Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
IAT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. BYdded I'n cyfeillion y Beirdd o hyn allan gyfelrio en holl GyfansOOdiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— REV. W. THOMAS, (Mwyn,) f Pontllanfraith, LGWLADQAEWE] Newport, (Mon.)
[No title]
I r WenoZ.- Y mae "i n' ol" yn lie yn ol," yn dybryd, ac yn dangos cryn anwybodaeth o Q^eg. Efrydwch iawn gyfanaoddi, ac atalnodi mae y gerdd yn urn bur iithrig a Ac yn mherlog wlith y wawrddydd Gwlycba frig ei haden lan. toae brig coeden yn briodol, ond ni chlywsom "ig aden o'r blaea. Onid gwell fel hyn,— Ac yn hylif berlau'r wawrddydd Golcha hi ei haden lan. "Oeradwy. Mindlau ar ymadawiad i America.-De- en "Rhyw adeg Eomedig." Dylech ymestyn |j Synyrchu baiddoniaeth. Gavff y ddau benill ™ ymddaEgos ar gyfrif eu llithrigrwydd. J*au benill i'r Oog.—Lied dda i fardd eaith oed." Y mae eich llythyr yn dangos yr ys- priodol i ymgeiaydd ienanc. Parhewch llafur, a gyrwch eto. ij ltnylyn ar y Jsiwl.—Y mae ond yn air mwy tn a mekraber nag eithr, mewn barddoniaeth. S'yn da dros ben. Y mae yn llaweaydd genyf fy hen gymydog gynt, wedi cynyddu mor j5°r°l, a hyny heb nemawr i fanfcais. Ym- ^gys. S/yn ar y BabcM.—Ofnwn eich bod yn well na duwinydd. Y |aae Calfiniaeth wedi ^eg i rywle digon pell ar yr "asgell'' ganlynol: tin bychan yn cychwyn buchedd,—yn rhydd n 0 ran cyfrif camwedd. ^och wersi genym flynyddau'n ol ar farddon- Jltj» a gwnaethoch ddefnydd da o honynt, ond na chawsoch genym un weirs erioed ar ^hiyddiaeth. Buasem ni yn dodi gumeuthur ^frif yn yr ail linell, yn unol a'r ymadrodd ewn anwiredd y'm lluniwyd." Englyn cryf a chaiil ymddangos, cud bid rhyngoch chwi tthrawiaeth. J*'a9lyn i'r Geiriadur.—Englyn cywir o ran ei ;>|,§hanedd, ond lied ddibwynt feddyliem nL J1 yw yn dod 1 fyny, o bell ffordd, a'r ddau arall. Gellwch wneud ei well gan' gwaith. ifyfarcJdad i Thomas, maban Dechreu 44 Thomas bach." Dau benill cymeradwy. jftindlau cvfiwynedig i fy mrawd ar ol derbyn ei —Erglyn tlws, ond nid da (os goddefad- J.befyd) yw dwy gynghanedd lusg yn yr un jstyn. Y mae y penillion yn bur dyner. Cy- ^^dwy. i-Miraeth merch ar ol ei chariad.—Dechreu ,]%nych ■wylo." Ymddengys y ddau benill, ond y i chwi aetudio llawer eto cyn y dewch i alia ^Boddi englyn. Efrydwch Y Drych Bardd- v:
Y WENOL.
Y WENOL. Gyda bod y gwanwyn swynol Yn adfywio bryn a dol, Daeth y wenol fechan siriol O'i ganafol daith yn nol; Wedi bod ar hynt grwydredig Draw mewn rhyw estronol wlad, mae heddyw'n nythu'n ddiddig 0 dan fargod ty fy nhad. 0 mor bi-ydfertb, 0 mor swynol Ydyw gwel'd y wenol dlos Ar ei hymdaith ymchwiliadol Dros ddyffryndir, gwaun, a rhos; Ceir ei gweled ar foreuddydd Yn chwim gasglu'r pryfed man, Ac yn mherlog lith y wawrddydd. Golcha hi ei haden Ian. Hwyf yn teimlo rhyw adloniant Pan yn gwel'd y wenol fach Yn ymsaethu mewn llawn nwyflant Trwy'r awelon babnaidd iach; wenolen chwim ei haden, Ddywed wrthym fcawb trwy'r tir, II Byddwch ddedwydd, byddweh lawen, Daw yr hafddydd cyn bo hir." Dedwydd hynod ydyw'r wenol Yn chwim 'hedeg mewn mwynhad, A. phan ddel yr awr benodol Bhydd ffarwel i gyrau'r gwlad; ■E'el y wenol carwn inau Mewn dedwyddyd dreulio foes, neb ofalon na gofidiau, s, Heb gael unwaith brofi loes. BBXNFAB.
