Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
TYSTEB MR. WILLIAM JAMES.
TYSTEB MR. WILLIAM JAMES. MR. GOL.Fel atebiad i'r gofyniad yn eich Thifyn diweddaf am arian a gasglodd un brawd at yr achos uchod, dywedwn ei fod wedi d'od i delerau a'r pwyllgor yn nghylch eu had-dalu. Y mae llawer o gyfeillion heb eto ddanfon eu llyfrau casglu i mewn, ac felly yn rhwystr mawr i'r pwyllgor. Bydded iddynt en hanfon pa un a fyddo symiau arnynt a'i peidio yn ddiffael 1 ofal Mr. J. James, y trysorydd, i'r Crown Hotel, Aberdar, cyn neu erbyn nos Lun, Chwefror 12fed, pryd y bydd y pwyllgor yn cwrdd am y tro diweddaf. Dros y pwyllgor, WM. MEDLICOT, Llywydd. DAN HUGHES, Ysgrifenydd.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. Mae amgylchiadau a phethau a gymer le y naill ddydd ar ol y llall yn dangos yn eglur fod Cyngrair y Gormeswyr yn fyw o hyd, defnyddiant bob dichell ac ystryw i gadw y gwan i lawr yn ddigon isel o dan draed gor- thrymder. Nid oes llewyrch adfywiad i'w ganfod o un cyfeiriad; ond y mae rhyw obaith pan fydd tywyllwch dudew wedi gordoi ywlad, fod gwawr ar dori, a phelydr heulwen ded- wyddwch i ymddangos o ryw gyfeiriad. Mae sefyllfa y dosbarth gweithiol wedi myned yn waradwyddus o isel, a dylai cyfoeftiogion ein gwlad wrido uwchben y trueni, a hwythau yn gwybod mor dda am ffynonell y drwg. Os pechodd Dafydd, nid cyfiawn cosbi Ephraim am bechodau ei frawd. Ceisiant eto osod llyfethair ar y glowr mewn ysbryd gorfodol, yr hyn nad ydyw yn ddim amgen na dyfais gythreulig i ormesu a thraws-arglwyddiaethu yn awdurdodol, heb ddim galwad am hyny namyn boddio yr hen ysbryd trahaus sydd iredi teyrnasu yn ein gwlad yn y canrifoedd diweddaf. Nid oes ond y torsyth a'r hunanol na fyn wrandaw ar reswm. Mae natur y cyfryw mor drahausfalch. fel y cymer fantais o'i sefyllfa er dwyn i mewn y gorfodol, fod yn rhaid ymostwng i'w awdurdod ef, neu ddy- oddef y canlyniadau. Mae gormod o bethau tramor wedi eu llusgo i Gymru yn barod, fel nad oes un angen llusgo ychwaneg i ddifwyno hen arferion a threfniadau gweithfaol ein gwlad cyn geni y double shift. Mae y gyf- undrefn yn dra thebyg i gorff y farwolaeth, a sicr ydyw fod y sawl a'i cefnoga yn ddisgyn- ydd uniongyrchol o frenin gormesol yr Aipht. Nis gall y llywodraethwyr wneyd dim yn fwy annghyfiawn na gorfodi y gweithwyr i ymos- twng i drefniadau a ystyriant yn groes i natur a rheswm ac nis gellir galw y double shift yn ddim amgen na phla annymunol yn mhlith y glowyr. Gan nad oes dim yn galw am y cyfnewidiad, nag un rheswm i'w ddwyn drosto, rhaid gosod. y bai ar y prif arolygwr, ei fod yn ymawyddu am enwogrwydd y teyrn. Pe buasai ynSais, ni fuaswn yn rhy feddu cymaint; ond gan ei fod yn Gymro', genedigol o For- ganwg, mae y peth yn fwy chwithig fyth. .rr1-- V J ? -n-a. yn gwyooa rayw yenycug am y lofa yn ymarferol, meddyliais fod genyf hawl i wneyd liodiad neu ddau ar y pwnc. Gwyntyllwyd y pwnc o'r blaen ar dudalenau y GWLADGARWR gan y pleidwyr a'r gwrtho'dwyr, a churwyd y bel i bared yn feistrolgar gan yr olaf, ac nid yw y cais presenol ond ail-ymgais i ddwyn yr hen erthyl i fodolaeth a phe gallent lwyddo i'r gyfundrefn i gael safle unwaith yn ein gwlad, byddai yn orchwyl caled i'w symud ymaith. Mae strike yn un o ddrygau. eithafol ein gwlad ond yn y cysylltiad hwn, nid oes un drefn arall gan y gweithwyr er sefyll ar yr amddiffynol, tra bydd y blaid ymosodol yn defnyddio pob ystryw a chynllwyn er dwyn barn i faddugoliaeth. Addewais yr wythnos ddiweddaf wneyd sylwadau ar fasnach yr alcan a'r haiarn, ond gan i mi fethu a chael fy amcan i foddlon- rwydd, gyraf gylchlythyr un o fasnachdai Llundain i'r swyddfa, fel