Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Y BWRDD GYMODOL.
Y BWRDD GYMODOL. Dymuna Mr. D. Morgan hysbysu ei fod wedi derbyn y swm o 2p. 17s. 2c. oddiwrth yr Original Pit, Plymouth, Merthyr, tuag at dreuliau y Sliding Scale. Y mae dymuniad taer ar i bob glofa dalu i fyny mor fuan ag sydd yn bosibl, yn enwedig y rhai hyny nad ydynt, hyd yn hyn, wedi arfer talu at y cyf- ryw bwrpas. Pob Post Office Order i'w cyf- eirio i Mr. D. Morgan,. Gwawr Street, Aber- aman, Aberdare; ond yn daladwy i Mr. Josiah Edwards, Bute Arms, Aberdare.
CYHUDDIAD PWYSIG YN ERBYN…
CYHUDDIAD PWYSIG YN ERBYN POST-FEISTR A'I WRAIG. Yn heddlys Penybont-ar-Ogwy, dydd Sad- wrn, ymddangosodd John Williams, post- feistr, a Gwenllian, ei wraig, ar y cyhuddiad o ffugiaeth a chamddefnyddio arian. Yr oedd Mr. Batty, swyddog o Lundain, yn bresenol. Ycyhuddiad yn erbyn y diffynwyr oedd iddynt godi arian soddwyr yn y llythyrdy, a'u def- nyddio at eu gwasanaeth eu hunain. Ymdden- gys fod y swm i gyd dros 250p. Gohiriwyd y prawf hyd ddydd Mercher, a derbyniwyd meichiau am eu hymddangosiad.
SWYNWR WEDI TAGU WRTH FWYTA.
SWYNWR WEDI TAGU WRTH FWYTA. Dydd Sadwrn, cynaliwyd trengholiad ar gorff hen wr 80 oed, ger Chepstew. Y mae Miss Brooks yn byw gyda'i mam yn Moss Cottage, a chanddi glun dost. Clywodd am yr hen wr trancedig John Baglin, yr hwn oedd yn byw yn Coleford, ei fod yn gallu awyno ymaith ddoluriau, a gyrodd gert i'w gyrchu. Ar ol cyrhaedd y Cottage, dodwyd pryd da o fwyd o'i flaen a chan fod yr hen wr wedi cael taith hir, ymosododd yn wancus ar y bwyd. Dr. Shoolbred, yr hwn a wnaeth archwiliad post mortem, a ddywedai iddo gael darn o gig dair modfedd o hyd yn y bendag (larynx), yr hwn a'i tagodd, a dychwelwyd rheithfarn i'r perwyl hwnw.
GWALLGOFDDYN HYNOD YN LLANELLI.
GWALLGOFDDYN HYNOD YN LLANELLI. Boreu dydd Gwener diweddaf, tua phump o'r gloch, curodd person wrth ddrws Fferm Maesardafen, Llanelli; ac ar ol ei agor, cerddodd yn syth i fewn, gan eistedd a dywedyd mai efe oedd Crist. Aflonyddwyd y teulu yn naturiol gan y fath ymwelydd boreu, ac ni wyddent beth i'w wneyd ohono. Yr unig ateb fedrent gael oddiwrtho oedd mai efe oedd Crist, a bod y llall yn dwyllwr. Anfonwyd am y police, a chymerwyd ef i'r lock-up. Rhoddodd ei enw fel Le Sheenan, a'i gyfeiriad oedd y Nefoedd. Dywedai ei fod wedi traethu ei drallod i gyd wrth Dduw, a .cbynghorai y police i ddarllen eu Beibl, onide nid achubid hwy. Yr oedd efe yn cerdded y wlad, ac yn begian ei ffordd a phan adawai y lock-up, ai i wneyd yr un peth, ac yr oedd yn rhaid iddynt osod ei enw yn y papyrau, fel na fyddai i neb ddweyd dim wrtho. Os gwnaent, byddai efe yn ddiogel pan ym- ddangosai hyny. Peth gogoneddus oedd yr Efengyl. Yr yedd efe wedi ei achub, ond nis gellid achub y police. Archwiliwyd ef gan Dr. Williams, a chyhoeddodd ei fod yn orphwyllog. Yr oedd Dr. Thomas o'r un farn, er fod y dyn, weithiau, yn siarad yn rhesymol ddigon hyd nes deuai at y Beibl a lesu Grist. Rwsiad yw y dyn, a dywedai ei fod yn gallu siarad amryw ieithoedd, ond pan brofwyd ef, methodd. Cymerwyd ef i wallgofdy Caerfyrddin.
