Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
HIRWAUN.
HIRWAUN. Bydd yn lion gan nifer fawr o'ch darllen- wyr wybod fod Mr. Benjamin Phillips, o'r ile hwn, myfyriwr yn Ngholeg Aberhonddu, wedi cael haner dwsin o wahoddiadau oddi- -wrth eglwysi i ddyfod yn fugail. Anaml iawn y ceir dyn ieuanc, afyddo ynymgeisydd am y weinidogaeth, mor llwyddianus. Y mae, hefyd, yn addawol iawn am dalentau pregethwrol Benjamin. Gan ei fod wedi ei ,eni a'i fagu yn Hirwaun, 37r ydym yn teimlo dyddordeb mawr ynddo.— Rirwaunwr.
DOWLAIS.
DOWLAIS. GWYL DE.—Dydd Llun, Chwefror y 5ed, cynaliwyd gwyl de yn ysgoldy y Methodist- iaid Calfinaidd, Cae-harris, pryd y cyfranog- odd 800 o'r danteithion a barotowyd gan y boneddigesau perthynol i Libanus a Hermon. Yn yr hwyr, cafwyd cyfarfod adloniadol, o dan lywyddiaeth Mr. William Lewis. Caf- wyd cyfarfod da iawn. Deallwn fod y te wedi clirio dros 20p. o ddyled yr adeilad. CYNGHERDD.—Yr un noson, yn Neuadd yr Odyddion, cynaliwyd cyngherdd, pryd y gwasanaethwyd gan Mrs. Evans (Eos Cymry America) fel soprano, Eos Morlais (Abertawe) fel tenor, a D. Bowen fel cyfeilydd. Dys- gwylid y Llew Llwyfo i wasanaethu ond hyd y fynud ddiweddaf ni wnaeth ymddangos, er siomedigaeth i bawb. Yr ydym yn synu fod Isoneddigion yn cymeryd engagements fel hyn, ac yn peidio dyfod drachefn, nac anfon un math o esgusawd dros beidio d'od. Fodd bynag, yn ol llais y dref, teftir y Llew i'r pur- dan, ac ni chaiff yr un gwahoddiad i blith y Dowlaisiaid eto. Cawsom gyngherdd dda iawn, ac yr oedd yr Eos ar ei uchelfanau. Canwyd Ffarwel iti, Gymru fad gan Gor Undebol y Bedyddwyr, yr hwn sydd yn rhifo tua phedwar cant. Nid ydym yn cydweled &g arweinydd y cor hwn, sef fod yr un chwaeth- i gor mor lluosog i ganu glee fel hon. Canodd y cor hwn, hefyd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel," a chafwyd datgan- iad da iawn ohono. Yr oedd y neuadd yn 1, orlawn, ac yr oedd yr elw yn cael ei dros- glwyddo tuag at ddiddyledu Hebron, capel y Bedyddwyr. CYFARFOD LLENYDDOL.-Cynaliwyd cytar- iod o'r natur hyn yn Shiloh nos Sadwrn, o dan lywyddiaeth y Bardd Coch. Beirniad y canu oedd Mr. Edwin Lewis a chydfarnwyd yr areithwyr gan y Bardd Coch, a'r Parch. R. Evans. Enillwyd am ganu "Yr eryr" gan Mr. Evan Jones, yr hwn hefyd a ganodd Thou shalt break them." Rhanwyd y wobr am ddarllen cerddoriaeth ar y pryd rhwng Mr. Herbert Davies a'i gyfaill, a Mr. Wm. George a'i gyfaill. Am areithio yn oreu ar y "Mor Marw," cipiodd Mr. II n Marshall y wobr. Am ddadleu yn oreu, Dewi Morlais a'i gyfaill aeth a'r wobr. Caf- wyd adroddiad rhagorol o'r "Corffar enaid gan Mri. William a John James, ac hefyd y "Fam a'r ferch" gan Misses Catherine Davies a Sarah James. Darllenodd Mr. Lewis Lewis" Hanes Twmi Bach" yn iaith Bro Morganwg. Canodd Mr. D. 0. Evans "0, tyred yn ol," a Mr. D. Jenkins a ganodd ( 1 Can mewn gofid." Cafwyd cyfarfod rhagor- ol, ac yn llawn werth ceiniog.—Morgrugyn Morlais.
LLANFABON.