gallo trefnydd y GWLADGARWR wneyd defnydd ohono yr wyth- "DOS hon, er mwyn y werin weithgar. Pleser i-mi fyddai bod yn alluog i osod o flaen y darllenydd hanes 'a' phrisoedd pob peth yn holl farchnadoedd y byd; ond gan nad oes genyf amser a chyfle at hyny, rhaid i mi fodd- loni ar wneyd mitn nodiadau yn awr ac eil- waith, ond hwyrach y deuaf ar draws y dir- gelion rhyw dro, fel ag i fod yn alluog i wneyd sylwadau a fydd--yn dra derbyniol a darllenadwy i alcanwyr Cymru. Nid wyf yn hoffi ymyraeth a phynciau cyhoeddus heb fod yn alluog i ategu y cyfryw gyda ffeithiau a ddaliant brawf ar ddu agwyn. Gellir dweyd ac ysgrifenu llawer o bethau mympwyol, ond i ba ddyben y cynhyrfir gwlad a gorwlad gyda phethau dychymygol a disail. Gwell fuasai i Gymru, heddyw, fod y gweithwyr wedi ymddiried yn y cadarnhaol a'r sylwedd- ol, yn hytrach na gwneyd fel y gwnaethant. Eisieu ymddyrchafu sydd ar y werin, a chyn y gwneir hyny yn llwyddianus, mae yn ofynol gweithredu wrth rheol a threfn, ac ond gwneyd hyny, byddai genym well gobeithion am y dyfodol, a mwy o sicrwydd am Iwyddiant a dyrchafiad, er y byddai hyny yn groes i ddy- muniadau y sawl a hoffant orthrymu. Os mai ymddygiadau a gweithredoedd sydd i fod yn safon i fa1"nu sefyllfa foesol gwlad, mae yn sicr fod parthau eang o wlad y Sais yn cyflymu i fyned o dan gwmwl. Menyw barchus yr olwg arni wedi ei dwyn i'r ddalfa ar y cyhuddiad o ddirgel-guddio cyrff nifer o blant bychain, ac nid oes wybod eto nad yw hi yn euog o'u llofruddio. Mae yr hanes yn ddychrynllyd i feddwl fod un fam i blant wedi bod yn ddigon calon-galed i gyflawni y fath anfadwaith annaturiol a dieflig. Nid oes diwrnod nag wythnos yn myned heibio heb gael ei hynodi gan y gweithredoedd mwyaf barbaraidd a gwaedlyd a gyflawnwyd yn y gwledydd mwyaf barbaraidd o dan haulwen y nefoedd. Prydain oleuedig mor Uawn o ganibaleiddiwch ag ydyw ynysoedd y Canibal- iaid. Y gyllell a'r dagr yn cael eu defnyddio mor gyffredin yn heolydd ein trefydd a'n dinasoedd ag ydynt yn mhlith yr Ysbaeniaid mwyaf gwaedlyd. Nid yw dysgeidiaeth yn dylanwadu dim yn y cyfeiriad hwn er gwella y byd, oblegyd ni gawn engreifftiau fod meib- ion a merched wedi cael codiad ac addysg uwchlaw y cyffredin yn ymdroi mewn dryg- ioni, ac yn euog o bob gweithredoedd ag sydd yn gwbl annheilwng o ddynoliaeth wareidd- iedig. Pa bryd y daw terfyn ar hyn, nid oes wybod. Twyllo, lladrata, a llofruddio, ydynt bethau cyffredin gwlad, a rhaid wrth ddiwyg- iadau mawrion cyn y dygir pethau i drefn. Mae rhywbeth newydd i'w weled yn bar- haus yn y trefydd mawr, a'r peth diweddaf a ddaeth i fy sylw oedd gweled bjenyw yn dos- barthu traethodau, a'i mab yn cicio pel droed yn yr heol, o flaen ei llygaid, a hyny ar ddydd Sul. Beth a dybia y darllenydd meddylgar a synwyrgall am beth fel yna ? Tybiwyf fi y byddai yn well i'r cyfryw ddechreu gartref gyda'r gorchwyl o wella y byd. Nid yw hyna ond un engraifft o lawer tebyg, a llawer o honynt yn fil gwaeth, os edrychir ar y cyfryw o gyfeiriad moesol. Nid wyf wrth nodi yr uchod am ddweyd nad oes miloedd o gymer- iadau yn y byd yn deilwng o'u hefelychu yn ddirgel a chyhoeddus, mewn rhinwedd, moes, ac ymarweddiad. Rhaid i mi eto ymatal, gan fod y benod yn myned dipyn yn faith, gydag un crybwylliad at y cyfaill o'r Pentre, Ystrad. Gwyntyllwch y pwnc, gyfaill, mae ynoch ddigon o ddawn i wneyd; ac os methwch mewn rhywbeth, ewch at y cyfaill Homo Ddu i geisio cynorth- wy i naddu eich penodau. Mae Homo Ddu yn frawd o ddawn, A llenor yn llawn dillynder Yn mherson hwn cewch Gymro iawn, A chyfaill mewn cyfyngder. —Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
AGORIAD Y SENEDD.