SEFYDLIAD BEIBL GYMDEITHAS…
SEFYDLIAD BEIBL GYMDEITHAS NEWYDD. Dywed y San Francisco Evening Bulletin fel y canlyn :—" Am beth amser, y mae y Parch. Aaron Williams, a dau neu dri dyn- garwr arall, wedi bod yn parotoi y ffordd er sefydlu Beibl Gymdeithas newydd yn y ddinas fcon. Amcan y gymdeithas yw gwerthu Beiblau a Thestamentau am yr hyn y maent yn gostio, canys y mae y sefydliadau sydd mewn bodolaeth yn awr yn edrych allan yn unig am wneyd elw allan o werthu gair Duw. Enw y gymdeithas newydd yw The British and American Bible Society a'r Sul di- weddaf, eglurodd Mr. Williams ei amcan i'r Young Men's Christrian Association, gan aylwi fod ganddo Feibl yn ei law-wedi ei rwymo mewn morocco, ymylau aur, gyda chyfeiriadau trwyddo, a chwech o fapiau-yr hwn a ellid ei brynu yn Llundain am 36 cents (Is. 6c.). Yr oedd y Beibl Gymdeithas Americanaidd yn gofyn doler a haner (6s.) am un nad oedd yn agos cystal. Byddai y cludiad yr un cyntaf dros y mor yn saith cent (3|c.). Gwerthwyd y rhai hyn gan y Beibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor-yr ion gymdeithas nad oedd yn elwa oddiwrth y gweithrediadau-a bwriada Mr. Williams ymuno y gymdeithas newydd a hwynt. Am amryw flynyddoedd, y mae Mr. Williams a'i gyfeillion wedi bod yn llafurio yn galed trwy ddosbarthu rhanau o'r Gair yn mhob c*r o'r wlad ac y mae eu hymdrechion wedi eu eoroni â llwyddiant." Da genym weled fod y Cymry yn dyfod i'r amlwg mewn materion crefyddol, pa le bynag yr 4nt.
[No title]
TEBYG mai Mrs. Garfield sydd wedi ym. gymeryd Ag adolygu, ac ysgrifenu, mewn rhan, Jaanea bywyd ei gwr. Daw y llyfr allan cyn hir.
BYR EBION 0 L'ERPWL.
BYR EBION 0 L'ERPWL. GWELLIANT GWALL. Yn fy ebion diweddaf, parthed y Cymry a'r Saeson, dylaswn gynghori yr annghredadyn i fyned trwy Loegr i'r man y myno, gan wneyd cymhariaeth deg rhwng y Cymro a'r Sais, a chai weled fod y blaenaf yn mhell o flaen yr olaf mewn gwybodaeth gyffredinol, helyntion hanesyddol gwahanol wledydd, a syniadaeth am safle dyn mewn cymdeithas. Hwyrach y bydd rhywrai wedi camddeall y brawddegau, gan osod lliw gwahanol ar yr hyn a ddywed- ais felly, gwell cywiro y gwall trwy grybwyll na rhaid i'r Cymry yn bresenol wrth athrawon Seisnig, oblegyd saif ein cenedl ni yn gyf- ochrog ag unrhyw genedl, dim ond i'r dar- llenydd gymeryd i ystyriaeth y manteision a'r anfanteision a berthyn i wahanol wledydd. BUDD-GYNGHERDD LLEW LLWYFO. Mae yr hen gyfaill Llwyfo yn cael derbyn- iad croesawgar gan Gymry L'erpwl bob am- ser, a dangosw yd hyny mewn modd sylwedd- ol nos Fercher, y 9fed cyfisol, yn y Concert Hall, Lord Nelson-street. Yr arweinydd oedd Gwilym Alltwen, a chyflawnodd ei swyddogaeth yn ddeheuig a doniol. Y cor o dan arweiniad Cellan Jones. Byr oedd yr amser i barotoi, ond er o dan yr anfantais hwnw, cyflawnasant yr oruchwyliaeth yn Iled dda, er fod y rhifedi braidd yn fychan i ym- gymeryd a darnau clasurol. Mrs. Maggie Jones Williams yn dal ati yn rhagorol dda, a chafodd gymeradwyaeth y dorf. Miss Allt- wen Williams yn canu gyda brwdfrydedd Cymreig, a thybiwn fod dyfodol llwyddianus yn ei haros, oslbydd iddi gael y cyfarwyddyd iawn i gychwyn ar ffordd llwyddiant a dyrch- afiad. Y Llew yn dda iawn, a chymeryd i ystyriaeth ei fod wedi cael ei ddyrnodio gan afiechyd i raddau mor fawr. Nid