Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

MADOG LLWYD.

News
Cite
Share

MADOG LLWYD. PENOD L. Cychwynodd y fyddin Gymreig mewn rhwysg calonogol tua Hengistiana; croesodd y ffin wrth Glawdd Offa, a phaa y sangodd Madog gyntaf ar dir y gelyn, er gwneud ymosodiad arno o fewn ei fagwyrydd ei hua, teimlai ei ysbryd yn cyfodi yn uwch nagerioed, a sylwai wrtb Meilir ei gyfalll,- "Y mae yr hen 'ddraig gocV yn myned rhagddi yn barhaus, a Chymreigyddiaeth yn ymddyrchafu er pob rhwystrau. Rhaid dangos i'r Sacsoniaid fod y Cymry yn fyw, ac yn ben- derfynol o ddial cam eu brodyr dioiwed; wele siroedd Caer ac Amwythig yo heldio o Gymry anwladgarol wedi ffoi at y gelyn,—rhaid talu iddvnt am eu hanfadwaith." Meilir yn syllu oddiamgylch ar diroedd gwastadeddog breision y siroedd rhag-gry- bwvlledig, ac yn ateb,- "Oni fu y tiroedd hyn oil yn perthyn i'r Brythoniaid 1 Ofnadwy meddwl! y mae y Seison wedi ein hysbeilio o'n tiriogaethau ffrwythlawn yn Lloegr, a'u gyru i Wyllt Walia, cwr anbysbell o'r ynys, eto am ein hysbeilio o'r gweddill yn anghyfiawn!" "Gwel, Meilir, y palasau new a'r dref grylch- ynol; oddiyno y cai yr hen Hotspur a't fiUvvr Seistiig i ymladd yn ein herbyn; yn y palas prydferth yn y pare cyferbyniol y preswyliai cadbeu ei ail gwmni." Y fyddin Glyndwraidd yn arcs, a'r Tywysog yn gorchymyn ymosodiad buan ar ffau y gel- ion. Cyn pen dwy awr yr oedd y palasau yn gydwastad a'r llawr, a'r dref ymffrostgar yn bentyrau o adfeilion. Rhoddwyd y gwarehodlu ffyrnig a gadweot y lie i fin y cleddyf, a'r dos- barth gwrywaidd o'r boblogaeth a'u cynortb- wyent. Ac yn mlaen yr ymdeithiai y fyddin Gy- mreig yn arwjr buddugoliaethus trwy boll siroedd gorllewinol Lloegr, gan daeau dinystr a chelanedd ar ddeau ac eswy. Owain, wedi clvjwed am anffyddlonds-b Bro Morganwg, a frysiodd yn ei herbyn tua Mynwv, ac a ymosodadd ar gastell Caerffiii yn haf 1402, gan ei gyrneiyd o feddiaut y Noraianiaid-Seis- nig. Gan fod ei Barchedigath o Llacdaf yn chwareu ei ystranci&u melldithiol yn erbyn y Glyndwriaid, gwnaetlusnt ymosodiad egniol ar y lie, gan ddinystrio y castell a phalas yr Esgob, a gyru y gelynkm o'r lie gyda bleen y cleddyf. Gwnawd ymosodiad arall ar dref a chastell Caerdjdd, prif locbes eJycwyr Fitz- hamon a'i ganlynwyr Normanaidd; llesgwyd y dref yn u!w, a dysgas&iit wers .bwvsig i'r goresgynwyr i beidio cellwair gyda hawifreint- iau cenedlaethol y Cymry. Canlynodd Pen- marc a Thretwr yr un dyrged ddinystriol. Erbyn gorphen y gwrhydri milwrol cry- bwylledig, a chael adgyfnerthiou lluosog o wirfoddolwyr gwladgaro), dechreuodd y Glyn- dwriaid eu taith ddychweliadoi tua Machyn- lleth, lie yr oedd y Senedd Gymreig i gael ei chynull gyda brys. Cymerodd y fyddin Gymreig ei thaith trwy ardaloedd breision bro