Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

UNDEB CYFFREDINOL Y GLOWYR.

L'ERPWL.

News
Cite
Share

L'ERPWL. Dydd Llun, Hydref 25. Dygwyddodd i ni awgrymu yr wythnos ddi- weddaf fod nifer o'r betting men wedi eu dwyn i'r ddalfa yn y dref hon, a gwnaeth yr ynadon heddwch yr hyn a dybient oedd yn gyfiawn a'r fath gymeriadau, sef eu bwrw i garchar i ddwyn penyd yn ol maint y troseddau. Lied awgryma awdwr Seisnig fel hyn ar y mater -Gan fod y Llywodraeth wedi dechreu ar y gorchwyl o ymyraeth yn y mater, y dylent yn gyntaf gyfeirio ffroen y magnel at leoedd uwch na'r "common betting houses oblegyd os na wnant, fe ddengys hyny ar unwaith fod dwy gyfraith yn y wlad, sef un i'r tylawd, a'r llall i'r cyfoethog. Y mae gan gyfoethogion a phendefigion y wlad eullefydd cyhoeddus at y gwaith, ae os oes graddau mewn drygioni, fe ddylai y ddeddfwneuthnrfa daro yn gyntaf oil ar wraidd y pren, a'i dori i lawr, gan wneud clean sweep o'r cyfan, oblegyd fe fyddai un goelcerth fawr yn well na ryw fan danau. Y Eiae diffygion yn hyn, fel mewn llawer peth arall; ond gan fod yr oes hon yn cael ei chyf- rif yn oes y diwygiadau, fe ddichon y daw rhywbeth gwell i'r golwg tua chanol yr oes negaf. Os ydym i gredu dywediadau athrawon yr oes, ni glywsom ddyn mawr yn dweyd, yn ddiweddar, fod mwy o baganiaid yn Mhrydain :na'r un wlad o dan haul y ffurfafen ac yn ol yr ystadegau a ddarllenodd, nis gallwn lai na rhoddi cred bell yn ei ddywediadau. Dadleuai fod y gymdeithas ddynol, mewn byd ac eg- lwys, yn un clystwr o lygredigaeth, a hyny i'w briodoli yn hollol i'r dull y bydd gwahan- ol ddosbarthiadau o'r teulu dynol yn byw. Pe gellid cael paentiwr digon celfydd i dynu dar- lun o ddynoliaeth yn ei wahanol agweddau, byddai hyny yn ddigon o bregeth i bawb, a gellid galw y cyfryw yn ngeiriau y siaradwr ei hUD, A panorama for the million that would reflect to the walls of eternity." Y mae llafur a gwladgarwch parod a diffino 3Lim Rye, yn ei chysylltiad ag ymfudiaeth, yn parhftHj a bydd, un o'r dyddiau nesaf, yn cy- maryA o dan ei gofal haner cant o blant am- ddifaid o'r Kirkdale Industrial Schools i'w dndodrosodd i America Brydeinig. Merched fydd j fintai hon i gyd, yn amrywio mewn o 5 i 11 oed. Bydd lie i obeithio am i ymdrechion y foneddiges wladgarol gael en eoroini a llwyddiant, gan y byad symud y jfcttt o nythle Uygreaigaeth, a'u gwasgaru l wahanol fanau, lie cant eu dysgyblu yn briod* >1; oblegyd os ydym i gredu tystiolaeth ym- welwyr a'r Industrial Schools, mae lie i ofhi aad yw y gofal priodol yn cael ei gymeryd o'i xwahanol ddosbarthiadau. Dywed yr ymwel- ydd fod yno ddau fath o blant, sef plant pobl dylodion rhinweddol, a phlant pobl dylodion drygionus, a bod y ddau ddosbarth yn cydym- gymysgu, a bod yn beth ail i anmhosibl i gym- deithas yr olaf beidio a llygru y blaenaf, am nad ydynt wedi dysgu gwybod dim ond drygioni a lladrad o'r dydd eu ganed nes iddynt