Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

MASNACH YR HAIARN A'R GLO.

News
Cite
Share

MASNACH YR HAIARN A'R GLO. Y MAE o bwys mawr, bid sicr, yn masnach yr haiarn, i wylio llwybrau a dygwyddiadau yr Unol Dalaethau, ac ymdrechu penderfynu mor agos ag y gellir pa faint fydd swm yr archeb- ion a dderbyniwn oddiwrth y Weriniaeth Americanaidd yn ystod y flwyddyn ydym newydd ddechreu ei threulio. Y mae y sefyllfa yr ydym ynddi yu ymddangos fel yn cyflwyno yr un arddrychau boddhaol yn barbaus o'n blaen. Mae y cais Americanaidd am ein haiaro bwrw ychydig yn farwaidd, ond y mae y cais trosforawl am eiii baiarn rheilffyrdd yn parbau yn bynod galonogol. Er ategu hyn o nodiad, yr ydym yn galw sylw at y ffaith na anfonasom ni i'r Americaniaid ond 18,556 o dunelli o baiarn bwrw yn mis Rhagfyr di- weddaf, tra y mordroswyd 45,390 o dunelli iddynt yn Rbagfvr, 1879; ond pan yr ydym yn ymdrafod a haiarn rheilffyrdd, yr ydym yn cael ein bod wedi allforio 13,790 o duoelli o'r eyfryw i'r Unol Dalaethau yn mis Rhagfyr di- weddaf, tra na anfonasom oud 7,064 o dunelli yn Rhagf. r, 1879. Pan yr ydym yn edrych ar y flwyddyn 1880 drwyddi draw, cawn fod yr Americanisid wedi cymeryd oddiwrthym 612,013 o dunelli o'u haiarn bwrw y llynedd, ae, yn 1879, 277,939 o dunelli, a 32,663 o dunelli yn 1878. Gyda golwg ar eio haiarn rheilffyrdd, yr oedd consumption yr Unol Dal- aethau yn cyrhaedd y swm o 220,893 o dunelli yn 1880, tra nad oedd ond 44,991 o dunelli yn 1879, a dim ond 681 o dunelli yn 1878. Wrth hyn yr ydym yn gweled ar unwaith fod y consumption o'n haiarn bwrw yn yr Unol Dal- aetbau yu llawer yn wahanol i eiddo ein haiarn rheilffyrdd. Mewn geiriau byrion, wrth dremio oddiamgylch ogvlch, credwn na fydd yr un atalfa yn mywiawgrwydd gweithfaol yr Unol Dalaethau am y flwyddyn hon, ac y bydd i'r cais oddiwrth ein cefnderwyddion American- aidd am reiliau Prydeinig barhau yn fywiog. Wrth ddarllen y newyddiaduron, a'r llythyrau sydd wedi ein cyrhaedd, yr ydym yn gweled fod prinder glo yn marchnad EFROG NEWYDD. Masnach hynod o dda wedi ei gwneyd yno mewn hen reiliau, am o 29 i 30 o ddoleri y dunell. Defnyddwyr haiarn yn ymddangos fe! yn meddu digonedd o gyflenwad o haiarn bwrw, ac yn dysgwyl pa dro a gymer le yn marchnad Philadelphia cyn yr ymwnant a chytundebau newyddion. Y mae rheiliau o'n gwlad ni yn cael eu cyfrif yn 47| o ddoleri y dunell. Hen reiliau yn cael eu prisio, yn Philadelphia, yn 271 o ddoleri y dunell. Der- byniais lythyr heddyw o Efrog NewyJd, yn hysbysu fod yr haiarn bwrw yn "firm and active at the centre." Haiarn bwrw Ysgotaidd yn sefydlog yn Efrog Newydd, mewn cydym- deimlad a thon y farchnad Seisnig, a chodiad o 50 cents i un ddoler y dunell yn cael ei ofyn. Cais bvwiog an? haiarn tramor Bessemer yn Efrog Newydd, a dywedir fod yno werthiad i'r belaethder o ddeng mil ar ugain o dunelli. Y cais am reiliau dur yno yn bynod fywiog, a chytundebau mawrion ar gymeryd lie. Prisir rheiliau dur, wrth y melinau, o 57J i 62 o ddoleri y dunell, a rheiliau haiarn o 46 i 49 o ddoleri y dunell. Wrth daflu golwg dros wa- banol ranbarthau Cymru, arwyddion gwellhaol sydd yn gaofyddadwy. Yn NGHASNEWYDD-AR-WYSG, mae rhyw gymaint o gyfnewidiad yn masnach yr haiarn a'r dur. Cytuudebau da yn medd- iant y meistri. Rheiliau dur yn sefydlog am o 6p. i 6p. 10s. y dunell, a glo ager yn gwerthu am o 9s. 6c. i 10s. y dunell. Yr allforiadau yn cynyddu. Yn adran ABERTAWE mae BMMaach sefydlog yn cael ei dwyn yn mlaen ) n mbob rhan o'r gweithfeydd, gydag archebion yebwanegol yn dyfod i mewn yn raddol. Mae y gwahanol weithfeydd yn awr yn fywiog yn ystyr gyffredinol y gair. Er hyny nid yw y prisoedd yn gwneyd yr un cyfnewidiad sylweddol, fel y mae y meistri yn ofni mabwysiadu mesurau i gynyddu y gwneuthuriad. Mae y teimlad er gwell sydd yn y gweithfeydd haiarn yn myned rhag ei flaen, gyda golwg ar y gwaith a'r prisoedd. Nid oes yr un arwydd gwellhaol na thuedd- rwydd at sefydlogrwydd yn y gweithfeydd alean-eryn lawer o ansicrwydd ac anmhen- derfynolrwydd gweithrediadol yn rhai o'r prif weithfeydd. Nid yw y gweithfeydd glo a'r patent fuel mor fywiog yn awr ag y maent wedi bod yn ddiweddar, a hyny oblegyd prin- der llongau. Mae y mordrosiadau mewnol o haiarn bwrw a mwn haiarn yn cynyddu o wythnos i wythnos, a ehyflogau llongau yn parbau yn rhagorol. Mae y bywiogrwydd yn masnach y glo gyda ni, yn NGHAEKDYDD, yn myned rbag ei flaen. Allforiwyd, yr wyth- nos ddiweddaf, 106,871 o dunelli o lo, 1,150 o .dunelli o batent fuel, a 1,610 o dunelli o haiarn. Mae gaa y rhan fwyaf o'r masnach- wyr archebion mawrion, a'r prisoedd a'u tuedd i fyny, fel uad oes un amheuaeth na fydd codiad yn nghyflogau y totwyr glo ar ol yr arolygiad nesaf o lyfrau y meistri. Mae glo at wasanaeth tai yn eithriadol o sefydlog. Trwy yr adran eangfnwr hon y mae yr hoil weithfeydd glo yn gweithio yn fywiog, ac ar- wyddion mai rhag blaen y gwna y bywiog- rwydd masnacbol fyned am y flwyddyn bre- senol. GOHEBYDD MASNACHOL. Caerdydd, Chwef. 8fed, 1881.

[No title]

Eisteddfod Penderyn, Rhagfyr.…

Bane Cenedlaethol Cymru

[No title]

AT Y BEIRDD.

ER COF AM MRS. THOMAS, -

LLINELLAU AR GYFLWYNIAD TYSTEB

CYNGHERDD DDYFODOL MR. SILAS…

[No title]

Adolygiad Barddonol.

Advertising