Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
Bu fferyllwyr. Germani, yn ddweddar, yn chwilio i halltni dyfroedd y Marw, a phriodolir hyny yn gwbl i ddtKgyfansoddiad craig o halen aydd dan ei wely a'r magnesia yn yr haenau. WANTED, in every town and vilage in South Wales and Monmouthshire, an enegetic canvas- ser, man or woman, to sell the Hon Wirt Sikea's new and most attractive book, 'Rambles and Studies in Old South Wales." Er particulars, addressW. Bruoe Lorie, DockslCardÜf. 2578
COLEG Y GWEITHIWR.
COLEG Y GWEITHIWR. GAN Ap CORWYNT & Co. Nos Wener, Tachwedd 18fed. Vulcan Fardd.—Wei, fechgyn, dyma ni wedi pasio'r Calangauaf unwaith eto, ac yn cariamu yn mlaen yn gyflym tua'r Nadolig, yr hwn sydd wedi ei fritho eleni eto ag Eis- teddfodau fychain a mawrion. V mae bechgyn y Senedd acw wedi bod yn areithio'i chalon hi y dyddiau diweddaf yma-y Tories a'r Liberals ar y maes yn waddo ar eu gilydd, ac yn taflu Uwch a llaid y naill at y llall. Y mwyaf chwerw o'r Toriaid yw Arglwydd Salis- bury. Nid oes derfyn ar ei sneers ef tuag at Gladstone a'i Weinyddiaeth ond fe welwyd amser arno yntau, pan yr oedd efe yn cael ei sneero gan yr hen dad Beaconsneld, y pryd hwnw Disraeli, ac ni fu teimlad da rhyngddynt am flynyddau ar ol hyny. Nid oes dim a wnaeth ac a wna Gladstone wrth fodd Salis- bury—rnae'r cyfan go chwith yn lan. Ni weles i y fath greadur annhrugarog a diymys- garoedd yn fy mywyd tuag at ei wrthwyneb- ydd. Medd hen ddywediad Seisnig, "There is honour among thieves ond 'does dim trwch blewyn sidan o honour yn Salisbury tuag at y Rhyddfrydwyr. Fe ymladdai yr hen Beaconsfield yn anrhydeddus, ond ei fod yn tori i'r asgwrn, ac yn ofnadwy geryddlym, pan ddywedai am Gladstone, ei fod yn in- toxicated with the exuberance of his own verbosity." Rhag ofn nad yw pawb ohonom yn deall y frawddeg hyna, efallai y cawn ni gyfieithiad ohoni gan rai ohonoch. Ap Corwynt.-O, dyma rydd-gyfieithiad o'r frawddeg yn lied agos, feddyliwn, sef fod Gladstone "yn feddw gan arddigonedd ei eiriogrwydd ei hun." Cic ofnadwy gas oedd hona, welwch chi, sef yn gyfystyr a dweyd bron fod Gladstone yn addoli ei hun. Ond mae'r Seneddwyr yma erioed yn cicio yn gas weithiau. Dyna Syr W. Harcourt, yn Ys- gotland, ychydig ddyddiau yn ol-yr oedd g 11 cyllell ei watereg yn cael ei gwanu hyd y earn i my Lord Salisbury, ac yr oedd y darlun a dynai ohono bron, yn ddigon, feddyliem, a pheri i'r lord ffieiddio ei hunan. Ciciwr heb ei fath yw John Bright, pan aiff e' ati. Y mae yn fwy o feistr ar y Saxonaeg gynhenid na neb byw yn y Senedd, a phan y mae efe yn codi i hwyliau, ac yn gwresogi yn ei bwnc, y mae llifeiriant ei hyawdledd yn llawn mor anwrthwynebol ag ydyw eiddo Gladstone. Y mae Gladstone yn cydwau mwy o resymeg yn ei areithiau na Bright, tra, o'r tu arall, y mae Bright yn fwy nerthol yn ei apeliadau at egwyddorion a hawliau dynoliaeth. 