Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
Undeb Corawl Aberdar. ARWEINYDD AIR. RRYS EVANS. CYNELIR cyfarfod cyntaf yr Undeb uchod < (ar ol v gwyliau) nos Fawrth. Ionawr lleg, prydly deehreuir ar yr Oratorio ST. PAUL. Am delerau aelodaeth, ymofyner a'r ysgriien- yddion D. P. DAVIES. 2423 MORGAN EVANS.
Pentre Art Union Drawing.
Pentre Art Union Drawing. LIST OF WINNING NUMBERS. 602 884 525 91 2691 1445 4 262 3233 714 3139 1058 1944 Yours &c., DAVID GEIFFITHS, Swansea.
- BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. MAE yn wir ddrwg genym fod em gohebydd Clustfeinydd wedi cael ei gamarwain i'r fath radd",u fel ag i wneyd y lledawgrym bychanus a brv.nt am ein Burns Cymreig, sef yr enwog Ceiriog. Diau ma,i mewn anwybodaeth y gwnaeth hyn, a llithrodd ei sylw i'n colofnau heb i ninan ei weled, onide sicr yw y cawsai fod allan. Drwg genym am yr anffawd, a drwg genym ddolurio teimlad ein henwog gyfaill Ceiriog. yr hwn sydd yn fardd-feirniad yn ein Heisteddfodau Genedlaethol ery flwyddyn 1858, ai'i gYmeriad beirniadol yn mhobmodduwchlaw amheuaeth. ALA W, Heb enw priodol. SHON o'R FOREST. — Ymddergys yr hanes yn y rhifyn presenol. WEDl DYFOD I LAw,-Beirniadaeth Eisteddfod y Tabernacl, Treforis, Nadoiig, 1881-Beirniad- aeth Libretto Cantawd Eisteddfod Merthyr- William Jones-W. H.— Barcud o'r Cwm Du— "Ap Dick, alias- Candid Welshman"—Ieuan Dyfed—Porcupine.
YR HEN FLWYDDYN.
YR HEN FLWYDDYN. YR ydym wedi newydd fyned tros, a throi un ddalen arall o'r hen gyfrol fawr a phwysig hono sydd yn esbonio rhaglun- iaethau Duw tuag at ein byd, ac yn eu hesbonio yn oreu o bawb ac o bob peth, sef cyfrol amser. Yn ei feddiant ef y mae yr allwedd fawr a nerthol hono sydd yn dadgloi dirgeledigaethau y dyfodol; z;1 efe sydd wedi trawsnewid y pethau hyny ag oeddynt ddeuddeg mis yn ol yn ddir- geledigaethau ar y program ddwyfol yn ffeithiau hanesyddol o r mwyaf pwysig erbyn heddyw. Dadblygodd y flwyddyn ddiweddaflawero ddygwyddiadau, croes- au, a rhagluniaethau ag oeddynt yn 'stor ar gyfer llawer un na ddaeth ar draws ei ddychymyg erioed i feddwl am danynt, ond sydd, er hyny, erbyn heddyw, wedi dyfod yn deimladau byw, meddylddrych- au blin, ac adgofion o'r mwyaf trist a galarus yn ei feddwl; 'ie, yn gyfryw ar nas annghofir gan ganoedd a miloedd tra yr ochr yma i'r bedd. Y mae, yn ddiau, fel ag y sylwasom yn barod, fod y rhan fwyaf o amgylchiadau, dygwyddiadau, a chyfnewidiadau pwyskaf y flwyddyn a aeth heibio yn aros yn ddigon gwyrdd ar gof a meddwl ein darllenwyr, fel na raid i ni fyned i'r drafferth o gofnodi y cyfryw yn y fan hon etto. Byddai ymgynyg a gwneuthur hyny yn orchwyl di-ben-draw yn mron, ac yn gyfryw ar na oddefai nac amser na gofod i ni i ymgymeryd ag ef yn bresenol. Feallai mai y peth mwyaf priodol a mwyaf ei fudd i ni a fyddai cymeryd ol olwg ar ein gyrfa drwy y byd yma yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Feallai y gallem drwy hyny ychwanegu tipyn at ein doethineb, a'n cysur tymhorol ac ysprydol, neu y gallem, o leiaf, loffa rhyw les ymarferol oddiwrth hyny. Wel, a gawn ni wneyd ymchwiliad pa faint a wnaethom yn ystod y flwyddynt a aeth heibio er hyrwyddo achosion rhyddid, rhinwedd, moes, a