Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

UNDEB Y GLOWYR.

PWFFYDDIAETH "Y FELLTEN."

DAMWAIN OFIDUS YN AMERICA.

[No title]

Advertising

L'ERPWL.

News
Cite
Share

gymeriad, a'i fwrw i'r carchar, gyda llafur caled am chwech mis. Cafwyd y rhan fwyaf o'r nwyddau yn ngofal Mr. John Deirpel, luddew, yr hwn, fel arfer, a gaiff fod yn goll- edwr. Engraifft arall o'r fast life a geir mewn cy- sylltiad ag un o'r enw Charles G. Wilson, brodor o Greenock. Efe a lanwai swydd o ymddiried o dan faisiandwyr Groegaidd. Ceid allan fod ei ddiffygion yn cyraedd £ 4000. Cyhoeddir yn y newyddiaduron fod can' punt o wobr am ei ddal, a lied awgrymir fod yn fater ail i anmhosiblrwydd iddo ddianc heb ddyfod i afaelion y gyfraith. Un peth sydd yn ddigon sicr ydyw, y gwneir pob ymdrech i'w ddwyn i'r fagl, pe na byddai dim i'w gael ond y gan' punt; ond y mae un peth mwy na hyny o flaen golwg y private detectives, sef y clod a'r anrhydedd perthynol i'r swydd. Priodolir y diffygion arian yn mhob cysylltiad i ymlyniad wrth gwmpeini drwg, a sicr yw fod llawer bachgen gonest a chywirgalou wedi cael ei rwydo i ddyryswch wrth fynychu y betting rooms, a rhoddi clust o ymwrandawiad i eiriau denawl a llyffetheiriol blaenoriaid diegwyddor y bet- ting clubs. Mae hagrwch y fath gynulliadau yn gwaeddi yn uchel am osod atalfa ar y fath gymanfaoedd yn ddiatreg. Talwyd y parch dyladwy i'r Tywysog ar ei ymweliad a thref henafol Caer yr wythnos ddiweddaf. Bydd dosbarth neillduol o ddyn- ion yn cymeryd mantais o amgylchiadau cyff- elyb, ac felly y bu yn Nghaer. Cafwyd allan fod mintai fawr o ladron proffesedig wedi dyfod yno i chwilio am yspail; a'r canlyniad fu i'r rhan fwyaf o honynt ddyfod i ddwylaw y gyfraith, a chael y rhagorfraint o fyned o dan ofal swyddogion ein Mawrhydi i garchar y sir. Nid wyf yn meddwi fod neb o swydd- ogion cyflogedig y llywodraeth yn cyflawni eu dyledswyddau yn well na'r private detectives yn ein trefydd mawrion. Mewn gair, y mae lie i ofni, oni bai fod swyddogion o'r fath, er cadw pethau mewn trefn, y byddai yn an- mhosibl i neb fyw. Mae y panic neu y cythrwfl diweddar yn marchnad yr aur yn America wedi achosi cryn dipyn o gynhwrf, a chymerwyd y mater i fyny gan ddynion o ddylanwad; ac yn eu plith yr Arlywydd U. S. Grant, yr hwn sydd yn condemnio y fath hymbygiaeth mewn iaith gref. Yn ol y newyddion diweddaraf o'r America, deallwn fod y wlad mewn modd cyffredinol yn teimlo dros y gweddwon a'r amddifaid a adawyd yn ddiymgeledd gan drychineb Avon- dale. Dywedir fod dros ddau can mil o ddoleri wedi cael eu casglu yn barod er cyfarfod a'r am- gylchiad gofidus. Da iawn onite fod ein cefnderoedd yn ygor- llewin yn medru teimlo dros achosion o galedi. Clywais gan gyfaill geirwir a ddaeth drosodd yn ddiweddar fod un boneddwr wedi cyflwyno pump cant o bunau at yr achos torcalonus a bod llawer eraill yn dilyn y cyfryw esiampl. Bendith a ddilyno y Philadelphia Man o blegid dyna'r enw osododd