Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

YMWELIAD A FFYNONAU MEDDYG-OL…

Y PRYDDESTAU AR "EDEN."

Advertising

OYFARFOD Y TELYNORION YN LLANOYER.

MARWOLAETH TALHAIARN.

News
Cite
Share

MARWOLAETH TALHAIARN. Ganwyd Tal. yn yr Harp Inn, Llanfairtal- haiarn, yn y flwyddyn 1810, ac felly yr oedd yn 59 miwydd oed pan y bu farw. Mabwys- iadodd yr alwedigaeth o archadeiladydd, a llanwodd sefyllfaoedd o bwys ac ymddiried mawr yn ystod ei oes. Bu am hir amser yn ngwasanaeth yr enwog Syr Joseph Paxton, ac yr ydoedd yn arolygu y gwaith o adeiladu palas ardderchog y Barwn Rothschild ynymyl Paris. Am y misoedd diweddaf, nid yn unig yr oedd ei aelodau yn cael eu dirdynu gan y gout, ond yr oedd afiechyd tumewnol peryglus wedi gafael ynddo ag oedd yn sicr, os na chai war- edigaeth buan o hono, o gario ei fywyd ym- aith. Yr oedd y bywyd unig a dreuliai, y poenau artdithiol a ddyoddefai, a'r rhagolwg ar yr operation peryglus, wedi taila meddwl y bardd i gyflwr o brudd der ac iselder gofidus, -gofidus, nid yn unig iddo ei hun, ond i bawb o'i gymydogion, a dangosai yr ardalwyr yn gyffredinol eu cydymdeimlad dwysaf ag ef. Pan oedd eifeddwlfel hyn megys dangwmwl, fe geisiodd y bardd, y mae yn ddrwg genym hysbysu, rbddi terfyn ar ei fywyd trallodus trwy ollwng ergyd o lawddryll i'w ben yn ymyl y glust. Fel y mae yn rhyfedd dyweyd, er fod y belen wedi suddo i mewn i'w ben, ni chymerodd ei fywyd ymaith, a dydd Mercher, y 13ag cyfisol, llwyddodd y meddyg i dynu y belen allan. Buasai yn well genym beidio cyhoeddi y ffaitl ofidus hon, ac ymataliasom rhag ei mynegu yr wythnos ddiweddaf, er ein bod yn ei gwybod; ond gan fod y newydd wedi rhedeg drwy y wlad, a hyny mewn gwa- hanol ffurfiau, barnwn mai gwell ydyw gadael i'r byd wybod pa fodd a than ba amgyichiadau y cymerodd y dygwyddiad galarus le. Ar ol tynu y bullet allan, dangosodd y bardd ar- wyddion gwellhad-daeth yn fwy siriol a bywiog; oud nid oedd hyny ond byr, megys tywyniad haul trwy gwmwl, ac yn fuan iawn newidiodd eilwaith,—suddodd yn raddol; a'r Sul cyn y diweddaf, yn nhy ei chwaer, yn Llanfair, diffoddodd gwreichionen olaf bywyd un o hoffusaf blant y gan, ac ehedodd ei enaid at Dduw, yr hwn a'i rhoes. Nos Lun cynaliwyd trengholiad gyda golwg ar ei farwolaeth o flaen Dr. Pierce, crwner sir Ddinbych, a dygwyd rheithfarn iddo farw drwy achosion naturiol, oedd yn tueddu i beri gwallgofrwydd meddwl.—(O'r Gronicl Cymru.) I PELENI HoLMWAY.—Bheol Bywyd.—Y presenol yw y cyfie mwyaf cymhwys i sylwi ar y pegynau ac mae iechyd pawb yn gorphwys arnynt. Mae yn rhaid cau allan o'r cyfansoddiad yr holl anmhuredd ar eu ymddangosiad cyntaf. Mae gwisgoedd, a bwydydd yr hwn a dreulir yn dda yn y cyfansoddiad dynol, yn rhwym o gyfoethogi y gwaed a'i elfenau meithrinol. Mae rhinweddau y cyf- newidiad graddol a weithir gan Beleni Puredig Hoi oway yn ateb yn gywir i'r angenrheidiau hyn, ac y maent yn cryfhau y giau ac yn adfer cylchrediad y gwaed i'w le yn drefnus a rheolaidd. Mae y Peleni rhagorol hyn yn cadw rhanau naturiol y corff mewn fath gyfartaledd, fel y maent ynatalpoenynypenobob math, y beil, twymynau, y clefyd rhydd, (diarhoea,) a phob anhwylderau cyffelyb.

Y TRYCHINEB YN AVONDALE.

Y PRYDDESTAU AR EDEN.