0 ie, gyda Haw, dydd Mercher diweddaf, yr oedd Mr. Bright yn cyrhaedd clawdd ffin, sef Yn nyddiau* ein blynyddoedd y mae deng mlyn- edd a thri-ugain" Yr oedd yntau, ddydd Mercher, yn cyrhaedd ei ddeg a thri-ugain. Pity garw fod y fath ddynion a hyn yn mya'd yn hen, pan y mae cymaint o'u hangen i buro'r byd oddiwrth ddrewdod politicaidd, ac i fynu eu hawliau i ddynolryw. Cafodd Mr. Bright, ar y dydd a nodwyd, ddau o anerchiad- au, sef un oddiwrth yr etholwyr ya Birming- ham, ac un arall oddiwrth ei weithwyr, y rhai sydd yn rhifo 1,500, a gwnaeth areithiau campus i ddiolch am danynt, pan y gwnaeth fyr adolygiad ar wahanol faterion yn nglyn a Phrydain Fawr am y 40 mlynedd diweddaf. Gan gyfeirio at effeithiau policy Masnach Rydd, gwahoddai eu sylw at hyny o berthynas i gwestiwn eyffrediuol Ilafur. Us oedd unrhyw ddyn yn cael effeithio arn" gan yr hyn a glywai yn cael ei ddweyd gan bobl gwan- feddwl a syml-feddwl, bydded iddynt wrando ar un neu ddwy o ffeithiau, yr hyn a ddygai ] yn mlaen er cymharu eu cyflwr presenol a'r hyn ydoedd yn 1840. Cawsent eu bod yn cael dwy awr yn fwy o hamdden, ac yn agos ddwbl y cyflogau. Y policy newydd o berth- ynas i fasnach, yr hyn oedd wedi ei gwneyd gymaint bedair gwaith, oedd wedi gwneyd y gwelliant mawr hwn yn nghyflwr y bobl. Pe byddai unrhyw ddyn o'r creaduriaid drwg- feddwl hyny y bu yn son am danynt yn clywed y pethau hyn, nis gwyddai Mr. Bright pa fodd y byddai hwnw i'w hegluro. Mor belled ag yr oedd efe wedi darllen rhai pethau a ddygasent yn mlaen, yr oeddynt yn eu gosod gerbron ar gam wedi cael gafael ar y ffeith- iau, ymddangosent fel yn analluog i resymu oddiwrthynt. Yna, gyda golwg ar helaethiad masnach. Yn 1840, bron pan yr oeddynt yn myned i ysgytiadau cynhyrfiad, yr oedd y wlad yn dyoddef llawer oddiwrth gynhauafau drwg. Y pryd hwnw, yr oedd allforion cynyrch Prydain Fawr yn cyrhaedd i'r swm o 51,000,OOOp. Yr oedd hona yn swm fawr, fwy nag oedd ef yn alluog i ddirnad ond o fewn 40 mlynedd, yr oedd masnach dramorawl y wlad wedi cynyddu yn bedwar plyg, ac yr oedd yn awr yn 200,000,000p. Rhaid fod masnach gartrefol wedi cynyddu yn ddirfawr yr un amser, gan fod y fath gynydd mawr mewn masnach dramor wedi dwyn y fath gyfoeth mawr i'r wlad, fel yr oedd masnach gartrefol, yn dra thebygol, wedi cynyddu mewn cyfartaledd mor fawr ag yr oedd mas- nach dramor wedi wneyd. Nid oedd un dosbarth yn y wlad hon wedi dyoddef cymaint oddiwrth policy hynafol a diffyndolliant a'r dosbarth gweithiol, ac nid oedd un dosbarth wedi enill cymaint trwy fabwysiadiad y policy newydd a'r dosbarth gweithiol. Yn 1840, poblogaeth Prydain Fawr ydoedd 18,330,000; yn 1879, yr ydoedd yn 29,792,000—cynydd o yn agos i ddeng miliwn a haner. A oeddynt yn credu ei fod yn bosibl1 Yn 1840, cyng- horid hwy i ymfudo. Nid oeddynt wedi gwneyd felly, eto, gyda'r holl gynydd yn y boblogaeth, yr oedd yr alwad am lafur yn !wy sefydlog, a thelid yn well am dano. Yr ieddj amser llafur yn fyrach, a rhaid fod y ynSyn hollol ddall, neu yn waeth na bod yn ialll yr hwn nas gallai weled, ac na wnai rdnabod fod corff mawr y bobl, yn eu cyflwr rfforol, yn aruthrol well nag oeddynt 40 lynedd yn ol. Yr oedd yn gadael y pwnc ro gydag un owlw-fod y ffeithiau oedd wedi draethu yn wir, a gellid eu profi, ac nid oedd gweithiwr yn Lloegr, yr hwn oedd ganddo unrhyw allu rhesymegol, ar nad oedd yn ber- ffaith ddiogel yn erbyn ymdrechion y rhai hyny a ewyllysient iddo ymuno mewn unrhyw fudiad i