cystal y teimlai nos Fercher, ond er hyny, cafodd dder- byniad cynes a banllefau o gymeradwyaeth y gynulleidfa. Mr. James Sauvage ac Eos Mor- lais ar eu huchelfanau fel arfer-yn canu gyda chymaint o rwyddineb a medrusrwydd nes y derbyniasant floeddiadau o gymeradwy- aeth y dorf. Gwasanaethid wrth y perdoneg gan Miss Maggie Evans, yr hon, fel arfer, a gyflawnodd ei gwaith gyda medrusrwydd a chwaeth dda. Cawsom ein bendithio, os ben- dith hefyd, a. phresenoldeb canwr newydd yn mherson rhyw W. L. Rees. Credwyf fod a fyno ymddangosiad y cyfaill hwn ar yr esgyn- lawr a direidi rhai o'r frawdoliaeth gellweirus a berthynant i'r adran gerddorol yn y ddinas. Hyn sydd sicr, mai gwell i'r eyfaill aros yn mhlith y coed a'r priddfeini, y lie a ddarpar- wyd iddo gan Ragluniaeth, na meddwl am wneyd un math o gynydd fel canwr yn y cy- ngherddau Cymreig. Mae y sawl a'i gwthiodd yn mlaen i'w feio yn fwy nag efe, a gwneir cam a llawer yn y cyfexnad hwn, am nad ydynt wedi eu cymhwyso a'u cyfaddasu i'r esgynlawr fel cantorion proffesedig oblegyd mewn cyngherddau lie byddo y Llew, Mor- lais, a Sauvage yn gwasanaethu, mae y gy- nulleidfa yn dysgwyl am rywbeth uwchlaw y cyffredin. Llawen genym feddwl fod y gyngherdd yn lwyddiant arianol, er cymhorth i'r Llew yn ei hen ddyddiau. ETHOLIAD Y MAER. Anrhydeddwyd yr Yswain John Hughes a maeroliaeth y ddinas am y flwyddyn ddyfod- ol, ac nis gellid ei well fel dinesydd, Cymro, a gwladgarwr. Gwir ei fod yn Geidwadwr mewn syniadau gwleidyddol, ond eto, y mae yn foneddwr yn ystyr gyflawnaf y gair. Er ei fod wedi codi o blith y werin, y mae wedi enill iddo ei hun safle mewn cymdeithas heb ddim bawlyd o'i gwmpas. Mae yn L'erpwl lawer o'r hyn ellid alw yn wleidiadwyr carp- iog, yn marchogaeth rhyw hobi byth a hefyd, a gwnant fwy o niwed nag o les mewn cym- deithas, am fod mympwy yn cael y llaw drech- af arnynt yn mhob cysylltiad, os nad allant gyrhaedd yr amcan o draws-arglwyddiaethu ar bawb. Mae y Porcupine yn sylwi ar yr Yswain Hughes o'i faboed i fyny, a chydneb- ydd nad bob. dydd y ceir hyd i ddynion o'r un argraffiad-mor sefydlog, cadarn, a phender- fynol. Gwers arall ar weithgarwch a dyfal- barhad yw fod anrhydedd uwchaf ein dinas wedi ei gosod ar ysgwyddau Cymro wedi codi o rengau y cyffredinolion, a chael ei gydnabod yn deilwng i eistedd fel prif ynad yn mhrif gadair dinas y llongau. Hir gofir yr etholiad dinasol am y flwyddyn hon, yn gymaint a bod rhai o'r ymhonwyr mwyaf taeog a blin wedi eu taflu o'r Cynghor. Mae llinell ganol i bob" mater, ond myn rhai pobl i'r byd gredu nad oes neb yn gwybod sut i lywodraethu dinas, tref, neu wlad fel y nhw, yr hyn sydd yn gamsyniad eithafol gan blaid neillduol, os nad mympwyol, o ddinasyddion L'erpwl. GWYDDELOD Y DDINAS. Dal i fod yn ystyfnig ac anystywallt y maent yn barhaus, a dim gobaith y ceir tawelwoh cyhyd ag y caniateir iddynt gynal cyfarfodydd cyhoeddus i regu y Weinyddiaeth a damnio y Llywodraeth. Blaenoriaid y cad- au ydynt Wyddelod Pabyddol wedi methu a byw yn yr Iwerddon, ond wedi llwyddo yn L'erpwl fel masnachwyr cyffredin, gan fwyn- hau pob rhagorfraint a fwynheir gan bawb dinasyddion ereill. Ond eto, toi fynant ym- foddloni a byw mewn tawelwch fel pobl ereill. Beth bynag a dderbyniant, a pha ragorfreint- iau bynag a