Morganwg, tua chyfeir- jad Castellnedd a phan. cedd y blaecresi wedi cyrhaedd hyd Margam. dechreuai Edith Jones anesmwytho, gau ofyn i'w chymdeithion yn mbn ie yr oedd y fyddin yn mymed i aros a gweithredu r.esaf. Gan ymethai a chael ateb- iad boddhaol, anfonwyd am Madog er gwneud i fynv y diffrg. "Yn mha le y bydd y fyddin yn aros nesaf?" gofynai Edith iddo yo otnus a phctrusgar. "Ger palas yr Arglwydd Vernon, yn dra tbebyg, er cael gweled sut y mae'r hen walch ystrywgar yn ymcaro," atebai yntau. Edith yn cyfodi ei dwylaw mewn syndod brawychus, gan sylwi yn gytfrous,- "Gwelaf y dinystrir fyngobeithion olaf, ac y daw Myfanwy i glawr eto." Madog yn gwenu, gau sibrwd yn bryderus, "Gobeithiwyf y daw, druan anffodus." "O! Madog, beth sydd a wnelwyf a thi? a'm hanturiaethau er dy fwyn dros flynyddoedd yn myned yn ofer." Brysgenad oddiwrth y Tywysog yn galw am Madog, ac yntau yn gorfod myned yn ddisere- moni. "Yn awr, Madog," meddai Owain, "cymer gatrawd o'r m'lwyr mwyaf dewisol, a dos i dalu yr 'hen chwech' i'r hen Vernon fridwrus; boed iddo gael rhoddi dy anwylydi fyny yn ol dy ddymuniad, os yw y rian lanwedd ar dir y byw." Y gatrawd ymosodol yn barod cyn pen chwarter awr, ac Einon Hopcyn, Hopcyn Mor- gan, a Rhys ap Dafydd yu brif gadbeijiaid i arwain yn yr ymoscdiad. Erbyn brig yr lawyr yr oedd y fiotai Fadog- aidd wedi cyrhaedd hyd borth y pare, ac yn brysio i mewa i'r palas, yn cael eu harwain gan y carwr dialgar. Amgylchwyd y palas, a rhuthrwyd i mewn ar bob cyfeiriad, a'r pen cadbeniaid yn blaencri pob adran ymchwilgar. Rhuthrodd Hopcyn Morgan i mewn i'r par- lwr at yr hen Vernon a Robert ei fab; yno yr oeddynt yn gwledda yn ddanteithiol; ac yn haner meddw gan y gwin a yfasant. Daliwyd hwynt yn ddiseremoni, a sicrhawyd hwynt yn garcharorion yti ddidaro. O'r diwedd daeth Madog i'r ystafell yn nghwmni ei swyddogion; a pban welodd y dy hired heb weled Myfaawy, enynodd ei lidiawgrwydd, a bu agos iddo gyflawni gweithred ng yr edifarhasai o'i her- wydd, "Pa le y mae Myfanwy fy anwylydgenych, y dyhirod," gofyrai Msdog yn gyffrous i'r ddau Vernon, "os na ddaw i glawr cyn y boreu, bydd i'r Glyndwriaid gwrolfrydig hyn chwytsu pob Norman a Sais o'r tir, ac ad-dalu i chwi yn haeddiaaol am eich bradwriaeth yn fy erbyn." Dim gair o atebiad oddiwrth y Vernoniaid ystyfuig. Hopcyn Morgan, Penygraig, yn ymaflyd yn ngholer Robert Vernon, y mab, a gofyn,- Dywed, y cnaf, i ba le y dygaist fy merch anwyl, neu byddi yn gelain cyn y boreu;— gwybydd mai Owain Glyndwr yw ein Tywysog goruchaf yn bresenol, ac y bydd yn rbaid i ti a'th frodyr trahausfalch blygu neu dori." Y pendefig ffroenllyd yn ateb yn ysgorn- 11yd,— "Diangodd o'r palas hwn er ylt mis yn ol, ac ais"gwelsom yr ail olwg ami!" Meilir yn neidio yn mlaen yn frysiog, a