sangu ar drothwy yr ysgoldy. Sicr ydyw y cyduna pawb o synwyr cyffredin nad oes cynllun gwell i'w gael er difa llygredigaeth, a dysgu moesau gwell ir genedl sydd yn codi, na'r hyn a gynygir gan y foneddiges wladgarol Miss Rye. Dymunwn i'r darllenydd ddeall nad cyfoeth neu elw arianol sydd yn cynhyrfu ei haeddgarwch fel hyn, dim mwy na ilai na bod ganddi galon fawr wladgarol. Rhaid ydyw dweyd ei bodyn eithriad i'r emigration agents yn gyffredin, oblegyd y mae yn rhaid i ni oil gael tal am ein llafur, onite byddwn yn sicr o fethu byw. 0 ganlyniad, priodol y gellir ei henwi Tywysoges Ymfudiaeth. Awgryma y newyddiaduron Americanaidd fod Postmaster General y Taleithiau Unedig am ddwyn cynygiad yn mlaen er gwneud gos- tyngiad arall yn nhrosglwyddiad llythyrau rhwng y ddwy wlad. Dadleua fod y tal chwe' cheiniog yn talu yn llawer gwell na swllt, a dywed, pe gostyngid ef eto y cynyddai cylch- rediad llythyrau rhwng yr America a Phry- dain i bedwar cymaint a'r nifer presenol, a byddai hyny o angenrhaid yn sicr o. dalu yn well i'r ddwy lywodraeth na thrwy godi y pris presenol, Deued yr amser ynte pan na bydd ond ceiniog i dalu am gludo llythyr, a phunt am gludo dyn drosodd, yna fe gaiff yr hen frawd Mabonwyson weled gwlacl machlud haul, lie y dysgwvlia rhyw dro enill enwog- rwydd iddo ei hun a syna drigolion y byd is- loerawl. Lied awgryma rhyw ohebydd i ryw wyth- nosolyn newyddanedig fod tynged y GWLAD- GARWR wedi ei sefydlu, a'i ddyddiau wedi eu rhifo ond atolwg, Mr. Huuanol, pwy a'th hysbysodd o hyn ? Fel y gwypot, y mae y GWLADGARWR wedi byw a dal ei dir cyn i luaws o dy fath di ddisgyn oddiar y Glwyd. Safodd yn ffyddlon i'w blaid yn ystod y cythrwfl rhyfelgar yn America, a chydnabydd- wyd ef gan y Drych fel cyfaill ffyddlon i acbos rhyddid, a sicr ydyw y dywed pawb yn ddi- floesgni ei fod yn gyfaill i'r gweithiwr, er iddo, rhai troion, dynu gwg ambell hen gynffonwr amrywiog sydd wedi bod a'i holl fryd ar gyn- hyifu a tharanu ond wedi dyfod i ddydd y frwydr, he could not be found in the ranks. Cofia yr hen ddiareb, ddarllenydd, Mwyaf ei dwrw crochan gwag." Bydd yn hoffder gan gyfeillion yr ymfud- wyr a aeth allan ar fwrdd yr Agerlong City of Brussells," gael ar ddeall eu bod wedi cyr- haedd yn ddyogel i'r tir draw. Cyflawnodd y fordaith mewn naw diwrnod a haner. Moriai ar gyfartaledd dri chant a thriugain milldir yn mhob pedair awr ar hugain. Rhaid ystyried ei bod yn agerlong newydd, a'r peirianau heb fod yn gwbl ystwyth, felly, nis gellid dysgwyl iddi wneud yn well nag y gwnaeth ar y for daith gyntaf. Dengys hyn gynydd a llwydd- iant morwriaeth, a dichon y daw yr adeg yn fuan, pan y gellir teithio yn gyflymach nag a wneir yn bresenol. Wrth fyned heibio, cystal ydyw crybwyll fod yr Agerlong "Nevada" yn yr hafan ddyogel er dydd Sadwrn. Fy rheswm dros wneud y crybwylliadau blaenorol ydyw, fod llawer o Gymry ar fwrdd y ddwy agerlong a sicr y bydd