fwynhant, nid ydynt foddlawn, a chydgan neu ddiweddglo pob can ydyw, fod yn rhaid iddynt adfeddianu yr Ynys Werdd, a chael llywodraeth gartrefol. Gresyn nad allai y Prif-weinidog a'i gydgynghorwyr weled y ffordd yn rhydd at hyn, gan wneyd y cytun- deb yn seiliedig ar amodau neillduol. Byddai yn sicr o gael yr effaith dyladwy ar y cyfryw hyny sydd yn byw yn fil gwell yn Lloegr na phan oeddent gartref yn ceisio bodoli, lawer ohonynt, ar hen gorsydd lleidiog a digynyrch. Cynyrchir y teimladau yn nghyfangorffy bobl gan fradwyr y genedl Wyddelig. Mae yr hwn a fradychodd Smith O'Brien yn 1848 yn chwareu rhan y gwladgarwr yn eu plith, ond ni fynant weled a bydd yn debyg o ddilyn yn mlaen hyd nes caffo y cyfle o wneyd swm ychwanegol o arian trwy fradwriaeth. Mae un o'r llwyth bradwrus yn byw heddyw yn Jersey ar arian y Llywodraeth, sef y wobr a dderbyniodd am fradychu ei wlad a'i genedl. MASNACH Y MOR. Nodwedd ymarferol yn masnach y porth- ladd ydyw, fod hwyl ac agerlongau yn dyfod i mewn ac yn myned allan braidd bob dydd o'r wythnos. Derbyniadau rheolaidd o wenith, Indrawn, ymenyn, cig moch, blawd, a phob nwyddau gofynol at gynaliaeth y werin bobl. Cyflenwad helaeth o gotwm yn cael ei dderbyn o'r Talaethau Deheuol a gwledydd ereill lie y cynyrchir y nwydd. Cyflawnder o offerynau amaethyddol o bob math yn dyfod i mewn, a llenwir y farchnad i orlawnder, a thelir am y cyfryw ddegau o filoedd o bunau yn flynyddol 0 arian Prydain yn gyfnewid am danynt. Mae cymaint o amrywiaeth yn ein trafnidiaeth forawl fel na chaniateid gofod i wneyd rhestr ohonynt yn y fan yma, a gall na fyddai yn ddyddordeb cy- ffredinol i'r darllenwyr. AMRYWION. Tabernacl y bobl wedi ei droi yn gapel y Bedyddwyr, er fod yr arian wedi eu casglu o dan yr argraff fod y cynullfan i fod yn eiddo y cyhoedd, ac nid yn eiddo plaid o bobl neill- duol. Tybia rhai o bobl y ddinas nad cyfiawn y weithred hon o eiddo Mr. Lockart. Cyfleusderau teithio trwy y ddinas yn ym- eangu, a cheir rheilffyrdd i bob cyfeiriad o'r naill gwr i'r llall, fel y gallo y neb a ddewiso gael ei gario i'r lie a ddewiso. Mae yn gaffael- iad rhagorol i ddyeithriaid fyddo yn ymweled a'r porthladd ar negeseuon masnachol. Dur-weithfa y Mersey yn parhau i sefyll yn segur o hyd, a dim un gobaith y cychwyna yn fuan. Gresyn na chymerai rhyw gwmni an- turiaethus afael ynddi, a'i chychwyn er lies y gymydogaeth o amgylch Toxteth Park. Y Parch. Owen Thomas yn pregethu yn Seisnig yn chwareud^ y Rotunda, Scotland- road, a'r achos, meddir, am fod yr Albert Hallyn cael ei hadgyweirio, os nad ei helaethu. Benthycwyr arian mown trybini parhaus yn y llysoedd cyfreithiol. Un o'r dosbarth hwn yn rhoddi benthyg pedwar cant o bunau am ddiwrnod, ac yn codi ugain punt am y benthyg, neu yn ol 1,825 punt y cant yn y flwyddyn. Nid yw yr uchod ond un engraifft o fil a gymer le yn fisol, a dylid ymgadw oddi- wrthynt os aa fydd dyn am ddifetha ei hun mewn ystyr dymorol. Onid yw yr hysbys- iadau yn y papyrau newyddion ?" medd y dyn. Digon gwir ond beth waeth gan rai cyhoedd- wyr Seisnig a Chymreig dim ond cael arian. Mae achos y tylwyth hyn yn debyg o gael sylw y Senedd, gan fod y mater wedi ei gy- meryd i fyny yn ein llysoedd gwladol.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Marwolaethau Oymry America.
