Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

RHYS TREFOR.

News
Cite
Share

RHYS TREFOR. lIOFEL FUDDUGOL EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1881. PENOD IX. IIANGFA—XN GARCHAROR UNWAITH ETO. TYRED yn ol, y ffwl gwirion!" ebe un o'r cyfeillion a safai y tuallan i'r ogof wrth y llall. Yr oeddwn yn ystyried bob am- ser dy fod yn feddianol ar fwy o synwyr cyffredin na hyn." u, Wel, beth am hyny ?" Ie Ai nid wyt yn gweled gwe y pryf gopyn yn daenedig dros ei genau ? Pe y buasai yn ymguddio ynddi, nis gallasai fyned i mewn iddi heb ei dori i lawr." "Gwir; Jlid oeddwn wedi sylwi arno o'r blaen. Buasai yn rhwym o'i dori i lawr wrth wneyd ei fynedfa iddi, oherwydd y boreo hwn y buasai wedi myned iddi, gan i ni fod yn chwilio y lie yn fanwl yn hwyr neithiwr." u Wel, y mae yn rbaid ei fod yn ym- guddio naill ai gartref yn y Graig Wen, neu ynte yn rhywle oddeutu copa y mynydd acw. Y mae y rhedyn yn hynod o dal ac ami acw, ac oherwydd hyny, nid yw yn an- nhebyg nad all fod yno. Tyred i ni gael chwilio y lie acw am dano." Boddlon, cychwynwn ynte." Aeth y ddau i -ffwrdd ar hyn, a theimlai ein harwr ei galon yn cael ei gorlenwi a diolchgarwch am y waredigaeth hynod a gwyrthiol oedd wedi ei gael. Y diwrnod hwnw, fel yr oedd Myfanwy Trefor yn eistedd gan wau yn ei thy1, wele guro wrth y drws. Atebodd yr alwad ar Tinwaith, a mawr y synwyd hi wrth weled boneddiges dal, brydferth, yn sefyll yn y drws. Nis gallai ei hadnabod, gan fod ei gwyneb yn cael ei guddio gan orchudd trwchus. "Esgusodwch fi," ebe y foneddiges ddy- eithr, "y chwi, feddyliwyf, yw Myfanwy, gwraig Llywelyn Trefor, a mam llane ieu- anc o fugail o'r enw Rhys ?" Ie. Beth am hyny?" Dim, ond fod genyf genadwri oddiwrtho atoch." Oddiwrth fy mab, Rhys, ddywedasoch? Pa lie y mae, ynte ?" gofynai Myfanwy yn synedig. Ie, oddiwrth eich mab. Ac o barth i'r ail gwestiwn, dymunaf eich hysbysu nad yw yn mhell oddiyma." Ddim yn mbell oddiyma ail-adroddai Myfanwy. "Yr wyf i ddeall, oddiwrth hyny, ei fod yn fyw ?" Ydyw, ac yn berffaith iach hefyd." "Diolch i Dduw am y newydd. Ond O hysbyswch i mi pa le y mae, fel ag y gallwyf fyned i gael gweled fy machgen mawr, anwyl." "Ehaid i chwi beidio bod yn wyllt yn ei gylch. Chwi gewch ei weled pan ddaw yr amser priodol i hyny. Y mae ar hyn o bryd yn ffoadur, ac yn ymguddio mewn ogof heb fod yn mhell oddiyma, a byddai i unrhyw gynyg o'ch eiddo i geisio myned ato yn sicr o ddinystrio ein holl gynllun, gan y byddai i'r gelynion sydd mewn ym- chwiliad am dano yn debygol o'ch canfod, ac felly drwgdybio eich neges, ac mewn canlyniad, gael allan ei ymguddfan." Ocd, gwelwch yn dda hysbysu i mi i ba le y dygwyd ef pan aethpwyd ag ef i ffwrdd o'i gartref?" "I Fynachdy Penrhys; ac yr oeddent yn bwriadu ei laddmewn modd dirgelaiddyno." "Bwriadn lladd fy machgen diniwed ? Am beth ? Yn sicr, ni waaeth un drwg i neb erioed." Gwir ond nid yr euog sydd yn cael ei gosbi bob amser. Mae llawer un yn cael ei fradlofruddio yn bresenol er ateb dyben- ion dynion drygionus ac uchelgeisiol." "Mae yn beth Iled debyg fod yr hyn a lefarwchyn cynwys gormod o wirionedd, fel y mae gwaethaf y modd. Ond, sut y gallodd ddianc o afaelion y cnafiaid ?" If Wel, nid wyfyn hoffi bostio fy ngweith- ledoedd fy hun un amser; ond drwy fy offerynoliaeth i yr achubwyd ef, ac y cafodd lwybr i ddianc. Yr oeddwn inau, hefyd, wedi cael fy ngharcharu oddifewn i furiau yr un adeilad, ond drwy enill ffafr un o fynachesau y sefydliad, llwyddais i gael llwybr o ymwared i ni ein dau, ac y mae Rhys, y fynyd yma, yn ymguddio yn yr "ogof