AGORIAD Y SENEDD. LLUNDAIN, N68 FAWRTH. EDRYCHIR yn mlaen am agoriad y Senedd Brydeinig dydd Iau nesaf gyda dyddordeb anarferol, nid yn unig gan bobl y wlad hon eithr gan Ewrop yn gyffredinol. Hwyrach na ddysgwyliwyd mor bryderus o'r blaen am ddechreuad y Senedd-dymhor yn y wlad hon er y flwyddyn 1846, pan yr oedd Deddfau'r Yd yn cryriu yn y glorian. Yr oedd llak yr hwn a fydd yn cyfarfod a'r Senedd dydd Iau nesaf, fel Prifweinidog y Goron, i'w glywed yn uchel ac yn hyawdl yn y ddadl fawr a byth-gofiadwy hono, ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Y mae safle larll Beaconsfield yn Nh^'r Arglwyddi yn y flwyddyn 1877, ac eiddo Benjamin Disraeli yn Nh^'r Cyffredin yn y flwyddyn 1846, yn brawf o'r hyn a ellir ei gyrhaedd drwy dalent, pluck, a dyfal- barhad. Bydd yn rhaid i'r hen gadfridog a'i ganlynwyr dydd Iau nesaf wynebu y frwydr boethaf y buont ynddi erioed o'r blaen. Pa sut y deuant allan o'r ymdrechfa sydd fater amheus. Fe wel y Ceidwadwyr yn Nh^'r Cyffredin eisieu yr hen Dizzy dydd Iau a bod yn sicr. Bydd y Ty yn lledchwith hebddo. Bydd ei absenoldeb yn anffawd mawr ar adeg mor bwysig, a chyll y ddadl lawer o'i dyddordeb drwy y bydd y gallu dadleuol braidd yn gyfan-gwbl o du y Rhyddfrydwyr, a thrwy na fydd yno neb yn ddigon gallu og i ateb Mr. Gladstone. Yn Nhy'r Arglwyddi, ar y Haw arall, y Ceidwadwyr fydd meistri pen y domen." Bydd y gallu dadleuol yno yn gymaint o'u tu hwy ag a fydd o du y Rhyddfrydwyr yn y Ty isaf. Yr areithiau yn Nhy'r Cyffredin fyddant fel rheol yn tynu mwyaf o sylw, ond ar ddechreuad y tymhor eleni bydd mwy o ddyddordeb yn nglyn a'r areithiau yn Nhk'r Arglwyddi. Bydd y ddadl yno i fesur o nodwedd bersonol. Bydd yn rhaid i Ardalydd Salisbury roddi cyfrif o'i oruchwyliaeth yn y Gynadledd yn Nghaer- cystenyn, a bydd yn rhaid i'r Prifweinidog egluro y policy y mae wedi ei ddilyn mewn perthynas i'r Pwnc Dwyreiniol; a hyny yn ngwydd rhai gwrthwynebwyr, nad yw wedi cyfarfod a hwynt wyneb yn wyneb er ys chwarter canrif, ac ereill na chafodd gyfle erioed o'r blaen i fesur nerth a. hwynt Ydym yn edrych yn mlaen am agoriad y Senedd dydd lau yn bryderus a chyda dydd- ordeb mawr, ac os y bydd yn ddichonadwy, nyni a awn yno i weled y frwydr yn dechreu. Y mae y Frenines yn bwriadu agor y Senedd yn bersonol eleni eto, oddieithr i ryw anffawd ei lluddias. Dywedir hefyd y bwriada breswylio yn Mhalas Buckingham am ysbaid o amser yn ystod eisteddiad y Senedd. Os oes coel i'w roddi ar y chwedl hon, gellir dysgwyl i'r tymhor dyfodol fod yn un o'r rhai gwychaf a mwyaf rhwysfawr a welwyd yn Llundain er ys blynyddoedd. Bydd i bresenoldeb y Frenines a'i Llys yn ein plith loni calonau pob dosbarth o bobl, yn enwedig masnachwyr y West-end. Y mae y brodyr hyn, y mae yn debyg, yn grwgnach yn arw ei bod yn absenoli ei hun gymaint o'r Brifddinas.
Gweithfeydd Alcan Cwmtawe.