Y BABAN.
Y BABAN. Un bychan yn cychwyn buchedd,—yn rhydd 0 ran cyfrif camwedd, Yw'r eiddil faban glanwedd,— Eiddo teyrnas addas hedd. TBODYNFAB.
'4 LLINELLAU
'4 LLINELLAU ^adawiad D. Lewis a'i briod ag Aberdar am America. Ntol 8(^eg Biome^ a thri8t yjyw ton, i^adau hiraethlawn a lanwant fy mron; f a^ydd a'i briod—dau gywir, ddi-frad, LJ^iad ein gadael a newid eu gwlad. fj^^yddyn eu dylyn 'nol myned yn mhell, i yn yegafnach, a'r gyflog yn well, Lq k^ich yn yr eglwys lie buont mewn hedd, a hiraeth i'w wel'd yn mhob gwedd Ut¡¡, iddynt lafurio yn ngwinllan eu Duw, W -Ametig tra byddoat hwy byw; °ysuron *'r ac ces faiih, yn amddiffyn hyd aerfyn y daith. B. T. o'R BRYN.
C Y P AKCHIAD
C Y P AKCHIAD baban bychan Mr a Mrs Morgan Wil- liams, Harriet Street, Trecynon. 1Ia Thomas bach, mae th airiol wedd Yn ardeb o brydferthwch Arinnlr ar dy ruddiau heirdd, A ^delweddau pur ddedwyddwoh; ^?rnawl nea weithfawr em, wyt ti o law'r Gorucha'; r Fe gynyrehiolir yn dy drem Dlysineb engyl Gwynfa. Boed it' ymdeithio trwy dy oes Yn ngherbyd gostyngeiddrwydd, Dros ffyrdd palmantawg dysg a moes, Hyd uchel fan enwogrwydd; Cymeriad pur dy riaint mad, Fo yn ncdweddu'th fywyd, A'th ymestynol nod fo gwiad Yr annherfynol wynfyd. Trecynon. DARONWY.
LLINELLAU.
LLINELLAU. Cyflwynedig i fy mrawd ar ol derbyn ei ddarlun 0 ddarlun gwir ddymunol-i fy mron, 0 fy mrawd mynwesol; Mae'th olwg mwyn, Ilawn mor swynol Heddyw yn wir a'r biwyddi'n ol. Anhawdd i mi edrych digon Ar dy wyneb anwyl, am Mal tydi yw'r drych cywiraf I mi weled gwyneb mam. lago, mae galarol deimlad Yn ymrwygo ray awes i, Pan yn gweled nhad a mrodyr Amvyl trwy dy ddarlun di. Er bod hwy yn tawel huno Yn y fynweiit oerllyd draw, Lie buost ti a rninau'n wylo U weh eu beddau law yn Haw. 'Rwyf yn ga!lu sylweddoli En gwynebSra un wrth un, 0 fy mlaen wrth fanwl syllu Ar linellau tlws dy lun. Darlun anwyl gan fy nghalon. Darlun cywir, darlun hardd, Darlun fydd yn mhob amgylchiad, Byth mewn bri yn mwth y bardd. Aberdar. MOBFAB.
HIRAETH MERCH AR OL EI CHARIAD.