chrefydd ac edrych a wnaethom ni ein dyledswydd tuag at ein cyd-ddynion mewn ffordd o geisio gwella eu sefyllfaoedd moesol a deallol, ac ychwanegu at eu cysuron a u dedwydd- wch; ae er gwneuthur cymdeithas a'r byd yn gyffredinol yn well eu cyflyrau nag y eawsom hwynt ddeuddeg misyn ol. Beth yw y gwersi a ddysgasom, ac ai ni fyddai yn ddoeth i ni ymdrechu eu dwyn i ymarferiad rhagllaw ? Ai nid oedd rhyw ffosydd a phydewau ar draws rhai o'n llwybrau y llynedd ag y byddai yn ddoethineb o'r mwyaf i ni geisio eu gochelyd eleni? A fu unrhyw droion ffol ac ymddygiadau ynfyd y byddai yn fendithiol i ni lwyr ymwrthod a hwy o hyn allan ? A gawsom ni, bellach, y cyf- leusdra i ddeall pwy oedd ein gwir a'n gau gyfeillion, fel yr ymlynom wrth y naill, ac yr ymryddhawn oddiwrth y llall ? Oddiwrth pa beth bynag y darfu i ni dderbyn clwy' i'n cymeriad neu frath i'n cydwybod, neu a fu yn achos o'r anfri Ueiaf ar grefydd a'i Hawdwr, bydded i ni, yn nerth gras, ymdrechu eu gochelyd rhagllaw; a chaniattaed rhagluniaeth Ddwyfol FLWYDDYN NEWYDD DDA i bawb o honom.
BYR EBION 0 L'ERPWL.
BYR EBION 0 L'ERPWL. CAMSYNIADAU. Diolchaf i ysgrifenydd yr Eisteddfod am alw fy sylw at y wobr gerddorol ar y deg llinell, "Cadeiriad y Bardd." Gwelaf mai gwobr am awdl a gynygia Madame Wynne, ac mai Miss Mary Davies sydd yn rhoddi y wobr am y gerddoriaeth, yr un fath ag am y farddoniaeth. Dyna ddigon ar hyna, mi debygaf, fel na chaffo neb y pleser o lyfu bysedd ar y tipyn camsyniad. Boed hysbys i Marshal Soult nad myntum- iaeth o'm heiddo yn bersonol ydyw yr awgrym parthed Wellington fel testyn arwrgerdd mewn Eisteddfod Genedlaethol Gymreig. Gwn am feirdd cadeiriol nad ydynt yn edmygu y testyn a phe dywedwn fod un o brif-feirdd y genedl wedi dweyd wrthyf yn bersonol nad oedd y gronyn lleiaf o hawl gan y gwrthrych, neu adgof am y cyfryw, i fod ar restr testynau yr Eisteddfod Genedlaethol, gwelir, wrth hyny, fod rhywrai heblaw myfi yn myntumio neu farnu yn wahanol i'r Marshal ar genedl- aetholdeb y testyn. Bid a fyno, rhaid iddo sefyll bellach, a chawn weled mewn amser rhifedi y prif-feirdd a edmygant goffadwriaeth y cadfridog. Myntumiaf yn mhellach nas gellir priodoli buddugoliaeth Waterloo yn gyfangwbl, os cywir hanesiaeth, i'r Maeslyw- ydd Wellington. Gan fy mod yn siarad a'r Marshal, rhaid ymostwng yn isel, ond nid cyn gofyn iddo am ychydig brofion i gadarnhau y gosodiad fod ein gwlad yn ddyledus i Wel- lington i fod y peth ydyw yn bresenol. Cofied y Marshal nad wyf am gymylu dim ar ogon- iant y Dulce, pe yn alluog i hyny ond hyn sydd sicr, mai gogoniant neu anrhydedd digon gwaedlyd a erys am dano, a mwy na hyny, os cywir llafar gwlad, fe ddywedir iddo, drwy gynllunion bradwrus, achosi marwolaeth an- amserol milwyr a chadfridogion Cymreig fwy nag unwaith. Eiddigedd, meddir, oedd wrth y gwraidd, rhag i'w ogoniant gymylu. Hwyr- ach y caf wybod gan y Marshal pwy drodd y fantol ar faes Waterloo, yn ol ei dyb ef, yn gymaint a'i fod yn rhyfelgar. Onid yw yn syndod fod gwron rhyfelgar fel y Marshal hwn wedi cymeryd un sylw o greadur dinod fel myfi, nad yw yn gwybod dim ond am fyn- tumio yn barhaus am bersonau a phethau ? Digon gwir fy mod yn lied barocl i draethu