Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

MADOG LWYD.

News
Cite
Share

MADOG LWYD. PENOD LT. Arglwydd Mansel yn derbyn y cynyg, gan syIwi,- "Arglwydd Robert Vernon a ymbiliodd arnaf fi yr wvthnos o'r blaen i ofalu am My- famvv Morgan, a'i chadw yn gloedig mewn ystafell ddirge], rhag i'w wrtbymgeisydd ef (Madog) ddyfod a myced a hi ymaith. Ym- ddengys ei fod wedi clywed fod Owain Glyc- dwr a'i wyr wedi croesi y bargodion, ac yn dynesu at Morganwg, a bod rhyw Fadog yn ben swyddog yn ei Ivs; ac ofnai mai Madog Llwvd ydoedd, gan i'r ceisbwl a Paulinus yr eunuch ei hysbysu mai i'r llys Glyndwraidd y ciliodd. "Diolch byth am fod Myfanwy anwyl yn fyw; bwda'r arian, a gollwng dithau yr angyles hudolus yn rhydd." Mansel a'r pentrulliad, yn cael eu canlyn gan Madog a'i gwmni, yn brysio tua chyfeiriad y daeargelloedd; ac wedi myned at y mwyaf dirgelaidd o honynt, gwaeddai y pentrulliad ar Myfanwy, ac agorodd y drws, pryd y rhuthrodd y cwmni gwladgarol achalon-wresog i mewn yn orfoleddus, a Madog yn flaenaf, yr hwn, pan welodd Myfanwy, a'i cofleidiodd yn haner gwallgofus, a'r boll gwmni yn cyd-dy- wallt dagrau cydymdeimlad wrth weled brwd- frydedd cariadus y par ieuanc ar eu c.yfarfydd- iad ffodus presenol. Aeth rhai mynydau heibio heb i neb dori ar ddystawrwydd y lie; o'r diwedd, gofynodd Madog yngalon bryderus,- "O! Myfanwy, gobeithiwyf nad wyf wedi cofleidio yn fyrbwyll eiddo arall!" "Na, Madog bach, yr wyf wedi cadw yn ferch rydd er myrdd o rwystrau, er mwyn Madog anwyl!" "Pethmawr yw cariad, Myfanwy; y mae cariad yn gryfach nag angeu?" sylwai Madog, pryd yr ychwanegai hithau,— "Trechais holl gynllwynion dichellgar Ro- bert Vernon, a cbedwais fy bun yn ddifrycbeu- lyd yn ngwyneb y profedigaethau mwyaf chwerwon." "Yn awr, tyred allan yn fy mraich," meddai Madog wrtbi, "gobeithio nas medr neb ond angeu ein gwahanu rnwyach!" Yr holl gwmni Glyndwraidd yn ymadael a phalas Arglwydd Mansel, a Myfanwy gyda hwynt; a pbrysurodd Madog a Myfanwy, ac Einon Hopcyn tua Phenygraig, a dychwelodd y lleilJ i'r gwersyll ar lan Nedd, yn ol gorchy- myc y Tywysog. Cyrbaeddodd y cwmni ieu- anc i Penygraig, a mawr fu gorfoledd Elen Morgan a'r teulu oil wrth weled Myfanwy a'i chydmar wedi dychwelyd yn ddyogel ac an- rbydeddus. Anfonwyd yn fuan (yn ddirgel- aidd) am Hopeyn Morgan a chaplan y fyddin Glyndwraidd; a boreu tranoeth, trwy ganiatad offeiriad y lie, cysylltodd y caplan Cymreig Madog a Myfanwy mewn glan briodas yn Eglwys Catwg. Wrth ddychwelyd o'r seremoni briodasol, sylwai Madog wrth ei briod newydd hawdd- garol,— "Myfanwy fach, ai tybed nad oes rhan mewn priodas ?-rbaid ei fod, neu nis gallaswn gyf- arfod a thi y ddoe mewn modd mor rhaglun- iaethol, na'th gael yn y diwedd yn anwylwraig fy mynwes, yn ngwyneb y fath lu o rwystrau mynyddig." "Madog anwyl, bach y gwyddost am y mil profedigaethau chwerwon ddarfu i mi ddal, er mwyn bod yn eiddo i ti. Chwareuodd Hywel dy frawd ran y bradwr mwyaf cyfrwysddrwg a mi," meddai Myfanwy, pryd yr ocheneidiai ein harwr yn bruddfeddyliol wrth gofio am ei ddi- henydd drwg, gan awgrymu iddi ei ddiwedd drwg. — r>- Hithau yn ysgwyd ei phen a sylwi yn mhell- ach,— "Ondobawb dynion byw, Robert