Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
ETSTEDDFOD DEWI SANT.
ETSTEDDFOD DEWI SANT. F MR. GOL. ,-Deallwn fod llu o gorau yn bwriadu am y dorch yn yr Eisteddfod hon, ac Or rhwyddineb i'r cyfryw, y mae y pwyllgor yn bwriadu cael trains rhad o wahanol fanau. Felly chwi fechgyn yr Yatrad, Llansamlet ■&G., os ydych am i'r pwyllgor i wneyd cytun- deb am eich trains, byddai yn dda i chwi an- ion at yr ysgrifenydd y manylion ar unwaith, gan nad oes amser i'w golli. Hefyd, ar'ol y presenol, deallwn y bydd y pwyllgor mewn IJawn waith gyda pharotoadau ereill yr Eis- teddfod. Yr ydym wedi cael rhyw hints fod pobl y Maerdy yn bwriadu dyfod drosodd bob un sydd yno, gan mai pobl Aberdar ydynt -and yn unig un neu ddau sydd o Bontypool, 4 thebyg fod y rhai hyny yn dyfod drosodd i'r Eisteddfod hon, er iddynt allu dweyd eu bod o Aberdar, yn olllaw. Bydd canu bendigedig yn 'Steddfod Dewi Sant, A Bendigedig genir yn wir gan lawer cant, A'r oil a fydd yn adsain i'r fendigedig gan Nes byddo y preswylwyr a'u bronau oil yn dan. UN 0 FECHGYN Y GAN.
AT " UN O'R GWRANDAWYR."
AT UN O'R GWRANDAWYR." MR. GOL.Yn y GWLADGARWR cyn y di- weddaf, canfyddais hanes rehearsal a gynal- iwyd yn Aberaman, nos Lun, Ionawr lOfed, 1881. Mewn eysylltiad a Chymanfa Gerdd- otol y Methodistiaid, yn nosbarth Aberdar, yn ei hanes, dywed y buasai y rehearsal yn llawer gwell, pe bnasai yr ysgrifenydd yn gwneyd ei waith yi) well, trwy rybuddio cyf- eillion Aberaman a Chapcoch. Dywedaf, yn y fan hon, nad oes a fyno Capcoch a'r Undeb o gwbl, yn gymaint ag nad yw yn gynwysedig yn yr Undeb. Dywed, hefyd, trwy rybuddio cyfeillion Aberaman. Pa fodd y gall wneyd y fath haeriad, ac un o brif flaenoriaid Aber- aman yn bresenol yn y pwyllgor a gynaliwyd yno pan oeddem yn trefnu adeg y rehearsals cyfyngedig a'r rhai cyhoeddus 1 Mewn cys- ylltiad a'r programmes, y mae yn ddrwg genyf iias gallwn eu danfon yn gynt, yn gymaint ag nad oeddwn wedi eu cael yn barod. Felly, 05 bydd gan Gwrandawr rywbeth i'w ddweyd yn y dyfodol, deued allan yn ei enw priodol, yn lie gwisgo clogyn i orchuddio ei berson, ,;Ae yna, byddai yn fwy boneddigaidd. Pe buasai efe yn gwybod y cwbl, nid oedd y re- hearsals hyn i fod yn rai cyhoeddus. G. E. DAVIES, Ysg. yr Undeb.
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL A "GWENLLIAN GYDWELL" MR. GOL. Y llances uchod ydyw testyn t Rhiangerdd yn yr Eisteddfod hon, ac yn ngwyneb yr amryw geisiadau sydd wedi eu hanfon ataf am ychydig o'i hanes, nis medraf wneyd yn well na gofyn eich hynawsedd i gyhoeddt yr hyn a ganlyn yn eich newydd- iadur, fel y gallo pawb gael yr un rhan yn yr hyn a yagrifenwyf ar y pwnc. Y mae yn debygol mai nid rhyw lawer o'i hanes sydd ar "gôf a chadw," ac am hyny, rhaid i grebwyll a dychymyg y rhiangerddwyr wneyd i fyny am y diffyg. Fodd bynag, os medr rhai ohon- ynt gasglu ychwaneg o ffeithiau perthynol iddi, goreu oil. Wele yn canlyn ychydig o agoriad at yr hyn a ellir gasglu o'i hanes :— "Gwenllian Cydweli." Merch Gruffydd ab Cynan ydoedd wraig i C^uifydd ab Rhys, tywysog yn Neheubarth Oymru, yr hon a fu yn fam i lawer o blant iddo. Yn y flwyddyn 1135, yn absenoldeb ei phriod, yn Ngogledd Cymru, yr hwn oedd wedi myned yno er cynorthwyo ei dad-yn- nghyfraith, aeth yn bersonol i lywyddu ei giUuoedd, a gweinyddid iddi ar yr achlysur g,àn ei dau fab. Ond cafodd ei byddin ei gorchfygu gerllaw Cydweli, air Gaerfyrddin, gan Maurice de Londres, arglwydd Norman- atdd y diriogaeth hono. Lladdwyd Morgan, un o'i meibion, yn yr ymgyrch, a chymerwyd Cadwgan, y mab arall, yn garcharor, a thor- "td ei phen hithau trwy orchymyn y gelyn buddugol. Y mae yr hanes hwn yn eglur wrthwynebu haeriadau Florentius, mynach o Gaerwrangon, yr hwn a ddywedai i Gwenlli- afc, trwy weithredoedd bradwrus, achosi marwolaeth ei phriod. Am fanylion pellach, gwel "Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru," gan y Parch. Josiah Thomas Jones; "Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru," gan Mr. I. Foulkes (Llyfrbryf) « The Heroines of Welsh History," gan Pritchard; "Hanes "Cymru," gan Carnbuanawg; a Davies' Celtic Researches," &c., &c. Gan hyderu y bydd y cyfarwyddiadau hyn o les i chwi,- Ydwyf, yr eiddoch, &c., RHYS T. WILLIAMS, Ysg.
