedd gwelliant i'w gynyg gan rywnn, neu rywbeth i'w ddweyd yn er- byn hyn,—-mai yn awr oedd yr amser, ac nid eto. Ni ddywedodd neb air yn gyhoeddus, a rhoddwyd arwydd o foddlonrwydd trwy god- iad dwylaw. T. THOMAS (Gwron Dar). MR. GOL.-Wrth ddarllen eich newydd- iadur yr wythnos cyn y diweddaf, gwelais fod rhyw goegyn anfedrus, annysgedig, a diallu, wedi ymruthro i'r wasg yn ei lid a'i ddi- gofaint i'r dyben o ddwrdio a drwgliwio cymeriadau amseryddwyr ein gwlad. Y mae yn meddiant y gwr dan sylw ddigon o haer- llugrwydd i haeru fod yn ofynol i bob amser- ydd i fod yn ddyn a fyddo wedi ymwerthu ei hun i'r cythraul, cyn y bydd yn alluog i lanw ei swydd fel ag i foddloni ei feistr. Na Twmi," nid felly y mae pethau yn bod, yr wyt yn cyfeiliorni; dynion cywir a chymwys i'r swydd, a chyfiawn tuag at y naill ochr fel Hall, a ethololodd perchenogion gvveithfeydd i gadw amser eu gweithwyr ïe, dynion ag sydd bob amser yn gwasanaethu gonestrwydd a didwylledd, ac yn earn gweuthur daioni yn gystal i'r gweithiwr ag i'r meistr. Yn awr, heb rigymu a threilio ychwaneg o amser, gwnaf gyflwyno rhyw ddau neu dri o ofyn yniadau i "Twmi o'r Bwllfa" fel y canlyn:— 1. Ai nid ymwneyd a'r gweithwyr yn unol a rheolau y gwaith ydyw dyledswydd yr amser- ydd 1 2. Pa beth ydyw gwaith yr amserydd 1 3. Ai priodol i'r amserydd roddi diwrnod cyfan go gyfer a'r gweithiwr pan y bydd ef wedi esgeuluso pedryfan ohono ? 4. Ai nid priodol i bob amserydd i wneyd ei ddyled- swydd yn onest tuag at yr hwn sydd yn ei gyflogi1 Gorphwysaf yn awr gan obeithio y bydd i "Twmi" ateb yr uchod trwy gyfrwng y GWLADGARWR, ac yna cawn ymgom pellach wedi hyny. Llwynhendy. lOAN AP LIGO,
Llwynog y Daren.
Llwynog y Daren. ME. GOL.Fel y gwyddoch, y mae amryw helfeydd wedi bod ar y Llwynog uchod, ond hyd yn hyn y mae yr holl helwyr wedi gorfod ymfoddloni heb v g-ynffon. v "Bu ci o'r enw Sambo, A heliwr rnawr Llauwyno," yn ymdrecliu dyfod o hyd iddo, ond yr oeddynt yn methu yn deg a "thymI ei drail oddiwrth y "Daren," ac yn methu cael ergyd" arno o gylch y "Graig." Beth bynag, gan fod genym y 0 baclc o helgwn diguro am lwynog, a'n bod wedi cael llawer gwahoddiad i ddyfod i hela y Llwynog uchod, peuderfynasom gael helfa arno, beth bynag fuasai y canlyniad. Wedi cael cyfarfod o'r helwyr yn nhafarn Ynysybwl, pender- fynwyd fod 'yn rhaid gosod dynion i wilad" yn y "Daren" ac yn y "Graig," a'r rhai hyny yn ddynion y gallesid ymddiried ynddynt. Yn yr hel- feydd blaenorol yr oedd Jaci o'r Felin yn cael "gwilad" y "Daren," ac yr ydys wedi cael allan mai bradwr ydyw, a'i fod yn gwadu na welodd y Llwynog pan y gwyddai ei fod wedi myned i'r daera." Yr ydym wedi cael sicrwydd fod Jaci o'r Felin wedi clweyd pethau ar air a chydwybod yn y "Daren," pan y gwyddai ereill yn ddigon da