Marwolaethau Oymry America. MORRIs.-Hydref 15fed, yn East Palestine, Ohio, y Cymro parchus, David Morris, yn 45 mlwydd oed. Genedigol ydoedd o Lanrhydion, sir Forganwg. Bu am amryw flynyddoedd yn ngwasanaeth y Pittsburg & Chicago Railway, fel goruchwyliwr. Gadawodd i alaru ar ei ol wraig a dau blentyn, nai, a thad oedranus (71 mlwydd oed), yr hwn a ddaeth i America yn mis Mehefin diweddaf, gyda'r bwriad o dreulio y gweddill o'i ddyddiau gyda'i fab. Claddwyd ef yn barchus, a gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Ceroosh. EDW ARDS. Medi 14eg, yn Spring Side, Kansas, yn 63 mlwydd oed, Mr. George Edwards. Ymfudodd i America chwe' mis yn ol, gan adael gweddw a phump o blant yn Nghymru, a thri yn America. Ei glefyd oedd dirwasgiad yr ymenydd. Ganwyd ef yn Aber- dar yn 1818, ac ymunodd a'r Annibynwyr pan yn 17 oed. Bu yn ddiacon yn Bethel, Trecynon, ac Elim, Cwmdar; a llanwodd y swydd o oruchwyliwr yn nglofeydd Cwmdar am flynyddoedd. Bu hefyd yn ddirwestwr selog. Meddai ar alluoedd meddyliol cryf. Ba farw yn ffyddiog yn ei Dduw.
Y "JAPANESE TROUPE."
Y "JAPANESE TROUPE." Y mae y cwmni difyrus uchod wedi bod yn Neuadd Ddirwestol Aberdar yn ystod yr wythnos ddiweddaf, yn rhoddi eu perfform- iadau. Cawsant rai o'r cynulleidfaoedd goreu a welwyd yno er's cryn amser, ac un o'r pethau a greodd lawer o ddyddordeb yno oedd yr anrhegion a roddid i bawb. Yr oedd y rhai hyn yn cyrhaedd o cabinet gwerth pum' gini i lawr i rattle baban gwerth dimeu, a mawr oedd yr edrych a'r dyfalu pwy gawsai y cabinet. Yr oedd y perfformiad hefyd o'r radd uwchaf, ac yn creu syndod am eu deheu- rwydd yn mhawb a'u gwelsant. Byddant yn ngwahanol drefydd y Deheudir am ryw gymaint o amser. Eled pawb i'w gweled.
[No title]
YSTYRIWYD nofio yn rhan o addysgiaeth bechgyn gan y Rhufeiniaid a'r hen Gymry. Yr ydym wedi gwaethygu yn yr ystyr hwn oddiar hyny. RHAID i'r Mormoniaid dalu i'r eglwys un rhan o ddeg o bobpeth maent yn amaethu, gwneuthur, neu enill. Esiampl teilwng o efelychiad. EFALLAI y bydd yn dda gan gyfeillion Eos Hafod wybod ei fod i feirniadu a chanu mewn Eisteddfod a chyngherdd, yn Mlaenau Gwent, y Nadolig nesaf. Hefyd, y mae wedi cael engagement arall, sef yn Bonvilstone, ger Caer. dydd. Rhwydd hynt iddo gyrhaedd pen uchaf pinacl poblogrwydd. DYWEDER a fyner, creaduriaid anhydrin yw y Gwyddelod. Fe welir hyny oddiwrth y ffaith ddarfod iddynt anfon gwahoddiad i'r Prif Weinidog i'w cyfarfod mewn lie neillduol er dadleu hawliau y Gwyddelod, ac ymddygiad y Llywodraeth tuag atynt. Ond yr ydym yn diolch na chydsyniodd Mr. Gladstone a'u cais, ond fe anfonodd lythyr atynt yn cydnabod y gwahoddiad. Buasai llawer yn ormod o fonedd. wyr (?) i gydnabod gwahoddiad o'r fath. Pe cydsyniasai efe a'r cais trwy fyned, pwy fuasai yn rhoddi hatling am ei fywyd ? Neb.
