Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

MADOG LLWYD.

News
Cite
Share

MADOG LLWYD. PENOD XLIX. Madog yn neidio yn mlaen, a chofleidio y awyddog gwladgarol clwyfedig, yn nghanol boddfa o ddagrau cydymdeimlol, a dyweyd,- "Madog Llwyd, y Drumau, ywdygymwyn- asydd twymgalon; gwell genyf na'r byd yn gyfan fod Hopeyn Morgan, tad fy anwylyd, yn ymladd yn myddin wladgarol yr annibyn- iaetb." Hopeyn Morgan wedi ymddyrysu, heb wy- bod beth i ateb, yn gwasgu llaw Madog, ac yn syllu mewn syndod anhygoel yn ei wyneb. "Madog anwyl," meddai Meilir wrth gydio yn Edith yn y llewyg, yr wyt o'r diwedd wedi cyfarfod a'th dad-yn-Dghyfraith." Hopcyn yn dyfod ato ei hun yn well, ac yn gofyn,- "Ai posibl mai Madog Llwyd, y Drumau, yw y swyddog milwrol uchel ddyrcbafedig hwn, sydd yn drydydd mewn awdurdod i'r Tywysog ei hun?" Ein harwr yn amlygu ei hun, trwy ddangos ei nodau neillducl, a rhoddi braslun o'i belynt diweddsr. Edith hithau yn ymddadebru o'i llewyg; ond yn methu edrych ar dad Myfanwy Morgan gan ryw ofn caethiwus,-ofn fod Myfanwy ar gael, ac arswydo rhag y drychfeddwl calon- rwygol o weled Madog yn eiddo arall. Meilir, yr hwn a wyddai yn dda sefyllfa y pleidiau carwrcl, a ofynodd i Hopcyn Morgan, "Betb am Myfanwy, a ydyw yn awr ar gael1" Madog yn crynu ac arswydo rhag i'r atebiad fod yn anffafriol, ac yn gweled pob eiliad yn awr yn yr argyfwng pwysig rhwng yr holiad a'r atebiad. Y gwr o Benygraig yn carthu ei wddf ac ymbwyllo; ac o'r diwedd, megya rhwng bodd ac anfodd, yn ateb y gofyniad gorbwysig,— "Och! blin yw adrodd, y mae Myfanwy wedi ei chymeryd ymaith trwy drais ganol y nos gan fab Arglwydd Vernon; ac yr wyf, er pob gorucbwyliaeth gyfreitbiol, wedi methu a chael gair o'i belynt!" "Ow, Ow!" gwaeddai Madog yn haner gwallgofus, "y mae fy ngobeithion mwyaf dysglaer wedi cael eu dinystrio; Myfanwy ar goll, Myfanwy wedi ei chaethiwo! Yr wyf bellach, er fy holl ddyrchafiad anrhydeddus, yr adyn mwyaf truenus ag a droediodd ddaear Duw erioed!" Hcpcyn Morgan yn ychwanegu,— "Ymgysura, fy macbgen, paid ymollwng fel un heb obaith; ond nis gallaf dy feio,-nid oes genyf fi ddim bellacb i ymhyfrydu ynddynt ond achos fy Nuw ac achos fy ngwlad." Meilir yn celsio calonogi y cymdeithion tor- calonus,— "Madog a Hopcyn, ystyriwch mai milwyr gwrolfrvdig ydych, yn ymladd o blaid yr achos goreu, ac, bellacb, wedi enill buddugoliaeth ogoneddus. Betb, tybed, a ddywedai Arglwydd Grey, a'r golofn ymosodol ddihafal a arweinid mor fedrus genyt, pe clywent fod Madog yn wylo fel plentyn prydnawn yr oruchafiaeth, yn u:ug oherwydd tipyn o siomiant carwr- iaetbol (I" Edith yn cyfodi, a brysio yn mlaen i sychu y dagrau oddiar ruddiau gwlybion Madog, ac yn sibrwd yn ei glust,- "Paid wylo, fy machgen ;-byddaf fi gyda thi; y mae cariad Edith mor bur ac angerddol ag eiddo Myfanwy ei