HIRAETH MERCH AR OL EI CHARIAD. Mynych wylaf dagrau dypglaer, Dan ryw bruddaidd deimlad dwys, Ne3 mae 'nghalon dan fy nwyfron, Bron ei Uethu gan y pwys Meddwl am ei wenau serchus, Meddwl am ei eiriau mad, Ond fel breuddwyd i fy meddwl Mae ef mewn estronol wlad. Croesodd ef y dyfnion foroedd I'r Americ fad i fyw Minau'n unig a adawodd I ofalon doeth ein Duw; Mae fy nghalon yn ei galon, Wedi'i chlymu yno'n nghyd, Fel nas gellir byth ei datod Tra y byddom yn y byd. MORLICISFRYN.
GW AUNCAEGURWEN-LLITH GAN…
GW AUNCAEGURWEN-LLITH GAN SIMON Y BILWG. Falle eich bod chi Mr Golygydd, yn medddwl mai Toris sy'n byw yma, gaa nad oes neb yn anfon scrip na scrap i'r GWLADWR, er fod yma ganoedd yn ei ddarllen. Os ydych yn y fan yna, mae yma gyfeillion mor weithgar ac unrhyw ran yn Morganwg. Ystywetha fach, 'roedd 'Steddfod fach bert yma, ae yn llwyddianus yn mhob ystyr ac eto, dyma wledd gerddorol gan rai o brif wroniaid Morganwg, sef nos Lun, 18fed o Hydref. Mae enwau Phillips, (Gwilym Cynon,) Asaph Glandyfi, a Caradog, yn ddigon o brawf y ceir yno wledd heb ei bath. Diolch yn deilehion i'm eyfeillion yn Aber- dar am eu caredigrwydd ar fy ymadawiad oddiyno, yn enwedig i'r bachgen a'r siaced fraith, Gwyn, a Gwawr. Bydded hysbys i'r beirdd bob copa walltog, mai Mr W. Williams, (W. Wyn,) Brynaman, oedd awdwr y ddau englyn ar Accrostic yn Eisteddfod Trecynon. Beth a ddyved Coron- wy am hyn, fachgen ? Mae Gwyn wedi enill fwy o wobrwyon na neb yn sir Forganwg yn 01 ei oedran. Y mae yn anrhydedd i Mr D. J. Moses fod ganddo y fath ddysgyblion an- rhydeddus, a chredwch chi fi, yr hwn fydd arweinydd y gyngheidd grybwylledig. A wyddoch chi, Mr Golygydd, b'le wr drwg y mae yr hen fobl y GWLADGARWR wedi myn'd'? achos mae amser dw'r y mor a'r ffynonau wedi myned heibio yn awr if you please, Fe fydd yr hen wr yn erfyn gweled yr Hen Domos, Madog Llwyd, P. Rhydyfro, a llawer ereill o'r frawdoliaeth yn y gyngherdd. Cofiwch fi at ddarllenwyr y GWLADWR bob copa walltog, ac heb anghofio Dewi Iago, a staff y Swyddfa. Yr eiddoch yn dwt, S. B.
UNDEB Y GLOWYR.