dywell," yn Nghwmy Coed-da-dew, a'r hyn yr wyf yn ei geisio genych ydyw dyfod i'w weled heno. Byddwch yno oddeutu wyth o'r gloch. Nid yw o ddyben yn y byd i chwi feddwl am geisio dyfod cyn hyny, gan fod y gymydogaeth yn Ilawn o ddynion yn chwilio am dano, am fod gwobr fawr yn cael ei chynyg i unrhyw un a lwydda i'w ddwyn yn fyw nen yn farw i'r mynachdy." ii Ond, pwy yw v foneddiges urddasol sydd yn teimlo eymaint o ddyddordeb yn achos fy mab, ac wedi ymddwyn mor ffydd- Ion iddo yn ei gyfyngder ?" "Nid yw o fawr pwys pwy ydwyf. Cewch glywed hyny eto." Ond, hynod mor fawr y carwn gael •wybod hyny; ond oa ydych am gelu eich tlW, nid oes mo'r help am hyny." WeI, gellwch fod yn benderfynol fy mod yn gyfeilles o galon i Rhys Trefor, ac y mae hyny yn ddigon o sicrwydd i chwi am wirionedd yr hyn a draethir genyf. Cofiwch 6hwi, yn nghyd a'i dad, fod wrth yr ogof ar yr amser yr wyf wedi ei nodi, oherwydd y mae yn rhaid iddo ffoi ymaith o'r wlad, a hyny ar unwaith, gan ei bod yn rhy beryglus iddo aros yma ddim yn hwy. Rhaid i mi ddychwelyd. Byddaf yn cyf- arfod a chwi wrth enau yr ogof y pryd y dywedais." Gyda bod y gair diweddaf yn dyferu dros ei gwefusau, trodd i ffwrdd gan adael Myf- anwy wedi cael ei llyncu i fyny gan ormod o syndod i allu llefaru yr un gair. Yn mhen ychydig, cyfododd oddiar y gadair, a cherddodd yn mlaen at y drws, er cael gweled a allai ddeall i ba gyfeiriad yr aeth y foneddiges hynod oedd newydd ei gadael; ond nid oedd dim ohoni i'w gweled yn un man. "Pwy allai fod, tybed?" holai iddi ei hun. "Fe ddichon y gall fod yr hyn a ddywedai yn gywir, ond yr oedd rhywbeth oedd yn hynod ac anarferol yn ei dull. Yn wir, tueddir fi weithiau i gredu mai neges- ydd bradwrus ydoedd, wedi cael ei gosod ar waith gan rywrai, gan iddi omedd rhoddi ei henw i mi." Rhywbeth yn y dull yna a lanwai feddwl yr amaethwraig wladaidd a syml o'r Graig Wen yn ystod y prydnawn hwnw. Oddeutu amser machludiad haul, er ei mawr lawenydd, canfyddai ei phriod yn ar- wain y deadelloedd i lawr ar hyd ystlys y mynydd, er myned a hwy i'r gorlan dros y nos. Ni fu Llywelyn yn hir cyn dyfod i'r tý, ac adroddodd Myfanwy yn union wrtho am ymweliad y foneddiges hynod, yn nghyd a'r ystori ryfedd a draethwyd ganddi. Hoi odd Llywelyn hi yn fanwl yn ei chylch, ac atebodd Myfanwy yr oil, gan roddi desgrif- ad ohoni, yn nghyd a'r dull y siaradai. Yr oedd rhywbeth yn ei dull o siarad yn rhyfeddaoh na'r un fenyw arall a glyw- ais erioed," ebe Myfanwy. Yn wir," ychwanegai, tueddir fi weithiau i gredu mai un o fendith y mamau ydoedd." Gad dy ffolineb, ferch," ebe Llywelyn. Na, nis gallai fod yn un o'r rhai hyny. Yr wyt yn dywedyd ei bod yn dal, ac yn feddianol ar gorff lluniaidd, yr hyn nas gallasai fod pe yn perthyn i'r llwyth hwnw, oblegyd nid ydynt hwy ond corachod bych ain a sarug yr olwg. Beth bynag am hyny, os wyt yn cyduno, mynwn weled os ydyw yr hyn a draethwyd ganddi yn wir neu beidio." W el, os ai di tuag at yr ogof, mynaf finau ddyfod gyda thi>"c^tebai Myfanwy. Yr oedd erbyn hyn yn bryd iddynt gychwyn Cyn eu bod wedi cyrhaedd gwaelod y Gae oedd o flaen y tý, safodd Llywelyn yn sydyn, fei pe byddai wedi an- nghofio rhywbeth pwysig. U Yr wyf yn rhwym o droi yn ol er cyrehu hen gledd fy nhadcu. Hwyrach y bydd angen am ei wasanaeth arnom, oblegyd ni wyddom beth all ddygwydd," ebai wrth Myfanwy, ar ei waith yn troi yn ol tua'r ty. Yn mhen yehydig o fynydau, dychwel- odd a'r hen gledd enwog yn hongian wrth ei oebr. Yn mhen awr wedi y pryd y cychwynasant, yr oeddynt wedi cyrhaedd i ymyl yr ogof. Adeg bryderas oedd arnynt pan yn