Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

24 articles on this Page

Sylwadau Gwleidyddol.

News
Cite
Share

Sylwadau Gwleidyddol. GAN SYLWEDYDD. CrWEESI ETHOLIADOL MEWN BRWYDRAU AREITHYDDOL. BELLACH, y mae y frwydr wleidyddol sydd yn cymeryd lie yn yr encyl Seneddol, rhwng prif arweinwyr pleidiau gwleidyddol y Llyw- odraeth, wedi dechreu o ddifrif. Gellir dar- luriio y ceidron fel y rhai sydd yn dal swyddi o dan y Llywodraeth, ac yn awyddus am eu cadw, a'r rhai hyny sydd bob amser yn barod i gymeryd eu seddau mor fuan ag y bydd yn bosibl iddynt wneuthar hyny. Aerwyr, ymbleidwyr, heblaw-rhyw ganoedd Drwy Gymru yn unaw; Eidiog alon digiliaw- Gofid a Ilid ar bob llaw. Y mae mwyafrif etholwyr Prydain Fawr yn gwylio symudiadau y dosbarth yma gyda dyddordeb mawr yn ystod y pump neu chwech wythnos y mae y frwydr areithyddol a ddygir yn mlaen ganddynt yn parhau. Y maent yn mhellach yn rhoddi canmoliaeth i'r ymrysonwyr am y syniadau gwladgarol a draethir ganddynt, a'u sel dros egwyddorion Rhyddfrydol. Ond nid yw y rhyfelawd flyn- yddol yma o areitheg namyn ymgais ar ran y naill blaid a'r llall i deimlo pulse y genedl, yn enwedig eiddo yr etholwyr perthynasol. Bydd un blaid hwyrach yn eyhuddo y Llyw- odraeth o fod yn euog o lusgo baner yr Ym- erodraeth Brydeinig drwy y llaid oherwydd eu bod wedi ymostwng i'r Boeriaid, ac en- cilio yn rhy fuan o Candahar, gan adael allwedd India yn meddiant Rwsia. Bydd- ant hefyd yn ffugio digllonedd, gyda chryn effaith chwareuyddol, gan ystyried eu hunain ic. y doethaf o ddynion." Atebir yr areithiau brwdfrydig hyn, sydd yn llwythog o gyhudd- iadau pwysig yn erbyn gwladlywiaeth dramor y Llywodraeth, mewn rhyw gyfarfod cy- hoeddus perthynol i'r Coedwigwyr (Foresters), gan neb llai na Syr William Harcourt, yr hwn a ddarfu adgofio aelodau y Weinydd- iaeth ddiweddar o'r ffaith fod rhyfel newydd ganddynt mewn Haw o'r bron bob mis, er eu bod yn ceisio rhodresu gerbron y byd fel pen-lywodraethwyr Ewrop, pan yr oeddynt, mewn gwirionedd, yn gwneuthur cytundebau rhwymedigaethol er gochelyd rhyfel; ac nad oedd eu deddfwriaeth gartrefol wedi myned yn mhellach na rhoddi haner awr yn ych- waneg i dafarnwyr i werthu diodydd meddwol. Yna, aeth Syr William yn ei flaen gan gyf- eirio at leihad Treth y Brag, a'i ymgais Iwyddianus ef ei hunan i ddiwygio deddfau helwriaeth, a gorphenodd trwy gyfeirio yn gyfrinol, mewn ymadroddion arbenig, at Weinyddiaeth Iwyddianus Mr. Gladstone. Nid oes terfyn i fod ar y pethau da sydd i syrthio i ran yr Aelodau Seneddol a gyd- weithredant a'r Prif-weinidog! Wrth reswm, fe ataliwyd yr ymosodiadau angerddol yma ar y blaid Dorlaidd. A phwy oedd i wneuthur hyn ond Syr R. Cross, yr Ysgrif- enydd Oartrefol diweddar. Yr oedd ef yn teimlo ei bod yn ddyledswydd arbenig arno i wrthbrofi yr holl bethau hyn yn y dull mwyaf dirmygus, a gellir bod yn sicr iddo gyflawni y cyfryw ddyledswydd yn y modd mwyaf eSeithiol Y mae y eyfryw ymosodiadau wedi cymeryd lie mor ami yn ystod yr encyl Seneddol presenol, fel y cynhyrfwyd yr Agamemnon Toriaidd, Syr Stafford North- cote, yn ei lechfod Ceidwadol, ac yr oedd ei manifesto ef yn gyfartal i eiddo deg-ar-ugain o Doriaid eyffredin. Thus groaning heavily he spake these words amongst the 'Greeks. Traddododd ef araeth, yr hon oedd yn amlygiad perffaith o syniadan gwleidyddol y blaid Doriaidd. Y mae