sylwi,- "Y mae gwynt celwydd gan ei.chwedl-na rodder coel iddi." Madog yn gorchymyn chwilio pob rhan o'r neuaddau cylchynol, a daeargejloedd y palas. Ar hyn wele Owain Glyndwr ei hun yn gwneud ei ymddangosiad, a'r holl filwyr Cy- mreig yn talu gwarogaeth iddo am y cyntaf, a gwaeddi,— "Owain Glyndwr am byth!" nes oedd yr holl adeilad yn diasp&dain. Dechreuodd y Tywysog gyfarch y ddau Vernon yn Ffrancaeg, gan hysbysu iddynt,- "Felmaibyw yr Arglwydd, oni ddewch i gymod anrhydeddus, gwneir eich palas yn bentwr, a'ch tiriogaethau yn anrhaith rhwng eich ddliaid newy uog ac anfoddus." Onti ni thyciai unrhyw oruchwyliaeth hagr yn Dgwyneb ystyfnigrwydd asynaidd y ddau Norman. Yo mlaen yr aeth yr ymchwiliad yn ddiystyr o wrthdystiadau y ddau Vernon a'u gweision coegfoncddig; ac o'r diwedd, wedi hir ym- chwilio, rhoddwyd i fyny y gorchwyl mewn ancbaith, ae ymadawodd yr ymchwilwyr yn athrist, gan ddwyo y Vernoniaid gyda bwynt yn garcharorion rhyfel. Gwersyllodd y fyddin dros y nos ar forfa Nedd, y tu deheuol i'r afou ar gyfer yr hen fynachlog fyth-enwrg; ac aeth Madog, Meilir, ac Einon Hopcyn a gosgordd ddewisol i edrych helynt teulu y Drumau. Oddeutu canol y nos wele Madog yn curo wrth amaethdy myuyddig y Drumau, ac yn gorfod eurn ail a thrydydd gwaith cyn cael atebiad. O'r diwedd wele Llewelyn Llwyd yn cyfodi a dyfod at y drws, a gofyn yn grynedig,— •'Pwy sydd yna yr amser hyn o'r nos?" Madog ac Einon yn ateb,- "Cy feillion mynwesol hen deuIu caredig y Drumau." Llewelyn yn agor y drws, t'r gwirfoddoliaid yn rhuthro i mewn yn orfoleddus, a Madog ac Einon yn cofleidio yr hen batriarcb gwladgarol yn nghanol llif o ddagrau llawenyddol Y tylwyth cariadus wedi adnabod eu gilydd, ac Angharad a Morfydd yn cyfodi am y cyntaf i gyfarch yn roesawus ddyfodiad Madog ac Einon. Yno y bu llawenydd a gotfoledd mawr; a bloeddiai Angharad mewn teimladau ang berddol,- "Diolch i'r nefoedd am adferyd Madog fy mab. Y mae auwylfab fy mynwes wedi dy- chwelyd; midymedy eto, fy Madog anwyl, a tby ei dad." Llewelya yn gofyn, "A welais ti Dafydd dy frawd, neu Hywel dy gydefill." Madog yn edrych oddiamgylch yr ystafell, a gweled fod y ty yn wag o bob dodrefa, ac nad cedd Dafydd i'w gael. Adeg bwysig oedd bon-adgofioti cymysg (drwg a da) hir flyn- yddau yn rhuthro i'r bwrdd, gan beri llawenydd a gofid, chwerthin ac wylo bob yn ail. Madog yn ymatal rhag adrodd y brudd chwedl am Hywel aeffodus, ac yn ateb nas gwyddai ddim am helynt Dafydd ei frawd. ADgharad yn sylwi yn athrist,- "Aeth Dafydd ar goll er ys misoedd yn el, ac ni chlywsom air o'i hanes. Bachgen da oedd Dafydd; yr oedd ef yo caru Madog fel yr oedd Madog yn caru Dafydd-ni fuasai neb yn fwy Hawen nag efi roesawu dychweliad Madog ei frawd!" Madog ac Einon yn wylo fel plant wrth glywed y