Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

MADOG AB OWAIN GWYNEDD.

News
Cite
Share

MADOG AB OWAIN GWYNEDD. Jjfugchwcdl fuddugol Eisteddfod Gadeiriol Dtheudir Cymru, A 'W;,t, 1880. PENOD XII. Y DREFEDIGAETH NEWYDD. Yr oedd y pentref wedi cael ei adeiladu yn ysgwar, a heolydd culion yn rhedeg rhwng y tai neu y cabandai. Defnydd y cabanau ydoedu crwyn gwahanol fwyst- filod a dail coed, ac yr oedd dau ddrws i bob un obonynt-un i fyned mewn a'r Hall allan Pan welodd ein harwr yr holl boblogaeth yn ffoi felly, gwnaeth arwydd arnynt i sefyll, ond nid oedd dim yn effeithio. Rhedeg yr oeddynt hwy Dertb traed a gwadnau, ac yn fuan yr oeddynt allan o'r golwg. Aeth v eyfeillion yn mlaen i'r pent-ef, ac edrychasant i mewn i amryw o'r cabanau, ond nid oedd dim yn weledig vuo oad pysgod, gwreiddiau coed. a chig bwystfilod. Yr oedd digoneid o gig yn mhob caban, a than coed yn llosgi ar ganol v ilawr. Yn mhen ychydig daeth- ant at y caban hreninol, neu y caban gwychaf vn y pentref, ac edrychasant i mewn iddo, ac yn gvwir ar gyfer y drws, gwelent wely a boneddiges glaf yn gorwedd arno. Trodd yr eneth ei golygon atynt, a dywedodd rywbeth, ond oi fedrent hwy ei deall. Yna, gwnaeth arwydd arnynt i estyn y rhisgl a or-weddai ar faine gareg yn yr ymvl iddi, yr hwn a gynwysai ychydig ddwfp. Yfodd y dwfr, ac wedi gosod v rhisgl i orwedd ar » gwely, ym- drechodd. siarad â hwynt drachefn, ond yn hollol aflwyddianus. Ni fedrent ddeall cymaint a gair o'i heiddo, a cheisiodd y ZD tywysog woeyd hyny yn hysbys iddi drwy arwyddion, ac yn v diwedd darfu iddo lwyddo. Gwenodd yr enetb, ac ysgydwodd ei phen. Ymdrenhodd ein gwron ei gosod i ddeall amryw bethau ereill, ond yr oedd yn methu. Nid oedd yn gwneyd dim ond ysgwyd ei phen, ond cad wai ei golygon bron yn sefydlog ar Ifor, yr hwn oedd yn fachgen glan a hoew. Wedi ymdrechu siarad a hi yn mhob dull a modd, ond heb lawer o lewyrch, dywedodd ein gwron, Gwell i ai ymadael. Nis gallwn ei gosod i ddeall dim." "Nid rhyw lawer," ebe Caerfallwch, "er y gall wn feddwl nad yw ei hiaith yn un anhawd/l i'w dysgu "Nid yw yn anhawdd iawn," dywedai Ifor. c. Nid. wcf yn meddwl y buaswn uwchlaw pythefnos neu drtir wythnos yn ei dysgu bob gair." Yna vmadawsant, ond dilvnodd y fon- eddiges Ifor a'i golygon hyd nes iddo ddiflanu o'i golwg. Erbyn eu bod allan, canfyddent wyth o rvfclwyr yn sefyll ar yr beol, ya gywir ar gyfer y fan yr oeddynt hwy yn myned allan, ac yr oedd yr olwg arnynt yn erchyll ac ofnadwy. Yr oedd eu erwyn wedi eu lliwio ar lun pob math o fwystfilol a nadredd, tra yr ydoedd eu penau wedi eu haddurno a phob math o bluf. Yn eu llaw ddeheu dalient fath o Waewffoa hir, ac yr oeddynt yn eu dal i fyny u weh eu penau, yr hyn wrth bob tebyg oedd arwydd o hedd weh. Aeth y chwech cvfaill yn mlaeu atynt, gan gadw eu dwylaw ar girnau eu cleddyfau, ac yn barod i waith. Fan daeth y tywysog yn mlaen, estynodd v prif benaeth flaen ei waewffon tuag ato, ac yntaa a afaelodd ynddi gaa ei throi o'r neilldu. Y pryd hwaw syrthiodd yr wyth anwariad ar y ddaear, gaa wneyd rhyw leisiau oernad- llyd, a churo eu dwyfron. Gafaelodd ein gwron ya mraich y penaAth, ac wedi ei gynorthwyo i godi ar ei draed, dywedodd wrtho, Na fydded i chwi ofni na dychrynu dim. Dynion heddychol ydym ni, newydd ddyfoi i'r wlad, ac yr ydym yn awr yn chwilio am le i drigfanu." Ond buasai yn llawn eystal iddo beidio dvwedyd dim. Ni ddeallodd y penaeth gymaint a gair. Yr oeddynt oil