wrth y tanysgrifiad. Derbyniais lythyr o rhyvvle yn y Deheudir yn dwyn argraff llythyrdy Caerdydd, ond yn ol a ddeallwyf, mae yn deybg ddarfod iddo gael ei ysgrifenu yn Aberaman, gan un ac sydd wedi bod yn gyfaill i mi pan oeddwn yn trig- fanu yna. Dealled y cyfryw nad wyf yn ewyllysio rhyfd, ond cyn sicred a bod glo yn cael ei bwyso yn Nghwmaman, mi fynaf gael ymgom a'r brawd barfog mewn ffordd o ymhol- iad pa beth sydd ganddo i'w ddweyd am danaf. Am wn i na fyddai yn ddoeth i'r cyfryw sydd yn byw mewn tai gwydr i gymeryd gofal rhag dygwydd iddynt yn anffodus gyfarfod a Storm of Stones. Bum yn Aberdar ar hyd fy oes hyd yn ddiweddar, a gwn nad oes yna neb all ddweyd fy mod yn perthyn i'r Under handed Sneakers a berchid mor fawr gan berchenogion gweithfeydd glo, er deall a gwybod helyntion a symudiadau y glowyr. Gadawaf ar hyn, gyda dymuno maddeuant y darllenydd am y fath grybwylliad ond, gyda Haw, fe garwn i'r ebychiaid gofio pwy ydynt, a beth ydyw eu galluoedd rhyfelawg. Cymaint a hyna, fel pe tae, rhwng crom- fachau. Gwelais nodiad chwerthingar mewn papyr Seisnig am yr hyn a gymerodd le yn llys cof- restriad swydd Middlesex. Yr oedd un o'r enw William Exeter, o Sutton-at-Hone, yr hwn a hawliai bleidlais am ei fod yn dal ty a thir. Gwnaeth swyddog o'r enw Hall wrth- wynebu yr hawl, am nad oedd yn dal y tir a'r ty yn gyfreithlon. Dywedai yr hawliwr ei fod wedi cael y ty a'r tir heb un perchenog er ys tua dwy iiynedd ar bymtheg ar ugain yn ol; nad oedd neb wedi codi un math o wrth- wynebiad iddo fel perchenogydd y lie, nad oedd efe ddim wedi talu ardreth i neb, nac ychwaith yn meadwl am wneud. Ar ol cwrB o siarad a chwerthin, caniatawyd iddo ei hawl fel perchenog y Ile; ac aeth yr hen frawd adatef gyda chalon lawen, ar ol talu diolch i foneddwyr y llys. Llenwir y cylch difyr gan gylchchwareudai Henglers a'i Gwmni, a gwr arall or Eidal olr enw Quagglinie a'i Gwmni. Ceir gwahanol farnau ar y pwnc o ddifyrwch; ac, i'm tyb i, credwyf fod llai o niwed wrth fyned i'r lleoedd hyn najnynychu y singing saloons a'r gambling houses. Mae tueddriadau yr olaf yn arwain i lygredigaeth, pan gawn y Slaenaf yn bywiocau y meddwi, yn hytrach na'i bylu. Sicr ydyw fod gwahanqi fathau o lefydd i'w cael er tiseulio oriau hamddbnol ar hirnos gauaf, a bydd can- lyniadau pwysig yn dylyn y lleoedd a dde- wiedr gan ddynion ieuainc. Effaith a dylan- wad y cynrUliadau llygredig hyn sydd wedi eipip u^ednian gyda'r llifeiriant anferthol i waea dinyeir, a hyny i'w briodoli yn ami i ddy)amwad esiapipl dynion a broffesant fod yn oleuni'r byd. Awjnrymai Stowell Brown, yn ei ddarlith ar "The English of it," y dylai ein dynion cy- hoeddus sefyll megys ar dyrau ein trefydd a'n dinasoedd mawrion, a dyweyd y gwir yn ei liw a'i Inn priodol, heb lawer or wigg artificial o'i gwmpas. Dywedai lawer o bethau difyr a da gwerth myned ychydig filldiroedd i'w gwrando. Cymaint a hyna yn awr oddiwrth yr eidd- och, fel arfer, CYMRO GWYLLT.