GWYNLAIS A GWRTHWYNIlB. IADAU…
GWYNLAIS A GWRTHWYNIlB. IADAU MYFYR GLAN OGWY. MR. GOL.Yn eich rhifynau am Ragfyr 30ain a Ionawr 14eg, y mae Gwynlais yn gwneyd ymgais i ateb y cyntaf a'r ail o'm llythyrau, ond os yw efe yn ystyried y cyfryw atebion yn foddhaol, ac yn dymchwelyd fy ngosodiadau, yr wyf yn tybied nad oes neb ond ei hun, ac o bosibl ei "gyfaill," yn eu li.vatyried felly. Dilynaf ef drwy ei atebion, a; byddaf mor fyr ag y byddo modd. Ym- ddengys fod Gwynlais wedi gweled yn briodol 1. ateb fy llythyrau yn ddioed, rhag iddynt fitted yn stale wrth aros." Wn i ddim pa faint o synwyr sydd mewn syniadau fel hyn, u. pha un ai ysbryd Cristionogaeth a'u cyn- byrfodd, ond yr wyf yn meddwl mai sylw hollol ddiangenrhaid oedd. Ond dichon fod Gwynlais, i raddau, yn esgusodol am danynt, 8IU: ei fod, mae'n debyg, yn ysgrifenu dan ytbrydoliaeth ei "gyfaill." Gwynlais anwyl, byddwch yn ddifrifol gyda'r pwnc hwa, AC ot yw eich cyfaill" wrth eich penelin pan jOe ysgrifenu, dywedweh wrtho yn awr, wrth I ddechreu, nad ydych yn dewis ysgrifenu dim 1 ;%fyddo yn anfoneddigaidd. j Yn Desaf, dywed, Yr ydym yn gwybod na fuasai Pedr yn suddo i'r gwaelod o gwbl," ac ni fuasai yn suddo yn is na 32 troed- fedd." Onid begging the question yw hyn, Gwynlais ? Yr ydych yn cymeryd yn gan- iataol yr hyn sydd heb ei brofi, sef fod yno fwy o ddyfnder o ddwfr na 32 troedfedd. Yr wyf finau yn cymeryd yn ganiataol nad oedd yno fwy, ac felly buasai Pedr yn suddo i'r gwaelod. Eto, dywed fy mod yn cam- synied wrth ddweyd mai deddf disgyrchiad j oedd yn gweithredu i'w suddo, a dywed mai specific gravity oedd, ac nid gravity yn unig. Yn awr, onid deddf disgyrchiad sydd yn rhoddi bodolaeth i specific gravity ? Diddym- wch y cyntaf, chwi a ddiddymwch yr olaf ar yr un pryd. Meddyliwch fod Pedr yn syrthio o ben y mast i'r dwfr, pa ddeddf a weithredai i'w ddwyn tuag i lawr ? Gravitation, onide ? A'r ddeddf hono hefyd a weithredai arno hyd nes y cyrhaeddai y dyfnder o 32 troedfedd, ac yna byddai yr atmospheric pressure yn gwrthweithio gravitation ac yn atal ei ddis- gyniad pellach. Byddai specific gravity hefyd yn gwneyd ei rhan, sef specific gravity y dwfr (y lleiaf) yn gweithredu i arafu y disgyniad. Y mae pob un o'r tri egwyddor hyn yn gweithredu mewn amgylchiad fel hwn, sef disgyrchiad yn tynu tua chanolbwynt y ddaear, y gwahaniaeth rhwng specific y dwfr a'r corff fyddo yn suddo yn gweithredu i arafu y disgyniad, a'r atmospheric pressure yn CIY atal y disgyniad pan sudda i ddyfnder neill- duol. Ond beth yw hyny wedi'r cyfan ? Nid oes a fyno hyn â'r pwnc o gwbl. Nid oes dim gwahaniaeth pa allu a weithreda i'w suddo. Sylwedd yr hyn a ddywedais oedd, y buasai Pedr yn suddo yn unol ag un o gang- enau gwybodaeth ddynol, ac felly yn an- nghyson ag un o ffeithiau tybiedig Cristion- ogaeth. Gan hyny, y mae fy ngosodiad hyd yma yn ddiogel. Eto, dy wedOwynlais fod Cristionogaeth yn bodoli yn mhob gwlad, yn annibynol ar grediniaeth y trigoliou." Yn enw pob syn- wyr, beth yw meddwl peth fel hyn ? Yn annibynol ar gredo y trigolion." Pa le arall ynte os nad yn meddyliau y trigolion 1 Ai ar benau y coed, neu yn agenau y creigiau, neu yn ngwaelodion yr afonydd a'r llynoedd 1 Dywedais ei bod hi yn bodoli fel ffaith yn unig yn mhlith y rhai a'i credant hi. Dy- wedaf hyny eto. Dichon fod rhyw nifer yn mhob gwlad yn credu yr athrawiaeth Grist- ionogol, ac yr wyf