Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

BWRDD Y GOLYGYDD. t

OYFRAITH FILWR4IDD NEU YSGRIF…

Family Notices

|Y Senedd Ymerodrol

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y Senedd Ymerodrol TY Y CYFFREDIN.—MAWRTH A MERCHER. Cafwyd amser prysur a phoeth iawn yn Nhy y Cyffredin, ddyddiau Mawrth a Mercher, Ion. 25 a 26, pan yr eisteddodd y Ty trwy gydol nos Fawrth, o 4 o'r gloch y dydd blaenorol, hyd 2 o'r gloch prydnawn dydd Mercher. Cododd Mr. GLADSTONE i gynyg penderfyniad fod yr ysgrifau am ddiogeliad heddweh yn yr Iwerddon i gael y flaenoriaeth ar bob peth, yn gymaint a bod y Parliament wedi ei alw yn nghyd eleni fis yn gynt, gyda'r arncan proffesedig o ddelio a'r Iwerddon. Gwasgai ar y Ty y pwysigrwydd iddynt fyned yn mlaen a'r mesur- au hyn oeddynt yn dal cysylltiad a'r Iwerddoa yn hollol ddioediad. Siaradwyd yn ei erbyn gan Mr. T. 'P. O'CONNOR, a chododd Mr. VIVIAN, a dywedai ei fod yn gobeithio clywed oddiwrth y Prif-wein- idog, neu ryw aelod arall o lywodraeth ei Mawrhydi, na fyddai iddynt dreulio yr amser a roddid i fyny iddynt mewn siarad ofer. Yr oedd ef yn ddiweddar wedi bod yn mysg ei etholwyr, a dywedai fod ar bob tu, a phob plaid o bob gradd, yn sicrhau wrtho ef fod cyflwr presenol y Parliament yn un o'r pethau mwyaf brawychus a fu erioed. Dywedai ef wrth y Llywodraeth, os nad oeddynt yn barod i ddelio a'r mater gyda llaw gref, ddiysgog, a barnol, .byddai iddynt golli ymdcl; "riedaeth y wlad. Ar ol hyn, siaradwyd gan amryw o'r Home Rulers, a chododd yntau, Mr. BIGGAR, yr hwn sydd fel math o ddifyr-ddyn i'r Ty, a gorfu i'r Llefarydd ei alw i drefn, a dywedodd wrtho, o'r diwedd, jjfod yn rhaid iddo ei enwi fel un yn diystyru awdurdod y Gadair. Ar hyn, cododd Mr. FORSTER, a dywedodd:— Ar ol hyn a ddygwyddodd, Mr. Llefarydd, fy nyledswydd ydyw cynyg fod Mr. BIGGAR i gael ei atal rhag gwasanaethu yn y Ty am y gweddill o eisteddiad y dydd hwn." Rhoddwydy mater o flaen y Ty gyda'r canlyniad hwn :— Dros atal Mr. Biggar 160 Yn erbyn 30 Mwyafrif 130 Yna, dywedodd y Llefarydd fod yn rhaid iddo alw at yr aelod anrhydeddus dros Cavan, mewn ufudd-dod i bleidlais y Tý, i gilio yn ol oddiar y fainc. Yna, aeth Mr. BIGGAR allan yn nghanol chwertbin a llefau o "Shame" oddiwrth yr Home Rulers. Cynygiwyd gan Mr. HEALY, aelod Gwyddelig, i ohirio y ddadl, ond collwyd ef trwy fwyafrif o 135 o d y Llywodraeth ar y rhaniad cyntaf, a 104 ar yr ail raniad. Vna, rhoddwyd cynyg Mr. GLADSTONE ger- bron, a siaradwyd yn ei erbyn yn gyntaf gan Mr. PARNBLL, yr hwn oedd am ei ohirio hyd ddydd Iau. Yna, cododd Mr. GLADSTONE, ao ymdriniodd ar y pwysigrwydd iddynt fyned yn mlaen â. mesurau yn dal perthynaa a'r Iwerddon heb golli dim amser.. Dilynwyd ef i'r un cyfeiriad gan Syr STAFFORD NORTHCOTE, yr hwn a ddywedai eu bod yu meddwl ei fod yn ddyledswydd arnynt i