Vernon yw y cnaf mwyaf. Cynygiai i mi lonaid bwrdd o aur pur, am i mi gydymffurfio ag ef yn ei ddymuniadau llygredig! Ond Ah! cefais nerth i gadw yn ddihalog yn ngwyneb llu o'r cynlluniau mwyaf dichellgar a ddyfeisiwyd yn erbyn merch o fewn anwn erioed. Bu y ddau Vernon a'r rhaff am fy ngwddf yn bygwth fy nghrogi, os na wnawn addaw bod yn wraig i Robert y mab!" Madog yn gwenu, ac yn dywedyd wrth ei briodas ferchw yryfol,- "Daliasom y ddau gnafystrywgar; maent bellach yn ddigon dyogel yn ngafael y Glyn- dwriaid, ac ni ddihangant heb dalu y ffyrling eithaf." Y cwmni priodasol yn cyrhaedd Penygraig, lie eu croesawyd yn frwdfrydig, ac yr huliwyd y byrddau gyda'r danteithion goreu. Erbyn hyn yr oedd Meilir, Rhys ap Dafydd, Hopcyn Morgan, y Caplan, a Madog a'i rieni hoff wedi cyrhaedd i'r wyl briodasol, yn ol y gwahoddiad arbenig, a chlywid swn can a gorfoledd yn ad- seinio trwy holl neuadd eang Penygraig. Ar ddiwedd y giniaw, eyfododd Madog i fyny i anrhegu ei dad anwylgu a'r chwe' chan' gini a dderbyniasai gan Arglwydd Mansel; a chyflwynodd i'w gadwraetb, yn nghanol gor- foledd mawr, y weithred hono o roddiad i fyny y Drumau, pa un a wnawd gan yr unrhyw dirfeistr gormesol. "Madog anwyl, fy mab," meddai y tad yn ddrylliog ei deimladau, "y mae dy lwyddiant yn anhygoel, a thuhwnt i ddim a ddysgwyliais erioed; y mae llaw yr Arglwydd o'th du, ac yn gwneuthur pethau mawrion drosot." Angharad Llwyd yn cyfodi yn nesaf, a aylwi,— "Bydded yr arian a'r Drumau yn eiddo bythol i Madog a'i hiliogaeth,ei eiddo cyf. iawn ef ydynt. Ni cheisiwn ganddo ond cael byw fel deiliad ufydd iddo ar ryw gwr o'r ystad eangfawr." Y tad yn ateb yn doddedig,- "Felly y boed; eiddo cyfiawn Madog fy mab ydynt, a gwn y cofia mab mor anrhydedd- ua a ffyddlawn am ei rieni tlodion. Madog, gyda theimladau mabaidd toddedig, yn taflu dau can' gini i arffedog ei fam, gan sylwi,- "Bydded yr arian yna at eich gwasanaeth i ddodrefnu y ty, a phrynu ystoc o anifeiliaid i ddodi ar y tir; a chaffed amaethdy y Drumau fod yn feddiant i chwi hyd eich bedd; a bydded y gweddill o'r ystad at fy ngwasanaeth inau, a'm hanwyl dad yn arolygydd dros y cyfan." Angharad Llwyd yn sylwi yn orfoleddus ei thoD,- "Ni bu mab erioed fel Madog ein mab ni. Y mae ei ffyddlondeb, ei haelioni, a'i lwydd- iant digyffelyb wedi ein gyru i syndod per- lewygus." Myfanwy hithau yn sylwi gyda gwen cariad yn dawnsio ar ei gwynebpryd angylaidd,- "Ni chaiff eisiau byth i fod ar deulu caredig y Drumau tra y byddo yn ein gallu ni i'w cy- nortHwyo." "Da iawn, Myfanwy," meddai Rhys ap Dafydd, "y mae dy ymddygiad yn ganmolad- wy. ac yn esiampl i wragedd ieuainc ein gwlad." Einon Hopcyn yn cynyg am gadw hanes y briodas yn ddystaw oddiwrth Edith, rhag y byddai i'r fath newydd annerbyniol ei gyru yn wallgofus; a Meilir yn cael ei anion gan Madog i hysbysu y Tywysog o'r penderfyniad, Kc i wneud trefniadau cyfatebol. Boreu tranoeth yr oedd Madog yn canu yn iach i'w anwylyd briodasol, ac yn cychwyn i garslyn y gwersyll, gyda'r dealltwriaeth yr an- fonai am dani pan yn gyfleus i'w derbyn. (I'w orphen yn y nesaf.)

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD IFOR-AIDD…

Y PRYDDESTAU AR EDEN.