Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

ETSTEDDFOD DEWI SANT.

AT " UN O'R GWRANDAWYR."

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…

GWYNLAIS A GWRTHWYNIlB. IADAU…

Y OYMRO GWYLLT A'R GWYDDELOD

DYOHAN V. TUGHANGERDD.

TUOHAN, DYGHAN, DUOHAN.

[No title]

News
Cite
Share

RHIF eglwys y Parch. Henry Ward Beecher yn Brooklyn yn bresenol yw 2,491. Derbyn- iwyd oddiwrth ardreth eisteddleoedd, yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, y swm o 8,000p., yr hwn, gyda'r casgliadau ereill, a wna gyfanswm cyllid yr eglwys yn agos 1 ll.OOOp. Y MAE Mr. Gwilym Evans, Llanelli, sef y fferyllydd galluog a ddyfeisiodd y Quinine Bitters byd-hysbys, wedi myned i'r draul o argraffu tua 200,000 o almanaciau Cymreig a Seisnig gwerthfawr am y flwyddyn 1881. Almanac Cymru, neu gydymaith y flwy- ddyn am 1881" y gelwir ef, ac y mae yn wir deilwng o'r enw. Cynwysa ddarluniau cywrain iawn o'r bont gyntaf oedd yn groea yr Afon Dafwys, Marchnatdy Ross, Castell Harlech, Pont Cysylltau, Derwen Wycliffe, Pont Mynachlog, Coleg Eton, Ffynon St. Winfred, Castell Caerynarfon, Dolgellau, ac ereill o ddyddordeb. Cynwysa hefyd bob hysbysrwydd parthed y Llythyrdy, yn nghyd a. chynghorion iechydol i'r claf, cynyrch yr awen i'r carwr barddoniaeth, cymhorth i « chwerthin i'r isel ei ysbryd, a briwsion melus i'r carwyr hanesiaeth a gwleidyddiaeth, &c. Y cwbl i'w gael yn rhad ac am ddim ac i'w gael gan bob chemist trwy'r wlad.

Advertising