yn dywedyd ei bod hi yn bodoli fel ffaith yn unig yn mhlith y nifer hyny. Ond fel ffug y bodola yn mhlith y rhai a'i hannghredant hi. Gellir dweyd yr un peth yn gywir am Fahometaniaeth. Bodola fel ffaith yu mhob gwlad yn mhlith y rhai sydd yno yn Fahometaniaid, yn anni- bynol ar gredo y rhai nad ydynt Fahometan- iaid. Felly hefyd Buddiaeth a Brahmin- iaeth. Y tri hyn a fodolant fel ffeithiau yn mhob gwlad yn mhlith y nifer a'u credant, yn annibynol ar annghrediniaeth ereill. Y mae y tri hyn yn cael eu credu fel ffeithiau gan ryw ddeuddeg cant o filiynau o drigolion y ddaear, tra nad oes ond tua dau can' miliwn yn credu Cristionogaeth. Yn nesaf, medd Gwynlais, Dywedir fod dyn yn methu credu fod Babilon neu Voltaire wedi bodoli." Dywedaf finau, nid oes dyn i'w gael yn ddigon dwl i annghredu hyn, oblegyd nid oes dim evidence mewn bod yn erbyn bodolaeth y naill na'r Hall. Ac nid yw Mr. Bradlaugh yn ddigon dwl i wadu nad yw Cristionogaeth yn enill deiliaid yn Affrica ond y mae Mr. Bradlaugh o bosibl yn gwybod hefyd fod Anffyddiaeth yn ffynu ac yn enill deiliaid yn nghanol gwlad Efengyl. A g*yr Mr. Bradlaugh, a gwyddom ninau am hyny, beth yw'r moddion a arferir gan y cenadon i ddwyn "negrQes at draed yr lesu," sef eu denu a rhyw roddion daearol, megys llïeinian, dillad, addurniadau, yn nghyd a'u dysgu i drin bwydydd, trin y tir ac ymarfer ag offer amaethyddiaeth, eu dysgu i ddarllen ac ysgrifenu, &c. A pha ryfedd fod pethau felly yn denu dynion anwar! Pa faint o ddynion gwareiddiedig sydd yn ein plith wrth draed yr lesu" mewn ymddangosiad yn unig, er mwyn bara a chaws a sefyllfa 1 Ond o ran egwyddor mewnol, y maent yn gosod yr jlesu wrth eu traed hwy. Yr ydym yn adnabod ambell un o'r rhai hyn, ac y mae yn flin genym eu clywed yn siarad, a gweled eu hymddygiadau. Yr ydym yn crybwyll hyn yn unig er mwyn dangos, tra mae Criationog- aeth yn enill deiliaid yn mhlith pobl anwy- bodus ac anwar, nad yw yn dylanwadu ar rai pobl wareiddiedig. Yn nesaf, Y mae bodolaeth Dti w yn gorwedd dan wraidd y grefydd Gristionogol." Ydyw, y mae felly. Onid yw yr un bodol- aeth dan wraidd pob crefydd 1 Y mae y gair crefydd ynddo ei hun yn cynwys y syniad o ryw fodolaeth uwchnaturiol, ac felly, o ran hyny, y mae Cristionogaeth yn yr un dafol a chrefyddau ereill. Eto, Ni fyddai gwirioneddolrwydd Crist- ionogaeth yn brawf digonol o fodolaeth Duw." Mr. Golygydd, yr wyf bron yn credu fod Gwynlais yn hollol ddifeddwl pan yn ysgrifenu y frawddeg hon. Yr wyf yn dy- wedyd eto, y byddai prawf o wirioneddol- rwydd y grefydd Gristionogol yn cynwys prawf diymwad o fodolaeth Duw. Fel hyn, athrawiaeth Cristionogaeth yw fod Crist yn Fab Duw, wedi dyfod oddiwrth Dduw, wedi sefydlu cyfundrefn fel y'i cyfarwyddwyd gan Dduw, ei fod wedi dyrchafu at Dduw, ac yn eiriol ar ddeheulaw Duw. Yr wyf yn dy- wedyd y byddai prawf o'r gosodiadau hyn yn cynwys prawf o fodolaeth Duw. Eto, y gwa- hanol syniadau parthed y natur a'r priodol- eddau. Carwn gael enwau un neu ddau o dduwinyddion yr Eglwys sydd yn barnu eu bod yn wahanol i'r hyn ag yr awgrymais yn fy llythyr cyntaf. Wrth derfynu y Uythyr hwn, yr wyf yn sylwi fod Gwynlais wedi g&dael yn ddisylw rhai gosodiadau yn fy llythyr cyntaf, sef fy ngosodiad yn nghylch yr enedigaeth wyrth- iol, a'r tywyllwch ya amaer y croeshoeliad. Yr wythnos nesaf, sylwaf yn mhellach ar ei atebion. Dichon y byddai yn briodol i mi y tro hwn, er boddhad i Gwynlais, roddi fy enw priodol. Dyma fe :WILLIAM JENKINS (M. G. 0.), Pen-y-vai Road, Aborlmnfig, Bridgend. O.Y.—Pe gwelai Lex yn briodol i ddanfon ei address i mi, byddwn yn ddiolchgar. Y mae i mi air ag ef.-M. G. 0. 0