LLANFABON. Y)AELiTH.—Nos Lun, y 29ain o Ionawr, cawsom y fraint o wrando ar Dr. Rees, Aber- tawe, yn traddodi darlith ar y "Diwygiadau yn Nghymru." Cafwyd gwledd o'r fatn oreu —ty llawn, a gwrandawiad astud. Byddai yn fendith i bob cynulleidfa yn Nghymru gael clywed y ddarlith hon. CREFYDD.—Mae diwygiad mawr yn mhlith pob enwad crefyddol yn y lie, y fath na wel- wyd ei gyffelyb o'r blaen yn un o'r capeli hyn -y mae yn gyffredinol trwy y plwyf. Mae dynion yn dod i weled eu perygl, ac yn ffoi "rhag y Hid a fydd" i gysgod yr hwn a'u carodd, ac a roddodd ei fywyd drostynt. DARLLENFA GYHOEDDUS. -Bu yma ymdrech neillduol y misoedd diweddaf i sefydlu dar- llenfa gyhoeddus, ac y mae yr ymdrech wedi bod yn llwyddianus. Bellach, y mae yma le i unrhyw un a dalo chwecheiniog y mis i weled pedwar neu bump o bapyrau dyddiol, amryw wythnpsolion a misolion, a llawer o iyfrau ardderchog. Dyna ddiwedd ar yr esgus oedd gan rai o bobl ieuainc y lie, sef nad oedd ganddynt le i fyned i dreulio eu horiau ham- ddenol ond cerdded yr heolydd neu fyned i'r dafarn. Gobeithio y gwnant ddefnydd da o'r sefydliad newydd, a byddant yn sicr o dder- byn lies oddiwrthi. I PETH NEWYDD DAN HAUL.—Dylasai "Car- wr Gwirionedd," gan ei fod wedi ymgymeryd a dweyd ychydig o hanes yr hyn a gymerodd le yn eisteddfod Dowlais mewn cysylltiad ag un o'n plwyfolion, ddweyd y cwbl. Dim ond yr ochr dywyll i'r darlun ddangosodd ef. Pan .gododd y gwr i ganu, gofynodd am A, ond meddyliodd Mr. A. Bowen mai E oedd am gael, yn ol y dull Cymreig o swnio y llythyr- t3nau. Cododd yntau "eilfed" oddiar ei gyweirnod, ac yr oedd yn y pitch iawn. Nid yw o un Ms° i chwi, pobl Dowlais yna, geisio ein twyllo ni yn y ffordd yna. Beth ddywed y oil maxor yna yn awr, gan ea bod yn arfer meddwl mai pedwerydd oedd rhwng JE ac A. Dyna nhw wedi eu taflu i'r dyrys- wch mwyaf. Chwi welwch, bellach, ein bod ni tua Llanfabon yma yn gwybod rhywbeth hyd yn nod am gerddoriaeth a bydd y dar- ganfyddiad pwysig hwn yn sicr o anfarwoli enw y plwyf, a dylai y darganfyddwr gael ei gefnogi i ymfudo i'r Gorllewin, yn ol ei ddy- muniad, pe na byddai ond am y darganfyddiad hwn yn unig, heblaw wmbredd o bethau ereill a wnaeth nad yw y byd yn gwybod ond pur .ychydig am danynt.-Dewi Mabon.
LLITH ERYR Y GRAIG.
LLITH ERYR Y GRAIG. MR." GOL. Gan fy mod yn dderbvniwr cyson o'ch newyddiadur clodwiw, a chan nad oes yr un gohebydd oddi yaw, yn d-infon yr un newydd i'r GWLADGABWK, cynygiai eich anrhegu yn ami a llith bychan oddiy ma. Saif yn y rhan yma o'r cwm Waith Haiarn Aberaman, sef hen waith y diweddar Craws- hay Baily, ond sydd yn bresenol yn eiddo Elliott a'i Gyf. Wedi i'r cwmni hwn ei brynu, darfu iddynt ei adgyweirio yn ar- dderchog, a gosodwyd ef i weithio am dymhor byr ond yn wir i chwi, Mr. Gol., mae yn drueni mawr fod y gwaith yma wedi sefyll, a hyny wedi i'r cwmni ei osod allan yn y fath fodd ag y maent. Codasant yma ddwy ffwrnes flast ardderchog ond y mae