Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Gweithwyr Alcan Cwmtawe.

News
Cite
Share

Gweithwyr Alcan Cwmtawe. ANWYL GYDWEITHWYR,—Yi? ydych i gyd, Tin ac oil, yn gwybod yr hyn ddywedodd ein meistri wrthym, Mai hyd nes bo'r farchnad yn gwella yr ydym i weithio ar y gostyngiad." Yr oeddem yn siarad ac yn gqfyn y naill i'r llall, y pryd hwnw, pwy gawsem ni yn ddigon o ddyn i wylio symudiadau y farch- mad, a phrisoedd blwch y llafnau alcan; wel, yn ol fy meddwl i, yr ydwyf yn credu ein bod wedi cael gafael ar yr iawn ddyn yn mherson y Cymro Gwyllt cf L'erpwl. Y mae wedi bod yn gyfaill i'r glowr|trwy'r blynydd- oedd, ac yr ydym yn credu y.bydd yr unrhyw gyfaill i'r gweithwyr alcan eto. Yr ydym, fel gweithwyr, yn teimlo yn dra diolchgar iddo am daflen o'r prisoedd yn y GWLAD- GARWR diweddaf ond hoffem yn fawr i gael gwybod y dirgelwch hyn, pa fodd y mae cymaint o wahaniaeth yn y prisoedd rhwng y papyrau ca.nlynol ?—Yr oedd eich taflen chwi yn y GWLADGARWR a'r Reynolds yn cyfateb i'w gilydd, ond yr oedd y Cambi-iait a'r Mining Joqti-nal lawer yn is. Yn y papyrau diweddaf yna, yr oedd y prisoedd fel y canlyn: —Charcoal o'r lp. Is. 6c. i'r lp. 3s., a'r coke o'r ISs. 6c. i'r lp. Pa beth ydyw y rheswm o'r gwahaniaeth yna ? Ef allai y gellwch chwi, Cymro Gwyllt, ein goleuo a hoffem i chwi, os byddwch yn gweled yn dda, anfon taflen o'r prisoedd yn wythnosol i ni, os gell- wch gael gafael ynddi, a Mr. Llwyd i fod mor garedig a'i hargraffu ac yn ben ar y cwbl, bydded i wir gariad deyrnasu rhwng meistr a gweithiwr, dyna yw gwir ddymuniad Treforris. EHEDYDD.

AGORIAD Y SENEDD.

Hynodion o Rhymni.

Gair e Glynebwy.

Llyfrgell Rydd i Aberdar.

.Llenyddiaeth yn Resolven

Family Notices

Purwch eich Gwaed a Chryfhewch…

Advertising

aOHJSBIAETH 0 L^HPWL.