Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
Cyfarfod Ysgol.
News
Cite
Share
Cyfarfod Ysgol. Sabbath, Gorphenaf 3ydd, cynnaliwyd yma gyfarfod ysgol llewyrchus. Yn y boreu llywyddwyd gan Mr Willism Jones. Dech- reuwyd trwy i ddosbarth Mr Owen Hughes adrodd Salm, ac i'r brawd Mr J Evans weddio. Yna caed ton gan barti Mr J Evans. Cafwyd papyr rhagorol gan Mr Hughie Evans ar 'Gwaith yr Ysgol SuI.' Cdfwyd sylwadau ar y papyr gan Mri Robert Ivey a J J Griffith. Ton gan y plant o dan arweiniad Mr J Jones. Holwyd y dosbarth yn y Maes Llafur gan Mr Robert Ivey. Yn y prydnawn llywyddwyd gan Mr Richard P Jones, Highfield. Dechreuwyd y cyfarfod trwy i ddosbarth Miss Roberts, Ivey House, adrodd pennod ac i Mr W Roberts, Berwynfa, weddio. Yna cafwyd ton I Afon Bur' gan barti Mr John Evans yn swynol iawn. Adroddiadau gan Enid Jones a Josiah Jones. Cafwyd papyr gan Trebor Kfion ar I V Be bl,' Cafwyd syl- wadau gan Mri Griffith T Jones, William Jones a J R Thomas. Can a chydgan, Paid a'm gadael d:rion Iesu I dan arweiniad Mr J Jones. Holwyd y plant gan Mr J J Griffith. Adroddiad gan Mr J Griffith, Holi y plant gan Mr T T Williams. Ad- roddiad gan Miss Louisa Williams. Holi y dosbarth hynaf gan Mr R Ivey. Can a chydgan i ddiweddu dan arweiniad Mr J Jones. Yn yr hwyr dan lywyddiaeth Mr G T Jones, cafwyd cyfatfod i'r plant yn fwyaf neillduol. Dechreuwyd trwy i ddosbatth Mrs Parry, Armouty, adrodd Salm, ac i Mr J Griffith weddio. Yna cafwyd ton gan barti Mr J Evans. Cafwyd adroddiadau a chaneuon gan y rhai canlynol Willie J Roberts, J Ellis, Richie Jones, Gwladys Davies, Gwilym Jones, Willie J Parrr, Willie Jones, Tommy Williams, Even Morris, Janie Jones, Janie Roberts, Mary Hughes, Mary Parry, Albert Williams, Owen Evans, Janie M Williams, T J Roberts a G Llew Jones. Cafwyd deuawd gan Mri William T Williams a Samuel Williams. Holwyd y plant gan Mr Robert Jones can gan Miss Jenn e Parry holi y plant gan Mr T Wiltiams can Mr T 0 Williams holi y plant gan Mr J J Griffith deuawd gan Mri R W Jones a S W Jones ton gan y cor, Awn i Bethania' dan arweiniad Mr J Jones. Cyfeiliwyd gan Mr David S Davies Cafwyd cyfarfodydd rhag- orol ar hyd y dydd. Gallwn ddweyd fod ein hysgol Sul yn fwy lluosog nag y bu erioed o'r blaen, ac fod ymdrech neillduol i addysgu y rhai bychain yn egwyddorion y Testament Newydd. Y swyddogion y flwyddyn hon ydynt, -Arolvgwr, Mr Evan R Griffith, Brynllifon Ysgrifenydd, Mr Owen Hughes, Chapel Road.
Cyfarfod Pregethu.
News
Cite
Share
Cyfarfod Pregethu. Nos Sgdwrn a'r Sul, Gorphenaf gfed a'r iofed, cynnaliwyd ein gwyl bregethu flyn- yddol pryd y pregethwyd gydag arddeliad gan y Parch Evan Williams, Fron, Llan- gollen, a'r Parch J. Gilbert Jones Rhyd- wyn.
Cymmanfa Arfon.
News
Cite
Share
Cymmanfa Arfon. Y mae y gymmanfa uchod i'w chynnal yma y flwyddyn nesaf. Dwy gymmanfa gynnuliwyd yn Mhenygroes er pan gych- wynwyd yr achos, sef y cyntaf Mehefin 16eg a'r 17eg, 1886, a'r diweddaf Mehefin igeg a'r 2ofed, 1895. Rhyfedd y fath gyfnewid- iad sydd wedi cymmeryd lie er pan gynnal- iwyd y gymmanfa ddiweddaf yma, gynnifer o frodyr a chwiorydd anwyl sydd wedi eu symmud oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Rhai brodyr oedd yn cymmeryd rhan amlwg mewn trefnu ar gyfer y gymmanfa ac yn y cyfarfodydd, sef y Parch J J Williams, ein diweddar weinidog Mr W Davies, arweinydd y gan Parchn S P Edwards, Pwllheli; T Hughes, Llandudno 0 J Roberts, Llafair P.G, Gethin Davies, D.D. T P Davies, Bethesda Mri Richard Wil- liams, Garn R Meigant Jones, Caernarfon,
Advertising
Advertising
Cite
Share