Cyfarfod Mawr o Lowyr Rhondda…
Cyfarfod Mawr o Lowyr Rhondda ac Aberdar. Dydd Llun diweddaf, cynaliwyd mass meeting o holl lowyr Cymoedd Rhondda ac Aberdar yn y Mardy (lIe canolog rhwng y ddau), er ystyried y priodoldeb o gael un Sliding Scale dros holl lofeydd Deheudir Cymru a Mynwy. Bygythiai i y tywydd droi allan yn wlyb, ond yn hyn fe'n siomwyd o'r ochr oreu. Nid oedd y cyfarfod yn agos mor lluosog ag y dysgwylid iddo fod, ond diau y gellir priodoli hyny i'r tywydd drwgdybus. Am ychydig wedi 12 o'r gloch, cafodd Mr. Wm. Abraham (Mabon) ei apwyntio i'r gadair, a dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Eglur- odd y cadeirydd natur y cyfarfod, sef jffurfio un scale dros y Deheudir, fel y gellid rheoleiddio a chyfartalu huriau y glowyr yn mhob man. Mr. D. Morgan, Mountain Ash, a ad- roddodd yr hyn a basiodd yn nghylch pwne y saethu mewn glofeydd. Cafodd Mabon, Isaac Evans, ac efe ei hun eu dirprwyo i ymweled ag Arglwydd Aber- dar, ac wedi iddynt osod y peth yn ei liw priodol o'i flaen, addawodd ei ar- glwyddiaeth wneyd pobpeth yn ei allu i'w cynorthwyo. Aethant i Lundain, ac yno cyfarfyddasant a Mr. Wales, Ar- glwydd Aberdar, a'r Ysgrifenydd Car- trefol. Canlyniad eu hymdrechion oedd hyn:—Sicrhaodd yr Ysgrifenydd Car- trefol iddynt nad oedd y cylchlythyr a anfonwyd allan yn gwneuthur yr un cyf- newidiad yn yr hen reolau-neu, mewn geiriau ereill, fel pe na byddai wedi ei anfon allan ogwbl. Addawodd yr Ys- grifenydd Cartrefol hefyd, cyn y gwnelid unrhyw welliantau yn y dyfodol, y byddai iddo ymgynghori a dirprwywyr y glowyr. Yn ei farn ef (Mr. Morgan), yr oedd y Llywodraeth presenol wedi ac yn parhau i wneyd pobpeth yn eu gallu i godi, ac nid i ddarostwng, y gweithiwr, ac felly hawlient gefnogaeth pob gweithiwr. Cynygiwyd gan Jonah Thomas, ac eiliwyd gan W. P. Bowden, fod diolch cynesaf y cyfarfod i'w roddi i Arglwydd Aberdar am ei ymdrechion o blaid y gweithwyr yn y mater hwn. Cynygiwyd gan J. B. Davies, Nantymoel, ac eil- iwyd gan John Davies, Cwmaman, fod diolchgarwch y cyfarfod i'w gyflwyno hefyd i'r Ysgrifenydd Cartrefol am ei hynawsedd yn nglyn &'r un mater. Car- iwyd y ddau benderfyniad yn unfrydol. Yna, ail-ymgymerodd Mr. D. Morgan a'i araeth. Ar ol anog y cyfarfod i astudio hanesiaeth ein gwlad, ac hanes- iaeth y dosbarth gweithiol yn y gorph- enol, fel moddion i ddyrchafu eu hunain yn y dyfodol, ymhelaethodd ar effeithiau niweidiol y strikes. Yr oedd ataliad y cyflogau yn strike 1871 wedi achosi colled o filiwn o bunau i'r dosbarth gweithiol. Yn 1873, aeth pedair miliwn o bunau i fanau ereill a ddylent fod wedi dyfod i logellau y glowyr oni bai y strike. Yn 1875, yr oedd y colled hwn yn ll,000,000p. Hefyd, yr oedd y strikes hyn yn foddion i ddychrynu y fas- nach lofaol i ranau ereill, a gorfodwyd i'r meistri werthu eu glo, a chymeryd contracts, am brisoedd llai, er enill yn ol y cyfryw fasnach i'r Deheudir. Yn wir, Ilawn bryd ydoedd i ddyfeisio rhyw gyn- llun effeithiol i atal y fath wastraff ar- swydus a hyn. Mewn ffurfiad scale newydd, yr oedd yn rhaid iddynt gael rhyw ddyn canol i benderfynu y man fat- erion a'r dadleuon a godent rhwng y ddau ddosbarth Yr oedd tair scale yn bodoli yn bresenol yn y Deheudir:— Scale y Mri. D. Davis a'i Feibion, Fern- dale, Scale yr Ocean Colliery, a Scale Caerdydd (a chyfrif dosbarth y glo tai a dosbarth y glo ager fel un). Safon Fern- dale oedd 8s. y dunell, tra yr oedd y safonau ereill yn 8s. 6c. Gwrthodai y meistri roddi ychwanegiad ar hyn, gan ddywedyd ei bod yn gorfod cystadlu yn erbyn Ferndale. Hefyd, yr oedd treul- iau cynrychioli y gweithwyr mewn cynad- leddau, neu ofalu am eu hiawnderau (megys pwnc y saethu), yn syrthio yn gyfangwbl ar Scale Caerdydd, er fod holl lowyr y Deheudir yn derbyn o'r manteis- ion deilliedig