Y OYMRO GWYLLT A'R GWYDDELOD
Y OYMRO GWYLLT A'R GWYDDELOD MR. GOL.Mae llythyr John Lewis, yn y GWLADGARWR diweddaf, yn profi nad yw yr Ebion o L'erpwl" yn ddisylw gan ddar- llenwyr eich newyddiadur. Nid fy mwriad i ydyw ymddangos yn y cymeriad o amddiffyn- ydd i un sydd mor alluog i ofalu am dano ei hun, ac i brofi yr hyn a ysgrifena, a'r Cymro Gwyllt, eithr carwn gael caniatad i draethu gair neu ddau ar y golygiadau rhyfedd sydd yn meddianu tabernaci meddyliol Mr. Lewis. Nid wyf fi bob amser yn cydolygu a'r Cymro ar bynciau eyhoeddus-o ran hyny, pur an- aml y byddwn yn cydweled ond credwyf fod cryn lawer o'r hyn a ysgrifenwyd gan John Lewis yn haeddu condemniad pob Cymro cyfiawn a moesol. Condemnia Mr. Lewis yr ysbryd ymddial" a arddengya y y Cymro tuag at y Gwyddelod gorthrym- edig," ac yn y frawddeg nesaf fel pe i ddangos ei annghysondeb-cyfeiria at ryw arlwydd tir, yr hwn oedd yn drugaredd i'r byd gael ei wared." Mae yn eglur nad yw cymeryd einioes tir-feddianydd yn drosedd mawr yn ngolwg John Lewis. Ond, atolwg, pa beth yw y ffeithiau yn nglyn a'r achos adfydus yn yr Iwerddon ? Nid oes neb, feddyliwn, a wna wadu nad oes angen am ddiwygiad yn y cyfreithiau dan ba rai y mae y deiliaid yn amaethu yn yr Iwerddon—y mae yr un angen yn ganfyddadwy yn nes atom, o ran hyny— ond y pwnc yw a ydyw sefyllfa pethau dan y gyfraith yn cyfiawnhau y Gwyddelod i lof- ruddio y sawl sydd mor anffortunus a meddn tipyn o dir, ac i losgi eu heiddo ac archolli eu hanifeiliaid. Er nad yw John Lewis yn gweled rhyw lawer i'w gondemnio mewn ystranciau diniwed fel hyn, yr wyf fi o'r farn ostyngedig fod naw o bob deg o'ch darllen- wyr yn ddigon gonest i ffieiddio y fath frad- wriaeth ddieflig. Ni a obeithiwn mai bychan yw nifer y Cymry sydd mewn tymher i wneyd ymddiheurad am weithredoedd Uechwraidd y Tir-gynghreirwyr. Carwn wybod paham y mae pedwar-ugain-a-phedwar-ar-bymtheg o bob cant o aelodau y Tir gynghrair yn Bab- yddion ? Paham y gwrthoda corff mawr Protestaniaid yr Iwerddon ymuno i gyd-lof- ruddio y tir-feddianwyr, ac i gyd-ddinyatrio y cnydau 1 Mae y Protestaniaid yn teimlo yn ogystal a'r Pabyddion fod angen gwelliant- au yn y cyfreithiau tirol, ond gwell ganddynt hwy ddanfon petisiynau i'r Ysgrifenydd Gwyddelig i dynu sylw at y mater, nag ym- guddio yn llechwraidd tuhwnt i glawdd neu berth, gan anelu at rywun ddygwyddo yn anffodus basio hyd y ffordd. Dydd Gwener diweddaf, gosodwyd petisiwn gerbron Mr. Forster wedi ei arwyddnodi gan ddwy fil ar ugain o amaethwyr Gwyddelig, yn crefu ar y Llywodraeth estyn i'r lwerddon Fesur Tirol effeithiol. Ond a glywyd am gymaint ag un petisiwn oddiwrth y dosbarth sydd yn lladd a llosgi ar eu hunion ? Mae clywed son am wladgarweh Parnell a'i gynffonwyr yn ddigon i syrffedu y neb sydd wedi talu rhyw gymaint o sylw i'w symudiadau. Oddigerth Parnell ei hun, nid oes gan yr un ohonynt yr interest lleiaf yn y tir ac am Parnell, dywedodd rhyw Ynad Heddweh yn ddiweddar fod amryw o'i ddeil- iaid wedi eu troi allan o'u tyddynod. Carwn gael hysbysrwydd a ddarfu i lywydd y Tir- gynghrair brofi fod y fath haeriad yn ddisail. Y gwir am dani yw fod y cynhyrfwyr