ar eu traed yn awr, ac wedi taflu eu harfau o'r neilldu, yr hyn eto a ddangosai arwyddion o heddwch. Ym- drechai y penaeth siarad rhywbeth yn barhaus a diddiwedd, ond buasai cystal iddo dewi. Nid oeddynt hwy yn ei ddeall ef mwy nag ydoedd yntau yn eu deall hwythau. Fodd bynag. deallodd Madog a'i gyfeillion ddau tbeth cyn ymadael, sef fod gan yr anwariaid elynion yn y gor- llewin, ao fod y rhai hyny yn eu bwyta. a dye a yr oil. Gafaelodd y tywysog yn Haw y penaeth, ac a'i hysgydwodd yn dda, ond pan yn gwneyd hyny clywai yr anwariaid yn gwneyd y lleisiau mwyaf aflafar, ac ym- ddangoseut fel pe yn ymdrechu dywedyd rhywbeth. Cychwynodd y cyfeillion bell- ach ibwynt eu hanifeiliaid, a dilynid hwynt gan y penaeth a'i wyr; ond pan ddaethant i olwg y ceffylau, gwnaethant ryw leisiau enbyd, a siaradent a'u gilydd mor gyflym fel y gallai dyn wneyd ei 1w nad oeddynt yn deall y naill y llall. Yn y man can-- fyddasant y Cymry yn esgyn ar eu cafnan, I a salasant yn fud, gan ddyrehafu eu dwy- law. Yr oedd y cyfeillion allan o'r golwg yn fuan, gan gyfeirio eu camrau tua'r deheu. Wedi iddynt deithio hyd nes 1 ydoedd yn mlaen tua chanol dydd, daeth- ant i olwg dyffryn ffrwythlawn, yr hwn a ymddangosai o bell yn debyg i fferm eang, wedi ei chau i mewn. Yr oedd caeau a chloddiau yn ymddangos yn eithaf amlwg, a gellid meddwl wrth edrych arnynt, yn « neillduol rhai ohonynt, eu bod wedi cael eu haredig rywbryd. Aethant i lawr i'r dyffryn hwn, a chawsant ar ddeall ei fod yn cynwys digonedd o ddwfr croew a ffrwythau Ni fuont yn hir cyn gwneyd eu meddyliau i fyny mal hwn oedd y lie i ymsefydlu ynddo, a thybient y gallent ddyfod i fyny a'u holl glud dros yr afoo, oblegvd credent mai yr un oedd yr afoo hon a'r un yr oedd y llongau arni. Wedi iddynt groesi y dyffryn, a'i gael yn mhob peth ag yr oeddynt yn ddymuno, troisant benau eu harifeiliaid yn ol tua thref, neu yn ol i'w gwersvll, a chyrhaeddasant bea eu taith yn mhen tri diwrnod. Cawsant y gwersyll fel y gadawsant ef, gyda'r eithriad o un peth. Yr oedd y foneddiges hono a ddanth gyda hwynt o'r Hen Wlad wedi iflanu, ac yr oedd ei morwyn wedi diflanu hefyd, ac nid oedd neb yno yn gwvbod dim am y naill na'r llall. Aethant a dwy fwyeli a dau gawell saethau gyda hwynt, t*. darfa iddynt ddiflanu yn y nos. Parodd hyn deimladau annedwydd yn mysg y cvfeillion, a buont am grya amser cyn i bethau ddyfod i eistedd yn iawn. Eu gorchwyl nesaf ydoedd symud eu nwvdd,tu i'r llongau, a pharotoi ar gyfer y drefedigaeth newydd. Cvmerodd hyn iddynt yn agos i dda j. ddiwrnod, ac at" y trvdvdd dydd cychwynasant. Hwyliasaat i fyny i'r afon yn hwvlas iawn-digon o ddwfr, a'r gwynt yn anadlu ychydig o'u tu. Tna brig yr hwvr, cawsant olwg ar ugeirtiau o alligators, mewn rhyw yswai fawr, yn ymestyn allan i'r wild am bedair neu bum' milltir. Yr oedd rhai ohonynt yn fawrioa ofnadwy. Aethant heibio y rhai hyn yn hynod dawel. Boreu draaoeth, cawsant olwg ar bump o bentrefi bychain, ac yr oedd yr un yr ydym wedi son am dano yn barod yn eu mysg. Yr oeddvnt oil wedi cael eu hadeiladu ar lan vr afon, rhyw ugain neu ddeugaiu llath oddiwrthi. Aeth y fyddin heibio y rhai hyn, ac yn mlaen ar ei thaith, ac erbyn nos yr oeddyut wediêyrhaedll eu cartref newydd. Cysgasawt y noson hono yn eu llongau, a boreu dranoeth darfu iddynt ddechreu danfon yr anifeiliaid i dir, a chyn nos yr oedd ynt wedi tirio y cyfan. Eu gorchwyl nesaf ydoedd adeilada dinas newydd, a chymeroddd hyn bed war mis O'll hamser. Darfu iddynt adeiladu deugiin o dai coed rhagorol, ac yn ea mysg yr oedd y palas breninol. Wedi cael y dref yn barod, eu gorchwyl nesaf ydoedd amaethu y tir, a chawsant gavdau rhagorol iawn. Yr oedd ffawd yn gwenu arnynt, ac. yr oeddynt yn berffaitb wrth eu bodd. Pob un a'i fferm, a phob un yn foistr arno ei nun. