Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

RHYS TREFOR.

News
Cite
Share

RHYS TREFOR. • NOFEL FUDDUGOL EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1881. PENOD YIII. DIANGFA GYRXNG. CBRDDAI yr eneth a'n harwr, yn mlaen yn gyflym, a cherddai y ddau berson oedd yn eu dilyn yr un mor gyflym; a phan yr arafent hwy eu camrau, arafai y rhai hyny yn yr un modd i'w hateb. Mae yn rhaid i mi gael gwybod beth all fod ganddynt mewn golwg wrth ein dilyn," ebe Rhys. Aroswch chwi lie yr ydych cyhyd ag y byddaf fi yn myned yn ol tuag atynt." Trodd gyda hyn ar ei sawdl, a phan wel- odd y ddau ddyn oedd yn dilyn ef yn troi yn ol tuag atynt, troisant hwythau yn ol hefyd. Pan welodd ein harwr hyny, gwaeddodd allan arnynt am aros; ond ni wnaethant sylw ohono, eithr brysiasant yn mlaen. Yn gweled eu bod yn troi y glust fyddar tuag ato, cymerodd ein harwr saeth o'r cawell a gariai ar ei gefn, ac wedi ei gosod ar ei fwa, gollyngodd hi i ffwrdd, a'r eiliad nesaf yr oedd un ohonynt yn neidio yn sydyn oddiar y llawr, a chydag ysgrech angeuol, disgynodd ar y ddaear i beidio tyfodi mwy. Dyna, chwi wrandewch ar hona, os ydych yn gomedd gwrando arnaf fi." Edrychodd ei gyfaill ar ei gydymaith syrthiedig, ac yna, rhedodd i ffwrdd cyn gynted ag- y medrai; ond, rhoddwyd atalfa fuan ar ei yrfa yntau gan un o'r cenadon angeu a ehedai oddiar fwa Rhys Trefor. Ar ei waith yn gollwng ymaith y saeth ddiweddaf, teimlai law yn disgyn yn dyner ar ei ysgwydd. Trodd yn ei ol yn fraw- ychus, ac erbyn iddo edrych, pwy oedd yno ond ei waredydd brydweddol. "Pa beth yr ydych wedi ei wneyd, Rhys?" "Edrychwch draw," ebe Rhys, gan gyf- eirio a'i law at y ddau gorff marw oedd yn gorwedd ychydig bellder oddiwrthynt. Pwy allant fod, tybed ?" holai yr eneth yn frawychus. 91 Wn i yn y byd mawr; ond os ydych yn ewyllysio, deuaf yn ol atynt er ceisio eu hadnabod." Deuwch ynte." Aethant atynt, ac ar ol i'r eneth edrych ar wyneb un ohonynt, sylwodd, Yr wyf yn credu mai corff y mynach a alwent Jacobus ydyw hwn. Ni welais ef ond rhyw unwaith neu ddwy yn ystod fy ngharchariad, ac yn ol dim ag yr wyf yn ei gofio am dano, y mae gwyneb hwn yn ateb i eiddo hwnw yn gywir." Ymadawsant a hwnw er myned at y llall, a chyn gynted ag y gwelodd ein harwr wyneb hwnw, llefodd allan yn fuddugol- iaethus, Camsyniaist ychydig neithiwr, y cnaf, pan yn dywedyd fy mod i gael fy nienyddio y boreu yma. Y ti dy hunan sydd wedi cyfarfod a'r dynged hono, yr hen gyfaill." "Pwy ydyw ynte?" gofynai yr eneth. Y mynach Jerome, yr hwn a arferai ddwyn lluniaeth i mi. Rhoddodd y newydd cysurlawn (?) i mi neithiwr, pan yn dwyn y gyfran a alwant yn swper i mi, mai dim ond hyd y boreu yma oedd genyf i fyw; camsyniodd ychydig," sylwai Rhys. Do, yn wir," ebe yr eneth yn llawen. -49 Ond, Rhys anwyl, gadewch i ni fyned, oblegyd y mae yn dyddhau yn gyflym, a byddant yn sicr 0 fod ar ein hoi yn fuan. Os gallwn gyrhaedd hyd yr Alltddu, gwn am le diogel i ni yno i dreulio y dydd, ac ni ddaw neb ar ein traws." Cychwynasant, gan