oddiwrthi. Yr oedd y contracts hir yn niweidiol. Gwnelid con- tract pan fyddai'r pris yn isel am ddwy flynedd efallai, a thra y byddai y contract hwnw yn bodoli, nid oedd yn bosibl i'r gweithwyr gael codiad yn eu huriau. Yr oedd yn rhaid cael rhyw iselbwynt (mini- mum) yn y scale, er fod y meistri yn wrthwynebol. i hyny. Beth bynag a wnelid, caffai hyny ei sylw mwyaf di- frifol. Terfynodd drwy ddymuno ar y glowyr i roddi y cynorthwy priodol i'w cynrychiolwyr. Sylwodd y cadeirydd ei fod yn cytuno yn hollol a Mr. Morgan yn yr hyn a ddywedodd, gydag un eithriad. Gyda golwg ar strike 1875, yr oedd y rhan bwysicaf o'r bai i'w osod ar gefnau y meistri, ac nid yn gyfartal rhwng y meistri a'r gweithwyr. Mr. Wm. Jones, Ferndale, a eglurodd sefyllfa pethau pan y sefydlwyd Scale Ferndale, a dywedai fod perffaith ryddid gan y gweithwyr i yniuno a rhyw scale arall a fyddai yn well yn eu golwg. Atebwyd ef gan y cadeirydd, yr hwn a'i sicrhaodd nad oedd un amcan gan- ddynt i feio gwyr Ferndale, ond eto, nid oeddynt wedi cyfranu dim at dreuliau y gwahanol gynadleddau. Mr. D. Jones, Caerffili, a gefnogai un scale fawr, gan y credai y byddai hyny yn fanteisiol. Mr. J. B. Davies, Nantymoel, a garai weled pris y glo yn cael ei gyhoeddi yn wythnosol, fel y gwnelid a'r gwahanol feteloedd. Dylid efelychu y grocers a'r bakers yn eu hundeb i godi pris y bara a nwyddau ereill, a chodi pris y glo yr un modd. Credai y byddai talu y gweith- wyr ar ddydd Gwener yn fantais hefyd. Cyfeiriodd at y mudiad er codi cofadail genedlaethol i'r diweddar Mr. Mac- donald, A.S., fel un gwir deilwng. Mr. Philip Jones, Abertileri, a siarad- odd ar y profiad oedd y gweithwyr wedi gael yn y mater hwn, ac felly yr oedd lie i ddysgwyl y byddai y scale nesaf yn well byth. Pe llosgid y tair scale, yn ddiau deuai un rhagorol allan o'r lludw. Yr oedd y gwahanol adegau ar ba rai y gwnelid yr audits yn bresenol yn anfan- teisiol i'r gweithwyr. Rhaid oedd iddynt uno i gael gwir werth eu llafur. Cyfeiriodd y cadeirydd at amryw well- iantau oeddynt yn angenrheidiol yn y scale newydd, ac hysbysodd nad oedd y cyfarfod hwn yn un i benderfynu y pwnc, ond yn hytrach i'w egluro, a'i osod o'u. blaen, ac yna cawsent amser i'w ystyried yn eu plith eu hunain. Cynygiwyd gan Mr. J. Salmon, Moun- tain Ash, ac eiliwyd gan Mr. Roberts, Mardy:— "Fad y cyfarfod hwn o'r farn y byddai yn ddoeth i gael un scale gyffredinol i holl gorff y glo- wyr yn Mynwy a Deheudir Cymru; a chyda'r amcan hwn mewn golwg, yn cymeradwyo pob glofa i gymeryd y mater i'w hystyriaeth, ac i anfon eu barn ar y mater i gyfarfod o gynrychiolwyr a gynelir yn fuan i'r dyben hwnw, a chyda'r bwriadb o fod yn derfynol ar y mater." Cariwyd y penderfyniad uchod yn un- frydol, ac ar ol talu diolch i'r cadeirydd, dygwyd y cyfarfod i derfyniad.
Drill Hall, Merthyr Tydfil.
Drill Hall, Merthyr Tydfil. OPERA GYSEGREDIG "GWLEDD BEL- SHASSAR" MEWN CHARACTER. FE GYNELIR DAU GYFARFOD mawreddog JL (prydnawn ar hwyr), dydd LLUN ar ol Nadolig, Rhagfyr 26ain, yn y lie uchod. Cymerir rhan ynddynt gan y rhai canlynol:— Soprano-Miss GERTRUDE LEWIS, R.A.M. (ogyno- herddau St. James's Hall, a Covent Garden, ° Llundain), Caerdydd. Contralto-Miss ANNE JONES (Blodwen Myrddin) Caerfyrddin. 5 Tenor-Mr. D. HOWELLS (Gwynalaw), U.C.W. Aberaman, Aberdar. Bass—Mr. GWILYM THOMAS (un o wroniaid Glofa Tynewydd). Caerffili. Cynrychiolir y Corawdau, mewn dillad tlws a. gwychion, o'r Babiloniaid a'r Iuddewon gyda golygfeydd ar Orchestral Accompaniments. Arweinydd—Mr. J. R. LEWIS, A.C. Perdones- Miss META SCOTT. Harmoniumist—Mr. W. REES, a STRING BAND, o dan arweiniad Mr. SCOTT, Merthyr. Drysau yn agored yn y prydnawn am 2, i dde- chreu am 2.30 yr hwyr, am 7.30, i ddechreu am 8. Prisoedd-2s., Is., a 6c. 2582
Ymfudiaeth.