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, ni chawsant olwg ar un creadur byw, ond ambell arth oedd ya dygwydd pasio y dyffryn; ond yr oedd taith pob an ohonynt yn cael ei byrhau yo y lie hwn. Yr oedd y Cymry yn awr wedi ciel blaq ar eu cig, a gwae i bob arth a ddeuai i'r g^my iogaeth Aeth blwyddya a haner heibio heb ddim gwerth sylw i gymeryd lie; olld ya mis Mai, yr ail flw-ddyn, tra yr oeddynt weii bod yu dyfrhau yr anifeiliaid un boren, gwelent osgord o ryw greaduriaid hynod yn dyfod i. lawr dros leohwedd y mvnydd, ac ar ol iddynt syllu arnynt ychydig, deallasant m1.i or un gwrthcldrlTchau oeddynt a'r rhai a welsaat er's blwyddyo a haner yn ol vn y pentref hwnw ar laa yr afon. Yr oedd golwg erchyll arayat-eu cyrff wedi eu lliwio ar lun pob math o fwystfHod, a'u penau wedi cael eu hiddurno a phluf yr eryr. Daethant ya mlaen ar eu cyfer, ac estynodd y prif benaeth Hien ei waewffon at ein gwron, yr hwn a afaelodd vnd ii, ac yn union y gwnaeth hyny, syrthiodd yr anwariad ar ei wyneb ar y ddaear, a gwnaeth y lleill yr un modd. Gwaelent ryw leisiau aflafar pan ar y ddaear Gafael- odd y tywysog yn mraich y penaeth, gan ei gyfodi ar ei draed, a chan gynted ag y daeth i sefyll ar ei bedion, neidioid y lleill i fyny hefyd, gan barhau i wnevd rhyw leisiau truenus Yna, neshaodd y penaeth at ein gwron, a chan afaelyd yu ei fraieh tynodd ef yehydig o'r neilldu, ac estynodd iddo ddalen, yr hon oedd wedi ei phlygu i fyny yn drefaus.. Dadblygodd y ddalen yn ofalus, ac er ei syndol, canfyddodd ei bod yn cynwys ysgrifen, a'r ysgrifen hono yn Gymraeg glan gloew. Wedi ei darllen, canfyddodd ei bod yn cynwys cais ato ef. Yr oedd rhyw anwariaid yn trigo ar y mynyddoedd, ac ar amseroedd neillduol, deuent i lawr tua glan yr afon, gan ym- osod ar y pentrefydd, a lladd a bwyta y trigolion. Yr oeddynt yn awr ar eu taith, a dysgwylid iddynt gyrhaedd yno pan y buasai y lleuad yn llawn, ac yr oedd y penaeth a'i lwyth yn gofyn am: help i'w gwrthsefyll. Yr oedd y llwyth anwar- aidd, fel y galwent hwy, yn lluosocach na hwynt, ac felly yn eu trechu. Wedi i'n harwr siarad ychydig eiriau a'i gyfeillion, ysgrifenodd ar gefn y ddalen, "Byddwn at wasanaeth y penaeth pryd y myn." Edrychodd yr anwariad ar yr ysgrif am gryn amser, ac wedi iddo ei deall, syrthiodd ar ei wyneb, gan wneyd rhyw leisiau enbyd. Cyfododd ein gwron ef i'r lan drachefn, a gofynodd iddo, A ydych chwi yn deall Cymraeg ?" i'r hyn yr atebodd, "Mae Eryr yn gwybod ychydig o iaith y penaeth mawr. Ni dysgu ychydig." "Y mae yn dda genyf glywed. Gallwn ymgyfeillachu an gilydd o hyn allan." Y mae penaeth gwyneb llwyd yn iawn. Mae efe yn meddu ar dafod didwyll. Mae anwariaid dyfod o mynyddoedd, ac yn bwyta dyn coch. A wna penaeth mawr arbed dyn coch ?" Deuwn gyda chwi boreu yfory." Y pryd hwnw gwnaeth y creadur ryw swn rhyfedd ac annaearol, a gwnaeth y lleill leisiau yr un fatb. Darfu iddynt aros gyda y Cymry drwy y nos. Yr oeddynt yn ddeg-ar-ugain o nifer, ac yn ymddangos yn ddynion gwrol iawn. (I'w barhau.)

Hyn a'r Llall gan Oliver Jones,

COLEG Y GWEITHIWR.

Etifedd Ieuanc Llanarth.

[No title]