hyn yn cael fod hudo y werin â. awn gwladgarwch yn talu y ffordd yn iawn. Nid yw yn debyg y bydd i'r Llywodraeth-er fod ynddi Radi- caliaid o'r iawn ryw, a rhai sydd gymaint yn erbyn gormes a John Lewis, hwyrach— lwyddo i ffurfio mesur wna dderbyn cymer- adwyaeth Parnell a'i gyfeillion oherwydd pe na byddai terfysg yn yr Iwerddon, byddai Parnell ac ereill yn ngeiriau Othello-" with their occupation gone." Ychydig yn ol, haerai Parnell, Davitt, a'r rhelyw fod y Gwyddelod yn nghanol newyn mawr ac yn mhen ychydig, casglwyd iddynt ganoedd o filoedd o bunau. Eithr cyn fod cylla Pat. wedi ei lenwi, megys, dyma fo yn cychwyn gwrthryfel yn erbyn y Llywodraeth, a ffwrdd ag ef gan bregethu difodiant y tir-feddianwyr —hen bregeth sydd wedi dwyn pres i logellau cynhyrfwyr Gwyddelig cyn yn awr. Pan gyhuddwyd Parnell a'i gyd gynhyrfwyr o fradwriaeth, cymerwyd yr het oddiamgylch ac yn mhen ychydig wythnosau, yr oedd pedair mil ar ddeg o bunau wedi eu casglu yn mhlith y rhai newynog" i amddiffyn y "tir-feddianwr" Parnell, o'r rhai a gyhuddid. Yn vchwanesrol at hyn. ceaglir yn wythnosol ganoedd o bunau i ddwyn treuliau y Tir- gyaghrair, a chynal haid o segur-swyddwyr i ymbesgi ar y pres a hudir o logellau y rhai a haerant eu bod yn rhy dlodiou i dalu rent I Paham rhaid synu at eu tlodi ? Onid ydym yn darlleu ddydd ar ol dydd am filoedd o amaethwyr bychain gorllewinbarth Iwerddon yn heidio i gyfarfodydd y Tir-gynghrair, yn lie aros gartref i geibio tatws, a thrin eu tipyn tir. Os yw yn well gan y Gwyddelod dalu eu pris at gynal y Tir-gynghrair nag at gynal eu hunain, diamheu y bydd raid iddynt ddyoddef. Sonia John Lewis am draed haiarnaidd y tyrants Gwyddelig." A welodd y byd erioed ormes mwy gwrthun nag eiddo y Tir-gynghrair t Gorfoda bob siopwr i gyf- ranu at y Cynghrair, neu bygythir ef, gwaraf- unir neb i fyned i'w fasnachdt, a gwneir ohono fethdalwr mewn byr amser. Gwa- herddir y meddygon, dan gosb, i welni ar y sawl nad ydynt yn aelodau o'r Cynghrair ac ni feiddia dyn brynu aniiail na dim arall oad oddiwrth un a berthyn i'r League. Os bydd amaethwr yn alluog ac yn awyddus i dalu rent, nis meiddia, ac os gwna, cyn pen pedair awr ar ugain, bydd ei ydlan ar d&n, a'i dda yn archolledig ar y maes, ac feallai ei hun yn gorff marw Dyna esiampl o'r 11 tyrants Gwyddelig" y sonia eich gohebydd am danynt. Pan gymerodd y Brenin Rory-o'- the-Hills awenau y llywodraeth yn ei ddwy- law fe ddiangodd rhyddid o'r tir Ac eto y mae John Lewis yn meiddio son am ryw tyrants Dywed John Lewis, Yr wyf yn anfoddlon fod yr un Cymro yn pleidio trais." Os felly, peidied ysgrifenu eto fel y gwnaeth yn y GWLADGARWR diweddaf, neu bydd y cyhoedd, hwyrach, yn amheu ei ddiffuantrwydd. Nid yw o bwys annhraethol beth ydyw golygiadau y Cymro Gwyllt na John Lewis ar faterion Gwyddelig, ac am fy opiniwn i, ni charwn feddwl ei bod yn dwyn dim pwys, eithr nis gallaf lai na theimlo fod hyd yn nod yn Nghymru ddosbarth bychan sydd bob amser yn barod i gydymdeimlo ag ysbryd gwrthryfel yn erbyn y u meistr." Myntumiaf fod gan ddyn, ar ol iddo dalu am erw o dir, gystal hawl iddo yn ngwyneb cyfraith ag sydd gan John Lewis i'r pren gwely neu y stol dairtroed fyddo wedi brynu ar auction. "Gadewch i'r Gwyddel"- nid yn unig aelod o'r Tir-gynghrair, eithr pob perchen shillelagh-" gael ei rights of man." -Yr eiddoch, LEWIS JOHN. Gynt o Gantre'r Gwaelod, Ion. 23ain, 1881.