newydd am golliad eu car diniwed; ond Meilir yn eu cysuro wrth ddyweyd,- Dichon ei fod ar gael eto; nid da anobeithio y tu yma i'r bedd." Morfydd yn adrodd fod yr hen Arglwydd Mansel wedi atafaelu yr holl ddodrefu a'r ani- feiliaid am yr ardreth, yn gymaint ag iddo ei chodi i bum cymaint o bris o ddialgarwch ar y teulu. Madog a'i fynwes yn cbwyddo o lidiawg- rwydd yu erbyn y gormeswr anghyfiawn, ac yn dyweyd,- "Can wired a bod yrhen Reginald Grey, a Robert Vernon a'i dad yn garcharorion gan y Glyndwriaid, bydd yr hen Fansel erlidgar hefyd cyn machludo yr haul y dydd yfory." "Y ddoe y gwertbasant bob gwerth dimai a feddem ap nid oedd y ddyled anghyjiaum oil ond pedwar gini!" cwynfanai Angharad ya athrist ei theimlad. Y teulu a'r holl osgordd yn eistedd ar y cl gwellt a'r meinciau ceryg a ddarparwyd gau Llewelyn y boreu blaeoorol; a Madog wedi ymfywiogi, yn dyddanu y teulu a'i addewidion daionus, ac yn mvsg ereill, gyda'r newydd,— Mynaf yr holl arian a dalasoch yn anghyf. iawn wedi eu dychwelyd, a'r tyddyn hwn a berthynai i'n heoafiaid yn ddiardreth." Llewelyn yn adrodd wrth y gwmniaeth y modd anghyfiawn y dygwyd ystad y Drumau oddiar y Llwydiaid gwladgarol; a Madog yn ganlynol yn adrodd hanes ei daith y noson fythgofus hono pan ymadawodd ddiweddaf a thy ei dad, a'r dull ffodus y cyrhaeddodd balas Owain Glyndwr. O'r diwedd yr oedd y wawr yn tori, a'r boll osgordd heb roddi hun i'w hamrantau er y nos fiaenorol, a sylwai Einon,— "Bydd yn well, ynte, ymbarotoi er gwneud ymosodiad ar drigle yr hen Fansel ystrywgar; nid oes genym ond pedair milltir, a byddwn yno yn mhen awr ond gwneud brys." "Yr ydym yn ugain gwr grymus, bob un yn tynu cleddyf; byddwn yn ddigon er pender- fynu 'cyfrif' yr ben walch," sylwai Meilir, gan wregysu ei gleddyf a minio ei ddagr. Ymaith a hwynt ar ffrwst yn nghanol ben- .— ( "¡¡(. dithion y teulu anffodus; a chyn bod neb o'r teulu Manselaidd wedi cyfodi, yr oedd Madog a Meilir yn dringo y rhagfuriau, ac yo neidio i mewn i gyntedd y pales, yn cael eu canlyn gan y Glyndwriaid ffyddlawn. Curasant yn awdurdodol wrth y porth, a daeth y pen-trulliad i roddi agoriad. Aethant i mewn, ac hawliodd Madog yr holl allweddau, gydag arweiniad sicr i ystafell Mansel ei bun. Dyna Madog, Meilir, ac Einon wedi myned i mewn i'w ystafell wely, ac yn gorchymyn iddo godi mewn amrantiad; Mansel wedi hurtio, yn metbu gwybod neges yr ymwelwyr boreuol awdurdodol hyn. Ein harwr yn tynu allan ei gleddyf, ac yn gorchymyn iddo w;sgo cyn pen deng mynyd. Tra yr oedd wrth y gorchwyl, sylwai Madog wrtho, Y mae dydd ad-daliad wedi dyfod, yr hen walch rhaid bellach roddi iawn priodol am yr anfad weitbredoedd a gyflawnwyd yn erbyn Llwydiaid y Drumau!" Yr hen Arglwydd ofnus yn syrthio ar lawr mewn llewyg, a Meilir a'r