Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

LLITlI 0 GEREDIGION.I

News
Cite
Share

LLITlI 0 GEREDIGION. Dr. Busybody.-Efallai mai nid annerbyniol gan ddarllenwyr lluosog y GWLADGARWR fyddai gair bach neu ddau o hanes y boneddwr parchus uchod, oherwydd darllenir banes enwogion bob amser gyda boddhad a dyddor- deb. Nid ydyw yn hysbys i ysgrifenydd y llinellau hyn yn mha wythnos, mis, na blwyddyn y ganwyd y boneddwr; ond digon yw dywedyd yn bresenol ei fod ef wedi cyr- aedd llawn dwf er ys blynyddau, a bod ei fodolaetb eisioes wedi rhesu un yn ychwaneg yn mhlith enwogion Ceredigion! Dyn bychan o gorffolaeth yw y Dr., yn berchen ar ben coch a gwyneb garw, wedi cael ei hagru i raddau gan vmosodiad y frech wen, feddyl- iwyf. Nis gellir dywedyd fod ein cyfaill yn perthyn i unrhyw alwedigaeth neillduol ei nun, nac ychwaith yn Jlafurio llawer fuag at ei gynaliaeth ei hun, eithr ymfoddlona ac ym- ddigrifa efe yn hytracb mewn chwilio i fewn i helyntion ac amgylchiadau ereill. Y mae yr enw swynol a roddwycl iddo yn ei gyn- rychioli yn bur ddigoll. Ond y mae enwog- rwydd yn nglyn ag ef hefyd, oherwydd y mae y Dr. yna yn arwyddo Doctor, meddai y bob!, a pheth mawr yw bod yn Ddoctor, ys dywed- odd Hen Domos, hyd yn oed bod yn Ddoctor dwr, neu Ddoctor y glue! Derbyniodd y brawd hwn y graddiad uchel a nodwyd am ei weith- garwch a'i ddefnyddioldeb (?) yn yr etholiad diweddaf; ac oddiar hyny hyd yn awr, nid yw efe wedi ymddwyn yn annheilwng o'r diploma a osodwyd iddo! Ond yr hyn sydd wedi synu llenorion, crachlenorion, beirdd, a manfeirdd y gymydogaeth hon ydyw, ei dde- wisiad i'r swydd a ymddiriedwyd iddo yn ddiweddar. Efe, y mae yn debyg, a benodwyd i fod yn farnwr cyfiawn (!) ar y traethodau mewn Eisteddfod fechan yn y gymydogaeth hon, yr hon sydd i gael ei chynal y Nadolig nesaf. Yr wyf fi (ond nid wyf deilwng i farnu) yn meddwl mai beirniad ardderchog a geir yn mherson y Dr., a hyny oblegyd llawer o beth- au.. Yn gyntaf, ni fydd neb yn cael eu clwyfJ o dan ei feirniadaeth oherwydd ei fanylrwydd yn nodi allan wallau gramadegol, &c., canys bydd efe yn addfwyn iawn yn y cyfeiriad hwn; ni wna nodi yr un gwall mewn cys- traweniaeth, sillebiaeth, na dim o'r cyffelyb bethau; canys ni ryngodd bodd iddo ef efrydu rhyw bethau plentynaidd fel hyn! Cadwer mewn cof na fydd yn anhebgorol angenrheidiol fod yr ymgeisyddion yn deall y gwahauiaeth rhwng ac ac ag, a rhwng '¡"w ac yw, &e., Oble- gyd ni bydd y gwr a'r wyntyll yn ymostwng i sylwi ar y fath bethau. Y mae hyn yn gaffaeliad gwerthfawr i rai ieuainc. Y mae un rinwedd arall hynodawl o dda yn y beirniad uchelglodus hwn, sef, nad ydyw yn gyfarwydd ag ystranciau eisteddfodol. Y mae hyn" yn "beth beauty" ynddo. Ni wna efe roddi y ffrwyn i'w anonestrwydd a gwyro barn, oble- gyd ni fu efe yn fuddugol mewn Eisteddfod chwe' cheiniog erioed; ac ni chlywyd i'w allu cyfansoddiadol ericed golli, a hyny am na wybuwyd fod gallu ynddo. Dyn o'r iawn ryw yw y Dr! Y mae yn syndod na buasai wedi cael ei gyflogi yn gynt, yn lie ei adael allan ar hyd ei ddydd yn segur. Ond y fell. dith oedd, ni wyddai neb am y boneddwr! Yr oedd y dyn yn un mawr o'r blaen, er na chyfansoddodd diaethawd erioed, ac er nad astudiodd yr iaith; ond ni wyddai y bobl hyny! Y mae yn wir'ei fod ef wedi deall ei fod yn glamp o lenor, ond ni ddywedodd y brawd hyny wrth neb hyd yn ddiweddar! Da iawn iddo dori drwy yr anhawsder yn y di- wedd, onite 1 0! ie, ie, bobl anwyl; ond ni wyddoch chwi yr holynt i gyd—wyddoch chwi ddim faint gostiodd y swydd feirniadol yma i'r Dr! O! na wyddoch, na wyddcch Bu efe "yn canu penill bach i'w nain" cyn iddi hi ganu yn ol. 0! do, bu y Dr. yn cynoith- wyo un o frodyr y cotiau duon i ymosod ar bersonau neillduol yn y papyrau Seisnig cyn cael yr anrhydedd hon. Bu efe yn ym- roddi yn galed o blaid y brawd a'r napcyn gwyn cyn cael y swydd. Ond wedi i'r ym- rysonfa Seisnig ymdawelu, a chlywed o'r Dr. fod y gwr a'r Lapeyn gwyn yn aelod o'r cyngor Eisteddfodol, ac nad oedd beirniad y traeth- odau wedi ei ddewis, rhoddodd iddo awgrym mai ei adeg ef oedd i ganu; ac felly, canodd y parchedig iddo nes darbwyllo yr holl gyngor i gredu mai "The right man in the right place" ydoedd! Daeth y beirniad i'r golwg yn mherson y Dr. fel mushroom, ac ymgymer- odd a'r swydd mor feistrolgar a phe buasai Gwilym Hiraethog wrth y gwaith. Ni fuasai neb ond Don or yn meddianu y gydwybod i ymgymeryd a gwaith cyffelyb heb ei fod wedi ymostwng i astudio yr iaith, ac anhebgorion traethawd yn gyntaf. Ys dywedodd yr hen wraig gynt, "Rhywbeth rhyfedd yw dysgeid- iaeth!' Llwyddiant i'r Eisteddfod, a bydded ei gydfeirniaid yn falch o'r bachgen clasurol hwn. Llanbedr.- Y mae y Darlleniadau Ceiniog 0 yn dyfod yn boblogaidd yn y dref hon eleni eto. Y mae efrydwyr y coleg ac ereill yn dechreu dyfod allan i'w pleidio, a diameu genyf y ceir cyfres o rai gwir ddifyrus yn ystod y tymor hwn eto. Dyna y diweddglo y tro hwn. MARLAIS.

[No title]

UNDEB Y GLOWYR.

Advertising

'CYMANFA Y METHODISTIAID YN…

[No title]

MARWOLAETH IARLL DERBY.

HENRY RICHARD, YSW., A.S.,…

[No title]

Advertising