DYOHAN V. TUGHANGERDD.
DYOHAN V. TUGHANGERDD. MR. GOL.Y mae ymdriniaeth D. Mor- ganwg, yn eich rhifyn cyn y diweddaf, ac eiddo I. Dyfed, yn eich diweddaf, yn dra diofal. Cynygia y ddau darddiadau an- naturiol ac ysmala iawn ar y gair dan sylw. Y mae ymgais D. M. i ddeillio duchan o du a chan yn ddychymyg asbri meddwl diystyr o natur ffurfiad iaith. Fel yr awgryma I. D., pe tarddai y gair o du a chan, cymerai y gair y ffurf dugan. Ffordd rwydd iawn yw trin geiriau yn null D. M. Dylid cofio nad yw cyffelyb seiniau o angenrheidrwydd o gyffelyb darddiad. Nid oes rhaid i du, drwy'r Gym- raeg, olygu du (black). Nid oes rhaid ych- waith i uch mewn gair olygu uwch. Ym- ddengys eglurhad D. M. i ni yn ysmala ddigon, ond y mae eiddo I. D. yn chwerth- inus mewn gwirionedd. Mwy tebygol yw fod y gair a'i ran fwyaf yn wreiddair-nad du a chan, nad dy-uch-gan, ond tuchan (tuch) yw ffurf eglurol y gair, ac yn golygu achivyn- llafur sur ysbryd anfoddog a chlafychus. Y mae geiriau y cyfryw gyflwr ysbryd yn llym- ion a niweidiol-geiriau gwenwynig teimlad chwerw. Priodola Juvenal ei gynyrhion i deimlad llidus wrth ganfod drygioni a llygredd ei oes, ac y mae ei frathiadau mwyaf creulon yn llawn Ilid a chwerwder. Y tuchan-y surni ysbryd hwn, yw teler awen y fath gy- nyrchion. Nis gallwn ni ganfod gwell tardd- iad i'r gair na tuchan, ac y mae yn llawer mwy tebygol na du a chan a dy-uch-gan. Ymfoddlona I. Dyfed ar y syaiad fod can uchel neu gref yn cydweddu a'r gair satira (gorlawnder neu ormodedd). Anhawdd iawn yw dweyd beth yw ystyr satira. Golyga saturitas lawnder, digonedd, nid gorlawnder na gormodedd. Golyga satura ddysglaid o amrywiol ffrwythau a offrymid i'r duwiau, a dywedir mai y rheswm y gelwid y duchan- gerdd yn satira oedd am y defnyddid amryw- iaeth mesurau yn ddiwahaniaeth ynddi. Gelwid cyfraith o amrywiol adranau yn lex satira neu satura. Y mae I. D. wedi cy- mysgu satira a saturitas. Felly, y mae gair oedd yn golygu amrywiaeth mesur ar y cyntaf wedi troi i gynwys nodwedd feddyliol y cyfan- soddiad, sef chwerwder neu lymdra. Yr un modd y ceir comical, sydd yn golygu yn wreiddiol pentrefol-y pentrefol wyliau hyny yn mhlith y Groegiaid ag y byddai pawb yn llawen a difyr ynddynt-yn bresenol yn gyf- ystyr a chvoerthinus. Ond mwy na thebyg yw mai gweddillion y chwareuaethau Satyr- aidd yw y satira-y gair wedi myned dan ychydig gyfnewidiad i gyfateb llythyreniaeth y Lladin. Cymeriadau oedd y Satyri yn y chwareuaethau yn debyg i gymeriadau Twm o'r Nant, yn dal i fyny gerbron y werin ffaeleddau dynion cyhoeddus a chyfrifol cym- deithas, a'u gwneyd yn aberth i ffraethebion a chellweiriadau gwarthruddol a didrugaredd. I-Yr eiddoch, D. R. Ion. 21ain, 1881.