y gwaith hwn, fel y rhan fwyaf o weithfaoedd haiarn ein gwlad yn bresenol, wedi sefyll oherwydd marweidd-dra masnach. Cynwysa y lie hwn, o waelod yr incline i lawr yma, amryw ganoedd o dai ond, fel mae gwaethaf y modd, nid ydynt yn cael agos eu preswylio, a hyny yn benaf am fod y gwaith crybwylledig ar y stop; ond y mae Pwll Aberaman wedi bod yn gweithio ami i durn yn ddiweddar, ond pur slow ydyw hi ar y cyfan. Rhyw le bach lied ddigynhwrf ydyw hwn. Nid yw y Llwynog wedi bod yma hyd eto yn tynu ei linyn mesur drosom. Yr ydych yn gwybod, Mr. Gol., pwy ydym yn ei feddwl-Mr. Llwynog, sydd-a'i lythyrau caboledig yn ymddangos mewn newyddiadur gyhoeddir yn Aberdar. Mae y Llwynog wedi tynu ei linyn yn bur dyn dros gymer- iadaji rhai person&u heb fod yn mhell oddi- yma, ar yr hyn y cawh sylwi yn y dyfodol. Pan fu farw y Fellten, rhoddodd rhywrai awgrym am bapyr arall oedd yn y decline; ond cymered yr awgrymwr yr awgrym ato ei hun, rhag mai tynged y Gwron a'r G-weithiwr fydd ei dynged yntau. Llawer o lithiau y Llwynog a'i gyffelyb a'i gwna hi oherwydd ni wnant yn unig ond creu malais rhwng cymydogion a'u gilydd, ac atal dynion gonest a diniwed i gael gwaith mewn rhai o'r glo- feydd. Os yw Mr. Llwynog yn bwriadu dyfod allan yn fwy hallt eto, fel y mae wedi awgrymu, bwytaed ychydig o'r ymborth roddwn ger ei fron yn yr ychydig benillion canlynol, a chofied fod yr Eryr yn -bender- fynol o amddiffyn y cymeriadau y mae efe a'i genawon wedi eu sathru a chofied hefyd fy mod, fel Eryr o'r Graig, uwch ei ben, ac yn gwylied ei holl ysgogiadau. Hynyna y tro hwn. YMBORTH I'R LLWYNOG. Y mae nadrodd a gwiberod, Brain, a broga, a llyffanod, Arth, a blaidd, a sarff, a draenog,— Dyna ymborth i ti,'r Llwynog. Madfall, a budrchwilen, gwaddod, Broga, barcut, llau, a llygod, Y crocadil, a'r lefiathan, I gael cauad dy hen safan. Yn lie gwyddau, ieir, a hwyaid, Y pia hardd, a'r wyn, a'r defaid, Y moch, combacks, y own, a'r cathod, Y twrci cryf, a'r colomenod,— Gan dy fod yn un peryglus, Ac yn greadur ysglyfaethus, Bwyta ladron a chribddeilwyr, Hen buteiniaid, godinebwyr,— Y dichellgar, a'r llofruddion, WILL Foul Play, a gwasgwr dynion, 11 Highway men, a sharpers Cymru Bwyta rhai'n i gael dy dagu. Nid y gwirion, a'r diniwed, A rhai gwan sy'n ceisio cerdded, Ag sydd yn gweddio llawer Rhag dy frad, y Llwynog 'sgeler. Hen draflyncwr dynion duwiol, A hustyngwr pawb crefyddol, Cymwynasgar, amyneddgar, Gostyngedig, dyoddefgar, Canmoladwy, elusengar, Cymodadwy, anymladdgar, Tangnefeddus, goleuadwy, A rhai addfwyn, cymeradwy. Rhai maddeugar, trugarogion, Rhai croesawgar, Cristionogion, Rhai heddychlon a lletygar, Rhai didramgwydd a diolchgar. Ow enllibwr ydyw'r Llwynog, Off 'r bradychwr dauwynebog Ow! 