Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

MADOG AB OWAIN GWYNEDD.

Eisteddfod y Tabernacl, tfreforis,…

News
Cite
Share

Eisteddfod y Tabernacl, tfreforis, Nadolig, 1880. Beirniadaeth y Bryddest am y diweddar William Howell Davies, Cross Inn, Trefo I na ellir gwthio ychydig o wres rhagrith i fewn -yr hyn, feallai, sydd yn cael ei wneyd yn fynych, ac y mae hyn yn twyllo beirniaid a dar- llenwyr lawer tro end os bydd yna deimlad, a chyfeillgarwch, ac edmygedd, a serch, a hir- aeth pur, gadewch i'r byd eu cael bob sill —gwnant les i'w galon oer a'i fynwes farw. Y mae y cyfansoddiadau yn y gystadleuaeth hon yn rhanu i dri dosbarth. Yr ydym wedi eu darllen yn fanwl, a rhoi rhai nodiadau ar bob ysgrif, fel na fydd i ni ond eu dosbarthu bellach. Yn y DOSBARTH I. saif AiJJel Hir- aeth, Cyfaill i'r Car Cofus, Un tyner dan y tonau, ao Ochenaid Hiraeth. Cyffredin o'u cymharu a safon y gystadleuaeth yw y pedwar hyn. Y mae eisieu dysgu pethau cyntaf cyf- ansoddiad ar y rhan fwyaf ohonynt, megys sillebu, corfanu, odli, a threfnu, &c. Hefyd, y mae eisieu arnynt gael amgyffred pa fodd i farddoni, pa f dd i ragori, pa fodd mae dyn- ion sydd o'u blaenau yn gallu gwneyd, a pha fodd y maent yn gallu dweyd gyda nerth, a theimlad, ac awdurdod. Yr ydym wedi nodi ar ysgrif pob un yr hyn sydd yn ddiffygiol yn ol ein barn ni, a hyny yw, mewn un gair, eis- ieu amgyffred beth yw, gwir farddoniaeth, a gallu i roi yr amgyffred hyny allan. Ceisied y rhai hyn eto, ac feallai y tro neaaf y bydd- ant mewn cystadleuaeth mwy cyffredin yn sefyll yn llawer nes yn mlaen. DOSBARTH II.—Yn hwn saif Timotheus, Idwal Trefor, a Hiraethus. Y mae y tri wyr hyn yn gwybod mwy am gyfaosoddi na'r rhai yn y dosbarth cyntaf, ond yn wir, barddoni yn wael gwael y maent. Y maent fel yn ceisio rhedeg ar ol hen ffigyran a hen ddywediadau, newid eu ffigyrau yn ami, ceisio barddoni yn mhob modd, eto yn methu yn un wedd. Y maent yn ymddangos fel rhai yn ceisio dweyd rhywbeth, yr hyn sydd yn lied awgrymu i mi eu bod heb ddim i'w ddweyd. Os bydd ad- nabyddiaeth o'r gwrthddrych, a serch tuag ato, a hiraeth ar ei ol, nis gall un galon ddweyd pethau mor sychion a rhai o'r cyfan- soddiadau hyn. Nid oes eisieu i mi ddweyd wrth y rhai hyn beth yw eu diffygion. Y maent yn sicr o fod yn gwybod mai diffyg teimlad yw. Heblaw hyn, y mae tair can yn gaboledig a diwall ddigon. DOSBARTH III.—Y mae pedwar yn hwn eto, sef Meudwy Glan Marah, Awel rhwng cangau'r ywen, Llyn Dagrau, ac Un o blant y tonau. Y mae rhywbeth da iawn yn cerdded drwy gan Meudwy, ond rhywfodd, nid yw mor agos, mor glir, ac mor benodol ag y dymun- asid. Pe gallai hwn ddweyd ei feddwl dipyn yn fwy miniog a phendant, gwnelai fardd rhagorol. Canu yn mhell rywfodd y mae. Geiriau da, a swn da, ond dim brawddegau a meddyliau digon agos, a nerthol, a chyfan i'n taro Awel rhwng cangau'r ywen.-Tebyg fod y brawd hwn yn gwybod mai ychydig o W. H. Davies sydd ganddo. Yr ydym ni yn teimlo ac yn credu hyny. Y mae yn gallu barddoni fel afon. Pe buasai yn canu ar ol un agos ac anwyl iddo, diau y proffesai ei hun yn ber- ganiedydd awenbrudd o'r fath oreu. Can ragorol yw hon, ond y mae rhy fychan o nod- weddion y gwrthddrych ynddi i fod yn brydd- est goffa. Llyn Dagrau. Y mae can felus odiaeth gan hwn. er nad mor glasurol a rhai yn y gystadl- euaeth, feallai; ond y mae ei symledd, a'i synwyr, a'i chywirdeb, a'i theimlad yn hawlio lie uchel. Tuedd i ail ddweyd rhai o'i fedd- yliau sydd yn tynu ychydig yn ol oddiwrth nerth y gwaith. Un o blant y tonau.-Dyma bryddest fardd- onol iawn eto, ac y mae yn bur gywir a nod- weddiadol fel pryddest goffa W. H. Davies, ac nid neb arall. Y mae yn llawn teimlad, a serch, a synwyr, a hiraeth, ao yn wir syml, yr hyn a'i gwoa yn farddoniaeth bur. Yr ydym wedi cael llawer o ddyddordeb, a bias, a boddhad wrth ddarllen yr oil, ac wedi ceisio gwneyd sylwadau buddiol i'r cystadleu- wyr arnynt oil. Gwaith hawdd i ni oedd eu troi heibio bob un ond y ddwy olaf, sef Llyn Dagrau ac Un o blant y tonau. Y mae y ddwy hyn, yr ydym yn credu, yn rhagori, ac o'r ddwy, yn mhob peth, y rhagoraf, yn ol ein barn ni, yw Un o blant y tonau, ac y mae yn deilwng o'r wobr.—Yr eiddoch yn onest, WATCYN WYN.

Eisteddfod Treherbert, Rhagfyr…

Eisteddfod y Forth, Cwm Rhondda,…

[No title]