TUOHAN, DYGHAN, DUOHAN.
TUOHAN, DYGHAN, DUOHAN. MR. GOL.,—Ymddengys nad yw yn goleuo dim gyda golwg ar darddiad cywir yr enw ar y rhyw o farddoniaeth Gymreig cyfystyr a'r satire Seisnig. Yr wyf yn hollol gredu nad yw Meistri Ieuan Dyfed a Chadlan yn ysgrif- enu er mwyn ymgecru, ond yr ydym ein tri am gael allan y ffurf briodol i ysgrifenu y gair. Gwn yr esgusoda y boneddwyr hyn fi am ddweyd nad yw eu Uythyrau ond yn fy nghadairnhau fod fy syniad yn gywir am darddiad yr enw o du a chdn. Y mae'r "11ym gerydd ar y drwg o bob rhyw" yn amlwg ddangos mai nid ei wyngalchu a fedd- ylir, ond yn hytrach ei dduo, nes peri i bawb ei gashau. Dyry Ieuan Dyfed engraifft Ysgrythyrol o'r hyn ddylai dychan fod. Yr wyf yn cydolygu ag ef. Ond a oadd yn I ddichonadwy i Job dduo ei gyfeillion (?) yn dduach, mewn unrhyw iaith, nag a wnaeth yn y wawdiaith a arferodd ? Dylid cofio mai nid pob math o liw du wna y tro mewn duchan, ond rhaid cael y blacking awenyddol goraf, a hwnw wedi ei backio mewn iaith lem-gnoawl, a rhaid cael bardd celfydd i ddefnyddio brush goganus, cyn gwneyd y gwaith yn effeithiol. Noda Mr. Howell un o'r engreifftiau goraf yn y byd o'r satire, sef yr English Bards and Scotch Reviewers," &c., gan Byron; ond atolwg, at nid duo ei adolygwyr, a hyny yn y modd mwyaf didrugaredd, yw holl amcan ei bryddest! Gwir nad yw yn cadw o fewn terfynau gwawd cellweirus mwy na Dewi Wyn pan ddywedodd :— "Rhyw dusw rhaid ei osawd, Dan wregya, rhwpg b$'fJ a bawd," Er hyny, duo yw ei waith, a duo yn eithafol hefyd. Gofyna Ieuan Dyfed, "Os ydyw du-can yh myned yn duchan, paham nad elai go-cdn yn gochan Addefaf yn rhwydd mai dyna yr argument cryfaf yn ei lythyr, ac yr wyf yn teimlo ei bwysau. Dichon, er hyny, y can- iata efe i minau ofyn gofyniad yn ei ymyl, sef paham y defnyddir y gair gorchan, ac nid gorgan, neu ynte a chymeryd ei flaenddod dewisedig ef, sef dy, paham y dywedir dychan, ac nid dygan ? Y mae yn eglur nad yw y blaenddod dy yn troi c yn ch bob amser, fel y dengys a ganlyn :-Dygam, dygymod, dy- gyfor, &c. Gesyd y brawd bwys neillduol ar y ffaith fod Dr. 0. Pughe, Richards (Llan- grallo), a Chaledfryn, yn gosod y gair yn "ddychan," fel pe na bai ueb yn awdurdod ond hwy. Dylai pob Cymro o ran hyny rol parch dyladwy i'r enwogion hyn. Er hyny, y mae awdurdodau ereill i'w cael ag sydd, yn ol fy marn i, cyfuwch â hwy, ac yn enwedig Cynddelw. Y mae Gweirydd ab Rhys a Dr. W. Richards, fel yntau, yn arfer duchan." Ymddengys hefyd, oddiwrth nodyn a gefais oddiwrth un o brif feirdd ein cenedl, fod Edeyrn Dafod Aur, yn ei Ddosbarth, tudalen cxxxiv., yn gosod gwatwargerdd ar gyfer ironia, ac ar gyfer "sarcasm" y mae "ceU- wair du." Gallwn feddwl fod hynyna yn ddigon eglur, ac yn cadarnhau y syniad mai can ddu yw duchan. Ceir ynglynion duad hefyd hyd yn nod yn ngwaith Llywarch Hen, yn y Myfyriau Archeology. Pa fwyaf y chwiliai, cadarnaf oil wyf yn myned fod fy syniad yn gywir parth tarddiad y gair. Cofier, ar yr un pryd, mai nid o gyndynrwydd y gwnaf hyn. Yr wyf yn methu (nid pallu) yn deg a gweled priodoldeb o gwbl yn y tarddiad a rydd Ieuan Dyfed iddo, sef dy -uch cdn, ac yr wyf yn methu hefyd a gweled fod un cysylltiad rhwng tuchan a'r enw o gwbl. Gyda golwg ar y gair lampoon y cyfeiria Mr. Howell ato, os edrychir i Eiriadur Seisnig ar y gair, ceir ar ei gyfer "personal satire—to abuse with satire," a beth yw hyny eto ond dtio ? Y mae arforiad gwlad hyd yn nod yn awr yn cadarnhau yr un peth. Oni ddywedir yn ami, os bydd un yn trin y llall dipyn yn arw, Y mae yn ei bardduo yn ofn- adwy," neu Dylid ei gosbi am bardduo cy- meriad ei gymydog," neu, a dyfod i gylch is, arferir y gair jobxstro (plastering) yn lie duo, megys, Y mae y rhai'n yn cael eu plastro yn ddychrynllyd gan hwn a hwn yn y papyr." Yn awr, i derfynu, dywedaf yn onest, os gellir cael gwell, priodolach, a mwy cyd- weddol & theithi y g&n, na du a chan, boddlon a balch fyddaf, ond hyd yn hyn nid wyf wedi gweled dim cystal. DAFYDD MORGANWG.