bun." Madog yn ysgwyd ei ben yn anobeithiol, heb ateb gair, a Hopcyn Morgan yn deisyf cael ei gludo i'r gwersyll o'r lie gwaedlyd hwnw. Meilir, Madog, ac Edith yn cynorthwyo i'w Toddi ar yr elor fiiwrol, wedi yn gyntaf rwymo ei archollion, ac yna cludasant ef i'r gwersyll, pryd y croesawyd ef yn frwdfrydig gan ei wir- foddolwyr gwladgarol o Ddyffryn Tawy, i ba rai yr oedd yn benaeth galluog. Tranoeth derbyniodd Madog nodyn ysgrif- enedig oddiwrth lolo Goch, yn ei hysbysu yn gyfrinachol ar y priodoldeb o gymeryd Edith Jones yn wraig, gan fad Myfanwy wedi ei cholli. Prydnawn yr un dydd, mynodd Madog siawns i siarad yn bersonol ag ef ar y pwnc. "Gelli fod yn sicr y byddai yn well i ti i fymeryd trugaredd ar Edith, yr hon sydd yn y garu mor fawr," meddai Iolo Goch, "dyna yw dymuniad diffuant dy gydswyddogion mil- wrol gwladgarol. Y mae ganddi bawl arbenig ar dy gydymdeimlad fel "chwaer trugaredd," yn pleidio yr un acbos da a thithau; ac wedi'th ganlyn i'r gwersyll hwn er mil o rwystrau." Madog yn ateb,- "Yr wyf wedi rhoddi fy ngair i Myfanwy. Pa fodd y gwynebwn hi eto pe torwn fy addun- edau difrifolaf?—O ie, pe awn yn eiddo arall? Yr wyf yn caru Myfanwy caraf hi yn fyw ac yn farw, ac ni ddichon cywir galon garu dim ond un." "Madog bach, oni wyddost fod Myfanwy ar goll? ie, a thra thebyg, wedi syrtbio yn aberth i wallgofrwydd Robert Vernon. Nid oes un addewid yn mhellach nag hyd angau ;-y mae angau yn difodi grym a bawl pob adduned "Credwn, pe awn gydag arall, na byddai Uwyddiant byth i'm canlyn; a phe byddai fy anwyl Fyfanwy wedi marw, ofnwn y byddai i'w hysbryd ymadawedig ddychwelyd i aflon- yddu arnaf, ac adgofio i mi yr addunedau cysegredig a doraswn!" "A ydwyt ti, a thithau yn uwch swyddog yn y fyddin wrolaf yn y byd, yn gymaint o lwfrddyn a byn, yn cymeryd dy ddychrynu gan ofn an dychymygol adisail? Madog Llwyd, y diwygiwr, a chanlynydd Wickliffe enwog, mor ofergoelus a chredu yn y fath ffiloreg wrthun?" "Ai tybed, Iolo, nad oes rban mewn pri- odas?" "Nac oes ran yn y byd, y ffolog hurt, dewis- iad y w'r cyfan; ac ni ddylai dyn gymeryd ei arwain fel dall gan nwyd cariad; ond dylai fwrw'r draul, a myned gyda'r hon a weiniai oreu er ei gysur." "Nis gallwn fyw yn ddedwydd gyda neb ond Myfanwy yn unig; byddai fy einioes yn boen a gofid i mi pe ieuid fi yn anghydmarus gydag arall." "Nid da bod dyn ei hunan," meddai yr Arglwydd, a gwell i ti gymeryd Edith na bod yn ddiymgeledd. Nid yw rhyfel yr annibyn- iaeth i barhau o hyd—rhoddir y cleddyf yn y wain wedi y llwyr orchfygom ein gelynion; a dychwelwn bob un mewn tangnetedd i drigo ar ei aelwyd ei hun." Edith yn dyfod i'r gwmniaeth, ac lolo Goch yn cydio yn ei Haw a'i thywys at Madog, a dyweyd,- "Edith, wele dy wr; Madog, wele dy wraig." Madog yn pengrymu, heb ateb gair, rhag tramgwyddo yr eneth galon garedig. Madog