adael y ddau gorff yno, ac erbyn eu bod wedi cyrhaedd i ben mynydd y Waungul, yr oedd cawr y dydd wedi gwneuthur ei ymddangosiad. Nid oedd ganddynt yn awr ond rhyw filltir o ffordd i'r man y soniai yr eneth am dano, sef yr Alltddu. Ni chyfarfyddasant a. dim i'w lluddias tra ar eu taith tuag yno, ac wedi iddynt gyrhaedd i ganol y goedwig, arweiniodd yr eneth ein harwr i mewn i ogof fechan oedd yn yr ymyl. Wedi iddynt fyned i mewn ar eu eyfer am yn agos i ttgain llath, troisant ar y llaw ddehau i ys- tafell oedd yn guddiedig yn mynwes y graig. Yr ydym yn ddiogel bellacb," ebe yr eneth. « A ydych yn meddwl hyny ?" holai ein harwr. Yr wyf bron yn sicr 0 hyny," oedd yr ateb. "Yn awr, gan ein bod yn ddiogel, a fyddai yn ormod i mi gael gwybod pwy ydyw fy angyles brydferth ?" Paham yr ydych yn holi ?" "0, dim ond yr hoffwn gael gwybod eich enw." Ai nid ydych yn cofio i chwi fy ngweled erioed cyn neithiwr ?" "Na, nis gallaf gofio yn bresenol." U Sylweh yn fanwl ar fy ngwyneb, a cheisiwch alw i gof pwy ydwyf." Gorchwyl lied anhawdd oedd i'n harwr edrych yn fanwl ar y wyneb prydweddol oedd o'i flaen; ond ar ol hir sylwi a chraffu, arno, dywedodd, Na, nis gallaf yn fy myw gofio fy mod wedi gweled y wyneb yna o'r blaen." Ai nid ydych yn cofio i bedwar gwr ar gefnau eu meirch ddyfod ar eich traws tra yr oeddech yn cynull y defaid ar y mynydd er myned a hwy i'r gorlan, yn mrig yr hwyr, ychydig ddyddiau yn ol ?" Ydwyf, yn cofio o'r goreu, a chwi yw y foneddiges oeddent yn ei chario i ffwrdd. Y mae y cwbl yn eglur o fy mlaen yn awr." Gwir, myfi oedd yr eneth hono." Ond, pa beth oedd ganddynt mewn golwg wrth eich cludo i ffwrdd ?" "Nid wyf yn hollol sicr eto, er fy mod yn tybio fod a fyno Syr Robert Fitzhamon a hyny" Hym! Ond, atolwg, pwy ydych ynte ? Da chwi, atebwch y gofyniad yna i mi. Maddeuwch i mi am deimlo cymaint 0 awydd am gael clywed; ond yn wir, nis gallaf oddiwrtho." Wei, gan eich bod mor awyddus," ebe yr eneth dan wenu, "chwi gewch glywed pwy ydwyf ond i mi gael clywed un neu ddau 0 bethau genyeh chwi cyn hyny." Unrhyw beth, os medraf," atebai ein harwr. A oedd genych chwi ryw gyfaill neill- duol pan oeddech yn bugeilio y defaid ar y mynydd?" H Neb, ond Tango, y ci." Ai nid oedd genych rywun arall ? Ceisiwch gofio." "0, Gruff, y piogen. Yn awr yr wyf yn cofio am fy hen gyfaill." Felly. A ddarfu i chwi gael rhywbeth hynod yn guddiedig o dan aden Gruff ryw ddiwrnod ?" Ymdaenodd gwrid borphoraidd dros wyneb Rhys yn awr. Yr oedd yn amlwg wrtho y carai, pe y gallai, guddio, hyny ond i fod yn unol a'i addewid, ac er bodd- loni yr awydd angerddol a losgai yn ei fynwes am gael gwybod enw yr hon oedd wedi profi ei hun yn gyfeilles mor ymlynol wrtho, teimlai ei fod 0 dan orfod i roddi atebiad gwirioneddol. Cefais ddarn o bapyr yn cynwys dau benill yn ysgrifenedig arno." "Felly," ebe yr eneth, gan gilwenu. Ai ni chlywsoch son erioed am Elen deg o'r Cwm ?" Do, lawer gwaith." A welsoch chwi hi rywbryd ?" Do, unwaith; ond y mae rhai