Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

ABYSSINIA-D YCHWELIAD MR.…

News
Cite
Share

ABYSSINIA-D YCHWELIAD MR. POWELL. Rhyw yehydig fisoedd yn ol, fe gofia ein darllenwyr i ni wneud yn hysbys trwy ein colofhau fod un o'r Mri. Powell, enwau pa rai sydd mor gynefin mewn cysylltiad a masnach lo Deheudir Cymru, wedi cael ei ladd, tra ar ymweliad ag Abyssinia, gan lwyth anwaraidd, a bod ei frawd, a Mr. Jenkins, ei frawd-yn-nhyfraith, wedi cych- "Wyn tuag yno er gwneud ymchwiliad i'r amgylchiad, a dial os oedd modd, ar y llof- ruddwyr. Y maentyn awr wedi dychwelyd, -wedi eyflawni yr amean oedd ganddynt mewn golwg. Y maent wedi llwyddo i ddvfod o hyd i weddillion eu perthynasau lloruddiedig, y rhai a adnabyddid ganddynt trwy nodau neillduol ar eu danedd, &c. Hefyd y maent wedi dial am y lofruddiaeth, trwy gymeryd gallu arfog o eiddo Tywysog Kassai, oTigre, yn erbyn llwyth y Shangalla, cyflawnwyr y weithred. Pan eyrhaeddodd y dyeithriaid i diriogaeth y Tywysog-yr hwn, fe gofir oedd cyfaill Arglwydd Napier yn ystod y rhyfel Abyssiniaidd — cafodd Mr. Powell a'ifrawd-yn-nghyfraithsicrwydd ganddo y byddai iddo gynorthwyo pob Pry- deiniwr mewn cyfynfer. Wedi rhoddi gallu arfog iddynt, a chyfieithydd a elwid Mer- chis, aethant rhagddynt, ac yn fuan daeth- ant i'r lie y cyflawnwyd y creulonder. Modd bynag, yr oedd y Shangallos, rywfodd wedi cael hysbysrwydd o.'u dynesiad, ae wedi ffoi y rhan fwyaf; Lladdwyd wyth o'r Shangallos anwaraidd, un o barai awisgai got Mr. Powell a lofruddiwyd, a'r hwn, fel y cafwyd ar ddeall wedi hyny, oedd yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn nghyflawn- iad y weithred. Llosgwyd hefyd bump o bentrefydd i'r llawr, yn y rhai y cafwyd dau ddryll a rhai pethau ereill. Cymerwyd pedwar cant ar ddeg o ychain oddiarnynt, a gwnawd pob peth er dangos iddynt y gosp yr oeddynt wedi gosod eu hunain yn agored iddi trwy eu gweithred ddrygionus.

LLOFUDDIAETH HYNOD YN BRUSSELS.

FFRAINC.

SPAIN.

AMERICA.

Advertising

EISTEDDFOD WIR GYMREIG- I…

Advertising

DYDDIADUR Y METHODISTIAID…

Advertising