bach, paid ag ofui," sibrydai Edith yn ei glust, nid dy elynes wyf fi; nage, yn wir, ond un sydd yn dymuno dy lwydd yn fwy na phawb." Iolo yn cilio allan, gan adael y par ieuanc wrthynt eu hunain. Yr udgorn yn bloeddio i'r daith, a'r gwersyll yn cael ei dori i fyny gyda brys. Madog yn dychwelyd at yr ystaff swyddogol, ac yn cy- chwyn gyda'r fyddin am ymdaith filwrol tua Lloegr, er gorchfygu y gelyn ar ei dir ei hun. Pan ar yr ymdaith hon, anfonodd Abad mynachlog y Cymer air at Glyndwr, y byddai yn well iddo ddyfod i gymod a Hywel Sele, o Nanau, gan eu bod yn berthynasau mor agos. Cychwynodd Owain a Madog i gyfarfod yr Abad a Hywel; a phan ar daith, a bron yn ngolwg y Cymer, sylwai Madog yn ddifrifol,- "Bydded i ni fod ar ein gwyliadwriaeth heddyw; aflonyddid fi neithiwr gan freuddwyd- ion cyffrous; gwelwn wiberod ebedegog yn gwibio yn llechwraidd oddiamgylch yr ystaff swyddogol, ac yn cynyg at galon y Tywysog." Nid oes bosibl, Madog, y gallai fy nghefn- der fy hun amcanu un niwed i mi; byddai yn fwy tebyg genyf fod drwg yn llawes yr hen Abad coelgrefyddol. "Oni wyddost, fy Arglwydd Dywysog, mai gelynion gwaethaf dyn yw tylwyth ei dy ei hun. Cofier am Hywel, fy mrawd anffodus, y rhan fradwrus a chwareuodd yn fy erbyn." "Ust, Madog, wele Hywel fy nghefnder a'r hen Abad yn dyfod; aroswn iddynt wrth yr hen geubren hwn." Dyn hoew braf yw Hywel Sele-gwnelai filwr da yn y fyddin Gymreig pe gallem ei enill at ein hachos." "Y mae Hywel yn ymddangos yn fwy llawen nag erioed; y mae hawddgarwch cyf- eillgarol yn dawnsio ar ei wynebpryd. Tra thebyg y deuwn i gymod anrhydeddus yn fuan." Hywel a'i gydymaith yn cyflym ddynesu atynt, a phan bron a chyfarfod, sibrydai Madog yn nghlust ei feistr,- Y mae golwg gadnoaidd iawn ar y cefnder Tywysogol." "Taw Madog, maent yn yr ymyl." O'r diwedd wele'r ddau gefnder anfoddog wedi cyfarfod ac yn ysgwyd dwylaw yn wresog; a sylwai y Tywysog,- Pa fodd, Hywel, y gellaist wrthwynebu dy gefnder ffyddlawn, a throi gydag estroniaid gelynol yn erbyn llesiant dy wlad?" "Yr wyf yn edifarhau yn y llwch, ac yn addaw dyfod i gymod anrhydeddus, ac amddi- ffyn awdurdod y deyrnwialen Gymreig hyd fy medd." Yr Abad a Madog yn sefyll draw wrth weled eu cyfeillgarwch mor wresog, er mwyn iddynt gael chwareuteg i orphen yr ymddyddan car- edig, a dyfod i gymod anrhydeddus. "O! Hywel, fy nghar, pe gallwn gosodwn di yn fy mynwes, gan mor llwyr y maddeuaf i ti am bob camwedd blaenorol, wrth dy weled yn dychwelyd i gofleidio achos dy wlad." "A ydyw Owain, fy Nbywysog, yn addaw maddeu y cyfan idd ei gar annheilwng; os felly, moes law, a thyred i gymod. Owain ffyddlawn yn estyn iddo ei law, ac yn ei gofleidio, pryd yn llechwraidd y tynodd Hywel allan ei ddagr ddau finiog, gan ei brathu i fynwes ei gefnder Tywysogol diddichell. Rhoddodd yr ail frathiad bradwrus, pryd