mai ei anwiredd oedd; felly buwyd yn ddigon call i beidio ymddiried ynddo y tro hwn. Yr oeddys mewn tipyn o ben- bleth yn mha le yr oedd cael trail y Llwynog hwn. Yr oeddym wedi cael ar ddeall fod rhai wedi ei glywed yn clapian tua chreigiau Owmparc, a thros y myn- yddau i?r Maesteg, a gwyr yr helwyr yn dda beth oedd yn ei gynhyrfu i bererin- dodi yr amser hyn o'r flwyddyn. Modd bynag, barnwyd y buasai yn dychwelyd i'r Graig heb fod yn hir felly pen- derfynwyd mai i'r cyfeiriad hwnw y buasem yn myned i edrych am dano. Un boreu yr wythnos diweddaf, clywid corn y eynydd yn diaspedain yr ardal- oedd, a chyn hir yr oedd yr helgwn a oedd, a chyn hir yr oedd yr helgwn a I ninau yn Nghraig Penrhiwgradog, ond ni chawd un "ergyd" o gwbl yno. Tynwyd yn inlaen trwy V craigiau yr oolir ucliat' i Dy'r Bwbaeh, ac o dan. gan adael Aberowm- hwei ar y ilaw d:Ie. Pan o? Idym ya v Graig. ger y Cap, dyma yr hon For.n.xu ya rlioi ei lais ac yn codi ei wry chyn. Doaliasom nad oedd y Llwynog yn niheli. Hart to Forman," "Hart to Gamester," Whoop Yr oedd y trail yn gwella bob eiliad, a phan oeddym yn y coed ar war Gwain-y-gwala, dyma hi yn Daly Ho nes deffro'r dyffryn. Tynodd y Llwynog yn mlaen trwy y coed tua chvf- z' I eiriad y Cwmdu, ocldiyno trwy Grwni-y- pandy, heibio Castell-y-coryn, ac i'r lan i Graig-y-llaethdy, fel pe buasai am dynu dros y mynydd i Blaenllechau. Yr oedd gyru ofnadwy ar ei ol y pryd hyn, a g'<velodd madyn na allasai gyrhaedd pen y mynydd o flaen ei ymlidwyr, a throdd yn mlaen trwy y graig heibio Tai y Gwdiw, ac o dan y Bwllfa, yn groes i Goedcae, Aberaman, a'i ben yn ol tua Ohraig-y-Cap. Yr oedd yr helgwn mewn hyd golwg iddo pan yn myned i lawr i'r coed heibio Penrhiwangen, ond ychydig is i lawr aeth yn "ffÔt." Yn y fan hon cafodd y Llwynog dipyn o flaen, ond gyrwyd ar ei ol eilwaith, ac aeth ar ei ben i lawr i'r Cap. Erbyn cyrhaedd yno dyma hi yn stop wrth Gapel yr ————— Nid oedd modd ei dynu gam yn mhell- ach. Yr oedd yr hen Warrior yn ei windio" wrth ddrws y capal, ac nid oedd un amheuaeth yn meddwl un ohonom nad i fewn yno yr oedd madyn yn ymguddio. Aethpwyd i chwilio am yr awdurdodau er cael yr allwedd i fyned i fe .vn, gan nad oedd yn weddus gosod y gyfraith helwnaethol mewn grym, sef tynu y muriau i lawr. Ond er siomedig- aeth i ni, cafwyd ar ddeall na chawsai yr helwyr na'r cwn fyned y tufewn i'r cyn- teddau, er fod y Llwynog wedi ac yn arfer myned i fewn yno. Dan yr am- gylchiadau, nid oedd dim i'w wneyd ond tynu y cwn ymaith, a bant a ni i r Prince of Wales i gael bara chaws a chwrw i'n hadnewyddu ar ol yr helfa. Wedi llawenu tipyn uwchben y trugareddau, tynasom tua thre' yn gwbl argyhoedd- edig na ddelir mo'r Llwynog hwn heb gael caniatad i fyned i'r daera ar ei ol.—Yr eiddoch, ETWART YR HELIWR.