blynydd- au wedi pasio oddiar hyny." Wel, yr ydych yn gweled Elen yn awr o'ch blaen." Ai chwi yw y rhian annghymharol o'r Cwm ?" Ie, myfi yw Elen deg o'r Cwm, fel yr wyf yn cael fy ngalw." Plygodd Rhys ei ben tua'r llawr. Yr oedd mewn penbleth. Yr oedd y rhian deg a safai o'i flaen wedi llwgr enill ei serch; ond yr oedd gwabaniaeth mawr yn eu sef- yllfaoedd. Yr oedd hi yr etifeddes gyf- oethocaf yn y wlad, tra nad oedd ef ond bugail tlawd, ac o dan orfodaeth i weithio yn galed er enill ei fywioliaeth. Ar ol bod am beth amser yn yr agwedd hono, cododd ei ben i fyny, a chyda llais crynedig, dy- wedodd, Nid gwiw i mi geisio celu fy serchiad- aa tuag atoch, er mai ychydig obaith sydd genyf am gael yr hyn ag y mae fy nghalon yn dyheu am dano, a'r ewbl y mae fy enaid yn ei ddymuno. Ai gormod yw i mi ofyn a allaf edrych arnoch fel fy anwylyd ? 0 Elen, oddiar pan y gwelais chwi gyntaf, sef y dydd bythgofiadwy hwnw, nid yw fy nghalon wedi bod yn eiddo i mi." Wel, gan eich bod felly, cewch fy un i yn ei lIe ynte," ebe Elen yn wylaidd, gan blygu ei phen tua'r llawr. Ymaflodd Rhys ynddi, wedi hyny, gan ei thynu at ei fyn- wes, ac argraffu nifer o gusanau yn frwd- frydig ar ei gwefusau ceiriosaidd. "Ac yr ydych yn fy ngharu?" gofynai Elen yn isel. A'm holl galon," atebai ein harwr. Bu yno gofleidio gwresog am hir amser, ac wedi tyngu llw o ffyddlondeb y naill i'r llall, gollyngodd ein harwr hi ymaith o'i freichiau. Treuliwyd y gweddill o'r dydd yn hynod 0 hapus ganddynt yn yr hen ogof, heb gael eu haflonyddu mewn un modd; a phan ddechreuodd y nos daflu ei mantell dros wyneb y ddaear, cychwynasant eto ar eu taith, a llwyddasanti gyrhaedd yr "ogof dywell," yr hon oedd bron yn ymyl cartref Elen, oddeutu haner nos, a chytunwyd y byddai yn well i Rhys drigo yno hyd nes y caffent gyfleu i benderfynu pa fodd i weith- redu yn y dyfodol. Addawodd Elen dalu ymweliad ag ef y dydd canlynol, a dyfeisio ffordd i roddi gwybodaeth i'w rieni am ei waredigaeth, ac ar ol hyny ymadawodd, gan adael Rhys mewn unigrwydd. Gan ei fod yn teimlo yn hynod 0 flinedig, ni fu yn hir cyn syrthio i gysgu, a chysgodd yn dawel hyd nes iddo gael ei ddeffroi gan swn siarad uchel yn ymyl genau yr ogof ar doriad gwawr y boreu canlynol. Nis gallai ddeall yr hyn a siaredid, nac am beth y siaradent, ac ymlusgodd yn lladradaidd ar ei draed a'i ddwylaw hyd nes cyrhaedd genau yr ogof, lie y gallai gael golwg gyflawn ar y person- au oeddynt yn siarad, achanfyddodd ddau wr beiddgar yr olwg arnynt yn sefyll y tuallan i'r ogof, ac yn ymddangos fel pe mewn ym- chwiliad am rywun. Y mae yn sicr 0 fod yn ymguddio 0 fewn i'r ogof yma," ebe un ohonynt. Gadewch i ni fyned i mewn, oblegyd os gallwn ei sicrhau, bydd yr haner can' coron addawedig am ei ddal yn ddiogel genym." ii-waitb i ti heb fyned i mewn, gan y gelli deimlo yn sicr nad ydyw ynddi," ebe y Ilall. "Mynaf weled yn awr, ac ar ol i mi weled, credaf di, ac nid cyn hyny." (rw barhau.)

COLEG Y GWEITHIWR.I

Beirniadaeth Eisteddfod Merthyr.