'r dych'mygwr ymrysonau A erlidiwr hen gelwyddau. Os Gweinidog ydyw'r Llwynog, A'i ymguddfa yn y graig, Cofied nad yn nghraig yr oesoedd, Er yn berchen plant a gwraig Geilw wragedd yn "luddewaidd," Er yn llariaidd yn y lie Fe gaiff hwn ei farnu'n euog— Nid fel Llwynog bydd efe. Os mai un o'r Diaconiaid Ydyw un o'r bleiddiaid hyn, Ac yn diystyru'r duwiol O'r un eglwys, mae yn syn. Ffordd y gelli di gymuno, Gwneuthur gwyneb, gollwng min Pan yn rhanu'r ordinhadau Iddynt hwy, sef bara a gwin Os mai un o'r Gydaelodau,— Mae ei dafod yn rhy hir, Pan yn diarhebu'r gwirion, 'R hwn sydd Gristion hardd yn wir Pa fodd 'rwyt ti'n gallu eistedd Yn eu gwydd yn nhy dy Dduw, A'th gydwybod yn cyhuddo Na ddylesit ti gael byw ? Os mai Prydydcl, neu ryw Ganwr, Sydd a'i galon yn llawn Un 0 eiddigedd a chreulondeb At y rhai sy'n myn'd yn mla'n, Sef cerddorion call a chryfion, Sydd yn mron a'i faeddu ef,- Fe fydd raid i hwnw dewi, Pan fo'r wael yn fyddin gref. Os mai Gwehydd yw y Llwynog, Sydd a'i wal yn Aberdar, Gwell f'asai iddo bara i ddirwyn Edaf wian, yn mhlith ei gar, Na hel 'straeon av yr Llwntws Hyd y drifts-a'r talceu glo Rhag lliw glas Llanidloes atgas I Wlad Morgan rhedodd o. Ni waeth gan Llanidloes-wyson P'un a'i gaffer, yntellanc, Gaiff gam-chwareu yn y Iofa,- Boddio'r ddau yw ei hen 'strauc Casglu pres yw amcan Llwynog, Ar ftrwgwdau mae yn byw Yn y papyr cwyd y glowr, Ar y stryd dyn mishtir yw Gresyn meddwl bod ni,'r glowyr, 'N cael ein hudo gan fath dwyll; Ni fu awdwyr Llith y Llwynog 'Rioed yn enwog am eu pwyll; Ni fu'r Gwehydd na'r Gweinidog Fynud awr yn tori glo Fe gyhoeddwyd spwriel Llwynog I yru heddwch ffwrdd o'r fro. Os mai un o'r bodau uchod, Mae yn debyg iawn i Cain Mae yn waedwyllt ac yn fradwr, 0, gochelwch rhag y rhai'n Maent yn llawn o hen genfigen, Twyll, a chynen, malais, brad, Drwg ei nwydau, a chynddeiriog, Ydyw'r Llwynog am eich gwa'd. Pa'm na chaiff y dynion lonydd, Sydd mor ddedwydd yn eu tai, Gan ddyhiryn, ïe, bawddyn, Diffaith, drwg, sy'n llawn o fai Rhyw segurddyn ac oferddyn Sydd yn gwibio drwy ein gwlad, Hel ystraeon am gym'dogion, Mae'r un fath a'i fam a'i dad. Dyna waith y gwr cynfFonog, Coch, a llidiog, tra fo byw, Codi ffrae rhwng pob cymydog Ac anurddo Eglwys Dduw Gyru rhei'ny i dymherau Ac absenu heb fod rhaid, 0 dy achos di a'th gamwedd, Ynydiweddgodi plaid. Mae'r difenwyr, anudonwyr, Oil yn ddeiliaid barn a ddaw Cant eu gwysio yn ddigysur, Pawb yn brysur ac mewn braw Rhaid i'r Llwynog, er yn euog, Ddod dan grynu ma's o'r graig, Gyda chruglwyth o bechodau, A cha' fwyta'i ffiaidd saig. Gwrando'r Llwynog ymddialgar, Paid a chellwair a'r fath waith, Rhag mewn fever yn ddilafar Cei dy roi mewn carchar caeth. Yn dy wylio bydd cythreuliaid Rhag i'th enaid gwan gael start, Gan holl allu hyll ellyllon Pan gymerant di yn sport. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, Rhai a elwir yn blant Duw Gwyn eu byd y pur o galon, Cristionogion, gloyw, byw Gwyn eich byd pan eich herlidiant Ac y d'wedant bob drwg air, Gwyn eich byd yn afon angeu, Pan yn mreichiau gwir Fab Mair. "Lle y llyfodd y cwn waed Naboth, y llyfa y c\Vn dy waed dithau." ERYR Y GRAIG.