wrthdroi y policy oedd Syr Robert Peel wedi osod ar ddeddf-lyfrau y wlad, a'r hyn gynifer o flynyddau ar ol hyny, gymaint i'w berffeithio a'i gwblhau. Agrippa,-Da iawn. Y mae Mr. Bright a'i lygaid yn ei ben, ac y mae efe er's blyn- yddau yn bleidiol i Fasnach Rydd. Gelwid Cobden yn apostol Rhydd-fasnachaeth. Mae Cobden er's blynyddau wedi huno gyda'i dad- au, a sicr ydyw, os oes neb sydd yn awr yn fyw yn teilyngu gwisgo y teitl ar ei ol, mai John Bright ydyw hwnw. Y mae dosbarth mawr yn y wlad hon, yn ddiau, a garent ad- sefydlu yr hen ddiffyndollau ond y mae wedi myned yn ormod o'r dydd bellach. Dy- wedai Mr. Bright hefyd, dydd Mercher di- weddaf, y dylai y tollau ar de a choffi fod wedi eu dileu er's llawer dydd. Os ceir y Rhyddfrydwyr mewn swyddi am rai blynydd- au, diau y daw hyny oddiamgylch. Samson. Y mae Tomos Pat yn pallu bod yn esmwyth o hyd yn yr Iwerddon. Saethu a bygwth saethu sydd yn myned yn y blaen yno, er, yn ddiau, y mae y cowardiaid llech- wraidd wedi diggJoni llawer, ar ol colli eu llyw a'u pen, sef Parnell. Y mae yn dda fod y Gwyddelod yn dechreu agor eu llygaid i weled buddianau yr Act Dirol. Y maent yn heidio wrth y miloedd i wneyd apeliadau at y ltys, a diau y cant ymwared ganddo. Huw Ffradach.-Y mae prawf y filen Gui- teau, yr hwn a saethodd yr enwog Garfield, yn awr yn myned yn mlaen yn America, ac mae y creadur yn ceisio actio'r ffwl yn y doc. Nid wyf fi yn credu fod mwy o orpwylledd arno nag sydd ar Jac y Rhaca, ond ei fod yn ceisio dangos hyny, er mwyn safio'i fywyd. Y syn- dod mawr gen i ydyw ei fod wedi cael ei arbed cyhyd, ac na fuasai'r bobl wedi ei dynu yn rhacs oddiwrth ei gilydd. Ond y mae eu gwaed wedi oeri cryn lawer erbyn hyn. Vulcan Fardd.-Yr wyf yn gweled ein bod yn myned i gael dadl rhwng Mr. E. Owen, Caerdydd, a Mr. D. Morgan, Mountain Ash, yn y GWLADGARWR, ar y Gymdeithas Ddar- bodol. Eithaf da, fechgyn. Waddwch yn mlan ond dadleuwch yn deg a boneddigaidd, a pheidiwch myned i efelychu hen wrachod yr heolydd. Yr wyf fi wedi gwneyd fy meddwl i fyny ar y pwnc er's llawer dydd, ac nid wyf wedi gweled un sillafftyn hyd yma a fedr fy syflyd o'r man hwnw. Ond rhydd i bawb ei farn. Ewch yn mlaen, a bendith arnoch. Llwyddo mae'r gymdeithas trwy'r tew a'r teneu, mae'n debyg, a phob arwyddion y bydd yn freninbren gref yn fuan, a llawer o adar duon y glofeydd yn nytho dan neu yn ei changau.
Y Gongl Gerddorol.
Y Gongl Gerddorol. HYSBYSIR mai Eos Morlais sydd wedi ei apwyntio i fod yn olynydd y diweddar Silas Evans, fel arweinydd Cymdeithas Gorawl Abertawe. Yr oedd y rehearsal cyntaf dan arweiniad yr Eos i gymeryd llenos Lun, y 7fed cyfisol, yn nghapel Mount Zion. Mr. T. H. Jones oedd yr arweinydd oddiar farwolaeth Cynon hyd yn awr. Diau yr a y gymdeithas yn mlaen yn llwyddianus gyda'r Eos, fel yn y dyddiau gynt. -:0:- FE ddywedir yn rhigil, yn mysg cerddorion Aberdar a'r cylchoedd, mai tro anhapus iawn wnaeth y beirniad cerddorol yn Eisteddfod Alban Elfed ddiweddaf; a dyna ddywed pawb y buom yn siarad â. hwynt ydoedd mai Côr Mountain Ash, dan arweiniad Mr. Coleman (Eos Hefin), ddylai gael y pres y tro hwn, gan mai hwy enillodd y clod. Beth bynag, parodd y dyfarniad