Gweithfeydd Alcan Cwmtawe. MR. GOL. ,-Digon annhrefnus a digalon ydyw hi wedi bod yr wythnos a aeth heibio yn ngweithfeydd alcan Cwmtawe, oherwydd i'r mis rhybudd dd'od i ben, a dim o'r meistri wedi -gosod ei ystyr allan mewn pryd, er mwyn i'r gweithwyr i gydweled a'u gilydd beth oedd oreu i'w wneuthur-pa un a'i derbyn y gostyngiad, neu ynte gynyg rhyw delerau ereill ger bron y meistri. Ac fel yna y treuliwyd yr wythnos a aeth heibio; y gweithwyr yn cynyg a'r meistri yn gwrthod. Ond o'r diwedd derbyniodd Mr. Jenkins, Cwmbwrla, y cynyg canlynol gan wyr y melinau :—? £ Eu bod hwy fel gweithwyr yn foddlon i weithio tri mis ar y gostyngiad, os buasai ef yn rhoi ei air y cawsent hwy eu pris yn ol y pryd hwnw." Boddlonodd yntau i hyny, a dywedodd wrthynt y buasai ef yn ei roi iddynt pe buasai yn gorfod eu talu o'i boced ei hun. Can' diolch iddo. Gwelwn egwyddor dda Mr. Jenkins yn y ffaith gan- lynol hefyd. Lied debyg fod dau o'r refiners yn gweithio yn round i'w cydweithwyr, oherwydd ei bod mor slac; ond yr oedd y gweithwyr yn anfoddlon i fyny, fel y gorfu i Mr. Jenkins dalu y ddau ymaith; ac wedi iddo roi eu harian iddynt, dywedodd wrthynt fod yn flin iawn ganddo ei fod wedi gorfod gwneyd hyny-mai yr amser slac oedd yr achos o hyny,—a rhoddodd ei law yn ei iw ced ac estynodd bob i sovereign iddynt. Dyna i chwi good sort, Mr. Gol. Wel, wedi i'r gweithfeydd ereill glywed am y cynygiad yna, aethant hwythau i gynyg yr un fath, a der- byniwyd eu cynygion. Dywedwyd wrthynt hefyd, os y buasai i'r farchnad wella yn gynt (pe buasai hyny yn dygwydd yn mhen y pythefnos), y buasent hwythau yn cael eu pris. Ac ar y telerau yna y mae gweithfeydd alcan Cwmtawe yn gweithio yn bresenol; a gobeithio y bydd mwy o gariad a chydym- deimlad yn bodoli rhwng y meistri a'r gweith- wyr o hyn allan, yw gwir ddymuniad, Chwef. 5. EHEDYDD.
Glofa Baglan Park.-
Glofa Baglan Park. Mae glowyr y lofa uchod wedi cael rhybudd gan Mr. Walters, yr arolygydd, y bydd i ostyng- iad pellach gymeryd lie yn eu cyflogau. Nid wyf yn gwybod beth sydd wedi cynhyrfu y perchenodon i feddwl am ostyngiad pellach, o herwydd nid yw hyn yn unol a'r Jftaddfa raddol yn Caerdydd; ac yn sicr, nid yw enillion y glowyr yn caniatau hyn.—Eryr Crcrig y llan.
Y Cais am Lowyr i Ogledd Cymru
Y Cais am Lowyr i Ogledd Cymru Mae yn ymddangos fod perchenogion glofa Bettisfield, Fflint, wedi anfon am lowyr o'r De- heudir a manau ereill, o herwydd fod annghy- tundeb rhyngddynt a'u hen weithwyr, ac aeth amryw o gymydogaeth Aberdar i fyny yno; ond cawsant bethau yn dra gwahanol i'r addewidion. Gorfu iddynt gysgu mewn tai engines, &c., ac y maent wedi anfon adref am arian i dalu y treuliau ag yr oedd y cwmni wedi addaw dalu. Ymdden- gys fod yr hen weithwyr erbyn hyn wedi derbyn telerau y meistri.
ALLTWEN.
ALLTWEN. Teimlir yn wir ddiolchgar i chwi am eich caredigrwydd yn cyhoeddi gweithrediadau y pwyllgorau mewn cysylltiad a'r cyfeillion cys- tuddiedig yn yr ardal hon. Gwir fod anneall- twriaeth wedi bod yn nghlyn a hyn, fel llawer o bethau ereill, ond yr ydym yn meddwl erbyn hyn, fod canolfur y gwahaniaeth wedi ei symud, ac y gwneir rhywbeth yn sylweddol er cynorth- wyo y cyfeillion dan sylw. Mae yn hysbys o'r blaen mai cyngherdd fwriedir gael i Eos Wyn, a darlith i'r cyfeillion ereill, felly ni fydd y Jlailt yn gwrthweithio y llall. Yr ydym wedi Ilwyddo i gael y Parch. W. Jenkins, Pentre Estyll, i draddodi darlith nos Fercher, Chwefror 28ain, ar "George Whitfield;" ac y mae Mr. Jenkins yn ddigon adnabyddus fel darlithiwr, fel nad oes eisieu d'weyd dim er darbwyllo neb i gredu y bydd y ddarlith yn llawer mwy na gwerth yr hyn a roddir am y tocynau. Cy- nelir y pwyllgor nesaf nos Lun, Chwefror 12fed, yn Reading Room yr Alltwen, er trefnu gwerth- iad y cards, pryd y dymunir presenoldebyr holl aelodau yn nghyd, ac ereill ag sydd yn teimlo dyddordeb yn y mudiad. Yn gweuthur dai- oni na ddiogwn," ond bydded i ni oil "Roi ein ysgwydd dan y baich A helpu y naill y llall."—Telorfab.