I URIC ACID. A Ddechrena fwy o Aflediydon na'r un Gwenwyn arall. Eich Arenau yn Unig a'ch Gwared. Crynhoir yn eich corph mewn „ Pnh d„rt1in „ ychydig ddyddiau ddigon o surni QBrltin a troethol (qti-ic acid) iachosi mar- ddywed llanes." wolaeth. Eich arenau yn unig a'ch gwared gweithiant hwy ddydd a nos i doddi y gwenwyn marwol ~—— hwn, a'i hidlo allan o'r cyfan- Cadw yr arenau yn iach, felly, |M, ydyw rheol euraidd iechyd da, a W phryd bynnag nas byddoeh yn teimlo yn siriol ao yn ucliel eich Vwfsff ysbryd, dylech ar unwaith ddochreu gyda PHKLENI ARENAU CEFNBOEN ^MK DOAN (Doan's Backache Kidney WT MV^ imL \T™&J Pills). Hwy a roddant i chwi n V n Ifi ryddhad buan a pharhaol, oblegid f y Vn 1 I hwy a wnant yr arenau yn iach y/ Y u unwaith eto, ac yna ymarllwys y Y | 'l| AM gwenwynau o'r corph yn y ffordd L, A//a \|\ 'l| naturiol. Ond os esgeuluswch ;'■ 'm Sr eich arenau hwy a esgeulusant hidlo allan wenwyn yr uric acid, w/i ao yn y man chwi a ddechreuwch jl is mR&W deimlo yn drymaidd,_ao yn llesg, hm^ ac yn drist. Eich lliw a ä; eich llygaid a elant yn hagr, ac el eich f camrau yn araf ao yn egwap. j Eich fferau a'ch aelodau a llelola; eici calon a weithrcda yn \\J|^ ddleithr. Yr uric acicl a grisiala ac achosa I'll (111 grafel, annhrefnau troethol (win- j | |* ifl ary disorders), cryd cymmalau, I 1 !l ^P\ if m cyinmalwst [gout), clunwst (scia- jil| u tied), a'r neuralgia, a diwedd ar 1 V y owbl fydd, drwy luddias gwaith naturiol yr arenau, achosi y mar- wol glefyd mor adnabyddus dan yr enw Bright's disease. Perygl mawr gwenwyn yr uric acid bledren. (Ni weithreda ar y coluddion). ydyw, ei fod yn magu nerth mor raddol, Mae y PELENI DOAN liyn yn toddi ac yn mor ddistaw, fel ar y cyntaf ni sylwir arno, symud ymaith bob ormodedd o surni a phan y gwelir ao y teimlir arwyddion mor troethol (excess of uric acid); yn glanhau ddiamheuol a phoen yn y cefn a'r annhref- yr arenau a'r sianeli dwfr yn lliniaru y j nau dyfrol, gellir sicrliau fod y drwg fflamcg (inflammation) ac yn .iachau yr eisioes wedi gafaelyd yn gadarn yn y arenau. Mae PELENI I)OAN wedi bod dioddefydd; felly, pryd bynnag y byddweh mewn ymarferiad am yn agos i 75 o flynydd- allan o hwyl, rhoddweh gynorthwy i'ch oedd, ac y maent yn berffaith ddiogel i'w arenau drwy gymeryd PELENI ARENAU cymeryd gan y naill ryw fol y llall, a chan CEFNBOEN DOAN (Doan's Backache Kidney bob ocdran, oblegid gwneir hwynt o wreidd- Pills), y feddyginiaeth y gellir ymddiried iau pur a llysiau, ac ni ymyrant ag ynddi at bob anhwylder yn yr arenau a'r unrhyw organ arall o'r corph. I YR fltesn -itourinfflm FLWCH SgJ ||B DIDWYLL. On 01-1 i Gan holi fferylhvvr ac yn y Storcs am 2/D y blwdi;6 blweh UKhU 1 P&wFFf** /> 13/9; neu yn rliydd drwy y ost UUS. yn syth oddiwrth v FOSTER \MCCLELLAN Co., 8, Wells Street, xOOMPIJPLI}SITS\\ Oxford Street, London, W.
Gwaeledd.
News
Cite
Share
Gwaeledd. Drwg genym fod y ddau frawd gweithgar Mri W Roberts, Berwynfa, a Robert Jones, Tanycapel, wedi eu dal gan afiachyd. Y mae y brawd W Roberts wedi cael gorch- ymyn gan ei feddyg i gymmeryd ychydig fisoedd o seibiant. Vmddengys i'r brawd j Robert Jones gael ei daro yn wael tra yn dilyn ei alwedigaeth fel y bu raid ei gludo adref mewn cerbyd. Y mae y ddau frawd yn dcli-aconiaid ffyddlawn yn egiwys Cal- faria. Eiddunwn iddynt adferiad buan.
! Llwyddiant.
News
Cite
Share
Llwyddiant. Da genym ddeall am lwyddiant Mr Ellis Evans, Water Street, yn Mhrif-ysgol Bangor. Ymddengys ei fod wedi pasio nifer o arboliadau gydag anrhydedd. Y mae ef yn fab i un o ddiaconiaid Calfaria, sef Mr Hugh Evans. Eiddunwn iddo bob llwyddiant eto yn y dyfodol nes cyrhaedd pen yr ysgol.
IDyfod Adref.
News
Cite
Share
Dyfod Adref. Llawenydd genym oedd gweled Mr Hugh Griffith, Llwyndu Bach, wedi dod adref wedi bod yn absenol am saith mlynedd. Deallwn ei fod wedi teithio Ilawer yn America ac Australia, ond o Ddeheudir Affrica y daeth adref. Mae yn edrych yn dda. Hefyd, daeth Mr John Humphreys adref o'r un lie. Bu ef ar ymweliad a ni o'r blaen flwyddyn yn ol. Y mae yntau yn edrych yn dda. Dau o blant Ebenezer, Lianilyfni, ydynt, ac yn tarddu o hen gyff o Fedyddwyr ar. dderchog. TREBOR EIFION.
Cymmanfa Arfon.
News
Cite
Share
ac amryw eraill. Gobeithiwn y bydd y gymmanfa y flwyddyn nesaf o dan eneiniad y Nefoedd.