UNDEB Y GLOWYR. Siaredir yn ami am undeb fel peth hanfodol ac angenrheidiol dda; ond gwelir wrth ych. ydig o ystyriaeth fod hyny yn gyfeiliornad. Nid yw undeb ddim mwy na llai na ffurfiad gallu, a'r hwn y gellir gwneuthur drwg neu dda. Y mae yn ymddibynu ar ba fodd ei defnyddir. Gellir ei ddefnyddio er drwg yn gystal ag er da. Er enghraifft, gallai perchen- og y peiriant godidocaf a fu erioed ei ddef- nyddio er dinystr i bob peth o'i gwmpas, pe byddai mor anoeth a gwneud hyny. Fel y mae gwaethaf y modd, y mae lie i ofni ein bod ni fel dosbarth o lafurwyr wedi bod yn euog o'r cyfryw annoethineb. Gan hyny, fy amcan yn yr ysgrif bresenol fydd galw sylw fy nghyd- weithwyr at y mudiacl presenol, yn ngbyd a'i iawn lywodraethiad. Darpariaeth tra angen- rheidiol tuag at iawn lywodraethiad yr undeb yw ffurfio yr undeb ar egwyddorion iawn. Peth a mawr angen ei ddeaU yn ein plith ni fel gweithwyr yw, pa fodd i gyd-dymheru llywodraeth a ihyddid a'u gilydd, fel ag i gyd- drigo yn hapus, Ynfydrwydd mawr fyddai meddwl am undeb heblywodraeth yn perthyn iddo, a gormes fyddai undeb heb rhyddid yn perthyn iddo. Y mae llywodraeth ar unwaith yu dwyn ger ein bron lywodraethwr neu lyw- odraethwyr, fel ag y byddo yr achos yn galw. Dywedasora o'r blaen mai ynfydrwydd fyddai son am undeb heb lywodraeth yn perthyn iddo. Byddai undeb o'r fath yn hollol ddi. werth a diddefnydd. Yn wir, byddai yn ddi- synwyr i son am undeb heb fod ganddo rhyw fan, yn yr hwn y byddai yn ymuno. Y mae i bob undeb ei ganolbwnc, a dynaj ffllrfiad ei nerth. (Vw barhau.)
YR YSGOL NOS.
YR YSGOL NOS. At ddarllenwyr ieuainc y GWLADGARWR. Y mae y gauaf mewn effaith wedi dyfod, ac yn mhob pentref a thref braidd mae pethau neillduol y gauaf yn dyfod gydag ef. Y mae y darlleniadau, y cyngherddau, yr eisteddfod- au, &c., yn marchio i mewn gyda rhwysg a llais udgorn. Yn eu plith yn ddiwyd, ond dipyn o'r golwg, y mae yr ysgol nos, ac y mae hi, er yn ddystaw a didwrf, yn fwy sylweddol a llesol i'r dosbarth y mae a fyno hi a hwy nac un o honynt. Fel moddion i lesoli a dyrchafu y gweithiwr, nid yw y readings ddim ati, nid yw y concert ddim ati, ac nid yw yr eisteddfod ddim ati. Yr ydym wedi plymio dyfnder lies y tri sefydliad uchod, ac yr ydym yn methu canfod ond ychydig o wir a sylweddol les ynddynt, oddieithr i ychydig mewn cydmar- iaeth i'r llawer dynion ieuainc sydd ag angen addysg a gwrtaith arnynt. Nid ydwyf yn eu condemnio, ond dangos mor gyfyngedig yw eu heffaith fel moddion dyrchatiad. Y mae yr ysgol nos yn wahanol. Gallwn sicrhau y bydd i bob un a ymroddo ati, ac a lyn wrthi yn amyneddgar a phenderfynol trwy y gauaf, fod yn well, yn loewach, ac yn gallach na phan yn dechreu. Rhydd fantais ardderchog yn gyntaf i fechgyn yn gyffredinol sydd heb gael rhyw lawer neu ddim o ysgol o'r blaen, ac nid peth i'w esgeuluso yw anwybodaeth yn fwy na chlefyd. Llipryn o gorif yw y corff hwnw sydd yn gartref clefyd, a llipryn mwy truenus fyth yw y meddwl hwnw sydd yn gartref an- wybodaeth a'i weision Lach. Y mae addysg yn codi mor gyflym yn y wlad hon yn y dyddiau hyn, fel yn mhen deag mlynedd bydd bachgen na all ddarllen y newyddiadur, castio ei gount, ysgrifenu llythyr, a mesur ei waith, yn fath o back ground tywyll i ddangos rhagor- iaethau bechgyn a merched bychain yn fwy eglur a dysglaer. Dyna fydd defnydd dyn anwybodus cyn hir, sef rhywbeth i bwyntio ato fel rhybydd i blant, a dweyd paid bod fel hwn a hwn." Er mwyn pob peth, fachgen, myn allu darllen llythyr oddiwrth dy frawd yn America a'i ateb dy hun; myn anfon llythyr serch at Jane, a chadw ei secrets yn y fargen; myn wybod faint yw count y slop, heb i'r wraig orfod gadael i Nans drws nesaf wybod ei holl helynt. lJyna wanamaetn sydd rhwng bechgyn a bechgyn, a rhwng merched a merched! Y mae John yn gwybod tipyn o bob peth, a'r Hall dipyn o ddim. Y mae John, er yn gweithio pan yn ieuanc, wedi deall elfenau rhifyddiaeth, daearyddiaeth, a darllenyddiaeth. Y mae yn dipyn o brydydd feallai, ac hefyd yn feddianol ar dri chwdyn sidan enillodd am draethodau buddugol. "Ie," medd Tom, "talent sydd ganddo." 