gythrwfl enbyd ar ddi- wedd yr Eisteddfod, ac nid oes dim dwywaith nad oedd yno luoedd 9 fechgyn y g&n yn Nghwm Aberdar wedi ymddwyn yn hollol o'u hurddas a'u safle. Pa les cicio row, ar ol i'r ddedfryd gael ei thraethu ? Y mae yn ddigon eglur na wnaiff unrhyw row yn y byd beri i feirniad newid ei farn mewn ychydig fynydau, a hyny oblegyd ystwr y dorf. O'r hyn leiaf, credwn y byddai unrhyw ddyn a wnelai y fath beth yn llai na gwlanen o ddyn. Fechgyn a merched y g&n, cofiwch reeli eich tymerau y tro nesaf, gan nad ffordd y try pethau. DERBYNIASOM lythyr, ac amryw bapyrau, oddiwrth Mr. W. Jarrett Roberts, yn nglyn a chantawd Cantre'r Gwaelod," ac yn eu plith, adroddiad Ilawn o'r ohebiaeth a gymer- odd le rhwng J. Spencer Curwen a Tanymar- ian, wedi ei ysgrifenu gan Tanymarian. Y mae yr hen dad cerddorol yn gwresogi wrth fyned yn mlaen, a chyn y diwedd, dywed mai yr esgus a gyhoeddodd y papyrau dros y 'conclusion to withhold the prize' ydoedd fod y ddau ddoethawr wedi dyfod i'r 4 con- clusion o godi y safon. Ho felly. A fyddai yn ormod i feidrolion y llwch' ofyn, Wrth ba safon y codwyd hi ? Paham, a pha bryd? Gellid tybied nad oedd y safon, ddyddiau cyntaf yr Eisteddfod, yn rhyw an- feidrol uchel. Tybed na ddylid argraffu ar raglen ein Heisteddfodau pa awr ar y lleuad yr ydys i godi safon! Hwyrach y byddai hyny yn fantais i feirniaid na. chaffont y cyfrinbeth o fyned 'over cantatas again.' Codi y safon, ale ? Wel, coder hi, ac na ddarostynger hi; ceir, felly, lonydd gan ami lygoden yr udgenir o'i blaen, fel pe byddai yn gawrfll newydd ddisgyn o dalaeth uwohlo- erawg. Codi y safon Bobl bach beth ddaw ohonom ni nas gallwn gymaint a breudd- wydio y fath daldra ? Nid oes dim ond boddloni ar fod yn under size o hyn allan. Codi y safon, wys 1. Wel, clywais, pan yn hogyn gyru'r wedd,' chwedl am liliput a fynai osod ei hun yn safon taldra ei gydfforddolion, wrth weled rhai o'r lilipwtiaid yn bygwth tyfu yn dalach na'i fawrhydi, a dringodd ar ystryd- fachau, ar ba rai y bu yn rhodreau uwchlaw y werin a'r miloedd a orfodid i ymlusgo goreu gallont trwy y dom a'r llaid, gan ymhoni mai efe oedd y safon; abuwyd am dros dridiau yn llygadrythu ar ei daldra aruthrol, ac yn bloeddio o'i flaen ef Abrec,' eithr wedi ei ddadfyclu oddiwrth yr ystryd-fachau, a'i osod ar ei bedion ei hun, nid oedd fymryn talach na'i gydlilipwtiaid, yn y diwedd. Hynyna ar godi y safon, heblaw mai buddiol fyddai cael safon o gyrhaedd ymyraeth pob lilipwt." Dyna fel y terfyna llith Tanymarian. Yn yr ohebiaeth a basiodd rhyngddo ef a Curwen, dywedai yr olaf, "I quite agree that Corelli is the best," ac nid oedd wedi son y pryd hwnw am godi y safon, nac yngan dim o'i fwriad i atal y wobr ond wedi dyfod i Ferth- yr y cysylltodd ef a Dr. Parry y fusnes. Wel, boed rhyngddynt hwy a'u gilydd. Fe geir golwg ar gantawd Gorelli cyn hir, canys golyga yr awdwr ei chyhoeddi. -:0:- DEALLWN fod y tenor Cymreig ieuanc ac addawol, Mr. Ben. Davies, R.A.M., wedi ei gyflogi gan Mr. Carl Rosa i berfformio gyda'i gwmni operataidd enwog ef yn ystod eu tymor nesaf yn Chwareudy ei Mawrhydi, Llundain. Dyma brawf eto beth all talent a diwydrwydd Cymreig wneyd.
