Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

CYNYDD ANFFYDDIAETH

News
Cite
Share

CYNYDD ANFFYDDIAETH Y MAE ystadegaeth, ac y mae yn anhawdd cael profion cadarnach na'r eiddo hi, yn dangos fod anffyddiaeth, neu yn hytrach annghref- yddolder, yn enill tir yn ein gwlad. Yr oedd ymbrawf personol a sylw cyffredinol yn sibrwd wrthym ni er's peth blynyddau, bellach, mai felly yr oedd pethau yn bod. Yn wir, nis gellir myned ond i ambell gymdeithas na fydd yno ryfyg, os nid cabledd, o rywfath neu gilydd yn cael eu hymarfer, ac os yw peth hwn felly, fel ag y mae lie i ofni ei fod, y mae yn rhaid fod iddo ryw achos neu achosion, megys ag y mae i bob effeithiau ereill. Tybia y RECTOR o Ferthyr, ac yn wir, mae ei ddam- caniaeth yn gwisgo llawer o debygolrwydd fod achos yr enciliaeth, neu y Ueihad sydd wedi, ac yn cymeryd lie yn ein cynulleidfaoedd crefyddol, i'w briodoli i ddiffyg cymhwysder- au a dylanwadau pwlpudaidd. Y mae llawer o wirionedd yn hyn, canys gwelir yn ein pwlpudau ddynion yn sefyll na feddyliodd Natur, gan nad beth am y Nefoedd, erioed iddynt feddianu y cyfryw Ie. Y mae gan Natur, yn gystal a gras, waith i'w gyflawni, mewn gwneuthur i fyny athraw cymhwys i, a theilwng o'r pwlpud. Y mae ymddangosiad corfforol, yn gystal a gallu meddyliol, yn un o elfenau dylanwad. Nis gall neb oddiwrth ifurf a maint ei gorff; ond rhaid, er hyny, gydnabod fod corff maintiolus ac urddasol yn cario dylanwad. Ond yr elfenau mwyaf pwysig, y mae yn wir, yw athrylith, natur, a 4ysgeidiaeth yr Ysbryd. Y peth y cwyna y RECTOR rhagddo, yn nglyn a chymhwysderau y pwlpud, yw nid diffyg athrylith yn unig, ond diffyg athrylith ddysgybledig-y traddod- wr yn estron llwyr i reolau rheithioreg. Ond gadawer i'r RECTOR lefaru ar y pwnc :—" Fy ymwrthadl i wedi bod o hyd, gallwn ddywed- yd am ddeng mlynedd ar ugain, yw nas gall [ fod ond o ychydig ddefoydd i adeiladu eglwysi neu gapeli heb i chwi hefyd saernÏo dynion i'w llenwi-dynion, feddyliwyf, a fyddont wedi cael eu hyfforddi yn neillduol i'r pwrpas. Os bydd hyn yn eisieu, nid a na chyfoethog na thlawd i nac eglwys na chapel, oddieithr iddynt, ar ol myned yno, gael rhywbeth a fyddo'n werth ei glywed. Hyn yw yr agoriad i'r holl anhawsder. Ffeindiwch hyn allan, ac yr ydych yn esbonio y pwnc ar unwaith. Y mae dyniou yn myned, yn neillduol felly i'r Eglwys, yn gwisgo urddau, ac yn cymeryd arnynt ofal plwyfau, y rhai ni chawsant erioed yn eu bywyd eu haddysgu, neu yn fwyaf tebygol, na feddyliasant erioed am anerch cynulleidfa fechan neu fawr hyd y dydd Sal wedi iddynt gael eu hordeinio. Gallant fod yn ysgolheigion da iawn, yn alluog i ysgrifenu feallai draethawd da ond am lywodraethu y llais, anerch y bobl, a dywedyd rhywbeth a ddyddoro y gynulleidfa, nid oes ganddynt y drychfeddwl mwyaf pellenig." Fel hyna a y RECTOR rhagddo dros beth amser, gan ddyfod, yn mhen ychydig, at y mater o ddangos en- ciliad a lleihad niferi ein cynulleidfaoedd crefyddol, ac i'r pwrpas hwnw, cymhara gof- rifebau y flwyddyn 1851, ac eiddo y flwyddyn 1881 a'u gilydd. Y mae wedi cael ei ddan- gos drwy y gofrifeb ddiweddaf, fod poblogaeth Llundain yn awr yn 5,000,000, eto, ar ddydd Sul yn Gorphenaf, 1880, nid oedd ond 500,000 wedi myned i eglwysi a chapeli yr holl ddinas fawr hon. Nid yw hyny ddim ond deg o bob cant o bob miliwn o drigolion yn myned i le o addoliad ar y Sabath Gwell, y mae yn wir nag yn L'erpwl—nid oedd rhagor nag 8 y cant yn myned, allan o boblogaeth o fwy na haner miliwn ac yn well fyth nag yn Nghas- tellnewydd, lie nad oes ond saith y cant, allan o chwarter miliwn, yn tybio yn addas i gyd- nabod Duw yn gyhoeddus ar Ddydd yr Ar- glwydd Y mae hyn yn frawychus ac ofnadwy i feddwl am dano, fel ag y mae y Daily News yn edrych arno. Yr wyf yn gwybod am gof- rifeb grefyddol a gymerwyd o