Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

LLITlI 0 GEREDIGION.I

[No title]

UNDEB Y GLOWYR.

News
Cite
Share

UNDEB Y GLOWYR. Nos Wenar, yr wythnos ddiweddaf, mewn ystafell eaug, yn y Bute Arms, Aberdar, cy- naliwyd cyfarfod cyhoeddus mewn cysylltiad a'r mudiad hwn, pryd y cymerwyd y gadair gan Mr. Thomas Thomas, Cwmdar. Dywed- odd y cadeirydd yn ei anerchiad agoriadol fod y cyfarfod yn un hollol annysgwyliadwy, a bod'y cyfeillion dyeithr wedi dyfod y tro hwn heb eu dysgwyl. Yr oedd efeyn wir broselyt i fudiad yr Undeb cyffredinoJ, a bod y cyfeill- ion yn Lloegr wedi dyfod i cldeall ei werth, ac am gael cydweithrediad Cymru, a gobeithiai ef y celid hyny yn fuan. Wedi hyny, galwodd y llywydd ar Mr. R. Lewis, un o'r cenadau a anfonwyd ga.n v cyfeillion yn Lloegr i osod yr achos o flaen eu cydweithwyr yn Nghyniru, yr hwn oadd Gymro, ac a siaradodd Gymreig. Dywedodd mai peth drud yn y cyffredin oedd addysg, ond nad oedd neb, y mae ya debyg, wedi prynu eu haddysg mor ddryt id a'r glowyr, a chyfeir- iodd at symiau anferth oedd wedi eu gwario gan lowyr Gogledd Lloegr, a hyny yn hollol ddiles, am fod eu cydweithwyr yn Nghvmru yn gweithio yn eu herhyn trwy gyflawni eu gwaith, ac felly hwythau yn Lloegr yn gwneud yr un peth pan y ceisiai y glowyr yn Nghymru enill rhyw amcan. Eu bod bellach, wrth weithio yn erbyn eu gilydd, wedi myned mor isel, fel, os na chelid ymwared buan, y bydd- ent y dosbaith truennsaf a berthynai i gym- deithas. Yn awr, pa fodd i ddyfod o'r cyflwr i-el hwn? nad oedd y glowyr yn Lloegr yn gweled yr un llwybr ond cael Undeb Cyffred- mol rhwng holl lowyr y deyrnas. Yr oedd y meistri, y naill flwyddyn ar ol y Hall, yn myned a llafur y gweithwyr i'r farchnad, ac er mwyn cymeryd contracts eu gilydd, yn gwerthu y llafur hwnw yn ihatach na'u gilydd, a'r gweithwyr, druain, yn gorfod dyoddef wedi y èwbl. Os penderfynai y cyfryw weithwyr i wrthsefyll yn erbyn y gostyngiad, trwy y cyd-ddealldwriaeth oedd rhwng y meistri, byddai glowyr rhan arall o'r wlad yn brysur gyflawni yr orders. Bet4 sydd i'w wneud yute ? Cael Undeb Cyffredinol, a dyna yr unig obaith sydd genym. Dy wedai fod rhai yn barod i sisial mai cael arian oedd yr amcan ond dywedai ef mai nid arian ond undeb oedd eishu. Sylwai hefyd fod gorthrymder y glo- wyr y cyfryw nad oedd neb braidd yn gwybod ei faint, a'r wlad yn dywyll o barthed iddo. Gallai fod rhai yn ofni dyfod allan o blaid yr Undeb yn bresenol, am j r ofuect y collent eu gwaith o'r herwydd ond os byddai i unrhyw berson golli ei waith trwy gymeryd rhan yn y mudiad hwn, fod yr Undeb yn barod i roddi deg swllt yr wythnos i bob dyn, a swllt ar gyfer pob plentyn a feddai tra y byddai allan o waith. Wedi cael yr Undeb, cs byddai i un meistr werthu y glo dan feistr arall, yna pen- derfynid ar un waith peidio gweithio iddo ac yr oedd yn dda ganddo ddywedyd fod rhai meistri yn dymuno llwyddiant i'r Undeb. Dywedai hefyd ei fod wedi bod am dde,, wythnos ynNgogledd Cyraru, a bod y glowyr yno bellach wedi dyfod allan fel un gwr dros y mudiad, ac yn foddlontalu rhan o'r treuliau er ceisio darbwyllo eu cydweithwyr yn Ne- heudir Cymru i ddyfod gyda hwynt. Fod y glowyr oil yn awr yn barod i yru i mewn am godiad yn y pris, ond yn unig cael cydweith- rediad giowyr y parth yma o'r wlad, ac y dylent ei gael. Galwyd yn nesaf ar Mr, Thos. Efaliiday, cynrychiolydd arall yr Undeb, yr hwn a anerchodd y cyfarfod yn Saesonaeg. Dywedai mai yr amcan oedd cael Undeb dros yr holl deyrnas, ac os na chelid hyn nad oeddgobaith am wella sefyllfa y giowyr; ond pe celid hyn, credai ef, nid yn unig y gellid codi y gyflog, ond hefyd cael amser byrach i weithio, yn nghyda lluaws o bethau ereill yr oeddynt yn gofyn am danynt yn y Mines Regulation Bill. Bod y sefyllfa yr oeddynt ynddo yn caal ei deimlo, nid yn unig gan y glowyr eu hunain, ond yr oedd eu gwragedd a'u plant anwyl yn gorfod dyoddef gyda hwy mewn mwy nag un ystyr. Yr oedd llawer wedi eu gwario wrth geisio cael y Cymry i'r Undeb, ac yr oedd yn dda ganddo hysbysu fod llafur Mr. Lewis yn y Gogledd wedi bod yn llwyddianus, ac y gobeithiai ef y byddai ei lafur yr un mor llwyddianus eto yn y Deau, pan y deuai atynt fel cynrychiolydd anfonedig yr Undeb, ac na byddai yr amser yn hir nes cael y 346,000 o weithwyr tanddaearol Prydain yn rhwymau yr Undeb. Anerchwyd y cyfarfod hefyd gan Mr. Col- lins, gynt o'r Blaenau. Deallwn fod y cyfeillion hyn wedi cael cyf- arfodydd rhagorol yn Talywaun, Blaenafon, Abeitillery, Porth, Abercarne, a lleoedd ereill yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Pendexfynwyd yn y cyfarfod fod y GWLAD- GAUWR i fod yn gyfrwng i drosglwyddo hanes symudiadau yr Undeb rhwng .Gogledd a De- heudir Cymru.

Advertising

'CYMANFA Y METHODISTIAID YN…

[No title]

MARWOLAETH IARLL DERBY.

HENRY RICHARD, YSW., A.S.,…

[No title]

Advertising