MARWOLAETHAU.
MARWOLAETHAU. Yn ddiweddar, ar enedigaeth baban, yn 37 mlwydd oed, Mrs. Martha Evans, anwyl briod Mr. David Evans, 1, Ffynone street, Abertawe. Ei chlefyd oedd y Bronchitis a'r Inflammation ar yr ysgyfaint. Yr oedd yn grefyddol o'i mebyd, ac yn wraig rinweddol a choron i'w gwr. Duw fyddo yn dwr i Mr. Evans a'i bedwar bach amddifad.—Brythonfryn. Dydd Iau, Chwefror laf, yn 19 oed, ar ol tair wythnos o gystudd, o'r typhoid fever, Amery, mab hynaf Mr. John Rees, Co-operative Stores, Aberaman, Aberdar. Yr oedd yn llanc ieuanc a fawr berchid gan ei gyfoedion; yn aelod o eglwys Brynsion, Cwmbach; ac yn ddeilad ffyddlon o'r Ysgol Sul. Dydd Mawrth, heb- ryngwyd yr hyn oedd farwol ohono i'r Cemetery, Aberdar, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur galarus gan y Parchn. Jonah Morgan, Brynsion, Cwmbach; R. Rowlands, Saron, Aberaman a D. Brythonfryn Griffiths.
."Samson "-Gwyliau y Groglith…
"Samson "-Gwyliau y Groglith a'r Pasg. Yn Aberdar, dydd Gwener y Groglith, rhoddir dauberfformiad cyfiawn o Samson gan yr Undeb Corawl. Yr elw at godi cof- adail uwchben bedd yr hen dad cerddorol ym adawedig Rosser Beynon. Dydd Llun y Pasg, drachefn, rhoddir dau berfformiad o'r un oratorio yn y Royal Albert Hall, Newport, gan yr un artistes; ac yn ychwanegol at y band, bydd yr organ fawr (gwerth tair mil o bunau) yn chwareu drwy yr oil o'r gwaith. Mae Miss Marian Williams, Llundain Miss Jennie Lewis, Caerdydd; Mr. Thomas Brandon (y basso), a Mr. Gordon Gooch, Llundain, eisoes wedi eu sicrhau, ac y mae yr ysgrifenydd yn gohebu a'r gweddill o'r soloists. Taer erfynir am nawdd a chefnog- aeth holl gerddorion a chantorion Gwent a Morganwg. Cyhoeddir y manylion ar fyrder mewn hysbysiadau yn y newyddiaduron.
Advertising
Vegetable and Potatoe Seed, of the best quality, To be had of C. PEEK, FRUITERER, &C., CANON STREET, ABERDARE, 1505 (Opposite the Queen's Hotel.) "Dan nawdd Duw a'i dangnef." "0 lesu na'd gamwaith." EISTEDDFOD TON-Y-PANDY BYDDED HYSBYS y cynelir yr eisteddfod uchod DYDD LLUN SULGWYN, MAI 21ain, 1877, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn Rhyddiaeth, Barddoniaeth, Areithyddiaeth, A droddiadaeth, a Chaniadaeth. Ltywydd- WM. WILLIAMS, Ysw., Grove Field House. Beiritiaid.- Y Rhyddiaeth a'r Farddoniaeth— DEWI WYN 0 ESSYLLT. Y Ganiadaeth-Mr. R. S. HUGHES, R.A M., a Mr. D. BUALLT JONES. TESTYNAU. Traethodau. Am y Traethawd goreu ar Y priodoldeb o gau y Tafarndai ar y Saboth gwobr, 10s. Am yr Ysgrif oreu ar "Halen" (cyfyngedig i rai dan 20 oed); gwobr, 10s. Am yr Ysgrif oreu ar Sebon (cyfyngedig i Fenywod); gwobr, 5s. Barddoniaeth. Am y Bryddest oreu ar Y Dymhestl-Mor- daith Paul i Rufain," gwel Act. xxvii.; gwobr, lp. Is. Am y 60 llinell goreu ar Urddasolrwydd yr Areithfa gwobr, 10s. Am y Chwech Englyn Unodl-union goreu i'r Teapot; gwobr, 10s. Am y Ddau Englyn TTnodl-union goreu i'r "Peiriant Llifio goreu, 5s. Adroddiadau. I'r Hwn a adroddo ereu Yr Ystorm (Hwfa Mon), gwel y programme gwobr, 7s. 6c. I'r Hwn, dan 15 oed, a adroddo oreu Clywch, dacw làn" (Mynyddog), gwel y programme; gwobr, 4s. Areithio. I'r Hwn a areithio yn oreu ar Afrad pob afraid," (tair