barn ar bethau cyhoeddus, a thrwy ganiatad y Marshal, myntumiaf ddweyd na wnaethum sylw ar bersonau na phethau nad allaf sefyll at yr hyn a ddywedais. Nid wyf yn teimlo un awydd i fod yn llechwraidd mewn dim, er y dichon, pe bnaswn wedi gwneyd hyny, y gallasai fod yn llesiant masnachol i mi; ond tebyg mai ymgadw a wnaf at un gwyneb, doed a ddelo yn y diwedd. Da chwi, Mr. Marshal, peidiwch a fy lladd, oblegyd ni byddai yn un anrhydedd i chwi wneyd hyny ond gall fod ynoch awydd i'm dychrynu, os felly, chwi a gamsyniwch, oblegyd nid gydag lis y gellir twyllo hen aderyn. Odid na chawn benod wlithog gan y Marshal wedi hyn ar deilyngdod y fJuhe of Wellington fel testyn arwrgerdd Gymreig. Dyma lie y gwelaf yr annghysondeb fod dynion ag sydd wedi ethol aelod o'r gymdeithas heddwch fel cynrychiol- ydd Seneddol, yn dewis rhyfelwr yn un o'r prif destynau yn yr Eisteddfod Gymreig. Boed rhwng y Marshal a'i bethau, a sicrhaf y darllenydd na fuaswn wedi ysgrifenu gair o gwbl am yr Eisteddfod, oni buasai i mi fwy nag unwaith glywed amryw gyfeillion o'r Gogledd yn dyrnu ar y Deheuwyr am wneyd yr Eisteddfod yn lleol, a'i galw yn un genedl- aethol. Dyna yr achos cychwynol o fy ymyr- iad a mater yr Eisteddfod o gwbl, a deallwyf erbyn hyn fy mod wedi troseddu, trwy ymyr- aeth âg hawliau neillduol plaid sydd yn dal awenau llywodraeth y genedl Gymreig yn eu dwylaw. Tebyg i mi ar ddamwain feddwl neu fyntumio yn groes i'r Marshal Soult, ac awdvvr yr erthygl olygyddol yn y rhifyn di- weddaf o'r GWLADGABWR. Adwaenom yr olctf ond am y blaennf, mai iddo bob croesaw i wneyd a fyno y tu ol i'r lleni, fel y gwna cilgwthwyr yn gyffredin. Nid wyf yn dweyd nad wyf yn agored i gamsyniadau, fel llawer ereill ag sydd fil pwysicach na mi yn y byd ond gallaf ymlawenhau yn hyn, na wnaethum gamsyniadau bwriadol yn fy mywyd, ac ni turn yn euog o ddefnyddio y Wasg Gymreig i gamarwain neb o'm cyd-ddynion ar bynciau masnachol, a thrwy hyny, wneyd y tlawd yn diotach, a dyrysu cymdeithas, fel y gellid profi yn nyddlyfr ffeithiau y gorphenol. Pen- tyred y neb a fyno arnaf laid a baw-gadawaf iddo sychu, yna, bydd yn ddigon hawdd eu rhwbio ymaith, a boddlonaf i'r hunan-ethol- edigion i wneyd a dweyd yr hyn a ddewisont; ond nis gallant osod un argae i lawr er rhwystro neb i chwerthin am y camwri a gyflawnant, a'r camsyniadau dybryd a wnant fel oraclau anffaeledig (?) ar hyd y blynydd- oedd. Mae y cyfarwydd a'r llygadgraff yn gweled yn eglur y gwastraff a wnawd, a'r colledion gafwyd wrth ddilyn mympwy, a gwrandaw ar gynghorion yr ynfyd, oblegyd ynfydrwydd eithafol a ddysgwyd gan yr athrawon hyn o'r cyntaf. Aed y cyfryw rhagddynt, nim dawr i ond fe ddaw y wlad i weled yn hwyr neu yn hwyrach y drygioni a wneir yn weithfaol a chymdeithaaol. Dyma fi yn myntumio eto, a chawn weled, cyn diwedd 1881, fod y myntumion yn gywir tra bydd cynlluniau yr oraclau ymfflamychol yn destyn dirmyg y craffus a'r meddylgar. CYFARFYDDIAD Y SENEDD. Mae cyfarfyddiad y Senedd bresenol mewn cyflwr gwahanol i'r cynulliadau cyffredin, am fod rhanau o'r ymerodraeth mewn sefyllfa digon annymunol. Fe gyfyd llawer o bethau i sylw o wahanol gyfeiriadau ond y pwysic- af, meddir, o flaen dau dJ y Senedd ydyw