Mr. Gladstone hefyd bob amser ar ei uchelfanau, fel cadfridog profiadol, yn edrych o hirbell sr y frwydr areithyddol, yn gwylio symud- iadau y brwydrwyr, ac yn gofidio na fuasai el sefyllfa iirddasol wedi rhoddi gwers iddo, gan ei ddysgu i fod yn llonydd, a boddloni ar ddefnyddio ei yabienddrych gwleidyddol; eithr y mae ei elynion wedi tanio arno o'r gwersyll Toriaidd, ac wele yntau yn sefyll i fyny yn gadarn, gan gymeryd ei safle yn Leeds, a manau ereill, a gollynga ergydion sydd yn disgyn fel cawodydd o dan neu dar- anfolltau ar ei elynion, ac y mae yn swyno yr holl wlad. Y mae wedi chwalu manifesto Syr Stafford Northcote fel masgl Wy o dan droed cawr. Y mae Syr R. Cross yn awr wedi dystewi, gan ymguddio drachefn yn Bghysgodion dinodedd, ond cui bono ? Yr ydwyf, yn fwriadol, wedi rhoddi y brasluniad yma o'r chwareuyddiaethau gwleidyddol sydd yn cymeryd lie yr adeg yma o'r flwyddyn, ac er fy mawr syndod, cymer rhai ohonynt le mewn capeli Ymneill- duol. Nid ydynt yn ateb unrhyw ddybenion da pan y cynelir hwynt mewn capeli namyn adgyweirio dyddordeb diffygiol y Rhyddfryd- wyr a'r Ceidwadwyr, er budd y sawl sydd yn dal swydd o dan y Llywodraeth. Pan fydd Hhyddfrydwyr yn gofyn cwestiynau an- oghyfleus i'r aelodau fyddant yn eu cynrych- ioli yn y Senedd mewn cyfarfodydd cyhoeddus pecthynol i'r naill blaid neu'r llall, atelir hwynt gan haid o glebrwyr fyddant wedi eu 4eyflogi gan wifr-dynwyr lleol (pa rai a adna- byddir yn Lloegr wrth yr enw local wire- pullers), sydd yn ceisio cysylltu masnach a .gwleidyddiaeth, er y byddant yn ddieithriad yn gwadu nad yw yr anfadwaith hwnw yn foodoli eithr yn unig yn meddyliau y blaid Rhyddfrydol. Dylai y Rhyddfrydwyr ofalu am drefnu eu cynlluniau, fel ag i fod yn barod i ddynoethi y clebrwyr a'r gwifr- dynwyr y cyfeiriwyd atynt. Bydd digon o ddynion parchus wrth law bob amser fyddant yn barod i gynorthwyo i rhwygo y mwgwd oddiar wynebau y drwg-weithredwyr hyn Bydd ar eu goreu yn ceisio gwneuthur mas- nach o bleidleisiau yr etholwyr. Yn wir, y mae yn sarhad o'r mwyaf ar ein dealltwr- Saeth ein bod yn caniatau i'r hen ddrygeddau 4raddodiadol yma gymeryd lie mewn ethol- ladau gwleidyddol, ac ymrafaelion lleol ereill -0 gyffelyb natur. Sut y gellir dysgwyl i ddosbarth neillduol o Aelodau Seneddol i gynrychioli y bobl pan y gwyddant eu bod yn ddyledus am eu seddau i ddarllawyr a thaf- arnwyr, y rhai sydd, yn rhinweddol, yn rheoli barn y cyhoedd yn eu cyfansoddiadau perthynasol ? Ond y mae y bai yn sefyll wrth ddrws yr etholwyr eu hunain, a hyny yn unig oherwydd nad yw eu dyddordeb mewn gwleidyddiaeth bob amser yr un fath. Bydd llawer ohonynt yn cloffi rhwng dau feddwl, ae y mae ami i Geidwadwr wedi enill sedd yn yr etholiadau trefol eleni tra y mae yr etholwyr yn hepian cysgu. (Tw barhau.)

Oymdeithas Ddarbodol y Glowyr.…

EBBW VALE.

MERTHYR TYDFIL.

CWMGARW.

ABERDAR. I

500 YN MARW YN DDYDDIOL.

TRAMWAY I GWM RHONDDA.

GYFFESIAD LLOFRUDD.

MARWOLAETH MABONWYSON.

IA WN AM HUDOLIAETH.

MR. JUSTICE KAY AO ANNGHY-MEDROLDEB.

ULSLUU1JFVU UEMEULAETHVL DINBYCH.

RHODDI GENEDIGAETH I SAITH…

PRAWFtGUITEAU.

Y CONDEMNIEDIG LEFROY.

YSBEILIAD BEIDDGAR 0 LYTHYR.…

TORI AMOD PRIODAS.

MARWOLAETH ARSWYDUS PRIODIFERGH.

MARWOLAETH SYR HUGH OWEN-

TERFYSG DIFRIFOL YN LLANTRISANT.

OYHUDDIAD 0 DDYN-LADDIAD YN…

LLWYDDIANT YR YSGRIF DIROL.

EISTEDDFOD DEHEUDIR OYMRU.