Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

U YR YSGRIF DIROL.

News
Cite
Share

U YR YSGRIF DIROL. MAE cynhyrfwyr yr Iwerddon wedi deall erbyn hyn fod yn rhaid iddynt hwythau, fel pawb eraill o ddeiliaid ei Mawrhydi, dalu ufydd-dod i gyfreithiau y wlad, ac mai nid trwy ymrysonau ac ysgelerderau y mae dwyn Llywodraeth o allu Prydain Fawr i wasan- aethu ar eu hopiniynau, ac i ganiatau iddynt hawliau mor afresymol ag a ofynant hwy am danynt—ie, mor afresymol, fel na allai Cyfiawnder ei hun eu caniatau iddynt, ped anerchent ef yn y modd mwyaf heddychol, gostyngedig, a didwyll. Y mae rheswm mewn gofyn am ardreth deg, ond nid oes dim mewn anog pobl i beidio talu ardreth o gwbl. Cynyreh diwydrwydd o ryw natur neu gilydd yw Eiddo yn y man cyntaf, ac os ydys fel hyn yn myned i'w ysbeilio o'i hawl- iau, drwy beidio talu rhent i berchenogion, pa le y mae ei wobr, a pha le mae yr anog- aeth a'r cymhelliad i ymdrech, arbedus- rwydd, a darbodaeth 1 Byddai y diogyn ar dir mor fanteisiol a'r diwyd, y meddwyn ar dir mor fanteisiol a'r dyn sobr, a'r lleidr ar dir cwbl mor fanteisiol a'r dyn gonest, canys yn ol rheolau y gyfundrefn hon, elai eiddo yr unigolddyn yn eiddo pawb, ac eiddo pawb yn eiddo nebun, a chynyrchid math o gyd- raddoliaeth (equality) tebyg i hwnw y bu y Ffrancvr unwaith mor ucbel am dano. Ond gadawer fod eymdeithas yn cael ei gosod mewn sefyllfa gyfartal yfory nesaf. Pa cyhyd, tybed, y parheuai felly ? Y mae cyd- raddoliseth yn sefyllfa anmhosibl ei chyr- haedd la'i sefydlu, oblegid byddai chwaeth- au, tutddiadau, ac arferion dynion mor wahanol i'w gilydd, fel y byddent yn rhwym o effeitlio gwahanol sefyllfaoedd. Byddai un o duedi arbedus, un arall o duedd was- traffus, fel y byddai y naill yn cynyddu mewn (yfoeth, a'r llall yn lleihau mewn cyfoeth, ac felly sefyllfa o anwastadrwydd cymdeitiasol yn cael ei chreu yr ail waith. Nid ar 3 sefyllfa o gydraddoliaeth o unrhyw natur y mae llwyddiant a manteision cym- deithas jn ymddibynu, eithr yn hytrach ar yr ymareriad o'r rhinweddau a'r egwyddor- ion o duwydrwydd, rhyddid, a chyfiawnder cyffredirol. Oud wrth edrych i mewn i weithredadau yr Ysgrif Dirol yn yr Iwerdd- on, y mie lie i gasglu fod gan yr amaethwr Gwyddelg beth lie i achwyn, ond nid mwy nag sydd gan yr amaethwr Cymreig, Ysgotig, a Saesong, canys y maent yn llafurio oil o dan yr inrhyw anfanteision. Gwelwn fod gostyngidau yn cael eu heffeithio yn ar- drethoed yr amaethwyr Gwyddelig, a da iawn hyiy ond y mae eisieu yr un pethau yngymlwys ar amaethwyr Cymru, Lloegr, a Chelyddn, ac y mae llawn gymaint o eisieu tir-ddeilidaeth sefydlog (fixity of tenure) arnynt lefyd ag sydd ar y Gwyddelod. Y mae yn pfus genym ni am un tir-berchenog yn rhoda noteision i'w ddeiliaid i godi yn eu rhentoed dair gwaith yn ystod saith mlyn- edd o anser, ac os na chydsynient, yr oedd- ynt yn jael eu troi ymaith. Pa anogaeth oedd ym i ddiwyllio tir, ac i amaethu mewn modd giyddonol, a pha gariad ac ymddiried- aeth a a ai hyn ei feithrin yn y deiliad tuag at ei arlrydd 1 Yr ydym yn cofio sefyllfa ar yr amaehwr Cymreig mor gaethwasaidd a honcr agy mae negro Canolbarth Anrica yn y;?