Ymfudiaeth. YSWYDDFA YMFUDOL GYMREIG. Goruchwyliwr Cyffredinol a Chynrychiol- ydd Trwyddedig y gwahanol gwmnïau agerawl a fordwyant o Lynlleifiad i wahanol wledydd y byd. Manylion a chyfarwyddyd i'w cael drwy anfon llythyr fel y canlyn :-N. M. JONES (Cymro Gwyllt), Passenger Broker, 28, Union-street, Liverpool. Amser hwyliad y gwahanol agerlongau, a phris- oedd y cludiad yn y try dydd dosbarth Llinell Inman-yn wythnosol, pris, 6p. 68. White Star „ „ 6p. 6s. Y National Line „ „ 6p. Os. Llinell y Cunard i Boston, dydd Mercher; a'r,- Sadwrn i Efrog Newydd pris y cludiad, 6p. 6s. Llinell Allan, yn morio i wahanol borthladdoedd, megys Halifax, Boston, Baltimore, Portland, a. Montreal; pris y cludiad, 6p. 6s.; lie canol, 8p. 8s. Llinell y Guion yn morio bob dydd Sadwrn am Efrog Newydd pris, 6p. 6s. lie canol, 8p. 8p. Llinell y Dominion i wahanol borthladdoedd, fei yr Allan Line, gydag ychwanegu New Orfeans, gan droi i mewn i Galveston o Texas; pris, 6p. 6s. Llinell agerawl Lamport & Holt yn wythnosol î Buenos Ayres, a phorthladdoedd ereill. Y pris i Buenos Ayres—lOp. i berson unigol; ac uwchlaw hyny, fel y canlyn :— Cwmni uwchlaw 6 a than 10 9p. 10a. Cwmni uwchlaw 10 a than 15 9p. &B. Cwmni uwchlaw 15 a than 20 8p. IDs. Cwmni dros 20 a than 40 8p. Os. Cludiad plant yn amrywio yn ol yr oedran. Dyma y porthladd lie y glania teithwyr fyddant yn myned i Patagonia ond cofied y darllenydd fed y llywodraeth Argentaidd yn anfon pobl i wahan- ol barthau o'r wlad yn rhad o Buenos Ayres, yr- un fath ag y danfonir hwynt i'r Wladfa Gymre%. Barned pob ymfudwr drosto ei hun am y wlad. oreu i fyned iddi, ac na fydded i neb fod mor ddwl a chymeryd ei arwain yn fyrbwyll gerfydd ei drwyn, heb yn gyntaf bwyso y mater cyn chwaltt cartref. Mae yn elw a chynaliaeth i migyfar- wyddo ymfudwyr; ond ni charwn fod yn euog- o gamarwain a thwyllo neb er mwyn ychydig geiniogau. GaJlaf ddweyd hyn, fod genyf y tf~ Cymreig helaethaf yn L'erpwl, a digon o le cysur- us i letya ymfudwyr yn ddidrafferth. Byddai ya ddoeth i ymfudwyr ffurfio minteioedd bychain, er myned gyda'u gilydd, lie bynag y byddont wedi meddwl am ymfndo, yr hyn fyddai yn^gyiitur ychwanegol iddynt ar y daith drosforawL Omed ymofynwyr y cyfeiriad :— OYMRO GWYLLT, American Eagle, 28, Union-street, LiveQ^oIt
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MERTHYR.
gan ei gicio allan, a pha beth ydoedd 1 Mynydd mawr o lafur yn dwyn allan swm fechan o eiddigedd tuag at David Rosser, y cadeirydd-(Clywch, clywch.) Ar ol hyn, zdwyd siarad ystormus, a chynygiodd un, ac eiliodd y llall, fod Mr. Rosser i adael y gadair, pan y dywedodd Mr. Jeremy, ar awdurdod bar-gyfreithiwr, y byddai unrhyw waith a wnaent ar ol i'r llywydd adael y gadair yn annghyfreithlon. Wedi rhoddi y cynygiad i'r cyfarfod, penderfynwyd, trwy f wyafrif o 14 yn erbyn 12, nad oedd y cadeirydd i adael y gadair. Yna, cyhoeddodd y cadeirydd fod y cyfarfod wedi terfynu.