sefyllfa anfoddog yr Iwerddon, fel nad oes gan ein gwleidiadwyr amser i hepian cyn tori allan fesurau i amddiffyn urddas y Llywodr- aeth ac anrhydedd y gyfraith. Cymer y Parnelliaid, gydag aelodau ereill o'r Cynghrair Tirol, safle wrthnysig, gan herio y Llywodr- aeth ar bynciau cysylltiedig a gwladlywiaeth yr Ynys Werdd. Amcan y blaid gynhyrfiol ydyw gorfodi y Senedd i gydnabod hawliau y bobl gyffredin i feddianau sydd yn bresenol yn meddiant y tir-feddianwyr, heb ystyried am foment fod y cyfryw syniadau yn gwbl groes i'r gyfraith. Mae y pwnc yn haeddu sylw manylaf gwleidyddion mwyaf craffus dau Dy y Senedd, a thebyg y cydsynia y darllen- ydd fod y gweithredoedd dieflig a gyflawnir yn yr Iwerddon wedi cyrhaedd pwynt eithaf- ol, fel nas gellir dyoddef yn hwy i lofrudd- iaethau a gweithredoedd ynfyd sydd yn tor- fynyglu ar heddwch a chysuron dinasyddion tfiwel a theyrngarol. Rhaid wrth fesurau effeithiol i wneyd trefn, a gosod aialiad union- gyrchol ar weithredoedd annghyfreithlon. Mae yn ddigon amlwg i neb a fyn weled nad gwir wladgarwch sydd yn cynhyrfu yr aelodau Gwyddelig yn y cynhyrfiadau preaenol. Mae Parnell a'i gyfeillion yn ddigon call i weled nad allant fyth orfodi y Llywodraeth i ym- ddarostwng a chydnabod hawliau ynfyd sydd heb reel na threfn weithredol. Nid yn unig yn yr Iwerddon v ceir dadblygiad o syniadau eithafol y Gwyddel, oblegyd ni gawsom, yn ddiweddar, amlygiad o hyn mewn araeth gan un o aelodau y Cynghor Dinasol, pan yn siarad mewn cynulliad Gwyddelig ar bwnc y Cynghrair Tirol, gan awgrymu fod yn rhaid iddynt hwy y Gwyddelod gael yr hyn a geis- ient, neu ynte y buasai yn rhaid iddynt gy- meryd at y cleddyf a'r bidog, a'i hymladd allan, deued a ddel o'r Llywodraeth Brydeinig Bradwriaeth eglur yn cael ei oddef yn un o brif ddinasoedd ein gwlad Ond druan o Pat, gall yr awdurdodau gwladol chwerthin am ben y fath ynfydrwydd, ac ymddwyn at y cyfryw gyda y dirmyg a deilynga. Barn gyffredin dynion deallgar yn ein gwlad ydyw nas gellir cael rhagorach gweinidogaeth at gyflwr y Gwyddel na gweinidogaeth yr hen Syr Watcyn yna, fe ellir yn hawdd gadw trefn arnynt, heb ond ychydig drafferth. Nid oes llawer i'w ddweyd am symudiadau y Senedd hyd eto ond bwriadwyf ddilyn yn mlaen, a gwylied pob symudiad, gan wneyd defnydd o'r cyfryw er llenwi ychydig ar dud- alenau y GWLADGARWR. Na fydded i neb ddysgwyl am berSeithrwydd ac anffaeledig- rwydd ond gwnaf fy ngoreu, fel arfer, i beidio camarwain neb, fel y mae arfer rhai dynsodion. GOLEUNI TRYDANOL. Mae yn debyg y cawn oleuni ychwanegol yn y ddinas, gan fod yr awdurdodau wedi gwneyd cytundeb i oleuo y prif heolydd, a manau penodol o gylch glan yr afon. Bydd yn gaff- aeliad neillduol i fforddolion yn y nos, yn gymaint a bod goleu y trydan yn tra rhagori ar oleuni y nwy. Ofer i neb bellach geisio haeru fod pobl L'erpwl yn hoffi tywyllwch, oblegyd os nad ydym yn oleu iawn ar bynciau cymdeithasol a gwleidyddol, mynwn gael goleuni mewn ffurf gelfyddydol. Bydd yn hwylusdod i drafnidaeth yr afon, ac yn werth- fawr i lwytho a dadlwytho llongau yn y gwa- hanol safleoedd. Byddis yn ami yn teimlo rhwystr gan y niwl tew sydd yn gorchuddio y ddinas a'r porthladd ond dysgwylir y bydd