gwneuthur eu mynediad i mewn i'r hen gell dywyll, lie yr oedd eu hunig fab yn ymguddio rhag ei erlidwyr gwaed-sych- edig. Ond, cyn hir, yr oedd y mab yn mreichiau tyner ei fam, ac yn cael ei gusanu ganddi mewn modd gwresog, tra y safai ei dad ychydig oddiwrthynt yn sylwi ar yr hyn oedd yn myned yn mlaen. Yn mhen ychydig, wedi i angerdd y cyfarfyddiad basio, adroddodd Rhys wrthynt hanes ei garchariad yn y mynachdy, yn nghyd a'r modd hynod y cafodd ei waredu oidiyno, drwy ffyddlondeb ac offerynoliaeth Elen deg o'r Cwm. Ar ei waith yn enwi y rhian deg o'r Cwm, yr oedd gwrid gywilyddgar yn croesi dros ei wyneb hawddgar a serch- og, ac ni fu ei dad yn ol o sylwi ar y cyf- newidiad yn ngwyneb ei fab, a deallai wrth ei deimlad yn rhy dda i holi ond ychydig pwy oedd y feinir hono, tra yr holai ao y croesholai ei fam ef yn ol a gwrthol yn ei chylch. Cyn hir, clywent rywun yn brysio i mewn atynt drwy y fynedfa, ac erbyn aros i gael gweled pwy oedd yno, llonwyd eu calonau pan welsant Elen yn neshau atynt. "Nid oes genym ond yehydig bach o amser," dywedai Elen yn ddystaw. Mae y gelynion yn sier o fod yn ein gwylio." Beth sydd yn peri i chwi dybied hyny, fy ngeneth ?" gofynai Llywelyn Trefor. "Awelsoch chwi rai ohonynt?" holai Rhys. "Na, ni welais i yr un ohonynt; ond y mae rhywbeth yn ddystaw lefaru wrthyf eu bod yn yr ymyl." Braidd yr oedd wedi gorphen llefaru y frawddeg uchod cyn y clywent drwst cerdd- ediad rhywrai yn dyfod i mewn drwy enau yr ogof. Yr oedd Rhys a'i dad ar eu traed mewn amrantiad, yn barod i roddi derbyn- iad gwresog iddynt, ac yn mhen eiliad wedi hyny, canfyddent ddau wyneb ellyllaidd yn tremio arnynt yn y tywyllwch, a chyda bloedd fuddugoliaethus, cydruthrasant yn mlaen tuag at Rhys a'i dad ond yn fuan, eawsant ddigon o brawf eu bod wedi bloedd- io buddugoliaeth yn rhy gynar, oherwydd eawsant allan fod y bugail ieuane a'i dad yn medru trin y cledd lawn mor ddeheuig a hwythau. Yr oedd yn anhawdd pender- fynu i ba ochr y troai y fantol am hir am- ser, oblegyd tarawai y tad a'r mab ergydion yr ymosodwyr ymaith gyda'r fath ddeheu- rwydd nes eu synu. Modd bynag, ar ol hir ymdrechu, yr oedd yn ddigon amlwg fod nerth y tad a'r mab yn dechreu gwanhau, a thorwyd cleddyf Llywelyn yn ddau yn ei law gan ergyd cryf o eiddo ei wrthwyneb- ydd, a syrthiodd yntau i lawr yn ddinerth ac archolledig, a thra y daliai hwnw ei gleddyf, gan ei bwyntio at fynwes Llyw- elyn. yn sydyn, ac ar amrantiad, gellid can- fod ei wyneb yn eyfnewid ac yn myned yn wyn fel marmor, a'r eiliad nesaf, gydag ochenaid drom yn diane dros ei wefusau, syrthiodd yn ol yn gorff marw :r Yr oedd Elen er's peth amser yn gwylio am le i gynorthwyo ei chariadfab a'i dad yn y frwydr, a phan welodd Llywelyn yn syrthio i lawr yn glwyfedig, rhuthrodd y tu ol i'r gelyn, a chyda chyflymira y fellten, trywanodd ef yn angeuol a'i dagr, yr hwn oedd yn ihwym ac yn guddiedig wrth ei gwregys. Yr oedd yr ymladdfa rhwng Rhys a'i wrthwynebydd yn parhau o hyd; ond pan oedd ein harwr ar gael yr oruchafiaeth arno, wele bedwar yn yehwaneg o'r gelynion yn gwnenthar eu hymddangosiad. Nid gwiw oedd i Rhys gynyg gwrthsefyll y fath nifer annghyfartal, ac o ganlyniad, rhoddodd ei gleddyf i fyny; a chyn pen pum' mynyd, yr oedd Elen deg ac yntau yn ngafaelion gweision yr Abad Lleision mor rhwym ag erioed. Pan yn barod i gychwyn ymaith gyda'u hysglyfaeth yn llawen, elywent rywrai yn dyfod i mewn drwy y fynedfa, ac un yn gofyn mewn llais uchel, "A ydych yn sier mai yma y maent hwy ?" ( l' wbarhau.)

Nodiadau Amaethyddol.

[No title]

Hwnt ac Yma.

[No title]