0 nage, nage, dim mwy na synwyr i deimlo angen gwybodaeth, ac amynedd i eistedd i lawr a gweithio wrth ei lyfrau. Ie," medd y dwlbyn, yr oedd ei ewythr William yn ei helpu." Oedd, bid siwr, ac mae yr vsgolfeietr yn foddlon dy helpu dithau. Dos i'r ysgol nos. Yn ail, i fechgyn newydd adael yr ysgol am y gwaith. Y mae adran bechgyndod yn ar- graffadwy iawn, ond ar yr un pryd yn dueddol iawn i golli yr argraffiadau wneir ar y meddwl. Y mae canoedd a aethant o'r ysgol ddyddiol yn ysgoleigion go dda yn myned i'r ysgol nos yn mhen dwy neu dair blynedd, ac yn gorfod ail ddechreu yn mhell iawn yn ol. Yn wir, y mae dynion mewn oed yn rhydu yn o fuan. Y mae myned out of practice yn beth go gyff- redin gyda hwy ac nid rhyfedd yn y byd ynte fod plant difeddwl, dibryder, a llawn o chwareu yn colli yr hyn ddysgasant. "Onid yw yn drueni fod Tom wedi colli cymaint o'r hyn ddysgodd ef," meddai tad wrthyf flwyddyn yn ol. Ydyw yn wir," meddwn inau. Beth wnaf 1" "Ysgol nos." Daeth Tom i'r ysgol nos, a gwelais ddau beth yn Tom sydd yn galonogol i fechgyn yn yr un amgylchiadau, sef (1.) Mai wedi rhydu yr oedd. Yr oedd y metal yn dda, ond fod eisiau rhwbio arno i'w wneud yn loew. (2.) Gan hyny, nad oedd mor anhawdd o lawer ail ddysgu ag ydoedd i ddysgu am y tro cyntaf. Yr oedd cof Tom yn gloewi wrth fyned yn mlaen, ac yr oedd hen adgofioa" rhifyddol ynhwylusu ei gam- rau. Na adawed rhieni plant i'r rhwd i fwyta i fyny yr addysg a gatodd y plant trwy es- geuluso rwbio tipyn arnynt yn yr ysgol nos. y .0 Wrth derfynu, dymunwn anog ieuenctyd i geisio cofio mai y sylweddol a'r defnyddiol yn unig rhydd gysur a goleuni trwy eu bywyd. Angen mawr dyn ieuane yn nesaf at grefydd yw yr hyn a'i gwna yn weithiwr deheuig a gofalus, yn benteulu doeth ac addas, yn aelod eglwysig call a deallus, ac a rydd iddo ddef- nydd cysur a diddanweh yn ngwyneb am- gylchiadau all ei gyfarfod yn y byd. Nid rhaid dweyd mai addysg yw y peth hwnw. Hirwaun. E. W.
Advertising
TTEALTH AND HAPPINESS FOR THE NERVOUS AND DEBILITATfi D. A single oopy of a new medical work, written by cue of the most eminent medical men of the present day, solely for the guidance and benefit of that class of stiiierera whose aiiections are often self-inffloted, and who desir'' it speedy and Private cure, yet too often beeornc dupes of designing London quacks. For such suf- ferers ibis work is intended, shoeing a certain means of cure in ail ea-as of nervous debility, nlaxation, organic, or local weakness, Ifi.mjour, blushing, debility, and various other nervous symptom, also showing how all the so-called impediments to mariiage may be effectually removed; with numerous illustrative cases of parties w.t-o have been res- ored to the blessings of health by following1 the advice laid down in this work. Sent free to any address, on re- ceipt of stamp to pre-pay postage.-Address to the Secre- tary, Institution of Anatomy, Birmingham. CAUTION.—Parts of the above book have been copied by several quacks. Persons Bhould be carcful in whose hands they intrust their health, and read this work before applying to My one.
