Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

L'ERPWL.

News
Cite
Share

L'ERPWL. Dydd Llun, Hydref 11. Mae y newyddion lleol mor amrywiol, fel mai o'r braidd y gallwn ddechreu yn y lie priodol, a gwnend hyny mewn modd darllen- adwy, heb ddychrynu neb gyda brawddegau amlfeddyliog, tywyll, ac anesboniadwy. Cynelir cyfarfodydd mewn gwahanol fanau yn y dref, yn gysylltiedig a'r cyfundebau gweithiol (hades union); ond gan nad ydym yn gwybod ond y peth nesaf i ddim am y mater, gadawn iddo sefyll hyd nes y dysgom rywbeth yn ei gylch. Gwelwn, yn helyntion y cyfar- fod, fod pobpeth yn cael ei gario yn mlaen mewn dullwedd hynod o frwdfrydig; ond, fel y crybwyllasom yn barod, ceisiwn ddysgu rhywbeth o athrawiaeth y cyfundeb mawr cyn beiddio ysgrifenu dim ar y pwnc, yn hanes- yddol nac yn feirniadol; am hyny, caiff aros gyda dweyd ein bod yn cofio yr hen ddiareb, "Mewn undeb y mae nerth." Cynaliwyd nawfed cylchwyl flynyddol yr Eglwys Sefydledig yn y George's Hall, yr wythnos ddiweddaf, gyda rhwysg a mawredd aughydmarol; ae, yn wir, rhaid cyfaddef na ehrybwyllodd yr areithwyr ddim mewn un ffordd o iselhad am filoedd Ymneillduwyr Prydain, pa rai sydd wedi enill y cyfanbraidd o'r bron, fel nad oes nemawr o ddim wedi ei adael yn weddill i'r hen Fam Eglwys ond y fack ground a'r mynyddoedd. Y mae He i ofni fod rhywbeth gwaeth nac egwyddorion y Llyfr Gweddi Cyffredin yn cael ei ganiatau, neu yn cael ei oddef, mewn cynulleidfaoedd Ymneillduol; a hyny ddim llai na bod y cyfryw hyny o flaenoriaid canu mewn capeli Cymreig yn ymwerthu, er mwyn pleser, i wasanaethu Pabyddiaeth. Y mae ffeithiau fel hyn yn awgrymu fod ymdrechion diflino y Tadau Pererinol yn cael eu prysur anghofio. Cymered y neb a fyno y mater i fyny, a beiddiaf inau herio nad oes neb a all ddangos fod cysondeb yn y byd i blant Ym- neillduwyr fyned a gwasanaethu Pabyddiaeth, er mwyn elw na phleser. Darllened y neb a fyno y Convent Cases diweddaraf, a sicr ydyw y caiff brawf o hagrwch y gyfundrefn. Mae y byd masnachol megys yn gorphwys ar gors sigledig, ac o dan ddylanwad rhyw gyffroad bychan. Cawn lawer masnachwr anturiaethus yn suddo i goluddion y gors, pan y mae un arall mwy diegwyddor yn medru dal i chwareu ar y wyneb, nes y bydd ganddo ddigon o yspail, a'r canlyniad ydyw fod hwn eto yn ymgolli, ond nid fel y cyntaf; oblegyd fe welir yr olaf yn mhen ychydig wythnosau yn dyfod o lys y methdalwyr yn ddigon gwyneb-galed, pan y bydd ei gymydog a fyddo wedi ymdrechu bod yn gydwybodol yn gorfod ymdrabaeddu yn y llwch a'r baw, er cael y ddau pen i'r llinyn at eu gilydd. Dyna nodwedd masnach a masnachwyr yn Lerpwl yr adeg bresenol. Dechreuodd y Parch. Stowell Brown ar ei ddarlithiau y tymhor hwn dydd Sul diweddaf, yn y Mechanic Institute, Mount street. Y testyn oedd "I cannot afford it." 0 bob siaradwr cyhoeddus yn Mhrydain heddyw, nid wyf yn meddwl y gellir cael ei well. Dywed ei feddwl yn hollol rhydd a didderbynwyneb, a dichon pe byddai rhagor o'i fath yn mhlith ein dynion cyhoeddus y byddai gwell golwg ar y byd. Sylwodd fod y testyn wedi dyfod i'w feddwl wrth gerdded ar hyd heolvdd y dref a chanfod dynoliaeth yn eu gwahanol agweddau; a phan fydd dyn neu ddynes yn myned i siop y cigydd, y crydd, neu'r teiliwr, i geisio pwrcasu rhywbeth er cynal natur, mynych y clywir geiriau y testyn yn cael eu parablu- I cannot afford it." Awgrymai yn ddeheuig at wraidd y mater, gyda datgan dy- muniad am i'r arwyddair gael ei gadw o flaen llygad meddwl pob dyn a dynes wrth fyned i'r dafarn cystal ag yn y farchnad. Dywedai nad oedd ganddo un croes i weithiwr caled i gael gwydraid o gwrw if he could afford it. Gan mai y ddarlith yma ydyw y gyntaf o'r gyfres, cawn sylwi eto yn wythnosol ar y moethau dymunol a goginir gan y Parchedig Stowell Brown. Y testyn nesaf fydd The English of it," a sicr ydyw y bydd yn ddy- ddorol. Rhaid ymatal y tro hwn, gan fod pethau ereill yn galw fy sylw. Mintai fawr o ym- fudwyr i'r Nevada a'r City of Brussells, ager- long newydd yr Inman Line. Yn y blaenaf fe fydd Mr. J. E. James, yr arlunydd Cymreig, o Utica, a J. W. Jones, Golygydd y Drych Americanaidd, gyda mintai o Gymry glan gloyw o Fynwy a Morganwg. Yn iach, gyfeillion, yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.

Advertising

deiHadprydeinigsyn yCARCHAR…

MARWOLAETH ARGL. DYNEVOR.

COLLIAD AGERLONG SEISONIG,…

Advertising

EISTEDDFOD PONTLOTYtf, BHUHII,…

Advertising

LLITH 0 FYNYDD CNEIFA.

Advertising