Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Masnaeh yr Haiarn wt Glo.

News
Cite
Share

Masnaeh yr Haiarn wt Glo. 'Prif nodweddiad masnach ft haiarn drwy yr holl deyrnas yn ystod yr wythnos ddi- weddaf yw, fod y prisoedd wedi cyrhaedd aywbeth yn debyg i'w llinell derfynol o siglo yma a thraw. Un o'r drygau mwyaf a ddygwyd i fodolaeth yn adeg y marweidd- dra mawr fu ag y sydd ar fasnach oedd fod- y masnachwyr yn gwerthu o dan y gwneuchurwyr, a'r gwneuthurwyr ^yn gwerth u dan eu gilydd, fel nad oedd aim tebyg i sefydlogrwydd yn un lie. Bid sicr, 0 dan y fath amgylchiadau, nid oedd ond ffolineb i'r eithaf a'r ynfydrwydd o'r mwyaf i ddisgwyl pethau i ddyfod yn well; nid oes dim i ffurfio sylfaen i un math o well- iant, ac amcan-gyfrifiad o'r fath farchnad- sieth a fuasai fel ty wedi ei adeiladu ar y tywod; ac yn wir i chwi nid oedd dim yn ymddygiadau cydfasnachfaoedd penodol yn tueddu i glirio awyrgylch masnach o'r niwl a'r tywyllwch oedd yn ei gordoi. Dichon fod darllenwyr y GWLADGARWR yn disgwyl olywed genyf pa fodd y mae pethau yn myned yn mlaen yn rhanbarthau yr Hen- igistiaid. Yn LLUNDAIN, mae masnach y glo yn parhau yn hynod ddifywyd. Y prisoedd yn is yn y pyllau ac yn y farchnad nag y maent wedi bod er's blynyddoedd, ac yn mhell o fod yn dwyn elw. Y mae symiau afrifed o lo yn cael ei fordrosi yma. Mae masnach glo GOGLEÐD IiLOEGR yn hynod ddifywyd, ac yn awr yn myned ar ei chythlwng. Yn rhanbarth Newcastle mae haiarn bwrw yn gwerthu yn weddol rwydd, ond gyda gostyngiad o swllt y dunell. Mae masnach y glo yn hynod ddi- fvwyd. Yn West Cumberland mae y -pyllau yn gweithio ar short time. Y mae y glo yn farwaidd felly, a masnach yr haiarn yn adfywio. Yn rhanbarth Og- leddol sir Gaerwerydd, dywedir fod masnaeh yr haiarn yn rhesymol o fywiog, a'r stocyn lleihau ond fod masnach y glo fel mal- woden yn ngwres yr haul ar hirddydd haf. Nid oes yr un gwelliant yn masnachau glo -a haiarn rhanbarth Ogleddol SIR GAEREFHOG. Y mae cryn lawer o'r glofeydd yn segur bollol. Yr un modd y mae masnaeh y glo yn y rhan Ddeheuol o'r un sir. Gweithio iiaaer eu hamser yw y rheol gyffredin. Mae y todd-dai yn weddol dda am waith, a t gwneuthuriad haiarn bwrw yn cadw yn inlaen yn weddol dda. Nid gwiw i mi dreulio amser i wneyd adroddiadau o holl ranbarthau Lloegr. Y mae bron yr un fath yn mhob rhanbarth. Yn NGHAERDYDD, ■dydd Mercher, cyfarfyddodd aelodau y Bwrdd Cymodol, neu bwyllgor y Sliding Scale. Dechreuodd y cyfarfod am un-ar- ddeg o'r gloch, a pharhaodd am ychydig .oriau. Yn mysg pethau ereill a fu dan rsylw y pwyllgor, sylwyd ar achos a ddyg- -wyd yn mlaen gan weithwyr Llwynypia a weithient yn haen yr agerlo. Ymddengys .fod meistri y lofa hon wedi rhoddi rhybudd i ostwng y prisoedd am waith marw," a gwrthwynebai y gweithwyr y cynygiad o. ostyngiad. Yn ystod yr ymchwiliad, daeth y gath allan o'r cwd, nad oedd y meistri wedi nodi y ffordd drwy yr hon yr oedd y charges am y cyfryw waith i gael ei ostwng, neu yr hyn a fuasai y gostyngiad. Treuliwyd cryn amser i ddn y pwnc, a