Eisteddfod Alban Elfed, Aberdar,…
Eisteddfod Alban Elfed, Aberdar, Hydref 31ain, 1881. BEIRNIADAETH Y CYFANSODDIADAU GAN BRYTHONFRYN. Tuchangerdd i'r Llaeth Udgyrn-Ghwythwyr. Derbynais ddeg o duchangerddi, a'r cyntaf ddaw dan sylw yw Yfwr Llaeth.—Penillion gwallus a dibwynt sydd gan hwn. Defnyddia'r bastardd-eiriau spario a feedo. Hefyd, geilw ar y bobl i ddyfod allan o'u tai I brynu llaeth yn gyson, I'w yfyd yn nydd gwyL" Y mae eisieu llaeth ar ddynion heblaw ar ddydd gwyl. Mae gan hwn bedair llinell dra hynod yn ei benill olaf :— 0 rhoddwch groeso'ddigon I'r udgyrn chwythwyr mwyn, I rhai sy'n feedo beunydd Y twll bach dan y trwyn." Rhaid i'r brawd hwn dreulio rhyw gymaint o amser eto yn ysgol yr awen. Shop y Dderwen. -Dyma well cyfansoddwr, ond y mae yntau yn dra gwallus yn ei ddef- nyddiad o'r llefariaid, ac y mae yr h yn feistres arno, gan ei bod yn ymwthio i fanau lie na ddylai, ac yn sefyll draw pan y mae angen am ei gwasanaeth. Sylwed ar y copi, a cha weled y gwallau. Sion Cent.-Mae ambell darawiad tuchanol gan Sion. Wele un penill Mi glywais screch dallhuan Cyn yn awr, Oddiar hen foncyff dyddan, Cyn yn awr; A chlywais Sion hir-glustiau Yn nadu ar ei orau, Nes adsain bro a bryniau, Megys cawr; Ond dim yn ail i'r lleisiau Glywaf 'nawr!" Yn ol barn rhai o'r awdurdodau goreu ar y duchangardd, y mae Sion wedi troseddu rhai o'i phrif deithi yn y penill cyntaf a'r diweddaf. Y mae Marchnatwr, Duchanwr, David Gar- rick, Hen Ffarmwr, a Cymro yn perthyn i ddosbarth uwch, ac ni anurddir eu cerddi ond ag ychydig o wallau. Deallant hefyd, i fesur helaeth, hanfodion y duchangerdd ond ceir yn y gystadleuaeth ddau wedi eu euro o ryw gymaint, sef Silurius a Waeth Pwy. Y mae Waeth Pwy yn fwy digrif-duchanol, ond y mae gan Silurius ergydion sydd yn cyrhaedd yn mhell; a chan eu bod mor agos i'w gilydd, yr wyf yn eu dyfarnu yn gydfuddugol. Dyma benill olaf Silurius :— Wel, gan fod ein harwyr yn fodau mor bwysig, Teilyngant gael tysteb ardderchog bob un A chan na dderbyniais 'r un awgrym garedig Gan neb o'm cyd-drefwyr, cynygiaf fy hun Yn gymaint a'u bod hwy o waed boneddigaidd, Eu bod i gael anrheg o wydd ac o iar, Fel byddo i'w trydar gydgordio'n rheolaidd A llaeth udgyrn chwythwyr hen dref Aberdar." Dyma benill o eiddo Waeth Pwy:- Clyw! r& ti ta, râ. ti ta,' 0 beraidd swn, A dreiddia fel trydan drwy'r galon Na chwympwy'—fe gura'r Udgyrnwyr y cwn Sy'n udo eu melus acenion Mae'n rhaid taw y seiniau melodaidd a Mr Yr udgyrn yn nghlustiau'r trigolion Yw'r achos fod corau a beirdd Aberdar Mor enwog am enill gwobrwyon. Rhaner y wobr yn gyfartal rhyngddynt. Dau Englyn i'r Drych. Daeth i law un p&r ar bymtheg o englynion ar y testyn hwn, a chaf sylwi arnynt yn y drefn a ganlyn Tawelog. -Isel a dibwynt, ac heb fod yn mhell o ardal brodyr y talcen slip. Drychgarwr.-Ni *yr yr awdwr hwn ond y peth nesaf i ddim am deithi ac anhebgorion englyn. Meurig.-Nid oes fesur, synwyr, na chyng- hanedd yn hwn. Hen lane wyf.-Englynion afreolaidd a gwallus mewn iaith yw ei eiddo yntau. Ni oddefir defnyddio geiriau Seisnig mewn englynion. Box Hat. —Y mae ganddo ef englynion pert ] a tharawiadol. Hoffwr y Drych.—Y mae ei eiddo ef yn, gyfansoddiad gweddol, gyda'r eithriad fod cyrchiad ei englyn cyntaf yn wallus. Brython Bach.-Y mae y rhai hyn yn englynion rheolaidd, ond ofnwyf ei fod yn priodoli mwy o rinweddau i'r drych nag a ddylai. Ap Dafydd. -Englynion rheolaidd eto, ond hob nemawr farddoniaeth ynddynt. Un o Fon wyf fi.—Pertbyn i hwn gryn lawer o deilyngdod. Un a garaW Drych.-Dyma. englynion rheolaidd digon, ond dwg i fewn bethau an- mherthynaaol. Un a'i drem yn y Drych.—Y mae ganddo wall geiriol, yr hwn na oddefir mewn dau englyn. Ffrancwr.-Englynion rheolaidd a da, ond fod tor mesur ganddo yn y drydedd linell o'i ail englyn. Arlunydd. —Cyf ansoddiad cy merad wy. Edrychwr.-Englynion da a chywir. Agricola.-Dau englyn gwych, yn neillduol y cyntaf ond nid yw yr ail mor bwrpasol. Bobby Burns.—Englynion da a desgrifiadol o ddefnyddioldeb y drych yw ei eiddo ef. Saif y gystadleuaeth rhyngddo ef ac Agricola: ond wedi ystyriaeth fanol, cawn fod Bobby wedi euro y tro hwn, a theilynga y wobr. (Fw barhau.)