- v ytnsymud o dani. Yr oedd ofn yn ei galon arno i wisgo dim ag oedd yn well na chob ffwstian ar ei gefn esgidiau trwchus, a "milgwns" (hoelion) yn eu trwynau, ar ei draed Sul a Sadwrn crys gwlanen, heb son am unrhyw fath o frest lliain iddo o gwbl, am ei gefn a neised o gotwm, a chlwm llyn- clwm, am ei wddf. Buasai yn berygl ei weled yn marchogaeth ar farch i un man heblaw i'r ffair a'r farchnad, ac ni chymerasai lawer am fyned mewn cerbyd, rhag ofn i'w y r, arlwydd dybied fod byd rhy dda ac esmwyth arno. Cawl fyddai ei fwyd i frecwast, cig mosh bras wedi rhwstio i giniaw, a bara llaeth, feallai, i swper. Ni welai na gwas na morwyn liw ar lymaid o ddioden gylch- ogylch y flwyddyn, nac ond tra anaml y meistr ei hunan ychwaith. Yn wir, yr oedd yn rhaid iddo ef bob amser fwyta mor syml a gwisgo mor ddirodres a IOAN FEDYDDIWR yn Anialwch Judea Os buasai ei arlwydd yn canfod argoelion fod ei dir yn cnydio yn dda, ei ydlan yn ymlenwi yn weddol, ac yntau yn dechreu ymdrwsio tipyn, buasai yn sicr o gael codiad yn ei rent, serch mai efe ei hun, drwy draul a diwydrwydd, oedd wedi bod yn achos o'r cyfnewidiadau a buasai bob amser hefyd, ac ar bob achos, yn rhwym o roddi ei bleidlais i'w feistr, neu fod mewn perygl o golli ei nerm ac onid oedd hyn yn ormes ac yn orthrwm creulawn, ac yn dangos yn eglur fod cymaint o anghen diwygiad yn y gyf- amodaeth dir-ddeiliadol yn Nghymru, Lloegr, a Chelyddon ag sydd yn yr Iwerddon ? Dywedir fod Ysgrif Dirol yr lwerddon yn cynwys elfenau dinystr i'r arlwyddi, am fod gweinyddwyr ei deddfan yn darostwng y rhentoedd gymaint ag o 25p. i 30p. y cant. Wel, dim o'r fath beth, canys nid yw y gos- tyngiad ond ychydig iawn yn y bunt yn y diwedd. Bwrier fod yr arlwydd yn codi 2p. yr erw am ei dir, ac fod y rhent yn cael ei gostwng gymaint a 25p. y cant, ni fyddai hyny yn y diwedd ond 5s. yn y bunt o os- tyngiad, a byddai y deiliaid wedi hyny yn gorfod talu 1p. 10s. am ei erw dir. Y mae 25p. y cant o ostyngiad yn edrych yn fawr ar yr olwg gyntaf, ond nid yw er hyny ond ychydig mewn cymhariaeth, pan yr ystyrir fod yr arlywydd yn codi mwy o'r haner o rent am ei dir nag a ddylai. Ardreth tir yr erw, da a drwg gyda'u gilydd, yn Mro Mor- ganwg, yw lp. la., ond bydd ei haner, gan nad beth am ddwy ran o dair ohono, ddim gwerth rhagor na 5s. yr erw, ac, yn fynych, lawer ohono ddim yn werth y draul a'r dra- fferth o'i drafod. Tybiwch fel hyn fod genych 100 erw o dir am 105p., ac fod haner y tir hwnw ddim rhagor na gwerth 5s. yr erw. Beth ydych fel hyny yn dalu am yr baner arall a ystyriwn yn weddol dda. Bydd- wch yn talu lp. 17s. yr erw, ac ar yr haner hwn y byddweh yn gorfod ymddibynu am eich rhent, eich trethi, eich tal am lafur, ac am adnoddau eich bywiolaeth. Ni cheir ar y tir hwn gyda'i gilydd, ac ar flwyddyn ffafriol, braidd dun ell yr erw o wair, neu chwech Ilestfaicl o wenith, ac ni cheir am y dun ell wair hono ragor na 3p. yn yr ydlan. Yn awr, y mae genych lp. Is. o ardreth, 8s. o bob trethi, 10s. am dori, cynauafu, a chywain yr erw wair, a 10s. tuag at gynaliaeth y ceffylau, fel nad oes genych yn ngweddill o'r 3p. tuag at gynaliaeth eich hun a'ch teulu ond 11s. yr erw, neu 55p. y flwyddyn ar yr holl fferm. Y mae yn wir y daw yr adladd i tua 15s. yr erw, ond y mae genych 10s. i'w talu i weithiwr cyson, yn nghyd a llawer i'w dalu am adgyweirio yr ermigau amaethu, fel nad oes rhwng pobpeth ond bywyd isel, tlawd, ac annghysurus, yn dygwydd i ran amaethwr tiroedd canolig Bro Morganwg. Y mae rhentoedd ein tir yn rhy uchel, a'r tir-ddeil- iadaeth yn rhy ansicr, fel, yn ol ein barn gydwybodol ni, y mae eymaint o anghen am Ysgrif Dirol ar Gymru ag oedd ar yr Iwerddon, ac yr ydym yn credu yn ddiysgog y ceir hi hefyd.

Helynt y Gantata.

^enedig'aeth.

Priodas.

Marwolaethau,

[No title]

Tystiolaethau Pwystg II QTJIMNE…