gefnogi y Llywodraeth i gario yr hyn a gynygient, ac i wasgu arnynt i'w cario mor fuan ag sydd bosibl, a'u dwyn i weithrediad ar unwaith wedi eu cario. Siaradodd Mr. PARNELL, WHITBREAD, GORST, a chododd Mr. CAVEN, yr aelod dros New Castle, a thraddododd araeth, yr hyawdlaf (I ddigon yn ystod yr eisteddiad ac er y proffes-i fod yn Radical, beiai y Llywodraeth mewn hyawdledd llosgawl. Gwnaeth yr araeth hoD. yr hon oedd yn ei llifeiriant rheithegol, effaith mawr ar y Ty, ond y gwaethaf ydoedd, nad oedd yn sylfaenedig ar ffeithiau. Condemniai orfod- ogaeth, ac eto, ni chynygiai un cynllun gwell. Rhanwyd am 10 mynyd i ddau o'r gloch, dydd Mercher, gyda'r canlyniad hwn :— Dros gynyg Mr. Gladstone 251 Yn erbyn 33 Mwyafrif r 2 TY Y CYFFREDIN. -DYDD GWENER. Y mae yn debyg i Mr. GLADSTONE, tua chanol nos \7ener, draddodi un o'r areithiau mwyaf hapus a draddorlodd ya ei fywyd, nes gwef- reiddio y Toriaid a'r Rhyddfrydwyr. Ni ran- wyd y Ty y noson hono, ac y mae peth beio am hyny. Pan eisteddodd Mr. GLADSTONE i lawr, mor orchtygol oedd effaith ei hyawdledd, fel y gwaeddai aelodau o bob ochr i'r Ty am rami, Buasai un awgrym oddiwrth Mr. GLADSTONE i basio darlleniad cyntaf yr Ysgrif Nawddogawl, ond gohiriwyd hyd ddydd Llun. TY Y CYFFREDIN-DYDD LLUN. Dechreuwyd am 4 o'r gloch. Ail-ddechreu wyd ar y ddadl ohiriedig ar Ysgrif Mr. Forster ar Nodded Personau a Pherchenogaeth yn yr Iwerddon. Cychwynwyd gan Mr. C. Lewis, a dilynwyd ef gan Mri. Newdegate, C. Russell, Hopwood, T. D. Sullivan, Broadhurst, A. M. Sullivan, ac ereill. Eisteddasaut trwy'r nos, ganfliarad ar ^welliaut Dr. Lyons, sef ei bod yn well pasio mesur meddyginiaethol cyn dyfod it mesur gorfodol i mewn. Ya awr, un o reolau y Ty yw nas gellir ymranu ar a therfyna it gwell- iant tra y mae un aelod yn awyddus am siarad arno. Gwyr yr aelodau Gwyddelig hyn yn dda, ac felly, er mwyn rhwystro pasiadjyr Ysgrif, maent yn cytuno i siarad, un ar ol y Ilall, mor hir ag y mae eu hanadl yn caniatau iddynt. I osgoi y rheol a'u hatalia i siarad ddwywaith ar yr un testyn, mae un yn cynyg fod y Ty yn awr i'w dori i fyny am y nos. Ar y cynygiad newydd gall oawb siarad, ac os bydd iddo gael ei golli ar yr ymraniad, y mae aelod arall yn ei osod o flaen y Ty eilwaith. Dyn-i, yn hr gynllun yr "Obstructionists." Penderfynodd dwy ochry Lyon, ac felly aethant yn mlaen nes cynal yr eis- teddiad hiraf ar gof. Pellebryn, hwyr nos Fawrth, a hysbysai fod y ddadl heb ei therfynu. Mae y Ceidwadwyr wedi cyduao a'r Rhyddfryd- wyr yn erbyn y Gwyddelod, a'r ddwy blaid wedi Ty na thorent i fyny cyn gorpnen gweiliant Dr. eu rhanu yn ddwy shift-un yn gweithio nos, a'r llall yn gweithio dydd (yn ot iaith y glowyr). Nid oes y gwybodaeth lleiaf pa bryd y terfyna eisteddiad dydd Llun. =====

[No title]

Cyfarfod Misol Glowyr Aberdar.

[No title]

Tystiolaethau Pwpsig