Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Masnach yr Haiarn a'r Glo. Ynrhanbarth CASNEWYDD-AR-WYS mae masnach y reiliau haiarn yn fwy byw- iog, a masnach yr haiarn bwrw yn ym- ddangos yn fwy iachus. Mae archebion am haiarn wedi dyfod o Brazil a Penrhyn Gobaith Da yn y rhanbarth yma. Mae miasnach dda a'r porthladd hwn mewn tmwn Ysbaenaidd. Mae yn ymddangos fod ssnwy o gyffro yn masnach y tin-plate, ac y mae ychydig yn ychwaneg o archebion wedi dyfod i law, ond fod y prisoedd yn isel. Am weithfeydd haiarn NANTYGLO A'R BLAENA, rgellir dywedyd fod y gobeithion a goleddid yehydig o amser yn ol am adfywiad i .,gymeryd lie, nad yw hyd yn hyn wedi eu gwireddu. Mae y gweithfeydd yn segur. Mae allforiad glo yn myned yn m-laen yn a'hagorol dda, o holl weithfeydd rhanbarth y Casnewydd. Am reoleiddwch gwaith, y mae rhan- "barth RUINI yn dal ei chydmaru a'r rhanbarthau cylch- ynol. Mae y cais am lo i'w allforio, a glo at wasanaeth tai, yn dda odiaeth; ond hyd .,onl ddel cynydd yn y cais am haiarn, yr anhawsder mawr fydd gwaredu cynyrch Huosog y gweithfeydd glo niferog o gylch y He sydd yn awr yn agored. Mae haiarn bwrw yn cael gwerthiad parod, a'r tebyg- «lrwydd yw y bydd rhai o'r ff srrnesi blast yn cael eu hadgyneu yn fuan. Mae par- otoadau yn cael eu gwneyd i hyny drwy fOOy ffwrnesi yn cael eu^hadgyweirio. Yn mid oes ond rhyw ychydig o ymysgwyd wedi bod ynyrwythnos ddiweddaf. Mae y rhan fwyaf o berchenogion glo yn well off am orders, a'r prisoedd yn dyfod yn fwy sefydlog, ac meddent, ar dueddiad i fyny. Mae gweithfeydd Dowlais yn llawn ffrwst, ac nid oes dim working stock. Nid oes yr in arwydd o fod gwaith y Gyfarthfa yn ailgychwyn, ond y mae ysbryd proffwydol- iaeth wedi fy meddianu y bydd i ail gych- wyn o hyn i fis Mawrth nesaf. Deallwyf fod Mr. Fothergill wedi darfod a bod yn manager ar weithfeydd y Plymouth, a'i fod yr un modd yn ei gysylltiad a gweith- feydd Llwydcoed ac Abernant. Am rhan- barth CAEKBYDD rhaid i mi ddywedyd fod y prisoedd yn gefydlog am lo, er fod allforiad i wledydd tramor yn arddangos cynydd. Mae taflu golwegydmariaethol ar hyn a allforiwyd o'r lie hwn i borthladdoedd tramor yn y blyn- yddoedd 1874, 1875, ac 1876, yn arddangos cynydd mawr. Mae yr hyn a wriaed yn y blynyddoedd a enwyd fel y canlyn:— 1874. u.2,924,638 o dunelli. 1875. 2,800,510 1876. 3,509,174 Bios fod sefyllfa derfysglyd y Dwyrain, a'r ansicrwydd cyffredinol sydd yn awr yn bodoli am y canlyniadau, yn tueddu yn fawr i achosi ansefydlogrwydd mewn mas- nach. Am y glo at wasanaeth tai, nid yw y cais am y cyfryw mor ddymunol ag y dysgwylid, a hyny i raddau yn cael ei achosi gan brinder y gauaf presenol. Mae pwyllgor unol Bwrdd Cymodol Deheudir Cymry a sir Fynwy wedi cyfarfod unwaith yn rhagor, a'r Meistriaid Routh, Kirk and Co., Leeds, i fyned trwy lyfrau y Meistri mewn trefn i gael allan bris cyfartal y glo am y chwe' mis a aeth heibio. Beth bynag a fydd dyfarniad y bwrdd, digon tebyg, ysywaeth, na fydd codiad yn nghyflogau y gweithwyr. Yn nglofa LL WYNYPIA. mae rhyw ychydig o annghydwelediad, ond hyderaf nad oes i'r cyfryw un lawer o oes- ddyddiau yn yr amser cyfyng presenol. Yn mhwll y MARQUIS OF BUTE, fel ei gelwir yn Cwm Rhondda, mae yn strike er ys tair wythnos, oblegyd yr eight working hour system, yr hon a elwir gan y gweithwyr yn double shift. Gwelais yno wragedd a phlant yn wylo yn hidl oher- wydd eu hamgylchiadau presenol, a'u gwyr ,hefyd yn gwelwi. Cyfrynged rhagluniaeth Dtiw drwy ddoethineb dynion i gael pethau i drefn yn fuan, fel y caffo ineibion llafur ymaflyd yn eu gwaith, a gwragedd tyner- galon, a phlant glandeg, adloniant ac ym- ..geledd priodol. Yn rhanbarth ABERTAWE nid oes ond y cymylau duaf yn hongian Tiwch ben ac yn defnynu ar fasnach, heb yr un arwydd fod yr awyrgylch fasnachol yn dechreu gwasgar ymaith y cymylau a'r niwi dudew sydd yn gordoi yr holl gylch- oedd. Nid oes cymaint ag un gwaith o un magnitude yn troi allan ddim mwy na haner aaeu ddwy ran o dair o'r hyn a arferent wneyd, tra y mae ereill ar sefyll yn llwyr. Mae gweithfeydd mawr y tin-plate, pan mewn llawn waith, yn rhoi gorchwyl i diloedd lawer o weithwyr o bob oed; nid ydynt yn awr yn gweithio ond dwy wyth- nos o bob tair. Mae gweithfeydd y patent fuel yn farwaidd iawn, a chanoedd allan o waith, ac y mae llawer o dylodi ac angen yn bodoli drwy hyny. X mae yr .holl gamwri hyn yn cael ei briodoli ganddynt i gynhyrfwyr yr oes. Mae masnach y glo yn weddol fywiog ac ystyried nad oes dim galw am lo at y gweithfeydd haiarn, &o., ond mae y prisoedd am y glo, a'r gyflog am ei dori yn druenus o isel, fel nad oes fawr enill i'r meistri na'r gweithwyr. Yn rhanbarth LLANELLI mae y duwch yn clirio i raddau, drwy fod y Meistriaid Nevill & Co. a'r gweithwyr mewn eymod a'u gilydd. Bydded iddynt barbau am flynyddoedd mewn cydweith- rediad a'u gilydd. Ymddengys fod y pyllau dywededig a fu ar stop yn gweithio i gyd ond un, a'r rhwystr hyny yn cael ei achosi gan y dwfr sydd yn y pwll heb ei godi allan. MASXACHDEITHIWR.

Advertising