GWANFARDD A DEWI HARRAN.
GWANFARDD A DEWI HARRAN. Syr,—Ymddengys fy mod wedi tramgwyddo Dewi Harran yn aruthrol yn fy ngwaith yn apelio ato am eglurhad o barthed i'r ddwy linell, pa rai a osododd efe ger bron y wlad fel specimen o waith barddonol y prif fardd o Essyllt. Ymddengys ei sylwadau difriawl a chegrwth yn y GWLADGARWR am Medi 4ydd, ei fod i raddau helaeth dan ddylanwad y "Fall Felen," neu rhyw anwyldeb o'r fath, cyn y buasai boneddwr o'i safle urddasol ef yn ymostwng mor isel fel ag i son am ymladd- feydd "Ffair y Mynydd," tra yn ateb gofyn- iad mor ddistadl a'r cyfryw wedi ei apelio mewn dull mor ostyngedig at ei fawrhydi barddonoL Syndod y byd. Ai hero yw Dcwi Harran ? Ie, Arab gawr ar feib y gan. Dyg hefyd gamdystiolaeth gwrthun a disail yn fy erbyn, sef fy mod am roddi rhwystr ar ffordd y dysteb, am ba un y cegleda efe gy- maint yn ei chylch, i'r hyn yr wyf, oddiar barch i'r gwirionedd a thynerwch cydwybod, yn gwadu y cyhuddiad yn y modd mwyaf pendant, ac hefyd heriaf holl feirdd cred i broli fod cymaint a silliad yn fy apeliad yn tueddu i filwrio yn erbyn hyrwyddiad tysteb y prif fardd o Essyllt. Ond gan fod D. Har- ran wedi dechreu y firwgwd, caf ddyferu gair neu ddau, sef fod y wlad yn dechreu difiasu bellach ar ol y seboni gwyllt fu ganddo yn ddiweddar ar faes y GWLADGARWR a'r Fellten. Ond chwareuteg i Dewi, nid oedd yn ymddwyn yn amgen na thalu teyrnged o barch i'r gwr a'i sebonodd ynteu yn amser cyflwyniad y dysteb anrhydeddus hono i'r boneddwr o Ton- yrefail. Dichon fod Dewi yn cofio cystal a minau am yr Eisteddfod hono a gynaliwyd yn hen dafarndy Llanharran oddeutu 21 mlynedd yn ol, ac hefyd am ymddygiad bawaidd ac an- nheg yr amaethwr hwnw yn lletya Edeyrn o Fou am ysbaid pythefnos o amser, er iddo gyf- ansoddi y Fawlgan i R. Jenkins, Ysw., sef prif destyn yr Eisteddfod, ac os buasai i'r cyfan- soddiad fod yn llwyddianus yr oedd Edeyrn i dderbyn deg swllt am ei drafferth ar nos yr wyl. Wel, felly fu, a chafodd yr amaethwr y wobr, ond ni chafodd Edeyrn y deg swllt; end hwyrach iddo achosi cryn dipyn o gywil- ydd iddo pan yn ei ddilyn o un ystafell i'r Hall, gan waeddi ar ei ol,— Y chwiwgi tal y chweigan. Yr oedd Gwanfardd yn y gystadleuaeth hono, ac yn sefyll yn mhen y rhes, ac o ganlyniad yn debyg o enill y lawryf, oni buasai yr an- dras hwnw o Fon wneud ei ymddangosiad yn yr ardal. Maddeuwch i mi, Mr. Gol., am droseddu ar eich rheolau, sef bod yn fyr. Os dygwydd i mi gael fy ngcrfodi i ysgrifenu ryw dro eto ar y pwne distadl hwa, dichon y caf anihegu darllenwyry GWLADGARWR ag hanes ymddyg- iad tebyg i'r uchod gan fardd ag sydd yn sefyll yn lied uchel yn y byd llenyddol yn bresenol. Yr eiddoch, Mr. Gol., hyd y cam, GWANFARDD.