PWY YW EIN GYFEILLION1
PWY YW EIN GYFEILLION1 MR. GOL.,—Credwyf y caniatewch le i'r ychydig sylwadau hyn ar lithiau maleisus ac afreidiol yr hwn a gyfenwa ei hun Llwyn- og o'r Graig," pa rai sydd yn ymddangos ar dudalenau cyd-newyddiadur yn wythnosol. O'm rhan i, cawsai y Llwynog a'i lithiau enllibus lonydd byth ac yn oes oesoedd, oni b'ai fod cyfiawnder a chydymdeimlad yn llefain a gwaeddi arnaf am ddeffroi a dweyd gair dros fy nghyd-ddynion dyngarol a myn- wesol, pa rai sydd yn gorfod dyoddef y ffeith- iau a'r canlyniadau chwerw ac annymunol a ddilynant y llithiau hyn. Peth annheg, debygwn i, fod unrhyw ddyn, pwy bynag, yn dyfod allan yn wythnosol i erlid a phwyo y meistri a'r gaffers o dan fantell ffugenw, a rhai o'r gweithwyr diwyd. llafurus, a hedd- ychol, yn cael eu beio a'u colifarnu, yn nghyda'u taflu allan o'r gweithfeydd, a hyny am yr hyn nas gwyddant ddim oil o'i blegyd. Teimlais, cyn yn awr, fy ngwaed yn ymferwi yn fy ngwythienau pan yn darllen fod person- au diniwed a thangnefeddus wedi eu taflu i ben yr heol yn wrthddrychau tosturi a chyd- ymdeimlad, am fod eu meistri yn tybied mai hwy oeddynt awdwyr llithiau y Llwynog a'i gyffelyb, yr hwn beth, feddyliwn i, sydd hollol anmhrioclol ac anfoesol yn mhlith cenedl y Cymry. Hefyd, nis medrwyf, mewn un modd, weled mai pwyo a -wirthruddo ein meistri yw y cynllun sicraf a dyogelaf er sicrhau heddwch, tangnefedd, a chydweled- iad, rhwng y ddwy blaid grybwylledig. Fel y gwyr pob un a ddarllenodd lithiau cabledd- us y Llwynog, mai ei brif nod, drwy ei holl lithiau, yw gyru y byd bach Morganwg yn benbleth, a hwylysu gwerthiant newyddiadur sydd mor isel ei chwaeth a'u cyhoeddi.- Ydwyf, gyd weithwyr, LLWYDFARF.
[No title]
PELENI HOLLOWAY.- YR YSGYFAINT A'R CYLLA -y mae tywydd twym a Ijorei. au a phrydnawnau oerion bob amser yn creu anliwylderau yn rhanau treuliol y corff, y rhai ddylai gael gofal prydlawn. Nid oes dim yn debyg i Beleni Holloway am wella y treuliad. Maent yn cael eu cydnabod yn gar- trefol a thramor fel y feddyginiaeth sicraf ac effeithiolaf at benau anhwylus, poen yn y cylla, diffyg treuliad, gwynt, chwyddiad, gwrthwyneb- edd, pob math o ryddni, clefyd y gwaed, sychder y croen, a bol-rwymedd. Y mae y Peleni hyn yn amddiffyn y cyfansoddiad rhag y niweidiau am- rywiol sydd yn dilyn cyfnewidiadau y tywydd, ac felly o werth mawr yn y tymor hwn o'r flwyddyn. Nid ydynt yn ymyraeth dim a gwaith na phleser,
Llith yr Hen Bydler.
Llith yr Hen Bydler. MR. GOL.,—Maeir Hen Bydler wedi gor- phwys wythiios i ddisgwyl stock o daefnyddiau newyddiou da yn ateb spring a haf, rhyw bethau ag a fyddai yn werth eu hadrodd a'u rhoi yn eich enwog WLADGCUIWR, er i chwi ac ereill eu gweled a bod yn well o hyny y dyddiau yma. Ryw hongian yr ydym ni yn Merthyr yma er's blynyddau wrth raft gobaith startio y gweithfeydd yma, a dweyd un ar ol y llall yr hen storiau startio, a'r papyrau yn joinio'yn y cydgan gyda ni y pryd hyn a'r pryd arall. Ond O y mae olwyn ein ffydd heb droi yn olwg eto hyny ydyw, y mae y startio heb dd'od hyd yma, a thyna gwyn a phrofiad canoedd o weithwyr yn Merthyr, ac efallai mewn llawer o fanau ereill, dan y gauaf yma eto, fel y mae yn rhaid ei bod wedi myned yn fyd, tlawd ar lawer teulu. Clywais fod masnach y rags and bones yn gwaethygu,. os nad wedi ton,— pobl yn gorfod gwisgo eu rags, ac yn ffaelu d'od o hyd i'r cig na'r bones chwaith. (Felly y clywais yn swyddfa y barbwr nos Sadwrn). Yr oedd y barbwr yntau yr un brofiad a boneddwyr y rags and bones,-y busnes yn pallu talu y blynyddau yma yn Merthyr yn herwydd arosiad y gweithiau tan. Yr oedd wedi clywed fod eisieu barbwr yn Patagonia. Gofynais inau os oedd wedi clywed fod yno eisieu pydlers os oedd, y gellid cael llongaid ohonynt am ychydig yn awr yn Merthyr yn barod i'r start, a thair llongaid o blant Mari ar yr amnaid leiaf. Buasai hyny yn gwag- hau Poorhouse Merthyr tri chwarter o'r pedwar ohonynt sydd yno. Dyna arbed cost i blwyf Merthyr fyddai hynyna. Nhw sydd ben yma mewn a ma's, welwch chi. Mae Tips Dowlais ganddynt yn freehold property, a gelwir y fan yn Ireland Tips. Byddant yno yn heidiau ar y tips yn casglu glo, a phob peth allant dd'ocl o, hyd iddo, ac y mae un- rhyw beth yn taro eu tro hwy yn gyffredin. 