daeth y pwyllgor i benderfyniad fod yr annghydwelediad yn bwnc nad oedd o fewa ;Swyddogaeth y pwyllgor i'w benderfynu ac am hyny cafodd y mater ei daflu yn ol d'r meistri a'r gweithwyt. Mae arddrych masnach y lie hwn yn un o iselder a phrudd-der, a thebygol mai yr ansawddod- iad goreu yn y rhanbarth yma yn bresenol rjw y reilffyrdd. Mae y TafF wedi tulu yn dda am yr haner blwyddyn ddiweddaf, a'r iEhymni wedi talu 411, y cant, pryd na thal- .odd ddim yn yr haner blwyddyn cyn hyay. Yn gymaint a bod y pris yn isel am y glo, isnae symiau mawrion ohono yn cael ei dros- forio i wledydd tfamor. Trosfoiiwyd yn agos yr un faint o lo yr wythnos ddiweddaf a'r wythnos cyn hyny. Mae yr wmbredd o lo anfonir i'r porthladd bwn o Ferndale, aioll weithfeydd glo Cwm Rhondda, o Bontypridd hyd Dreherbert, a lieoedd ereill o'r fath, fel y mae yn annichonadwy cael un elw arno yn bresenol, oblegyd y mae yn cael ei werthu drwy ymdrech gystadleuol. Oliriwyd allan yn Nghaerdydd yn ystod yr wythnos 51 o agerlongau a 44 o loagau 3iwyliau, yn llwythog o 72,284 o dunelli o lo; 1,090 o patent fuel, a 1,260 o haiarn. 31ae arwyddion adfywiad yn ngwaith yr haiarn. Yn rhanbarth w ABERTAWE, mae y marweiil-dra cyffredinol yn y gwahanol fasnachaethau wedi myned yn -farweidd-dra sefydlog, fel y mae yn agos yn anobeithiol am adfywiad. Mae nifer mawr y ffwrnesi sydd wedi eu chwythu allan, a'r iselder parlysiol sydd yn gyffred- inol o gylch y lie yn masnach yr haiarn, .-gyda. y pris isel ag sydd wedi bod yn gor- uwchreoli y lie cyhyd, yn tueddu at ddwyn dynion i gredu fod .llwyddiant y cylchoedd Jxyn fel lie i wneyd haiarn wedi myned, ysywaeth, ar ei gythlwng; ond braidd y gallwyf lyncu hynyna, gan fy mod yn gwybod oddiar fy adnabyddiaeth bersonol o'r eylchoedd hyn er's blynyddoedd lawer, fod y prif fasnachaethau yn sicr o sefyllj yn ddigryn drwy holl ryfethwy yr ystorm fasnachol bresenol, a hwylio yn ddyogel dros donau brawychus methdaliad, gan fy mod yn credu fod gwaethaf yr ystorm wedi myned drosodd. Cliriwyd 27 o hwyl- longau a 9 o agerlongau yr wythnos ddi- weddaf, yn llwythog o 11,567 o dunelli o lo, 60 tunell o haiarn, a 2,610 o dunelli o patent jud. Wrth ddyfod i fyny o'r lie hwn i FBRTHYJl TYDFIL, clywais yn y tren, pan yn ngolwg yr Ysguborwen, mai rhyw ddau ddiwrnod yr wythnos oedd y colliers tlociioa yn gael weithio er's llawer dydd yn y lofa hon, a'i bod yn lied farwaidd drwy yr holl ddyffryn. Diwaith ac oeraidd fel ia oesol oedd yr olygfa yn y Llwydcoed ac Abernant. Wedi cyrhaedd Merthyr, y newydd cyntaf a glywais oedd fod Mr. Crawshay yn meddwl apelio i Lys y Frenines yn erbyn ei ardreth- oedd presenol. Cymerodd ffrwydriad dychrynllyd le yn un o byllau glo y Plymouth wedi fy mod yma yr wythnos o'r blaen; ond dywedwyd na laddwyd neb, ond fod dau wedi eu niweidio yn ddychryn- llyd. Mae adfywiad wedi cymeryd lie yn nglofeydd Dowlais yn ystod yr wythnos, ac y mae masaach y rhanbarth hon mewn ffurf gweddol dda, ond fod y prisoedd yn hynod o isel. •C^ ■

Drill Hall, Sciwen.

Advertising