pen-trulliad yn gweini arno er iddo adferyd. Madog yn ymatal, er gadael iddo orphen ymddilladu; end wed: iddo ddyfod yn barod, gorchymynodd ef a'i weision i ymddangosyn yr yr ystafell gyfarch o flaen yr ugain Glyn- dwriad gwrolfrydig. Traethodd Madog ei neges, a hawliodd roddiad i fyny yr holl arian a dalwyd iddo yn anghyfiawn am amaethdy mynyddig y Drumau, y cyfan yn chwe' chan' gini. Yr hen Fansel yn crynu fel deilen hydrefol, ac yn ymlusgo at yr hen goffr baiarn, yn gor- chymyn i Robert, y pen-trulliad, rifo yr arian gofynol; yntau yn eu cael. Yn awr, y mae genym gyfrif arall o barthed i'r Drumau," sylwai Madog, "beth am gyf- reithlonrwydd hawl yM anseliaid i'r ystad ?" Yr hen ormeswr cribddeiliol yn cocbi, a methu ateb gair ar y pryd. Einon Hopcyn yn ail wasgu y gofyniad chwerw at y^tyriaeth yr hen Fansel, gan ofyn, "Pa le y mae yr ysgrifrwymau, a'r gweith- redoedd a ddangosant bawl y Manseliaid i ystad y Drumau ?" O'r diwedd torodd Mansel ar eifudanrwydd trwy sylwi,-— "Rhoddwyd y lie yn etifeddiaeth i'm hen daid gan Fitzbamon, y marebpg Normanaidd, yn dal am ei wasanaeth yn y fyddin." Dyua'r gath wedi dianc o'r cwd," gwaeddai Meilir, "rhaid cael ppth&u i drefn bellach." Erbyn hyn wele y Tywysog wedi cael allan yr heha, ac de a rhai o'i ystaff anrhydeddus yn dyfod i mewn, pryd y ihoddwyd tair banllef gymeradwyol i'w fawrhydi, nes crynu sylfeini yr adeilad. Adraddcdwyd yr holl helynt wrth Owain, a chymeradwyai yn fawr weithrediadau Madog a'i wyr: "Yn awr, Miirsel," Ilefai Glyndwr, "Madog a'i dad yw iawn etifeddion ystad y Drumau, a rhaid i ti ei rhoadii fyny iddyrt yn ddiamodol, neu gael dy ddietifeddu o hoil ystad LI 1; dewis a fynot,—myrjaf weled cyfiawiider yn cael ei weinyddu i'r hen genedl Gymreig or thrymedig." Madog yn adrodd helynt llosgiad yr hen weithredoedd yu y Drumau trwy orchymyn Mansel, ac yn sylwi mai Arthur Llwyd, ei hen- daid ef, a brynodd yr ystad gan lestyn ab Gwrgaot, Tywysog Morgauwg. Mansel ddim yn amheu gair, ond yn haner foddloni i gy- nygiad Owain Glyndwr o roddi y lie i fyny i'r Madogiaid. Einon Hopcyn yn tynu allan femrwn o'i god, ac yn ysgrifenu y rboddiad i fyny yn ffafr Madog Llwyd, yr etifedd, a'r unig facbgen cedd ar gael. Y weithred yn barod, a'r hen Fansel rhwng bodd ac anfodd yn ei llawnodi. "Dyna Madog bellach yn berchen ystad, pe ceffid Myfauwy eto i glawr, byddai pobpeth yn iawn." Beth, Myfanwy 1" sylwai Mansel yn gyff- rous, beth a roddech i mi pe mynegwn pa le y mae y rian hudolus?" Yr holl gwmniaeth yn ferw gwyllt, wedi eu taraw a syndod gan y fath gyoygiad annys- gwyliadwy, a Madog yn neidio yn wyllt, a dyweyd,- "Rhoddaf ddau can' gini am ryddhad fy Myfanwy ffyddlawn (I'w barhau.)

[No title]

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD IFORAIDD…