Nodiadau Nedi Norris.
Nodiadau Nedi Norris. Bu FARW MABONWYSON Do. Pwy sydd barod i dywallt deigryn o barch ac edmygedd ar ei orweddle pridd ? A oes rhywun ? Oes, yn ddiau, yn awr? Faint o barch gafodd pan yn troedio platfform amser ? Nid rhyw lawer. Pe gellid sylweddeiddio yr abstract "parch" a dderbyniodd y bardd Mabofi' yn ei ddydd, credwyf yr a'i yn ddidrafferth i wniadur dynes deuddeg mlwydd oed. Ddar- llenydd, os mynu glod, bydd farw, ond gad i Natur ddwyn hyny oddiamgylch. Nid oedd y diweddar drigianydd o'r Bwthyn Barddol yn meddu ar gyfoeth y byd. Nac oedd, wrth gwrs, onite buasai ei "gyfeillion" yn an- nirnadwy o luosog. Bu farw yn y tloty Yn mhen blynyddau i dd'od, diau y bydd enw yr awenydd Cymreig ymadawedig yn orphwysedig yn nghanolfan calonau ein holaf- iaid, pan fydd enwau ei ddirmygwyr wedi eu hyrddio i ororau annghyrhaeddadwy Ebar- gofiant. Yr oedd iddo yntau ei ffaeleddau fel llawer o'n cyd-dwydroedolion dynol, ond nid oeddynt ond yn rai cymharol fychain. "1 shall not look upon his like again." -0:- PENCERDD GWYNEDD ETO'N FYW TROAF, yn awr, oddiwrth y lleddf i'r lion— oddiwrth y marw i'r byw. Yn y Genedl Gymreig, ymddangosodd yr hyn a ganlyn Da genym ddeall fod Pencerdd Gwynedd, er gwaethaf y driniaeth anfoesgar a gafodd yn Aberdar, wedi dychwelyd adref yn fyw ac yn iach, a bod ei alluoedd beirniadol yr un mor gymeradwy yn y Gogledd ag oeddynt cynt. Yr wythnos ddiweddaf, bu yn beirniadu naw o gorau mawrion yn Eisteddfod y Wyddgrug, er boddlonrwydd cyffredinol. Dichon fod yn haws boddhau naw o gorau y GQgledd nag ydoedd boddhau rhyw dri chor tuag Aberdar. 0 bosibl, mai yr hyn sydd yn gwneyd y gwahaniaeth ydyw fod corau y Gogledd, fel rheol, yn ymddiried y gwaith o feirniadu i't beirniad, tra y mae bechgyn y De yn meddwl eu hunain yn ddigon galluog i ganu a beirn- iadu yr un pryd." Dyna bilsen i chwi, 'Ber- dariaid. Llyncwch hi, os nad yw yn ormod i'ch cyrn gyddfau. Cynwysa elfenau llesol. Pencerdd Gwynedd's Excruciating Pills y gelwir hwynt. Y mae digonedd ohonynt yn awr ar werth gan eu dyfeisydd. Y mae'r demand am danynt oddiar Eisteddfod Alban Elfed yn aruthrol. Gwel opinions of the press. Myner gweled fod y trade mark- "D m f s :ar bob blwch cyn talu am dano. -:0:- LLAWER 0 siarad a dychymygu sydd am ba fath auaf ydym yn myned i gael. Myn rhai gredu mai oerach y bydd na'r gauaf diweddaf, tra, ar yr ochr arall, coelia rhai, oherwydd mai y gauaf diweddaf oedd yr oeraf a gawsom er's ugain mlynedd, na chawn ychwaneg o dywydd oer am ysbaid o ugain mlynedd eto. Oddiar ddiwedd mis Awst, y mae y New York Herald wedi proffwydo (canys y maent yn cyflogi proffwyd yn y staff olygyddol) mai mwyn a llariaidd fydd y gauaf; a chydsyn- iodd enwogddyn arall o Canada, Mr. Vennor, yn yr un peth. Prif oracl y tywydd yn y gymydogaeth wyf fi yn byw ydyw Sian, hen wraig weddw sydd yn cael ei chynal ar elusen y plwyf. Gofynais iddi am ei barn ar y pwnc, ond ni chefais yr un ateb boddhaol, ond yn hytrach llawer o adgofion am dywydd garw yr hen amser gynt." Efallai bod yr hen wreigen yn dilyn cynghor Artemus Ward, Don't prophesy unless you know HII'
PROFF. MAX-MULLER AR LA W-FER.
