Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

L'ERPWL.

Advertising

deiHadprydeinigsyn yCARCHAR…

News
Cite
Share

deiHadprydeinigsyn yCARCHAR YN -ITALI. Fe allai nad yw yn wybyddus i'n darllen- wyr yn gyffredinol fod un Mr. Nathan, deiliad Prydeinig, 19 oed, wedi bod yn y carchar, yn Milan, er Ebrill diweddaf, heb unrhyw gy- huddiad yn ei erbyn ond ei fod wedi ei ddal yn teithio o Lugano, lie y preswylia ei fam, a'r lie yr oedd Mazzini yn aros ar y pryd a'i fod hefyd pan ar y daith yn nghwmni dyn ieuanc oedd wedi bod allan gyda Garibaldi yn 1866. Hyn, a dim arall, yw yr achos fod Mr. Nathan wedi ei gaethiwo am y chwe mis di- weddaf mewn carchar Italaidd, heb brawf, na chymaint ac eglurhad o'i drosedd. Ar ddiwedd y Senedd-dym or diweddaf rhoddwyd gofyniad o barthed iddo gan Mr. Taylor, yr aelod dros Leicester, a'r atebiad oedd fod ein Llywodraeth wedi gwneud cais at Lywodraeth Itali am ei ryddhau ar fechniaeth. Modd bynag, ni ddaeth dim o'r cais. O'r braidd y gallwn gredu mai hyn yw yr holl ffeithiau, am y credem bethau gwell am Victor Emmanuel, ac na buasai i'n Llywodraeth ninau ymddwyn mor dawel yn ngwyneb y fath ymddygiad oddi- wrth Lywodraeth Itali.

MARWOLAETH ARGL. DYNEVOR.

COLLIAD AGERLONG SEISONIG,…

Advertising

EISTEDDFOD PONTLOTYtf, BHUHII,…

Advertising

LLITH 0 FYNYDD CNEIFA.

Advertising