Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

[No title]

COLEG Y GWEITHIWR.

Y Gongl Gerddorol.

Eisteddfod Alban Elfed, Aberdar,…

Nodiadau Nedi Norris.

PROFF. MAX-MULLER AR LA W-FER.

MORIEN AC IEITHEG.

News
Cite
Share

MORIEN AC IEITHEG. MR. GOL.,—Synir ni yn fynych gan y dull di- bryder ac ymfoddhaus yr ymdrinia ambell ysgolor Cymreig â. phynciau ieithol. Nid ydym yn gwybod pa gymaint o wybodaeth am ieith- oedd sydd yn meddiant Morien; pa gymaint bynag, ymddengys yn anwybodus hyd yn nod o elfenau'r ieithoedd clasurol. Ychydig amser yn ol, yn eich colofnau, dywedodd mai ystyr Roegaidd y gair theatre yw, yr wyf yn gweled." Buasai ysgrifenydd trefnus yn gosod allan ei feddwl yn fwy celfyddol. Ystyr theatron, o ba un y deillia y gair Seisnig theatre, ydyw edrych- fa, neu ddrychfa, neu weledigaeth. Ystyr theaomai ydyw, yr wyf yn edrych. Y mae gwa- haniaeth rhwng edrych a gweled. Gosoder enw bob amser yn air cyfiaith am enw, onide ? a berf am ferf. Tra annheilwng ydyw dweyd mai ystyr golygfa yw, yr-wyf yn gweled." Y mae Morien yn naeru pethau gyda diofalwcsh Uwyr anwybodaeth. Y mae ganddo feddyliau an. nghwbledig i'w rhyfeddu. Nis gwyr nemawr ddim am ddillynder syniadaeth. Er engraiflt, haera mai Abraham oedd yr luddew cyntaf. Y mae hyna yn gryn ddweyd Ni fu Abraham, nac Isaac, na Jacob, Iuddewn erioed, oblegyd disgynyddion Juda yn briodol yw Iuddewon. Nis gellid galw Abraham yn Israeliad. Yr oedd Abraham yn Hebrewr, ond ni fu nac Iuddew (Judaeus) nac Israeliad. Diffyg pwysig sydd yn arwain i gamgasgliadau andwyol yw gwaith Morien, megys dysgawdwyr anofalus ereill yn mhlith y Cymry, yn seilio eu cyfundraethau brysiog ar ddychymygion meddylfryd anwydd- onol. I Morien, nid yw Teutates y dwyreiniwr ond Duw Dad y Cymro. Tybiaethau ydyw meddyliau Morien. Gwelai Lewys Morys. El Sadai yr Hebrewr ond llygriad o a all sydd dda y Gymraeg Mor ffortunus y trodd y ffraethyn hwnw Jupiter i Jew Peter. Dylai Morien ddeall fod tebygolrwydd sain yn angenrhwydd, oher- wydd prinder adnoddau seiniol. Cyfieitha Morien derwen yn dder sanctaidd. Nis gwydd- om ond mai plantos mewn ieitheg a feddylient roddi ystyr i ddiweddiad gair. Dengys diwedd- iadau berthynas y geiriau a rhanau ymadrodd, rhywogaeth, amseriad, &c., yn lie derwen, megys gair a therfyniad benywaidd iddo. Cymer Morien ef yn air deusill. Perthyna i'r un dos- barth a bedwen a chyffelyb-oyff y gair yn cymeryd ato w yn brawf mai en yw'r terfyniad, ac nid wen. Er engraifft arall, meddwyn a'i fenywaidd meddwen. Beth fedr Morien wneyd o medd a wen ? Gall wneyd rhywbeth o'r gair meddw-en. Er mwyn anrhydedd dysgeidiaeth yn Nghymru, myfyried ei dysgawdwyr elfenau iaith. Gallai Morien gael cryn ddifyrwch, os yw am, drwy ddeongli'r Gymraeg ar yr eg- wyddor chwerthinus. Hagr-wch yw hagrwch, &c., &c. Os ydym yn cofio yn iawn, y mae dysgawdwr Cymreig arall wedi darganfod fod y diweddiad w yn nacau pob sill sydd yn blaenu. Er engraifft, marw. Ystyr mar yw bywiog, eithr y mae w yn ei dagu Eglura gweddw yn yr un dull comical. Gellid cael llawer o ddifyr- wch allan o hypotheses o'r fath, pe byddai hyny yn llesol i wneyd i ffwrdd a rhyw goegysgolheig- dod o'r fath. Galw, gal-w gal yw tewi, ond llefara'r w! Hwn yw hwn, ond hwnw yw neb Trueni dirfawr na ellid chwerthin a gwawdio y fath ddysgawdwyr allan o'u gwag-gredoau I Ychwanega Morien, Yr enw hwnw yn cael ei roddi gan y beirdd, fel yr oedd hefyd yn cael ei galw yn Venus. V yn lie W, yn ol arfer y Lladinwyr wrth seinio geiriad Cymreig, a gosod wrth ei ddiwedd yr us Lladinaidd. Gwenus, Wenus, Venus." Druan o falchder y Cymro, Cymraeg wedi ei gwaethygu yw Lladin Piti na ddarllenai Morien dudalen ar athroniaeth hanesyddiaeth. Ceir Venus yn air arferedig yn llenyddiaeth Rhufain yn hir cyn geni Crist. Trwy ba fodd y medr Morien ddwyn prawf fod Venus (neu Gwener, neu (rwenus) mewn arfer cyn dyfodiad y Rhufeiniaid i Brydain, neu i blith Cymry, i'w gael ? Nid oes rhaid fod Gwen a Gwenes a Venus yn eiriau or un tardd- iant. Ond i brofi henafiaeth gair for afact, ac i ba iaith y perthyna yn gyntaf, ymddengys i ni fod y ddadl yn gorphwys yn gwbl ar dystiolaeth ysgrifau dilys. Ceir Venus yn Horace, er engraifft. Yn mha ysgrif Gymreig gydoesol y ceir Gwener ? ac ar ba dystiolaeth arbenig y gesyd Morien y prawf i'r Lladiniaid ddwyn y particular wood Venus oddiar y Gymraeg ? GWYPPQN.

Glanau Rhondda.