PROFF. MAX-MULLER AR LA W-FER. MR. GOL.Bydd yn dda gan lawer o'ch dar- llenwyr i glywed fod Llaw-fer Aleographia, y gyfundrefn a ddyfeisiwyd gan y Parch. James Williams, yn awr o Langollen, yn parhau i enill tir newydd yn mysg dysgedigion y dydd. Y mae y Proffeswr Mux-Miiller, o Rydychain, mewn llythyr diweddar at yr awdwr, yn dweyd fel hyn :—" Y mae yn hoff genyf y sylfeini ar ba rai y mae eich cyfundrefn yn gorphwys, ac y mae yn lion genyf glywed am ei Uwyddiant. Dyna anogaeth i Gymry. ALPHA.
MORIEN AC IEITHEG.
MORIEN AC IEITHEG. MR. GOL.,—Synir ni yn fynych gan y dull di- bryder ac ymfoddhaus yr ymdrinia ambell ysgolor Cymreig â. phynciau ieithol. Nid ydym yn gwybod pa gymaint o wybodaeth am ieith- oedd sydd yn meddiant Morien; pa gymaint bynag, ymddengys yn anwybodus hyd yn nod o elfenau'r ieithoedd clasurol. Ychydig amser yn ol, yn eich colofnau, dywedodd mai ystyr Roegaidd y gair theatre yw, yr wyf yn gweled." Buasai ysgrifenydd trefnus yn gosod allan ei feddwl yn fwy celfyddol. Ystyr theatron, o ba un y deillia y gair Seisnig theatre, ydyw edrych- fa, neu ddrychfa, neu weledigaeth. Ystyr theaomai ydyw, yr wyf yn edrych. Y mae gwa- haniaeth rhwng edrych a gweled. Gosoder enw bob amser yn air cyfiaith am enw, onide ? a berf am ferf. Tra annheilwng ydyw dweyd mai ystyr golygfa yw, yr-wyf yn gweled." Y mae Morien yn naeru pethau gyda diofalwcsh Uwyr anwybodaeth. Y mae ganddo feddyliau an. nghwbledig i'w rhyfeddu. Nis gwyr nemawr ddim am ddillynder syniadaeth. Er engraiflt, haera mai Abraham oedd yr luddew cyntaf. Y mae hyna yn gryn ddweyd Ni fu Abraham, nac Isaac, na Jacob, Iuddewn erioed, oblegyd disgynyddion Juda yn briodol yw Iuddewon. Nis gellid galw Abraham yn Israeliad. Yr oedd Abraham yn Hebrewr, ond ni fu nac Iuddew (Judaeus) nac Israeliad. Diffyg pwysig sydd yn arwain i gamgasgliadau andwyol yw gwaith Morien, megys dysgawdwyr anofalus ereill yn mhlith y Cymry, yn seilio eu cyfundraethau brysiog ar ddychymygion meddylfryd anwydd- onol. I Morien, nid yw Teutates y dwyreiniwr ond Duw Dad y Cymro. Tybiaethau ydyw meddyliau Morien. Gwelai Lewys Morys. El Sadai yr Hebrewr ond llygriad o a all sydd dda y Gymraeg Mor ffortunus y trodd y ffraethyn hwnw Jupiter i Jew Peter. Dylai Morien ddeall fod tebygolrwydd sain yn angenrhwydd, oher- wydd prinder adnoddau seiniol. Cyfieitha Morien derwen yn dder sanctaidd. Nis gwydd- om ond mai plantos mewn ieitheg a feddylient roddi ystyr i ddiweddiad gair. Dengys diwedd- iadau berthynas y geiriau a rhanau ymadrodd, rhywogaeth, amseriad, &c., yn lie derwen, megys gair a therfyniad benywaidd iddo. Cymer Morien ef yn air deusill. Perthyna i'r un dos- barth a bedwen a chyffelyb-oyff y gair yn cymeryd ato w yn brawf mai en yw'r terfyniad, ac nid wen. Er engraifft arall, meddwyn a'i fenywaidd meddwen. Beth fedr Morien wneyd o medd a wen ? Gall wneyd rhywbeth o'r gair meddw-en. Er mwyn anrhydedd dysgeidiaeth yn Nghymru, myfyried ei dysgawdwyr elfenau iaith. Gallai Morien gael cryn ddifyrwch, os yw am, drwy ddeongli'r Gymraeg ar yr eg- wyddor chwerthinus. Hagr-wch yw hagrwch, &c., &c. Os ydym yn cofio yn iawn, y mae dysgawdwr Cymreig arall wedi darganfod fod y diweddiad w yn nacau pob sill sydd yn blaenu. Er engraifft, marw. Ystyr mar yw bywiog, eithr y mae w yn ei dagu Eglura gweddw yn yr un dull comical. Gellid cael llawer o ddifyr- wch allan o hypotheses o'r fath, pe byddai hyny yn llesol i wneyd i ffwrdd a rhyw goegysgolheig- dod o'r fath. Galw, gal-w