Skip to main content
Hide Articles List

14 articles on this Page

Nodiadau Llenyddol.

News
Cite
Share

Nodiadau Llenyddol. Nid wyf yn cwbl gredu fod syniadau yr adolygydcl ar yr eisteddfodau yn hollol union- gred yn ei gysylltiad a'r bydenwog Emlyn Evans. Dylem fel cenedl fod yn falch o hono am ei fod wedi cynyrchu cyfansoddiadau nad oedd tebyg iddynt wedi dyfod allan trwy y wasg Gymreig. Cwynai rhyw gerddor dro yn ol fod Emlyn yn cyfansoddi caniadau yn bwrpasol i Eos Morlais. Wel, dichon ei fod, a bod hyny o ddealltwriaeth cydrhyngddynt, er cyrhaedd amcanion neillduol. Gobeithio fod y ganig ar y pedwar tymor yn deilwngo'r pethau a gyfansoddwyd gan Emlyn yn flaen- orol, yna fe gaiff ein corau rywbeth newydd gwerth y drafferth o'i ddysgu. Gobeithio na fydd y pwyllgorau eisteddfodol mor ddall- bleidiol a gwrando ar y cais o gau Emlyn allan o'r cylch cystadleuol cyhyd ag y byddo yn dewis anfon ei gynyrchion i gystadleuaeth. Byddai yn golled i gerddoriaeth Gymreig ei gau allan pan y mae yn blodguo yn anterth ei ogoniant, gan dohvyn allan fmosbarth o gerdd- oriaeth a bery tra parhao y Gymraeg i gael ei pharablu, a bydd hyny am fil o flynyddoedd wedi marw o Die Shon Dafydd a chladdu yr holl hiliogaeth- Dan leni trwch y ddaear, Yn mhriddell oer y llawr. Aed rhagddo yn ei lwyddiant nes enill iddo ei hun enw na ddiflana tra pery Cymru, Cymro, a Chymraeg. Mae rhyw ddoniolwr yn dwyn yr enw "Offenbach" yn y Dydd o Dolgellau yn ys- gatkru EOB Morlais am na ddarfu ddyfarnu y wobr am y canu corawl yn unol &'i farn ef. Xied awgryma fod cysylltiadau dirgelaidd eydrhwng yr Eos a'r c6r buddugol, yr hyn a dybiwyf sydd yn gam & Morlais fel canwr eyhoeddus a beirniad eisteddfodol. Nid cyf- iawn ymosod ar feirniad o dan ffugenw, a dylid atal y eyfryw i ymddangos, os na fydd yr ymosodwr yn ddigon o ddyn i osod ei enw adnabyddus wrth yr ymosodiad. Mae gan y wlad ymddiried yn Morlais fel bachgen gonest a diragfarn, a chamsynied o'r mwyaf ydyw gadael i bob gwrach ymosod ar gymeriad cyhoeddus. Nid oes ynwyf yr amheuaeth lleiaf nad yw Morlais yn ddigon o ddyn i ymgodymu a'r Offenbach hwn, er ei fod wedi dewis iddo ei hun enw mawr i ddyfod allan ar wyneb y Dydd. Hwyrach y cawn ei gweled yn myned yn nos arno, os cymer yr Eos sylw o hono. Mae ysgrifau ffugenwol yn gwneyd lles annhraethol o dan lawer am- gylchiad lie byddo trais a gormes yn ym- ddyrchafu, a mynych y cawn brofion fod y traha yn cael ei gwtogi pan gymero y wasg y mater i fyny. Mae galwad neillduol mewn rhai ardaloedd yn y gweithfeydd am i rywrai i godi llef a dyrchafu llais yn erbyn cyn- llwynion dieflig a gormesol. Beth sydd wedi dyfod ar draws eich goheb- ydd Siaspar wedi ei lith gyntaf, nid oes wybod am dano er hyny. Hoffem ei weled yn dyfod allan eto, gan ei fod yn wr cyfarwydd fel ysgrifenydd Cymreig. Moes eto, gyfaill, clywais ganmoliaeth neillduol i dy epistol cyntaf; gan hyny, dos rhagot, a dyro i ni ychwaneg o gyffelyb bethau. Nodiadau gwerthfawr ar gerddoriaeth ydyw eiddo y cyfaill Parson Price, a llawen genym ei weled yn tori ar draws cerddorion Llundain, er dangos i'r byd fod yn Nghymru fynyddig gerdd-feirniaid na raid iddynt ostwng pen hyd yn nod o flaen y great guns yn y brif- ddinas, tra y gallont sylweddoli y gosodiadau gyda phrofion didroi yn ol. Yn y GWLADGARWR diweddaf, gwelaf fod llenorion Tondu, ger Maesteg, am dori daear newydd yn y dull o wobrwyo. Cynygir coron arian am bryddest ar "Ewyllys;" gwobr a thestyn newydd spon. Dylai y terfyn fod yn bedwar can' llinell, a dim dan dri chant. Mae pryddest o bedwar can' llinell, neu lai, yn llawn ddigon er mwyn cael cyfansoddiad da. Nid wyf yn gwybod ond am un bryddest Gymraeg faith a demtia neb i'w darllen yr ailwaith, oddigerth pryddest Glasynys ar "Gymru," sef y cyfansoddiad arobryn yn Merthyr, er's llawer dydd. Mae awdlau a phryddestau hirion yn faich ar y beirniaid ac yn anhawsder i'w darllen a'u clorianu, er gwneyd hyny a ellir o gyfiawnder a'r ymgeis- wyr. Nid yn y cyfansoddiadau hirwyntog y cawn y defnyddiau goreu, oddigerth ambell i swp o linellau yma a thraw, fel rhosynau prydferth yn nghanol drain a mieri. Mae yn sicr fy mod yn gywir yn y syniad hwn, gan i mi glywed rhai o brif-feirdd y genedl yn datgan yr unrhyw syniadau ar adeg cynal- iad ein heisteddfodau cenedlaethol. Mae y gorchwyl o greu diwygiad yn gorphwys yn gyfangwbl ar y pwyllgorau, a dylent drefnu rheolau fel y ceir cyfansoddiadau marchnadol a darllerradwy. Dyna awdl y Nefoedd," yn Nhreherbert, y Nadolig nesaf, byddai pedwar can' llinell yn llawn digon er cael awdl ar y testyn, a chyfansoddiad a fyddo yn werth yr arian i'r pwyllgor a'r wlad sydd yn arfer prvnu llyfrau eisteddfodol. Nid oes caniatad i ddwyn yr estron-beth a elwir y mesur diodl i'r gystadleuaeth am y goron, a bendith ar y pwyllgor am osod y rheol i lawr mewn pryd. —Yr eiddoch, RHEINALLT.

Eisteddfod y Crwys.

CYMDEITHAS AMAETHYDDOL MYNYDD-ISLWYN…

ABERTAWE.

O'R LLAN.

PENTYRCH.

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH…

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH…

AT Y BEIRDD.

[No title]

ENGLYNION

TWYN MORGRUG.

'.. -.1 u Y GOG.

GWNA DY OL.—(MAKE YOUR MARK).