mynud o amser i'w thraddodi); gwobr, 3s. Cyfieithu. Am y cyfieithiad goreu o "A little learning is a dangerous thing," (Pope), gwel y programme; gwobr, 5s. Caniadaeth. I'r C6r heb fod dan 60 o nifer, a gano yn oreu "Hallelujah Chorus," (Handel's lJfessiah); gwobr, 12p., a 3p. i'r arweinydd. I'r C6r o'r un gynulleidfa, heb fod dan 50 o nifer, a gano yn oreu Then round about the starry throne," (Samson) gwobr, 8p. I'r Parti o 19 o nifer a gano yn oreu "Yr Alarch Gwyn," (CeinciauW Gercld); gwobr, 2p. I'r Parti 080 nifer, a gano yn oreu y gftn a chydgan Cymru Lân," (Gems) gwobr, 12s. I'r Hon a gano yn oreu Y 'Deryn Pur," (Songs of Wales); gwobr, 10s. I'r Hwn a gano yn oreu Honour and Arms," (Samson) gwobr, 7s. 6c. I'r Hwn a gano yn oreu "Total Eclipse," (Samson); gwobr, 7s. 6c. I'r Hwn a gano yn oreu Y Golomen Wen," (R. S. Hughes) gwobr, 7s. I'r ddau a ddarlleno ddernyn o gerddoriaeth rhoddedig ar y pryd gwobr, 4s. Ni chaniateir i'r ddwy Ysgrif i fod dros bedair tudalen o note paper yr un, na'r Bryddest i fod dros 150 o linellau. Y cyfansoddiadau i fod yn Haw y Beirniaid ar neu cyn Mai 7fed. Ceir pob manylion ar y programme, yr hwn a geir am y pris arferol gan yr Ysgrifenydd,— 1494 EVAN LEWIS, Ton-y-Pandy. Salem, Llanilltyd Fardref. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod DYDD GWENER Y GROGLITH, 1877. CANIADAETH. I'r C6r heb fod dan 40 mewn nifer, a gano yn oreu "Pwy sydd felyr Arglwydd," (o'r Gerddorfa); gwobr, 5p., a chadair i'r Arweinydd. Gellir cael copiau yn nodiant y Tonic Sol-Ffa oddiwrth yr awdwf; cyfeirier, Mr. Thos. Davies, A.C., Forge Office, Ebbw Vale, Mon. BARDDONIAETH. Am y Farwnad oreu i'r diweddar Ann Williams, gwraig Abraham Williams, Wain y Celyn, Llan- illtyd; gwobr, lp. 5s. Ceir y gweddill o'r testynau a'r marylion ar y programme, am y pris arferol, gan yr Ysgrifenydd,- THOMAS WILLIAMS, Holly Bush, 1501 Lanwit Vardre, Pontypridd. Ofer dadl wedi barn." Siloh, Maesteg. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie- uchod C DYDD GWENER Y GROGLITH, 1877. Prif Destynau. I'r C6r, heb fod o dan 60 mewn nifer, a gano yn oreu Arglwydd ein lor ni," gan y Cerddor Glas, Maesteg; gwobr, lOp., a Chadair hardd i'r Ar- weinydd. I'r Cor, heb fod o dan 30 mewn nifer, a gano oreu See the Chariots at hand," o'r Musical Times; gwobr, 2p. Rhyddiaeth. Llaw-lyfr i Drethdalwr; gwobr, lp. Barddoniaeth. Marwnad i'r diweddar William Hire, Picton- place, Maesteg; gwobr, lp. Is. WM. OWEN, Ysg., 1488 25, Grove-street. Maesteg. I Penygraig. OYNELIR EISTEDDFOD GERDDOROL yn y lie W uchod, dydd LLUN, EBRILL 9fed, 1877 i ddechreu am un a chwigeh o'r gloch. Reirniad-MR. W. T. REES (Alaw Ddu). y Testynau. « \r -D/ 1G°r heb f°d dan 50 o rif, a gano yn oreu. ?!° °uyn gwobr, 8p. V r r+i" lie^,fod 30 0 "f, a gano yn oreu. x Orwlithyn, gan Alaw Ddu; gwobr, 4p. 3. Ir c6r 0 blant heb fod dros 17 oed, na than 60 o rif, a gano yn oreu Duw sydd o'n tu," o'r Gerddorfa, rhif 51. (Caniateir i chwech mewn.