Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

UNDEB Y GLOWYR.

News
Cite
Share

UNDEB Y GLOWYR. Fod i bob undeb ei ganolbwnc, ac mai hyny ydyw ffarfiad ei nerth, fydd dan ein sylw yn bresenol. Bwriadaf gyfranu fy ngwersi ar undeb y glowyr yn rhai byrion, o herwydd y credaf mai dyna sydd gymhwysaf idd eu ham- ser a'u galluoedd. Wrth ganolbwnc undeb y glowyr y golygir y gallu hwnw a ymddiriedir i'w gwahanol swyddogion. Y mae swyddog heb ei gynysg- aeddu a gallu o angenrheidrwydd yn swyddog diwerth a diddefnydd; ie, meddai llawer, dyna'r fan y mae'r perygl, sef wrth gynysg- aeddu ein swyddogion a gallu, a'r cyfryw swyddogion yn defnyddio y gallu hwnw i ddybenion twyllodrus a niweidiol. Y mae n wir fod yn nglyn a phob mantais ryw anfanteision ag y mae yn rhaid i ni ymgy- meryd a hwy. Fel hyny y mae mewn cy- sylltiad a phob peth a berthyn i ni yn y bywyd hwn; ond yr ydym yn derbyn ein holl drafodaeth gysylltiedig a phob peth braidd ar y telerau yna, a phaham y gwrthodwn undeb ar yr un telerau? Ateb arall i'r wrthddadl uchod ydyw, Onid y ni ein hunain sydd i ddewis y cyfryw swyddogion, a'u cynysgaeddu a'r cyfryw allu ag a fyddant yn gymhwys ac yn alluog i'w dderbyn ? Ac ond i ni gymeryd y gofal man- ylaf wrth ddewis ein swyddogion, ac wrth eu cynysgaeddu a'r gwahanol alluoedd a berthyn i'w swyddi, cant i un na welwn gyfnewidiad er gwell. Peth arall y dylem roddi ystyriaeth ianwl a difrifol iddo ydyw, Pa un sydd fwyaf-yr anfanteision, neu y manteision i ni o gael undeb? Yn awr, frodyr, yr wyf yn galw ar- noch gyda'r symledd sydd yn gweddu i'r pwnc. Rhoddwch yr ystyriaeth ddifrifolaf i'r cwes- tiwn ar unwaith. Gwyddoch, -trwy brofiad blin, beth yw bod heb undeb; ond ni wybuoch erioed eto yn Neheudir Cymrubeth yw undeb wedi ei reoleiddio yn briodol. Wel, a gawn ni ddyweyd gyda'n gilydd, Ati o un galon a bwriad, a mynwn undeb mewn gwirionedd; ac nid rhywbeth ar lun undeb ?—I'tp barhau.

PWFFYDDIAETH "Y FELLTEN."

DAMWAIN OFIDUS YN AMERICA.

[No title]

Advertising

L'ERPWL.