Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Llofruddiaeth " Howey," o…

News
Cite
Share

Llofruddiaeth Howey," o Blwyf Defynog. Agorwyd Brawdlys Brycheiniog, dydd Llun, wythnos i'r diweddaf, o flaen y dir- prwywr Mr. Brown. Yn mysg achosion ereill, cyhuddid Herbert Williams (14). a Daniel Phillips (15), o ladd un Howell Jones, o blwyf Defynog, ar yr 2il o Ragfyr diweddaf. Pleidiai y ddau garchar- 6r eu bod yn ddi-euog. Erlynid gan Mr. B. T. Williams, Q.C., A.S., a Mr. Jenreys ac amddiffynid Herbert Williams gan Mr. B. F. Williams, a Daniel Phillips gan Mr. Bowen Rowlands. Mr. B. T. Williams, wedi nodi yr amgylchiadau dan ba rai y cymerodd y dygwyddiad adfydus Ie, a alwodd ar y tyst cyntaf, Ann Jones, gweddw y trancedig. Dywedodd i'w gwr, ar ddydd Iau, Rhagfyr yr 2il, adael ei gartref am Aberdar, ac yr ydoedd i ddychwelyd y noson hono. Yr het oedd gerbron oedd yr un a wisgai ar yr achlysur. Daniel Bowen, landlord y New Inn, Yatrad- fellte, a ddywedai ei fod yn adnabod y trancedig. Yr oedd yn ei dy ef ar yr 2il o Ragfyr. Marchogai ar geffyl, yr hwn a roddodd yn yr ystabl, ac yna daeth i'r gegin. Yr oedd nifer fawr o bersonau yno. Nid oedd yn sicr pa un a ydoedd y carcharor Herbert Williams yno pan ddaeth y trancedig i fewn, ond yr oedd yno yr un prydnawn yn nghwmni y trancedig. Aeth allan, ac yna dychwelodd, ac arosodd wedi hyny am tua chwarter awr. Yr oedd Herbert Williams yno pan aeth y trancedig allan, ac aeth yntau hefyd allan a dychwelodd yn mhen tua 10 mynyd, a dywedodd fod Howey," gan olygu y trancedig, yn gorwedd ar yr heol. Dywedodd y tyst nad oedd y trancedig yn feddw, ac y gallasai gyfodi. Yna, rhanodd gwrw o gyl-h, ac aeth allan a dychwelodd yn fuan, gan ddweyd fod Jones ar yr heol yn farw. Aeth y tyst ac ereill allan, a chawsant y trancedig yn gorwedd yn farw. Dygwyd y trancedig i'r ty, a chwiliodd y tyst ei logellau, a chafodd arian ynddynt. Wrth gael ei groesholi dywedai y tyst, pan ddaeth Williams i mewn a dweyd fod y trancedig yn gorwedd yn farw aryr heol, nad oedd dim yn anarferol ar ei ddull, na phan yr arllwysai allan y cwrw. Ni chlywsai y tyst un stwr na chynhwrf tuallan i'w d £ William Thomas a ddywedai ei fod yn fugail ac yn gymydog i'r trancedig. Gwelsai ef yn y New Inn, Ystradfellte, ar y noson grybwylledig. Yr oedd yno lawer iawn o bobl yn yfed ar y pryd. Nid oedd efe yn sicr fod Herbert Williams yno y pryd hwnw. Gwelodd ef ar ol hyny, a gwelodd ef yn myned allan. Yn mhen ychydig amser, dychwelodd, a dywedai fod y trancedig ar y llawr; a phan ddychwelodd yr ail waith, dywedodd fod y trancedig wedi marw. Ym- ddangosai yn dra gwelw y pryd hwnw. Aeth y tyst allan, ac efe oedd y cyntaf i fyned at y trancedig. Yr oedd yn gorwedd ar ei ochr ger yr horse-block yn hollol farw. Pan groesholwyd ef, dywedodd y tyst na chlywsai un croeseiriau rhwng y trancedig a Herbert Williams. Mary Williams, merch fechan, a dystiai ei bod yn forwyn gyda David Jenkins, Ystrad- fellte. Cofiai y trancedig yn dyfod i d' Jno. Jones i weled Jenkins ar y noson a enwyd. Yr oedd oddeutu chwech o'r gloch. Yr oedd dyn o'r enw Price yno, a gwelsai y trancedig yn rhoddi penadur iddo, ac yn mhen ychydig amser ymadawodd, a gwelodd y tyst ef yn myned tua'r Blue Bell, a'r carcharor Herbert Williams yn rhedeg ar ei ol. Dywedodd ef rywbeth yr hyn na ddeallodd hi. Yna, trodd hi yn ei hoi, gan ei bod yn ei ofni. Yr oedd David Phillips, y pryd hwnw, yn nhy Jones, He yr aeth hi, a dywedodd wrtho fod y trancedig a Williams allan ar yr heol, ac aeth yntau allan atynt. Aeth hi allan eilwaith yn mhen tua chwarter awr, ond ni welsai neb yno ond ar ol hyn, gwelodd y trancedig yn farw yn mharlwr y New Inn. Thomas Havard, llanc 11 oed, a dystiai ei fod yn y New Inn ar y noson grybwylledig, ac wedi ei anfon allan ar neges, gwelodd y trancedig yn ymyl ffenestr parlwr y New Ion. Yr oedd, y pryd hwnw, yn sefyll, a Herbert Williams a'r carcharor arall ar yr heol tua thair neu bedair Hath oddiwrtho. Yr oeddynt yn taro eu traed wrth y llawr. Yr oedd yn dywyll, ond yr oedd yn sier mai y carcharorion a welsai. Cododd Herbert Williams gareg, gan ei thaflu yn y cyfeiriad lie yr oedd y trancedig. Yna, aeth y tyst tua thy Jones a phan yn dychwelyd, gwelai y trancedig yn gorwedd ar lawr. Yr oedd dynion yn ei gario i'r New Inn. Gwelodd y carcharorion ar ol hyny y noswaith hono, a gofynasant am iddo feddwl am beidio dweyd eu bod ar y ffordd. Terfynwyd y prawf dydd Mercher, pan yr holwyd tystion ereill, ac yn eu plith Mr. John North, meddyg, yr hwn a ddywedai ei frod yn credu nas gallai y niwed ar ben y trancedig gael ei achosi gan godwm. wife gwrando a holi yr holl dystion, aymiodd y dirprwywr ityny, a dywedodd y rhpithwyr eu bod wedi penderfynu dychwelyd y ddedfryd o ddi-euog yn achoa y ddau felly, rhyddhawyd hwy.

Hanesion Dosbarthawl.I

[No title]

AT Y BEIRDD.

[No title]

"GWENWYFAR."

YR HEN FWTHYN TO GWELLT.

Adolygiad Llenyddol.

[No title]

Siloh, Maesteg.

Arian! Arian!! Arian ! ! !