PRTS YR A LOAN.
PRTS YR A LOAN. MR. GOL.—M ie eich gohebydd y "Cymro Gwyllt," yn eich rhifyn cyn y diweddaf, wedi rhoddi i cll wi dailen o brisoecld yr haiarn a'r alcan, yr hon a gafodd, medd efe, mown swyddfa yn Llundain. Dymunwn ei hysbysu na fydd y traffertli a gymer o un lies oddi- gerth iddo gymeryd current price list un o'r metal brokers, ac enw y cyfryw wrthi. Mae papyrau goreu y deyrnas yn cael eu gwrthod gan y meistri alcitll fel safon prisoedd y liafnau alcan, ac ni chymerir unrhyw sylw eto o'ch gohebydd oni fydd iddo Iwyddo i gael y monthly price list, Digon tebyg na fydd mwy i ni ran na chyfran gyda/r alcan- wyr, aa felly ni ellir disgwyl bod un lies per- sonol genym ond yn ein byw ni fedrwn lai na theiralo yn gynes at un o safle y Oymro Gwyllt," am geisio rhoddi cam yn yr iawn gyfeiriad.—Yr eiddoch, LEWYS AFAN.
ENGL YNION 10AN GLAiV TEES.
ENGL YNION 10AN GLAiV TEES. MR. GOL, Yn y GWLADGARWR cyn y diweddaf, y mae rhyw Ezra yn tynu ei ysgrifell yn bur arw dros y boneddwr talentog a dirodres loan Glan Tees, am iddo (meddai ef) "gyfallsocldi englynion morfratiogadi- enaid, a'u gyru i'r wasg Seisnig." Gresyn oedd i Ezra daro mor drwm ar wr mor ddiymhongar a difeddwl drwg ac yr oedd dweyd anwiredd am dano yn bechod nid byclian. Bydded hysbys i Ezra nad anfonodd Glan Toes yr englynion crybwyll- edig i'r wasg Seisaig na Ohymreig, ac ni fwriadodd iddynt ymddangos ychwaith. Y gwir yw hyn, mai ar fy nghais i y cafansodd- odd hwynt, ac nid oedd ganddo ond prin deg mynud o amser at y gorchwyl, gan fy mod yn myned i'r cyfarfod i weled y cyflwyniad. Gwyr Glan Tees o'r goreu nad ydynt i fyny a gofynion yr Ysgol Farddol," nad ydynt yn ddifrychau ya ngwyneb y Drych Barddon- ol," nac yn bwysau yn ol "Tafol y Beirdd." Heblaw hyny, nid yw Ezra wedi copio yn ol y gwreiddiol, er engraiut,— Un a geidw ein goden." Gwreiddiol, "Un a geidw iawn goden." Eto, Ein swyddgar uclielfri." Gwreiddiol, "Ein swyddwr uchelfri," &?. Dylai Ezra ystyried mai ychydig hamdden sydd gan y boneddwr parchus i dalu gwarog- aeth i'r awen a'i chywreinion yn ei sefyllfa bresenol, gan fod ganddo waith pwysicach i edrych drosto. Boddloned EZt'a ar yr cglur- had uchod.—Yr eiddoch, Llangenech. DAVID GAPE.
HEOLFACH, YSTRAD.