'Dyw e ddim i chwi weled ugeiniau ohonynt bob dydd o'r flwyddyn, ond y Saboth, gyda'u gilydd ar yr Ireland Tips, a phob un a chargo gymaint ag a allasai asynod gario ar eu cefnau. Gwerthant y rhai hyny am o dair i bedair ceiniog y gol, yn ol eu maintioli. Mae y fusnes hon yn talu yn dda i'w pher- chenog, sef Mari a'i thylwyth. Y rhyw fen- ywaidd sydd fwyaf wrth y gorchwyl hwn, a'r gwrywod wrth ryw bethau ereill tebyg. Bydd bechgyn y got las yn eu gweled ac yn eu rhwystro gyda y gorchwyl hwn pan ddewisont ond os daliant Gymro yn gwneyd yr un peth, cymerant ef i fyny, a chaiff saith niwrnod o garchar am yr un bai ag y bydd tylwyth yr hen wraig yn rhydd o'r gadwyn bron bob amser. 'I Busnes sydd yn talu yn dda iawn yma I hefyd, i'r rhai sydd yn ei dewis hi, yw begian tref a gwlad. A phwy ond y nhw sydd yn mynu bod ar y blaen gyda hon eto. Gallwn fedawl pan yn darllen llithiau ein parchus Gymro Gwyllt, L'erpwl, fod y tylwyth yma yno hefyd wrth yr un stranciau. Wel gad- awn iddynt, gan ddymuno eu diwygiad. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Mr. Noah Jones (Cymro Gwyllt) am sylwi tipyn ar fwyd pydlers-y fasnach haiarn. Tipyn bob wythnos, was i, o hyn i ma's, nes y delo hi i'w chynefinol stad. Pwy yw yr enwog wr yna sydd yn ysgrif- enu hanes y farchnad haiarn a glo i'r GWLAD- GARWR yn wythnosol ? Mae o yn gynt raswr nag Elias, gynt, cyn ei fod yn gallu roundio yr holl weithfeydd bob wythnos. Gwyddom ni nad yw haner ffwrnesi pydlo Dowlais yn gweithio er's misoedd bellach, na dim ond ryw ychydig o'r melinau. Ond diolchgar yw pobl Merthyr am gymaint sydd yn Nowlais. Gobeithiwyf y caiff y cyfaill nerth i redeg eto, ac y daw a llawer o newyddion cysurlawn am lwyddiant a gwelliant yn y fasnach haiarn a glo, yr hyn yw dymuniad pob pydler a glowr, nid yn unig yn Merthyr, ond yn mhob man arall tu yma a thu draw i for. Melus, moes eto-hanes am startio.
FY NGELYNION A'M GYFEILLION.
FY NGELYNION A'M GYFEILLION. At ddarllenwyr y Gwladganvr." FONEDDJGJON-Nid oes yr un o hiliogaeth gwiberod yn fwy ellyllyg, fel y gwyddoch, na chenrigenwr ac y mae "Carwr gwirionedd," yn eich rhifyn cyn y diweddaf, yn profi hyny megys heb yn wybocl iddo, gan nad oes yr un gair yn ei lith swta ond canmol un gwag o'r gwirionedd (fel y profais i ef, ac un neu ddau arall, trwy eich colofnau, Mr. Gol.), gan ym- osod yn genfigenllyd arnaf finau. Y mae yn eich cydnabyddu tua'r swyddfa o'r ffaith fy mod yn anfon ambell i lith, fel pe na byddech yn gweled nac yn gwybod dim eich hunain ac yn ei hurtwch, ceisia gan y cyhoedd gredu mai dim ond haner dwsin yn y plwyf sydd yn eu darllen, er "cywreinrwydd neu er fun." Prof a hyn mai dim ond y nifer yna ydynt o fewn cylch dylanwad y gwr hwn, dyna y logic oblegyd gwn am ugeiniau o bob plaid yn y plwyf ydynt yn eu darllen gyda boddhad mawr, ac y mae genyf lythyrau cy- feiriadol yn fymeddiant o bellder yn eucanmol hefyd, a chanoedd mewn gwahanol fanan, pell ag agos, yn talu en compliments i mi am danynt, gan dystio eu bod yn eu darllen ddwy a thair gwaith gyda bias, yr hyn beth na ddywed neb wrth y g\vr hwn, ond ychydig o'i favourites ef ei hun. Eto, dywed, "fel un sydd yn gwybod rhywbeth am America, dy- munaf ddweyd cymaint a hyn wrth y brawd, y mae ein cenedl yn barchus o'u gilydd yno, ac yn hynod felly, ond y