gal yw tewi, ond llefara'r w! Hwn yw hwn, ond hwnw yw neb Trueni dirfawr na ellid chwerthin a gwawdio y fath ddysgawdwyr allan o'u gwag-gredoau I Ychwanega Morien, Yr enw hwnw yn cael ei roddi gan y beirdd, fel yr oedd hefyd yn cael ei galw yn Venus. V yn lie W, yn ol arfer y Lladinwyr wrth seinio geiriad Cymreig, a gosod wrth ei ddiwedd yr us Lladinaidd. Gwenus, Wenus, Venus." Druan o falchder y Cymro, Cymraeg wedi ei gwaethygu yw Lladin Piti na ddarllenai Morien dudalen ar athroniaeth hanesyddiaeth. Ceir Venus yn air arferedig yn llenyddiaeth Rhufain yn hir cyn geni Crist. Trwy ba fodd y medr Morien ddwyn prawf fod Venus (neu Gwener, neu (rwenus) mewn arfer cyn dyfodiad y Rhufeiniaid i Brydain, neu i blith Cymry, i'w gael ? Nid oes rhaid fod Gwen a Gwenes a Venus yn eiriau or un tardd- iant. Ond i brofi henafiaeth gair for afact, ac i ba iaith y perthyna yn gyntaf, ymddengys i ni fod y ddadl yn gorphwys yn gwbl ar dystiolaeth ysgrifau dilys. Ceir Venus yn Horace, er engraifft. Yn mha ysgrif Gymreig gydoesol y ceir Gwener ? ac ar ba dystiolaeth arbenig y gesyd Morien y prawf i'r Lladiniaid ddwyn y particular wood Venus oddiar y Gymraeg ? GWYPPQN.
Glanau Rhondda.
Glanau Rhondda. WEDI i mi yagriblo fy llith diweddaf, yr wyf wedi trampan llawer, ac wedi olywed a gweled llawer. Gweled llawer iawn o gapelau new- yddion eang ac hardd, ac yn sior, nid oes eu harddach trwy yr holl wlad-eglwysydd hefyd yr un peth. Clywed hefyd fod yma bregeth- wyr ac offeiriadon ar eu holl egni yn gwneyd daioni; ond y maent yn cael achos i ofidio, a hyny am fod y cynulleidfaoedd yn bur deneu, yn enwedig ar foreu y Sabothau. Mewn llawer o'r addoldai, mae digon o angen am fynegboat wrth y drws, er cyfeirio i'r rhan hono o'r addoldy He bydd y gynulleidfa wedi ymgynull. Nis gall tramp fel y fi farnu both yw yr achos o'r mysgrellni; ond barn rhai ydyw mai gosod boreu y Sabath yn eatyn wrth nos Sadwrn y mae llawer o'r aelodau, heb son am y gwrandawyr. Caniateir hyny, mae gan lawer fusnes gyfreithlon i fod allan yn hwyr ar nos Sadwrn-myned i'r clwbiau, &o., ae aros yn mharlwr y dafarn am yataid, ar ol darfod 4 helynt y gymdeithas. Yn mhea tipyn, ceir arwydd i fyned adref, pan gaiff y tap ei atal; cychwynir hefyd yn eitiaf gwedd- aidd, o ran hyny. Feallai y bydd ychydig fai ar yr heol mewn ambell i fan, trwy ei bod allan o guage, fel y dywedir. neu, newa geir- iau ereill, yn rhy gul! Mae yn rhaid i'r corff gael gorphwys, a phan gaiff Mr. Cwsg afael arno, a rhoi tro i allwedd Syr Join, i gloi y synwyrau am ysbaid, aiff rhan faw o foreu y Saboth i wneyd i fyny am yr hyi a gollwyd nos Sadwrn. Pa un a yw hyna 7n gywir ai peidio, y mae yn wirionedd fodyr oedfaon ar foreu y Sul yn hynod deneu. Y DARLLENIADAU CEINIGJ. Clywais fod y rhai hyn wedi dechreu yn vestry capel Bodringallt, a bwriedr cynal rhes ohonynt drwy y gauaf. Gobeihia rhai o'r frawdoliaeth y bydd y cynullisdau lluosog hyn yn symbyliad i aelodau creyddol i fyn- ychu mwy o'r cyfarfodydd a brthynant i achosion mwy pwysig. ClywedEod W-n fardd wedi ffromi, am na chafdd ei ethol i uwch swydd na chario'r bowlei. Wei, yn sicr, bu camsyniad dybryd yn rhy wle. Y mae yn drueni gweled hogiau librofiad yn cael eu gwthio i swydd na wyddint ddim am dani; ond dengys hyny allu synvyr cyffredin yr etholwyr yn ei liw priodol. Clywed fod Deio gwas Evan wedi rhoddi boiclust i Mari, am iddi hi roddi un i'r gbth-yrhen g&th yn rhegu, mae'n debyg; ond pa e y dysgodd sydd ddirgelwch. TRAMP.