HEOLFACH, YSTRAD. MR. GoL.,—Yn y GwLADGARWR a.m. Chwef- ror y 9fed, gwelais hanes cyfarfod gan un a eilw ei hUll" lTIstron. o'r Ystrad," yr hwn gyfarfod a gafwyd ei hanss yn y GWLAD- GARWH. er's mis yn ol. Nid wyf yn meddwl fod eisieu cofnodi dim yr ail waith o'r lie hwn, oherwydd y mae yma. lawer o hanesion dyddorol yn cael eu gadael o dan sylw, pan, ar yr un pryd, y dylasent gael sylw y cyhoedd. Felly, yn lie bod neb ya syrthio i ddmodeddy rhoddaf hanes nifer o gantorion o'r lie hwn. yn eanu yr hen flwyddyn allan o amser, ac yn. croesawi y newydd i mewn gyda'u seiniau melusber. Ar ol bod yn y gyfeilla.ch grefydd- 01 ar y nos Siboth olaf o'r hen tivvyddyn, yn parotoi eu meddyliau at on gorchwyl, cych- wynasant yn fintai allan i'r wyl-nos. Ac fel yr oedd rhai yn myned heibio i westdy y 13- tymvyd en sylw gan seiniau melusber yn dyfod o gyfeiriad y tap-room, am oddeutu ch wart er wedi unarddeg o'r gloch, a thyna lie yr oedd y cvvmui yn eaau yr hen flwyddyn allan, ac yr oedd yno ganu heb esgus, o dan ddylanwad pa ysbryd nis gwyddom, llawer feallai. Cychwynwyd dra- chefn i'r daith, canwyd. wrth dy y P drch. Mr-, Johns (y gweinidog), ac oddiyao clnvy y He o fan i fan, gan dderbyn cardod He bynag yr oedd i'w chael ac, yn siwr i chwi, yr oeddent yn haeddu ei chael hefyd, am eu teimiadau da (crefyddol ddylaswn ddweyd) yn myned allan, a'r hin mor anffafriol, i gyflawai gwaith mor anrhydeddus. Wedi llafurio yn galed am rai oriau i dderbyn y flwyddyn newydd i fewn, ac mewn lludded gan eu gwaith, darfu i'r cwmni droi i fewn i westy yn"y lie i ddiweddj. Canasant yno yn dda drachefn, a, synwn i ddim os nad oedd dylanwad yr ysbrydoedd (spirits) yn cryfhau tua'r diwedd. Maddeued y cyfeillion i mi am beidio eu henwi un ac oil; ond os byddant yn gwrycho tipyn am na fuaswn, yr wyf yn barod i'w- gwasanaethu eto os bydd eisieu, a gwnaf fy ngoreu na chaiff gweithrediadau teilwng ddianc heb sylw. BROCHWEL YSGYTHROG.
GOHEBIAETH 0 L'SRPWL.
GOHEBIAETH 0 L'SRPWL. NODIADAtT CYFFREDlNOL. Parthed y daflen a gyhoeddwyd yn y GWLAD- GARWR yr wythnos cyn y diweddaf, goddefed y darllenydd i mi grybwyll nad ydynt yn cael ei argraffu yn wythnosol, ond yn fisol felly, nis gellir cyflawni cais yr Ehedydd, o Dreforis. Cedwais enw y masnachdy allan, er mwyn y cyfaill sydd genyf yn ymwneyd, i raddau mwy neu lai, a masnach y gwaha#ol feteloedd. Pryd bynag y byddaf yn cael hyd i Rywbeth a fyddo yn werth sylw y darllenydd, byddaf yn ei gyhoeddi ar unwaith. Pe byddai genyf amser i ymwibio ar draws y byd, fel y gwna llawer, ni fyddai ond gorchwyl hawdd i gael tafleni swyddogol a fyddai yn taflu goleuni ar lawer peth ag sydd yn dywyllwch dudew i filoedd o'm cydgenedl yn Nghymru, lie na cheir y gwirionedd am brisoedd gwahanol bethau yn marchnadoedd y byd. Nicl wyf am honi dim fy mod yn gwybod mwy na rhyw greadur cyffredin arall ond hyn sydd sicr, fod y cyfryw hyny a flaenorant y genedl mewn materion gweithfaol yn esgeulus a di- fater, am y gallent yn hawdd iawn gael pob manylion gofynol am brisoedd pob peth a werthir