y neidiodd Madog fel llew rhuadwy yn mlaen, gan afaelyd yn y llofrudd, a gwaeddi,- "O! fradwriaeth uffernol! yr anghenfil cas, penderfynaf dy dynged cyn pen deg eiliad!" Madog ac Owain yn diarfogi y llofrudd, gan ei chwyrndaflu yn haner marw i'r hen geubren gyfagos. Owain Glyndwr yn diosg ei fantell filwrol, ac agor ei fynwes, ac yn dangos idd ei frad- lofrudd y wisg ddur ddirgelaidd a wisgai ef o dan ei ddillad. "Ah!" siomwyd di, y dyhiryn aflan; wele doriadau dy ddagr finiog yn fy mantell; wele olion dy frathiadiau bradwrus ar fy nur-wisg yn nghyfer fy nghalon," meddai Owain mewn ton cyffrous. Yr ben Abad yn rhedeg atynt a'r dwr ar ei ruddiau, gan ymostwng o'u blaen yn ymbilgar, a llefain,— "O! gyfeillion anwyl, arbedwch n;—nis gwyddwn ddim am fradwriaeth aflan Hywel Sele. Yr oedd fy nybenion yn gywir a gwlad- garol wrth geisio cymod rhyngddo a'i gefnder, y Tywysog—mae'r nef yn dyst nad oedd twyll yn fy nghalon." "Arbedwn ef," meddai Owain, "credwyf nad oedd a llaw yn y gyflafan amcanedig." "Ond cadwer ef yn gaeth, yn wystl dros eirwiredd ei dystiolaeth, hyd nes cawn chwilio yn inhellach i'r achos," meddai Madog, gan chwythu yn ei udgorn milwrol, er galw osgordd o'r gwirfoddolion at eu gwasanaeth. Wele fy mradlofrudd yn cyfodi ei ben yn yr hen geubren," meddai Glyndwr, gan ys- gwyd ei ben gyda ffieidd-dod; dacw ef yn cuddio ei wyneb rhagof. Y mae ei drosedd yn rhy ddamniol iddo allu edifarbau i ofyn fy maddeuant." "Nid ynganodd air, yr angbenfil dieflig! Tagodd ei siomiant ef, wrth weled fod ei gefn- der Tywysogol wedi goroesi y weithred gyth- reulig, i fod yn dyst o'i fradwriaeth lofruddiog -y ffug-gyfaill bradwrus." Yr A bad yu gwaeddi fod y milwyr digofus yn brysio tua'r llanerch geubrenol, ac yn ym- ostwng ar ei liniau i ail ddeisyf am arbediad bywyd. Y milwyr wedi cyrhaedd, ac wedi iddynt ddeall yr helynt, yr oeddent yn gynddeiriog gwyllt, ac yn gwaeddi dial, dial;" ac ofer y deisyfai Owain arnynt i adael yr "anadl" yn y bradwr ceubrenol. Cawod o bicellau miniog oddiwrth y gwlad- garwyr twymgalon a benderfynodd dyngbed y dyhiryn bradwrus. Neidiodd Brochwel, llywydd y fintai, gan goleru yr hen Abad, a chwilio ei bapyrau, fel yr arferir a gwneud i fradwyr ysbigar; ond trodd yr ymchwiliad allan er gwaredigaeth a rbyddhad yr Abad, gan y cawd yn ei ysgrifau brofion diymwad o'i wladgarwch diledryw. Ya y nos cynaliwyd dawns fawreddog, er coffhau mewn llawenydd am waredigaetb y Tywysog Cymreig a threfnodd y swyddogion i Madog ac Edith fod yn gymdeithion ar yr Echlysur. Wrth eu gweled yn gwneud eu rhan mor dda, gwaeddai Iolo Goch allan ar ganol y chwareu:— Y Caplan cyrcher gyda brys, Er uno yn ein dawnsiol lys, Ein Hedith hoff o Benygraig, A Madog Llwyd-yn wr a gwraig." (I'w barhau.)

Advertising

LLYTHYR 0 AMERICA.

Advertising

COFADAIL I CALEDFRYN.