maent yma hefyd." Tystiolaeth pawb dynion o nod ag y bum yn siarad a hwy, ac yfl. eu plith, E. Jones, Yaw., trafnoddwr Americanaidd, Newcastle on- Tyne, y boneddwr a'r cyfaill, Dr. Idris -Davies, Ystrad, yr hwn a gafodd ei M.D. yn America, ac y mae ei "Essay on Pleurisy" yn glod i'w ben a/i galon fel meddyg ag athron- ydd, y maent hwy, a degau ereill, wedi tystio wrthyf fod y ddau bwynt ydynt yn sylfaen fy ymfudiueth yn gywir, sef fod talent mewn mwy o barch yno, a'r genedl yn fwy anwyl o'u gilydd. Eto, "nid wyf yn foddlon i neb ddweyd, yn gyhoeddus beth bynag, fod ein cenedl yn y wlad hon yn dibrisio talent mewn unrhyw ddyn," yr hyn a brawf nad yw yn caru gwirionedd, neu yn hollol amddifad o wrybodaeth, oblegyd dyna lith o'r "Arsyllfa" yn y rhifyn cyn y diweddaf yn dangos hyny am Caradog, prif arweinydd y genedl, a'r byd, mae'n ddiau, mewn cerddoriaetb. Ni fuasai yn ddim chwe' cheiniog i'r genedl, ar gyfar- taledd, i'w wneyd yn foneadwr, a rhoi ugain punt yr un i'r cor hefyd ond fel bu gwaethaf y modd, cafodd brofi gwirionedd llinellau y bardd Seisnig,— Ye spurned the boy that gave the antique lays, And paid for learning with your empty praise. Yn glimax i'w gabolfa, y mae yn cyfeirio at fy nghymeriad. "Hidlo gwibedyn a llyncu camel oblegyd, ganfymodyngydnabyddus a'r plwyf er ys mwy nag 20 mlynedd, yr wyf wedi gwybod bocl ambell un wedi dianc ar y sly, ag arian benthyg, tua'r America, gan adael gwraig a phlant ar ol i drugaredd y byd, a chan nad oedd ganddynt ond yr un fath a'r Gwyddel, some sort of a character, i'w ddwyn i'r Gorllewin, na thalent i'w cadw a'u dyrch- afu wedi myned, rhaid oedd anfon am gymorth i'w cael yn ol i'r Hen Wlad eilwaith, a gadael yr hwn a fenthyciodd yr arian iddynt yn America a'i fys yn ei lygad, i dreio ei lwc; ond gwybydded yn mhellach fod pob bai a berthyn i'r natur ddynol, hyd yn nod hunan- laddiad, yn perthyn i ambell un gwag o'r gwirionedd a'i dylwyth. A math hwn sy'n siarad am gymeriad un y mae Dr. Leigh, E. Thomas, Llechwran J. Thomas, Ysw., Aber- nant; a phrif fasnachwyr y plwyf yn gyfeill- ion iddo, a chaiff brofi hyny yn sylweddol yn. mhen ychydig, yr hyn a bair i un gwag o'r gwirionedd i rincian danedd, ac ambell i wotdd-be, sydd yn llawn o wynt ac hunanol- deb, i gilio i'r cysgodion fel dalluanod y nos*. GAIR AT FY NGHYFEILLION.—Gwyddoch fel yr wyf wedi cael fy erlid gan fy ngelynion er's blynyddau bellach, a chan fod ymysgar- oedd tosturi yn eiddo i chwi, a welwch. chwi- yn dda i anfon ataf eich henwau yn union am y Cysawd Barddol," gan fy mod ynbender- fynol o'i gyhoeddi can gynted ag y caf ddigon o enwau y mae genyf lawer eisoes, ac os gwnewch hyn bydd allan y Pasc, os nid yn nghynt. Gan fod genyf amryw leoedd TJT wahoddiad i ymweled a hwynt, odilyned lle- oedd ereill yr esiampl, ac yna ni bydd rhaid i mi-fyw mewn angen yn hir, oblegydnid wyf yn hapus yma, am fy mod wedi dyoddef cymaint er's blynyddau, oherwydd noddi un mor agos i'r ddynoliaeth a mam. Hefyd, yr wyf yn ystyried bellach fod genyf yr un hawl i ddwyn fy nhalent i'r farchnad oreu ag sydd gan fasnachwyr enwog y wlad hon i'w talentau: masnachol, a gwyddoch nad myfi yw'r cyntaf na'r diweddaf sydd yn gadael ei wlad er mwyu. yr amcan hwn. Beth am ProfF. Parson Price, Proff. Parry, Dr. Davies, Dr. Rees^ Dr. Thomas, a llawer ereill o frodyr athrylith a thalent, ni fuasent fyth yn y safleoeM, ac yn meddu ar y dylanwad sydd ganddynt heddyw, oni buasai iddynt fod yn yr Amerig. A wado hyn aed a hi, A gwaded i'r haul godi. Er i mi fethu myned gyda Mynyddog y waith gyntaf, hwyrach y caf gyfeillach y Cymro Cloff, ac ereill, y rhai ydynt wedi bod yno amryw weithiau. Gyda diolch i chwi am eich nawdd yn y gorphenol, a dymuniad am barhad o'r unrhyw, y gorphwysaf yr eiddoch, MABONWYSON.