Fryste y Sabath diweddaf, ag sydd yn rhoddi golwg fwy ffafriol ar bethau. Ond nis gallaf roddi un coel i hono hyd oni wypwyf ei bod wedi cael ei gwneuthur yn ddiragwybod, megys yn am-' gylchiadau Castellnewydd a L'erpwl. Y mae rhoddi awgrym blaenllaw, neubenodidiwrnod, fel ag y gwnawd yn 1851, yn gwneuthur cof- rifebau o'r fath hyn yn hollol ddiwerth. Nid yw ond gwaith hawdd sypynu eglwysi yn y modd hwn. Yr wyf yn dywedyd, gan hyny, a all dim fod yn fwy ofnadwy, nid yn unig oddiar olwg o safle grefyddol, eithr oddiar olwg o safle wareiddiol, pan y ceir allan fod cenedl gyfan wedi ymatal mewn modd ymar- ferol i addoli Duw yn gyhoeddus 1 Pa fodd y gellir dysgwyl i gymdeithas i fod yn wahan- ol i'r hyn ydyw ?—wedi ei hongian mor llac wrth ei gilydd—gymaint allan o gyswlIt-mor ddadgymaledig, gellir ddywedyd, yn mron yn mhob aelod ohoni. Y Deg Gorchymyn, fel rheol, yn agos oil yn cael eu dryllio rhwym- ynau priodas yn cael eu tori yn ddau mwy gan y llysoedd ysgarol i'w wneuthur nag a allant ei gyflawni masnach yn cael ei chario yn mlaen mewn dull pudredig drwyddi draw dyn braidd yn ymddiried i ddyn gwirionedd yn cael ei wneyd yn fater o gyfleusdra tyngu anudon ar ei gynydd yn ddirfawr—gy- maint felly, fel y dywedodd Arglwydd Brif Farnwr Lloegr, wrth anerch y rheithwyr yn Manceinion, y dydd o'r blaen, "Os na ellid rhoddi atalfa arno, na allai cyfiawnder gael ei weinyddu. Dylai eyfiawnder gael ei dynu o ffynonellau pur, a gellai pawb weled, os aiff anudoniaeth yn beth cyffredin—os aiff ffrwd cyfiawnder i gael ei halogi-y bydd yn an- nichonadwy gweinyddu cyfiawnder. Ni ellid gweinyddu cyfiawnder, os byddai llwm tyst- ion yn bethau nas gellid pwyso arnynt, neu os byddai i gysegredigrwydd llw gael ei ddi- brisio neu ei halogi." Hyn yn dyfod oddi- wrth farnwr uwchaf y tir sydd ofnadwy. Yr ydym yn siarad am adeiladu eglwysi a chap- eli, adeiladu ysgolion, a pheth nad ydym ? Ac yr wyf fi, fel un, yn diolch i Dduw am dano ond ai hyny yw y cynyreh sydd i ddeilliaw ohono ? Y mae clerigwyr yn ym- ryson y naill a'r llall, ac yn dwyn hen Eglwys Loegr i'r llwch cyn gynted ag y medront; ein pobl annghrediniol yn anwybyddu Duw yn gyhoeddus; anffyddiaeth yn ffasiynol, hyd yn nod yn mhlith benywod-mewn gair, y cwbl yn myned i ddiawl' (to the devil)-nid yw hyd yn nod ein crefydd ond ffug a ffwdan. Ond yr ydym yn ymladd yn erbyn y diafol, tra nad ydym, mewn gwirionedd, ond yn ym- ladd o'i du, nerth draed a dwylaw hefyd. Oh y mae hyn yn ddarlun prudd, eto, pwy all ddywedyd nad yw yn un gwirioneddol a gonest, er y cwbl ? Yr wyf yn hollol gyduno ag Arglwydd SHAFTESBURY, y pendefig mwyaf parchus ac anrhydeddus ag sydd genym yn awr yn fyw, pan oedd yn llefaru, yr wythnos ddiweddaf, yn Swinborne, ar ran cymdeithas o'r un natur a'r un ag sydd genym ni yn bresenol- y Gymdeithas er Cynorthwyo Bugeiliaid Eglwysig. Ebe fe, Os na fydd i gymdeithasau o'r fath hyn gael eu cynal, bydd i'r grefydd Gristionogol i ddarfod a bodoli fel gallu yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Dyna fel y dywed y RECTOR, ac y mae yn rhaid i ni gyfaddef nad yw efe yn dwfnliwio y tipyn lleiaf ormod ar y darlun annymunol, a gwyn- fyd na byddai genym ragor o bregethwyr gonest a didderbynwyneb fel y RECTOR 0 Ferthyr. Y mae efe yn myned i gyfarfod a'r drwg, ac yn ei daro yn uniongyrch yn ei dalcen, heb ofalu dim am y canlyniadau. Nid yw yn mursenu gyda'i orchwyl, nac yn cyn- ffonloni i neb na dim, nac yn gwrandaw ar na gelyn na chyfaill, eithr yn ymddwyn yn ol argyhoeddiadau cydwybod ei hun. Pregetha ei ddyledswydd i frenin yn gystal ag i gardot- yn, a cherydda y naill mor ddidderbynwyneb a'r llall. Nid yw yn ofni neb ond Duw.

GYMDEITHAS DDARBODOL Y GLO…

"HELYNT CANTATA MERTHYR."

[No title]

LLANDEILO FAWR.

[No title]

Tystiolaethau Pwysig 19 I…