Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

BWRDD Y GOLYGYDD.

News
Cite
Share

BWRDD Y GOLYGYDD. CoFGOLOFN ISLWYN. — Carai Baglenydd wybod trwy gyfrwng y GWLADGARWR pwy yw trysor- ydd Trysorfa Cofgolofn Islwyn, fel y gallo ef ac ereill ddanfon eu hatling iddi ar unwaith, am ei bod yn hen bryd bellach gweithredu o blaid y gwrthddrych teilwng hwn. AT YSGRIFENYDD EISTEDDFOD TEEALAW.—Mae Eisteddfodwr yn dymnno cael gwybod gwerth y goron arian a gynygir yn yr Eisteddfod uchod a gynelir y Nadolig nesaf. Yn ol yr hysbysiad wythnosol, 5p. 5s. yw ei gwerth, tra y mae yn 6p. 6s. yn ol y program. EGLWYS ROBERTSTOWN, ABERDAR.—Derbyniasom ddau lythyr ar ymraniad yr eglwys uchod ganj W. H. a William Jones, dau wrthwynebwr cyndyn. Boed hysbys i'r ddau na chyhoeddir ychwaneg o u gwrth-haeriadau ar y testyn hwn, am nad oes gwreichionyn o obaith y terfynant fyth ysgrifenu arno. Llith byr sydd gan W. H. y tro hwn yn cynyg gofyniad arall (yn mhlith y rhes o ofyniadau sydd eisoes wedi eu cyfnewid gan y ddau) i W. J., yn nghyda chywiro gwall a ddygwyddodd yn ei lith ef (W. H.) am Ragfyr 31am, parthed y dywediad nad oedd un o'r per- sonau hyny yn ddiaconiaid, a chyfeddyf yn awr fod Richard Hopkins yn ddiacon. Llith pur faith sydd gan W. J. yn gwrthddywedyd eto haeriadau W. H. yn ei lythyr am y dyddiad crybwylledig. Mae'n hen bryd, bellach, i chwi eich dau ymddystewi, yn lie gwaethygu y peth. Pe b'ai mymryn o ysbryd yr Efengyl ynoch, diamheu na fuasech wedi parhau i ymgyndynu cyhyd. Ymgymoded yr eglwys ymranedig a'u gilydd, os ydynt yn caru llwyddiant achos y Gwaredwr. AT M. R. WILLIAMS (Alaw Brycheiniog). Y mae Ymgeisydd yn deisyf arnoch i gyhoeddi yn y GWLADGARWR eich beirniadaeth ar gyfansodd- iadau Eisteddfod Soar, Penderyn, Rhag. 20fed, 1880, yn ol eich addewid. SYMUDIAD DYNGAROL.—Dymuna W. M., Treorci, hysbysu cyfeillion yr hen gymydog di-ragrith ac unplyg ei feddwl David Jones, yr hwn sydd yn gaeth er's blwyddyn, fod y lofa y bu yn 'is arol- ygwr arni, sef Glofa Abergorci, wedi dewiei pwyllgor er rhoddi cyfle i bawb o'i gyfeillion i i wneyd rhyw gydnabyddiaeth iddo. Y mae cyfarfodydd eisoes wedi eu cynal yn Treorkey Hotel, a chynelir un arall yno nos Sadwrn nesaf, pryd y dymunir y daw lluaws yn nghyd. LLEW NEDD.—Nis gallwn gael gofod yn ein papyr i ymyrwyr. Aroswch yn amyneddg*r Ties byddo y ddau sydd yn bresenol yn ymddadleu wedi gorphen, ac yna cewch roesaw. AT Ap CORWYNT. Y mae rhyw gyfaill o'r enw Dysgybl am atebiad genych i'r pedwar gofyniad canlynol parthed Deddf Cyfrifoldeb y Meistri —1. A oedd angen am y fath ddeddf? 2. A ydyw yn iawn ar ran y meistri i wrthsefyll y cyfryw ddeddf ? 3. Beth oedd dyben pasiad y ddeddf ? 4. A atebai y Drysorfa Gynorthwyol yr amcan mewn golwg yn mhasiad y ddeddf hono ? AT WATCYN WYN.—Fel un oedd yn absenol o Eisteddfod Gwauncaegurwen, Nadolig, 1880, taer erfynia Ymgeisydd arnoch i ddanfon eich beirniadaeth ar y cyfansoddiadau i'n papyr. AELOD.-Eich enw priodol, os gwelwch yn dda. WEDI DYFOD I LAW,—Eiddo Myfyr Glan Ogwy— Un nad oedd yno—J. H.—Lief o'r pwll gib— Trethd al wr Eos Tylery—Serenog— Gohebydd (Ystalyfera)—Gwilym Meurig—Dyfodwg.

MR. GLADSTONE AR BRAWF.

Y STRIKE ETO!

BYR ERION 0 L'ERPWL.

Mr. Bradlaugh a'r Blwydd-daliadau…

Tanchwa Penygraig.

[No title]

tf Tystiolaethau Pwysig