GAIPT, AT Y BARDD WATGYN WYN.
GAIPT, AT Y BARDD WATGYN WYN. BARCHUS FRAWD,—A fyddwch chwi mor garedig ag anfon eich beirniadaeth ar Farw- nad Tom Wedros Evans, i'r GWLADGARWB. Clywsom i chwi roddi canmoliaeth uchel i'r un fuddugol, a charem i'r bardd Eurfryn ei danfon i'r GWLADGARWR, (Dherwvdcl gwn y byddai yn dda gan lawer o gyfeiliion y bardd, y lienor, a'r ysgolhaig ymadawedig (Wedros Evans) ei gweled. Gobeithio y cydunwch a'n cais, hyn yw dymuniad llawer heblaw CVSTADLEUWR AFLWYDDIANTTS.
aOHJSBIAETH 0 L^HPWL.
aOHJSBIAETH 0 L^HPWL. NODION. Wrth ysgrifenu gohebiaeth o le fel L'erpwl, byddaf yn ceisio cael hyd i bethau i'w croniclo a fyddo yn werth y drafferth o'i darllen, yn cynwys cymaint o ddyddorcleb a fyddo yn bosibl i'r werin sydd yn ymawyddu am new- yddion tramor a chartrefol. Gellid. yn hawdd lenwi colofnau ar golofnau o unrhyw bapyr newydd gyda phethau cwbl ddiwerth ac hollol ddinod o fewn i derfynau y byd Cymreig. Pcthau i'r cyhoedd ydyw gohebiaethau wyth- nosol, ac nid i ryw ddyrnaid o bobl mewn rhyw gongl annghysbell nad yw haner y byd yn gwybod fod y fath le mewn bodolaeth-cyn gweled y cyfryw mewn argraff o ddu ar bapyr gwyn. Mae y rhan amlaf o ddarllen- wyr y GWLADGARWR yn gwybod fod y fath le a tlialaeth California mewn bodolaeth ar lanau y Tawelfor, a bod y rhanbarth hwnw o'r byd yn un o adranau mwyaf o'r holl wledydd ag sydd yn adnabyddus i ddyn gwareiddiedig. Mae y cynauaf diweddaf o wenith a grawn Indiaidd yn hynod o dor- eithiog, yn fwy felly ar gyfartaledd na. bly- nyddoedd blaenorol. Mae ugeiniau o hwyl- longau yn Hwythog o'r trysor gwerthfawr er nos djTi ac anifail, wedi gadael porthladd San. Francisco yn rhwym am L'erpwl, a rhai ohonynt wedi cyrhaedd yn ddyogel, ereill ar y ffordd yn dilyn a phan gyrhaeddont i gyd, bydd yma ystordai llawnion, a gobaith am. fara i Brydeinwyr am dymor, ie, am flynydd- oedd, pe na ddelai ychwaneg i mewn. Prawf arbenig fod y tir yn Nghalifornia yn gynyrch- iol fod un amaethwr cyffredin wedi elwa ugain mil o ddoleri odd^wrth un cynauaf o wenith. Mae y SWIll yn gyfartal i bedair mil o bunau yn arian Lloegr. Dyna un dyn wedi gwneyd mwy o elw oddiwrth un cynauaf yn ardal y Tawelfor nag a wnaed gan yr holl Gymry a ymfudasant i baratUvys ddychymygoly Chupafe