Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

------MASNACH YR HAIARN A'R…

News
Cite
Share

MASNACH YR HAIARN A'R GLO. RHAID fod yn fyr yr wythnos hon, gan fod galwad arnom i fod mewn rhan bellenig o wlad y Sais, a rhaid cychwyn gyda'r tren y boreu hwn. Yn MIDDLESBEo', ar ddyddiau Mawrth a lau, yr oedd cynull- iad rhagorol o dda ar y Gyfnewidfa. Yr oedd y farchnad yn sefydlog, a phris Rhif 3 o haiarn bwrw yn 2p. Is. 9c. y dunell am immediate delivery2p. 2s. y dunell am delivery yn y tri mis nesaf. Prisoedd yr haiarn gorphen-weithiol yma ac yn ngwa- hanol weithfeydd ereill yn Lloegr fel y cap- lyn:—Platiau llongau (yn mha rai y gwnawd marchnadaeth rhagorol o dda), o 6p. 10s. i 6p. 12s. 6c. y dunell; haiarn- onglau, 6p. y dunell; barau, 5p. 17s. 6e. y dunell; sheets, o 7p. 10s. i 7p. 15s. v dun- ell; cable iron, o 7p. 15s. 6c. i 8p. y dunell; puddled bars yn aros yn 4p. y dunell. Nid gwiw i ni dreulio eich gofod i fyned dros leoedd ereill yn Lloegr, oblegyd y mae y prisoedd yn dra chyffelyb. Trwy weith- feydd SIR FYNWY, y mae marchnad yr haiarn a'r dur, os dim, yn dangos mwy o fywiogrwydd. Mae yn fwy felly yn neillduol gyda'r dur. Archeb- ion mawrion o America a'r Trefedigaethau. Rheiliau dur yn sefydlog am o 6p. 5s. i 6p. 10s. y dunell f. o. b., ac y mae yn anhawdd derbyn heavy forward contracts am y pris- oedd hyn. Mae cwmni Rhymni ar draws. symud rhanau pellach o'u gweithfeydd o weithio haiarn i weithio dur. Nis gellir dweyd fod nemawr o fywiogrwydd yn ngweithfeydd alean y sir. Y glo yn cael ei weithio yn rheolaidd a bywiog drwy yr holl weithfeydd. Mae yn Rhymni nifer mawr o weithwyr wedi cael eu troi allan o waith oherwydd atal y melinau rholio a'r forges, ac nid oes gobaith am eu hadgychwyn hyd nes y byddo gweithio ychwanegol ar y dur yn cael ei ddwyn yn mlaen. Yn adran MERTHYR TYDFIL, nid oes yr un,falling off yn y bywiogrwydd eyffredinol sydd yno yn y gwahanol weith- feydd. Mae y glofeydd yn gweithio yn rhagorol o dda. Y gorchwyl o adeiladu y Wire Works yn y Willows yn myned yn mlaen gyda chyflymdra. Gweithfeydd Dowlais yn dda am archebion. Nis gallwn ddweyd nemawr am weithfeydd t&n y Gyf- arthfa, ond fod seiliau da i gredu y gellir dysgwyl am derfyniad ffafriol yn fuan. Yn adran ABERTAWE, y mae ton iachus yn parhau i nodweddoli masnach mewn modd eyffredinol. Cais boddhaol am y prif nwyddau i gadw y melinau i fyned yn barhaus. Y gweith- feydd alcan yn fwy sefydlog. Ychydig mwy o gais Americanaidd am alcan. Nid yw y patent fuel mor sefydlog. Nid oes dim yn rhwystr i fasnach y glo, ond yn unig nad oes digon o longau i'w gludo ymaith. Yr oedd yr allforiadau yma yr wythnos ddiweddaf yn gyffelyb i'r wythnos flaenorol. Gyda ni yma yn 2TOHAERDYDD, yr oedd yr allforion yr wythnos ddiweddaf fel y canlyn:—Glo, 109,523 o dunelli; patent fuel, 1,736 o dunelli; haiarn a dur, 1,241 o dunelli; golosglo, 316 o dunelli. Mae masnach yn fywiog drwy yr holl ad- ran, yr hyn sydd yn brawf nad oes yr un falling off yn y cais am lo ager. Am single cargoes a chytundebau bychain, mae rhai o'r shippers yn gosod y pris mor uchel ag lis. y dunell f. o. b., ac y mae y profion yn amlwg fod y cais wedi dyfod i fyny, os nad yn fwy na'r cyflenwad. Mae y troad allan o ddur yn y gweithfeydd Ileol yn cynyddu. Y cais, yn ddiaii, sydd yn peri hyn. GOHEBYDD MASNACHOL. Caerdydd, Tach 23, 1881.

[No title]

AT Y BEIRDD.

[No title]

!PENILLION COFFADWEIAETHOL

DEIGRYN ER ATAL DAGRAU.

MARWOLAETH MR. JOHN MASEY,…

Advertising