[No title]
RHIF eglwys y Parch. Henry Ward Beecher yn Brooklyn yn bresenol yw 2,491. Derbyn- iwyd oddiwrth ardreth eisteddleoedd, yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, y swm o 8,000p., yr hwn, gyda'r casgliadau ereill, a wna gyfanswm cyllid yr eglwys yn agos 1 ll.OOOp. Y MAE Mr. Gwilym Evans, Llanelli, sef y fferyllydd galluog a ddyfeisiodd y Quinine Bitters byd-hysbys, wedi myned i'r draul o argraffu tua 200,000 o almanaciau Cymreig a Seisnig gwerthfawr am y flwyddyn 1881. Almanac Cymru, neu gydymaith y flwy- ddyn am 1881" y gelwir ef, ac y mae yn wir deilwng o'r enw. Cynwysa ddarluniau cywrain iawn o'r bont gyntaf oedd yn groea yr Afon Dafwys, Marchnatdy Ross, Castell Harlech, Pont Cysylltau, Derwen Wycliffe, Pont Mynachlog, Coleg Eton, Ffynon St. Winfred, Castell Caerynarfon, Dolgellau, ac ereill o ddyddordeb. Cynwysa hefyd bob hysbysrwydd parthed y Llythyrdy, yn nghyd a. chynghorion iechydol i'r claf, cynyrch yr awen i'r carwr barddoniaeth, cymhorth i « chwerthin i'r isel ei ysbryd, a briwsion melus i'r carwyr hanesiaeth a gwleidyddiaeth, &c. Y cwbl i'w gael yn rhad ac am ddim ac i'w gael gan bob chemist trwy'r wlad.
Advertising
BIRMINGHAM GOODS, JEWELLERY, WATCHES, HARMONIUMS, HOUSE- HOLD FURNITURE, &c. AGELNTS WASTED. Enlarged Illustrated Book free. Äpply- HENRY MAY, Birmingham. 2403 OO WEEKLY and UPWARDS may be X> /0 EASILY and HONESTLY REALISED by persons of EITHER SEX, without hindrance to present occupation.-For particulars, fee., enclose a plainly addressed envelope to EVANS, WATTS, and COMPANY (P 107), Merchants, Birmingham. 2382. NERVOUS AND PHYSICAL DEBILITY —A gentleman, having tried in vain every advertised remedy, has discovered a simple means of self-cure. He will be happy to forward the particulars to any sufferer on receipt of a stamped and directed envelope.-Address Mr. J. T. SBWELL, Brook Villa, Hammersmith, London. 3433 GWALLT LLWYD.- Mae Hair Dye hynod ALEX. ROSS yn cynyrchu lliw goleu neu dywyll perffaith yn union wedi y defnyddir ef. Y mae yn berffaith a pharhaol—3s. 6c. Danfonir wedi ei bacio yn ddiogel am 55 o stamplau. Oil of Cantharides ALEX. Ross, at gynyrchu gwadt a barf—3s. 6c. Wedi ei bacio, 54 stamp. Ei De- pilatory, neu Hair Destroyer, yn symud ymaith wa it arddigonol o'r gwyneb, y gwddf, neu'r breichiau, heb niwaid—3s. 6c. Ei Curling Fluid -380 6c. Cludiad rhydd am M o stampi»u. Ei Skin Tightener, neu feddyginiaeth at symud rhychau a brychau du oddiar y croen; Bleom of Roses at y Dochau a'r gwefusau; a'i Hair Re- storer—3s. 6c. yr un; neu danfonir am 54 stamp. Nose Machine ALBX. ROSS, at lunio y trwyn i berffeithrwydd—10s. 6c. Yn rhydd am stamps. Wedi ei bacie yn gelaidd. 21, Lambs Cenduit- street, High Holborn, London. Danfonir yr article hyn gyda thxoad y pest, Gwahoddur. Hythyrau. 3334.