- oed i'w cynorthwyo;) gwobr, 2p. 4. I'r brass band a ch" areuo yn oreu "O' Father whose almighty pow'r," i'w gael gan E. De-Lacy 187, Loughborough Road, Brixton^. London, S. W gwobr, Programmes i'w cael am y pris arferol gan yr ysgrifenydd, J. J. EVANS, Weigher, Penygraig Road, Penygraig, Via Pontypridd, 1503 Drill Hall, Sciwen. BYDDED hysbys i bawb y cynelir EISTEDD. nfr y lie uchod dydd SADWRN. glocIfFEOR in' ddechreu am ddau o'r Beimiad-Mr. T. HOWELLS (Hywel Cynon). Llywydd ac A i-weinydd-Llew Llwyd. 1 Cerddoriaeth. r' beb ^°d dan 40 o nifer, a gano vn gwobr 8p6n r0UDd ab°Ut the StaiTy throne J"" heb fod dan 40 o nifer, a gano yn gwobr 2p ° Ychwane^iad leuan Gwyllt gan° yn °reU ^4/ i'r Dcjau a gano yn oreu Bwth fy Nhad K Ohas. James, o r Cerddor Cymrem; gwobr 4s Jn Baohsen 6. 1'1' H wn a gano yn oreu "Gogoniant i- Gymru gwobr, 2s. 6c. «?nL,5'r^n7a gan0 7n oreu y "Fwyalchen," o'r Songs of Wales; gwobr, 2s. ^vob^risHWn a gano yn oreu D6n ar y pryd gwobr, Is. 9. l.r hwn a chwareuo yn oreu, ar y flute Codiad yr Ehedydd," "Clychau Aberdyfi," a "Llwyn Onn;" gwobr, 3s. 1 Adroddiadau. 1 r Hwn a adroddo yn oreu Yffordd i dd'od yn ddyn, o Flodau r Beirdd gwobr, 2s. IL Ir Sawl a adroddo oreu Cywydd y Gwir or Adroddiadur, neu Gemau'r Adroddwr; gwobr, 3s. Enwau y cystadleuwyr i fod yn llaw yr Ysgrif- enydd ar neu cyn Chwef. 13eg. Mynediad i mewn. Is. dan ddeuddeg oed, 6ch. t? LEWIS JONES, Ysg. .trancis-street, Sciwen. 1436. r Caersalem, Victoria, Pencae, Mynwy» r l^Y^DED hysbys y cynelir Eisteddfod yn y He XJ uchod dydd LLUN PASG, EBRILL 2il, 1877. r T) Prif Destynau. I r cor heb fod dan 40 mewn rhif, a gano yn oreu y chorus Hail, Judea, happy land," o'r 1 Judas Maccabceus; gwobr 7p., a chadair hardd i'r Arweinydd. I'r c6r o blant, dan 15 oed, heb fod dan 30 mewa rhif, a gano yn oreu, "Our Victory," a.11^ G'r American Songster, rif 83. (Caniateir i wyth mewn oed i'w cynorthwyo;) gwobr lp. 10s. Rhoddir enwau y Beirmaid eto trw.y gyfrwncr v GWLADGARWR. B 3 Bydd y programme yn cynwys yr oil o'r testun- au, amodau, a threfn y dydd, &c., i'w cael gan yr Ysgrifenydd am lc., trwy y post, lie J0HN PEICE. 16, Queen Street, 1481 Victoria, Ebbw Vale, Mon. Yn y wasg, i'w gyhoeddi can gynted ag y ceir 1000 0 enwau, mewn pedair neu hump 0 Reman 6c. yr un gyda'r Post, 6lc. Llawlyfr y Glowr," YN dangos ei beryglon, a'r moddion goreu iV -L hysgoi. Gan D. WEEKS (Honddu), Tre- herbert. Bwriedir cyhoeddi Rhan bob chwech wythnos. Gan na argreffir ond y nifer gofynol, byddwn yn ddiolchgar i bawb am anfon eu henwau yn ddioed at y Cyhoeddwr,-D. DAVIES, Printer, Treorky, Rhondda. Gellir cael Taflen o'r Cynwysiad drwy anfon. stamp at y Cyhoeddwr. 1466 Y MAE CYMDEITHAS ADEILADU- MERTHYR A DOWLAIS YN BAROD i roddi Benthyg, ar Mortgage^, ar y Rhybudd byraf, Symiau o B100 i BIO.OOO, i'w talu yn ol yn Gyfranau Misol neu ChwarteroL Y mae i Fenthycwyr yn y gymdeithas how fauteision arbenig na cheir mewn cymdeithasaw ereill, neu gan bersonau unigoL Telir y treuliaw cvfreithiol gan y gymdeithas, a dyogelir annibyn- laf j £ benthycydd, cyhyd ag y parneir i dalu yr- ad-dahadau addawedig, gan y Cofrestrydd daat Gyfraith y Cymdeithaaau Cyfeillgar. Cedwir y dirgjjlwch manylaf. Dymuna y Cyfarwyddwyr hysbysu eu bod yn barod i dderbyn symiau o arian fel arian benthyg- ar y telerau canlynol o elw £ 4 y cant i'w gator ar ddau fis; £ 4| y cant ar bedwar mis; a £ 0 y cant ar chwe' mis. Am hysbysrwydd pellach, ymofyner a Mr. E. ROBERTS, yn Swyddfa y Gymdeithas, 34, Victoria- street, Merthyr. 