yn dda gan eu cyfeillion yn Nghymru ddeall eu bod mewn dyogelwch. Boreu dydd Sadwrn diweddaf, fe daenwyd mantell galar dros y parth yma o'r wlad drwy farwolaeth Iarll Derby, a diameu v teimlir prudd-der ar ei ol i raddau mwy neu lai trwy yr holl deyrnas. Dydd Sul, am dri o'r gloch, cafwyd araeth gan y Parch Stowell Brown, ar y testyn The upper and the lower classes." Digon ydyw dweyd fod y gwr da hwn ar ei uchelfanau, yn hollol gartrefol gyda'r testyn hwn fel y lleill o'i destynau dewisedig. Gall y neb a fyno ei cael am geiniog yr un, a ti allu bender- fynu ddarllenydd, na chefaist erioed well gwerth ceiniog. Twrw mawr yn yr Iwerddon am ryddhau y carcharorion Ffeniaidd, ac ant mor bell a chwythu bygythion trwy ddweyd y gorfodir y Llywodraeth i'w rhyddhau yn erbyn ei hewyllys. Rhowch Pat i fyw mewn owch a mel, Fe ddengys yno anfoddlonrwydd, A grwgnach wna ar bob peth wel, Gan ddwyn ei hunan i waradwydd Creadur balch o duedd flin, Amlywodraethu tref a gorwlad Pe caffai'r deyrnas iddo'i hun, Ni ddaw ef byth o'r cylch anynad. Er iddynt gael pob peth braidd a geisiasant gan y Llywodraeth, dyma nhw eto fel pe ar eu sodlau ynceisio ac yn dwbl geisio, athebyg na fydd terfyn byth ar eu ceisiadau. An- foddlonrwydd ac uchelgais ydyw nodwedd arbenig y genedl Wyddelig, a mynant yn mhob tref a chantref ddangos hyny drwy herio yr awdurdodau gwladol, ac o'r braidd nad ydym yn ofni dyogelwch y Prif Weinidog pe dygwyddai iddo syrthio i'w gafael. Nid oes lie i amheuaeth nad yw y Wein- yddiaeth bresenol wedi gwneud mwy dros y Gwyddel na thros un arall o ddeiliaid eih Mawrhydi; ac wedi'r cyfan, nid oes dim ond llinellau anfoddlonrwydd yn rhedeg drwy galon y wlad a'r genedl. Rhaid aros yr am- ser ac os nad all John Bull gael tawelwch trwy ymresymu, caiff ei orfodi i roddi prawf ar yr hen drefh. orfodoL Chrnwysa y golofn dda orlawnder o dro* seddwyr mewn lladradau, llofruddiaethau, a man ddrygau Uai. Oarcharwyd rhwng nos- weithiau Sadwrn a Sul, y nifer enfawr o 241, a dywedir fod 1911 mewn am feddwi yn unig, a'r lleill am droseddau gwahanol. Amrywiai eu cyfoeth arianol o ddwy geiniog hyd bump punt ar ugain, a'r cyfanswm gyda'u gilydd yn bedair punt a deugain. Cafwyd un ddynes yn mhlith y lluaws, wedi bod o flaen y fainc ddwywaith ar bymtheg am yr un trosedd, sef meddwdod. Pan gyhoeddwyd y ddedfryd fod yn rhaid iddi dreulio mis mewn carchar, diolchai i'r boneddigion ar y faine gyda chry- bwyll y medrai sefyll mis ar ei phen. Nid yw hyn ond ychydig nodion gwasgaredig, a'r hyn a elwir yn Life below stairs;" a chan fod fy llith wedi rhedeg dipyn yn faith, goddefwch wrth dynu pen ar y belen i mi grybwyll nad oedd yn mhlith y troseddwyr, ddim mwy na dau o'n cenedl ni. Byd gwych i bawb, a llwyddiant i'r hen Omeraeg, medd yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.

AT DRETHDALWYR ABERDAR.

Advertising

(HYSBYSIAD).

Advertising

Y TRYCHINEB YN AVONDALE.