yn Mhrydain. Lie byddo cymdeithas a gormod o swyddogion yn perthyn iddt, mae- y naill yn dibynu ar y liall, a'r canlyniad o hyny ydyw fod yr hyn a ddylai gael ei gyf- lawni yn cael ei adael o'r neilldu, a'r bob! yn ymbalfalu mewn dygn dywyllwch. Os nad yw yr uchod yn wirionedd diwyrni, rliaid i mi yn ostyngedig gydnabod nad wyf yn ad- nabod y byd, nac ychwaith yn gwybod dim am ei helyntion yn fasnachol a chymdeithasol. Nicl wrth dalu cyflogau ma wrioa i am eistedd mewn cyirghoraa, y codir y do3- barth gweithin] yn KT^hym-ai) oblegyd mae Wedi myned yn nos yn y cyfeiriad hwnw, fel nad oes un gobaith mwyach am adfywiad wrth ddadieu a siarad am gyfiawnder. Teimlwyf wrth ysgrifenu fy mod yn taro yn srbva teimlad a barn dosbarth neillduol o bobl; ond ni waeth genyf hyny, gan fod y gwirion- edd yn ategu. fy ngosodiadau o'r dydd yr ysgrifenais y frawddeg gyntaf ar bwnc y gweithwyr a'r gweithfeydd. Dyweder a fyner, mae cyfoeth wedi cael yr oruchafheth ar lafur, fel y dywedais lawer gwaith cyn y tro hwn. Rhaid i ryw Gromwell Cymreig godi cyn y cawn drefa ar y byd gweithfaol,^ a'r miloedd i wrando ar gynghorion hwnw. Ofer fyddai i unrhyw fyddin fyned i rhyfel tra yn gwybod fod yr adaoddau i dcIal allan yn brin, a'r fyddin wrthwynebol yn llawer cryfach, ac yn feddianol ar gymaint nlwaith o adnoddau i sefyll rhy fel. Mae pob rhy fel a ddechreu- wyd fel yr uchod wedi ei golli, a difrod mawr wedi canlyn. Gellir pviodoli yr un syniad i symudiad cyhoeddus, lIe byddo y ti euiiriu yn fwy na r tiaioni a wneir drwyddo mae yn llawn bryd taro y cyfryw symudiad yn ei dalcen, gan wneyd defnydd o'r ari tn i ddybenion amgenach, er cynyrchu daioni a fyddo yn feddianol ar adnoddau bywyd i barhau. Bydd i mi ddal i goledd y syuiad- aeth yma, a rhoi anibell ergyd i'r cyfryw hyny sydd yn cael mwyniant y byd a moethau yr uchelradd, oherwydd dallineb y werin, fel na fynant wybod yr hyn a ddylent. Nid oes- dim yn fwy truenus na gweled elyn yn ddigon gwirion i gymeryd ei arw.xin gerfydd'ei drwyn, fel y mae miloedd wedi cael eu gwnevd o fewn corff y chwe' mlynedd divreddaf. "Cyn wired a bod Pen Pych uwchben y Rhondda, mae dydd ar ddyfod pan wel y werin fod yr hyn a ysgrifenir genyf yn wirionedd a gaiff" ei brofi gan amser, pan ddelo pethau o gwm- pas. Gall y neb a fyno weled cysondeb y gosodiadau drwy ddal sylw manwl ar gVl!'S y byd, a chraffu yn otalus ar helyntion y gwledydd yna, gwelant fel y mae pethau yn dirwyn oddiamgylch yn amgylchiadol, fel =,Y -1 y dirwyna yr hogyn yr edafedd i wneyd y bel. Gwir nad yw pethau fel hvn vn perthyn dim yn uniongyrchol i mi, ond yu fy inysr nis gallaf ymatal oddiwrth ysgrifenu a chodi llef ar fy nghydgenedl pan welaf hwynt yn dynesu at greigiau peryglus. Sefwch, vstyr- iwch gyda difrifoldeb, gan edrych ar y goc- phenol a sylwi ar y presenol, fel y byddo genych rywfath o ddamcaniaeth am y dyfodoJ. Mae yn hawdd gwneyd, ac yn h'ytraeh na. bod yn destyn rhegfeydd i'r ynfv'd, bydd i mi hwylio heibio y graig am y gilfach, ond fe oddef y darllenydd i mi i'w adgofio am Ie