1487 .^33^ AT YMFUDWYR. SMIST" TO EMIGRANTS. General Agent to all America/n and Australian* Sailing Ships and Steamers. N M. JONES (CYMRO GWYLLT), Passenger Broker, 28, Union-street, Liverpool, Gor. wyliwr i'r Llinellau canlynol Inman Line- Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, State. Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn hwylio i wa hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a'r Tiriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael y cyfarwyddiadau gofynol drwy anfon llythyr iV cyfeiriad hwn. Caiff pawb a ymddiriedo eu gofaA ddo y sylw manylaf. Cynorthwyir y Cymro gan Mr. JAS. REES, brodor o Merthyr Tydfil. Dymunol gan y Oymro allu hysbysu y. Gyhoedd fod ganddo f TY GYMRMIO^ eangaf a mwyaf cyfleus i Deithwyr cut Ymfudwyr yn L'erpwl, a'r agosaf i'r Landing- Stage.-Cofier y Cyfeiriad, N. M. JONES (CYMRO GWYLLT), 28, Union-street, LiverpooL D.S,—Gellir ymholi yn Aberdar A John Jamosi Crown HoteL
DARLLENFA A LLYFRGELL NEWYDD…
.edi dyfod i'r penderfyniad o geisio cael 4reth o geiniog yn y bunt i gael ein darllenfa i fyny; hyny yw, os bydd mwyafrif o dreth- dalwyr y plwyf dros hyny. Y rheswm eu bod am osod treth ydyw, am eu bod yn credu mai dyna y ffordd hwylusaf i gael y sefydliad i'r lie, ac am fod yr amserau mor dlawd i gasglu tanysgrifiadau gwirfoddol. Ymwelodd dirprwyaeth a'r Bwrdd Iechyd dydd Iau wythnos i'r diweddaf, i geisio ganddynt alw cyfarfod o'r trethdalwyr yn nghyd er ystyried y priodoldeb neu yr anmhriodoldeb o osod treth o geiniog y bunt, at y trethoedd presenol, i godi y sefydliad rhagddywededig; ond er eu siomiant, derbyniad oeraidd iawn a gawsant gan y Bwrdd, er hyny hyderwn na fydd iddynt lwfrhau, ond y teimlant fod eu hachos yn dda a llwyddiant o'u blaen. Digon tebyg y bydd cyfarfod cyhoeddus yn mhen wythnos neu bythefnos. Y mae yn eithaf gwir fod y treth- cedd yn uchel yn bresenol: ond pa faint o'n trethdalwyr fydd yn achwyn am osod ceiniog y bunt yn rhagor ar y trethoedd er mwyn cael darllenfa gyhoecldus i'r lie ? A ydyw yn debygol y bydd ein trethdalwyr yn anfoddlon cael eu trethi felly er mwyn cael lie iddynt hwy a'u plant fyned yn eu horiau harnddenol ? Pwy a wyr faint o lea allasai darllenfa wneyd pe byddai un i'w chael yr adeg bresenol, pan y mae cymaint o segurdod drwy y plwyf, a'r trigolion heb un man i fyned? Achwynwyd Ilawer cyn hyn am dreth y Pare sydd genym yn y lie, ond pa faint sydd yn achwyn yn bresenol ar y dreth hono ? credwn y gellid eu rhifo mewn amser byr, a chredwn hefyd mai y rheswm am hyny yw, am ein bod wedi dyfod i weled ei werth. Gadewch i ni gofio, gyfeill- ion, os collir yr ymdrech hon, na ellir cael mantais arall am flwyddyn; gan hyny, os ydys yn meddwl rhywbeth am lwyddiant y mudiad da hwn, ni ddylid gadael y fantais bresenol i fyned o'n dwylaw. Yn sicr, os collir yr ymdrech hon, ni ellir dweyd fod trethdalwyr Aberdar yn awyddus iawn i geisio codi yr oes.—Yr eiddoch, UN AM WYBODAETH.