YMWELIAD AG EISTEDDFOD MAESTEG.
YMWELIAD AG EISTEDDFOD MAESTEG. (Parhad o'r rhifyn diweddaf.) Enillwyd y wobr o £ 5 5s. am y bryddest Saesonig oreu i'r diweddar R. L. Blosse Lewis, Ysw., gan Mr. Dawning Evans, (Leon), Cas- newydd. Y bryddest oreu ar olygfa oddiar Fynydd y Garth gan Creirwy, Aberdar. Y buddugol ar y gan ar Fynydd Llangynwyd oedd Mr. H. Grittiths, Cwmafon. Gwilym Gwent oedd y buddugol ar y ganig Mae'r nos yn d'od." Enillwyd y gweddill o'r gwobr- wyon gan Athan Fardd, Senor, Ceninfab, Cam Elian, Meudwy Glan Elai, &c. Yr oedd yn Eisteddiod lewyrchus, ac yn un o'r mwyaf llwyddianus y buom ynddi er's llawer dydd yn mhob ystyr. Canwyd yn ar- dderchog yn y gyngherdd gan T. Williams ac Eos Afan, a gwnaeth Perdonydd y Dyffryn ei ran yn ganmoladwy. Ar ol y gyngherdd bu cyfarfod y llenorion, dan lywyddiaeth Dewi Harran. Bu yno ddadleu brwd a didor am lawer o amser yn nghylch hawliau y bwrdd llenyddol, ac yr oedd yno amryw am gael lien enwau, ond gwrthododd Creidiol eu derbyn i'r bwrdd heb arholiad, yr hyn a wrthwynebid gan blaid arall. Tranoeth cymerasom y gerbydres i Peny- bont, a thalasom ymweliad a Eglwysi Old Castle, New Castle, ac yn olaf hen Eglwys y Coity. Yma y mae bedd y Bardd Glas, yr hwn a fu farw yn Nhyloty Penybont. Y mae cofgolofn ardderchog wedi ei chodi ar ei fedd gan y byth anwyl wladgarwr, Alaw Goch, ac yn gerfiedig arni yr englyn canlynol o'i eiddo:— Och a'ar gwellech lolo-y Bardd Glas Beraidd glod, gofio Djn o ddysg a dawn oedd o, lawn o'i gryd yn ei gredo. Yma hefyd huna un oedd anwyl i mi, ac a dorwyd i lawr yn moreu dyddiau dedwydd- yd." Yr oeddem wedi ysgrifenu Uawer o nod- iadau henafol am Gastell ac Eglwys y Coity, ond yn anffodus, collasom y papyr a'r nodion, yn nghyd ag address dau gyfaill o'r lie felly rhaid i ni yma ganu yn iach i'r darllenydd. O.Y.—Bydd yn dda genyf gael address y cyf- efllion uchod, os gwelant hyn o sylw.
Advertising
GOLDSMITHS' 'VVOHK,—Tbe progress of the art manu- facture in this branch of trade is strikingly exemplified in a littlo work published by J. W. Benson, of 25, O'd Bond Street, and of the City Steam Factory, 58 and 60, Ludgate Hill. It i3 enriched and embellished with designs (by Italian, French, and English, artiste) of Brooches, Brace- lets, .Earrings, and other articles, suitable for personal wear, or Wedding, Birthday, or other presents, with their prices. Mr. Benson (who holds the appointment to H. B. H. the Prince of Wales) has also published a very interest- ing pamphlet on the Ripe and Progress of Watch & Clock- making. These pamphlets are sent post free, for two stamps each, and they connot be too strongly recommend- ed to those contemplating a purchase, especially to residents in the country or abroad, who are thus enabled to select any article they may require, and have it for- warded with perfeot safety.