Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

[No title]

Advertising

Y PRYDDESTAU AR EDEN.

Y GYM RAEG.

UNDEB Y GLOW irR.

THOMAS PUGH AR BWRDD IECHYD.

AT CAP AUR.

TRYSORFA Y COEDCAE.'

News
Cite
Share

TRYSORFA Y COEDCAE. Anwyl Gydweithwyr,—Mae yr achos hwn yn parhau i wneuthur blinder, gofid, a thra- fferth o hyd. Mae rhyw gwmwl yn crynhoi uwchben y rhai sydd yn dal cysylltiad ag ef yn y dyddiau hyn. Y gwirionedd YIV, nad oes ond £67 wedi dyfod i mewn eto o £215, heb son am y treulion na'r llog. Mae Mr. Crockett, ar ein cais, w»di aros heb ddodi neb yn y cwrt, ond yr un a ddododd ddechren yr haf, er mwyn rhoddi amser i'r arian ddyfod i mewn, yn lie taflu ychwaneg o dreulion; ond dywedodd wrthyfboreu heddyw na arosai ychwaneg ar gais neb, pwy bynag. Byddant oil yn y ewrt ganddo mewn ychydig wythnosau—fod yn rhaid iddo gael ei arian. Y mae yn ofidus pa byddent wedi eu talu. Ychydig o gydweithrediad sydd yn eisiau i glirio y cwbl. Pa fodd y gallwn diysgwyl cymwynas gau neb wedi rhoddi y fath dra- fferth, gofid, a cholled i'r boneddigion da oedd mor barod i gynorthwyo mewn cyfycgder? Y mae yn resynus i'r eithaf meddwl am yr am- gylchiad, Mae yn ddarostyngiad mawr i ni fel dosbarth o weitbwyr-dylasent fod wedi eu talu flwyddyn a haner yn ol; ond sithelir byth o honynt ar y raddfa y mae yr arian wedi dyfod o'r gweithiau, ond 4 neu 5 o honvnt. Y mae cymaint a 42 o'r gweithfeydd we Jl anfon eu casgliadau i mewn, ac nid oes ond y swm a nodwyd uchod mewn llaw. Gwelwch fod dros £ 140 eto yn sefyll; ond er hyny, nid yw yn llawer rhwng cynifer gydag ychydig o gydweithrediad. Ond os na wneir brys, bydd 15 o ddynion yn sicr o fod yn garcharorion. Carem yn fawr i rai o hon- och sydd yn arfer ysgrifenu, ac yn teimlo ein llesiant fel gweithwyr, i ymwneud a'r achos hwn, a chynyg rhyw gynllun effeithiol er eu cael i mewn ar unwaith. Carem yn fawr i bob glofa sydd heb wneuthur dim hyd yn hyn, weithredu mor fuan ag sydd bosibl; ie, taer ddymunir ar rai o honoch i gyflwyno y peth i sylw eich cydweithwyr. Y mae gonestrwydd ac anrhydedd yn galw am hyn, heblaw y gofid mawr a'r perygl y mae y rhai a feichniwyd ynddo. Derbyniwyd yr hyn a ganlyn wedi y cyhoeddiad blaenorol:—Pwll Howell, ti Bwllfa, Cwmdar, £1 14s. 3c.; Pwll uchaf Lletty Siencyn, £1 2s.; Ynysfeio, £1 5s. Gan obeithio y cymerir sylw buan o'r flfthos hwn, y gorphwys eich gwasanaethydd, DAVID EVANS.