Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

Siop yr Eilliwr.

News
Cite
Share

Siop yr Eilliwr. Yn yr amser presenol y mae y bobl yn dueddol iawn o ymgasglu at eu gilydd mewn rhyw fan cyfieus er trafod materion ag sydd yn dal cy- sylltia.d a ni fel dosbarth gweitiliiol, ac fel y mae pawb erbyn heddyw yn gwybod ein bod ni, y glowyr, yn ddosbarth o ddynion sydd mor bwysig yn y gyfundrefn ddaearol yn bresenol ag unrhyw rai pwy bynag. Fe ddichon y maddeuir i mi am roddi tro yn awr a phryd arall at y pethau a drafodir genym yn y siop uchod. Dydcl Llun, Chwefror y 12fed, y peth cyntaf ddiieth i sylw ydoedd yr Eglwysi a'u gwahanol ffyrdd o gario eu materion, yn nghyd a'u trafod- aeth arianol. yn y blaen. Cawsom araeth agor- iadol faith gan Hugh Gadarn, yn debyg i'r hyn a ganlyn:— "Gvfeillion, fel ag yr ydym oil sydd yma yn gwybod, ac yn teimlo, fod yr amser presenol yn un gwir bwysig mewn gwahanol ystyriaethau. Y mae masnach yr haiarn fel pe wedi ei phar- lysio i ryw farweidd-dra anamgyffredadwy-y mae pob olwyn bron yn aros, nid gyda ni yn y lie bychaii hwn, ond hefyd drwy yr holl fyd. Edrychwn. i Scotland, Sir Stafford, neu i Cleve- land y mae mwy nag un ran o dair o'r ffwrnesi yn setrur. Yn Scotland, y mae 115 yn gweithio, allan"o 151; yn Cleveland y mae 111 mewn gwaith, allan o 158; yn Sir Stafford eto, nid oes ond 60 yn gweithio allan o 149. Wel, meddech, y mae pob rheswm yn dangos i ni ei bod yn amser gwir dorcalonus, ae yn ddiamheuol fod llawer un yn gorfod teimlo beth ydyw bod heb haner digon o fara. a chaws yn y cylla; ond er i mi ddyfod at yr hyn sydd genyf mewn sylw, deuaf yn nes atom, ac i Merthyr, He y gwyddom nad oes ond gresyndod, angen, a newyn; o ran hyny, mewn llawer ty yn Aberdar. Yr ydym yn gweled Abernant heb gymaint ag un dyn yn gweithio allan o'r holl ganoedd oedd yno yn eael eu bywoliaeth. Gwir fod yma ychydig yn gweithio ar y glo; ond y rhai hyny sydd yn gweithio, nid ydynt yn cael fawr mwy na haner gwaith yn bresenol. Yma, eto, gyda ni, gwelwn yr oil o'r gwaith tan nad oes ynddo ddim; ac yn wir, o ran hyny, nid ydyw yn fawr gwell gyda ni yn y glo hefyd, canys os nad oes rhai yn enili mwy nag wyf fi, hyn wyf yn wybod, mai digon prin ydyw arnynt. Yn Nantymehna r Ysgubor- wen, os ceir tri diwrnod yn yr wythnos, bydd dynion yn hapus iawn. Bellach, dyma fi wedi myned dros ansawdd masnach yn lled helaeth, a chan nad i ba gyfeiriad bynag y trown ein golyg- on nis gwelwn ddim ond cymylau bolddu yn gordoi pob lie; ac y mae pob synwyr yn dweyd wrthym mai y peth cyntaf ydym yn wneyd a'r geiniog ydym yn enill, yw ei rhoddi am ychydig ymborth ag am ddillad. Credwyf fod y rhan fwyaf, fel fy hun, yn ddynion sydd yn cadw tai, a dicon o bethau ganddynt i feddwl am danynt, heb'gael eu gwneyd yn destyn siarad. Yn awr, er i mi ddyfod at y pwnc, yr oeddwn neithiwr, fel arfer yn y cyfarfod, ac arosais yn y gyfeillach, pryd y cododd rhai i fyny, gan ddechreu gosod dedfryd ar bawb o herwydd y seats. Tebyg fod yno rai yn methu a chyflawni, ac felly adael y peth hwn ar ol, ac nid oedd dim yn ddigon o gosb arnynt heb eu henwi ar gyhoedd, ac felly y bu yn y fan. Wrth fy mod yn dod allan, dyma un yn dweyd wrthyf ei fod ef yn gwybed am rai gafodd eu henwi nad oedd ganddynt ddigon o fara yn y ty ar y pryd." John Ben Cyrliog a ddywedodcl yn n-esaf ei fod ef yn gwybod fod y peth i ddyfod yn mlaen er y Sul blaenorol, ac mae cynllun Mr. Hwn-a-Hwn ydoedd, yr hyn a grybwyllodd yn nghyfeillach fach y Ty Cornel, y Sul cyn hyny. Yna cododd y cadeirydd, sef Ben Dduwinydd, a dywedodd nad teg fod rhyw un yn cael cam am beth fel yma, gan nas gallasai un dyn byth fod yn achos o beth o'r fath, a chynghorodd ni i chwilio i mewn yn mhellach erbyn y tro nesaf. -Apprentice.

Yr Eisteddfod Genedlaethol.

------.--------------Colli…

Y DIAFOL YN EI GERBYD.

Y DIWEDDAR DAFYDD RHYS THOMAS,

YNYSMEUDWY.

YSTRAD RHONDDA.

--------TON, YSTRAD.

Advertising

BLAENAFON.

BLAENAU.

O'R GORLLEWIN.

BRYSTE.

GWAELOD-Y-GARTH.

[No title]