i oleuni y trydan fod o wasanaeth mawr i fasnach y mor, ac yn hwylusdod i longau i fyned i mewn ac allan. Mae darganfyddi Ldau celfyddydol yn effeithio daioni mewn llawer cylch er gwasanaethu cymdeithas, a gal! nal yw y dydd yn mhell pan ddygir y trydan at wasanaeth y goleudai (light-houses), ac i oleuo agerlongau trawsgludiadol. Gresyn nad ellid cael ychydig o ddylanwad goleuni y trydan i ben a chalon ambell hen ormeswr caeth- syniadol, er gweled os gall celfyddyd gyfnewid ychydig ar y cyfryw. MASNACH Y PORTHLADD. Arafwch ydyw y nodwedd fasnachol a welir yn argraffedig yn mhob cylch ond os yn araf, mae yn sicr. Allforiadau nwyddau o wahan ol fath yn weddol sefydlog, ond nid yn gwisgo un rhwysgfawredd ond hyn ydyw arddull gyffredin pethau yr adeg yma o'r flwyddyn. Aeth yr agerlongau Brazilian yn ddrylliau, y dydd o'r blaen, ar fryn o dywod y tuallan i'r porthladd ond fe achubwyd y morwyr a'r llwyth, gan mwyaf ohono, yr hwn oedd yn gynwysedig o dros saith cant o ychain march- nadol, gyda rhai ugeiniau o foch byw. Mae y bryniau tywod ar wddf yr afon yn beryglus i longau mawrion, pan fydd niwl fel caddug yn gordoi y lie, a chollir llawer o longau bychain a mawrion wrth fyned i mewn ac allan o'r porthladd. Caraswn fanylu yn mhellach ond rhaid ymatal, er mwyn i'r cadfridogion gael lie i chwydu celanedd ar y diniwed. Gair, wrth derfynu, am Ddeddf newydd y Cyfrifoldeb ar y meistri. Weithwyr Cymru, ymlynwch wrth y ddeddf, ac na fyddwch mor benwan a gwneyd un math o ymrwymiadau y tuallan i'r ddeddf, os nad ydych am osod y cyffion yn dynach, a'r iau a gludir genych yn drymach. Mae rhagorfreintiau yn perthyn i'r ddeddf a wna fwy o les na feddyliwch.— Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT. O.Y.-Wedi ysgrifenu Ilinell neu ddwy ar Ddeddf Cyfrifoldeb, gall y byddai yn ddoeth ychwanegu ychydig ar y pwnc. Ymddengys fod rhywbeth neillduol yn y ddeddf cyn y symbylir y meistri gyda'r fath gyflyinder i geisio sefydlu cymdeithas neu drysorfa ddar- bodol i gyfarfod a damweiniau. Ddarllenydd, ti elli fod yn sicr o hyn, fod mwy o ddirgel- wch yn perthyn i gyfrinion y ddeddf nag y mae neb ohonom wedi meddwl na'i freudd- wydio ychwaith. Cawn amser yn y dyfodol i ymdrin ar fanteision a'r anfanteision cysyllt- iedig a'r ddeddf yn ei pherthynas a'r dosbarth gweithiol. Fe ofala y meistri am eu budd- ianau, a phrofir hyny yn yr ymgais o gael genych i wneyd cytundebau y tuallan i gylch y ddeddf. Byddwch yn llygadog a synwyrol, a chofiwch fod doethineb a phwyll yn werth- fawr i blant dynion. G.
[No title]
CANMOLIR llawer dyn yn unig am ei fod yn anhysbys.
Tanchwa Penygraig.
Tanchwa Penygraig. Y TRENGHOLIAD. Dydd Ian, y 6ed o'r mis hwn, agorwyd y trengholiad gohiriedig yn yr achos hwn yn y Butcher's Arms Hotel o flaen Mr. Overton a Mr. E. B. Reece. Dywedai Mr. Overton eu bod yn golygu myned yn mlaen a'r ymchwiliad yn ddi- doriad ar ol dechreu, ond eu bod wedi derbyn. gohebiaeth oddiwrth y Llywodraeth yn hysbysu fod Mr. Wright, bar gyfreithiwr, a Mr. Hall, Arolygydd Mwngloddiau dan ei Mawrhydi dros Ogledd Cymru, i fod yn bresenol, ac yr oeddynt hwy wedi ysgrifenu nas gallent fod hyd yr wythnos ddyfodol. Rhoddodd Mr. H. T. Hamilton, meddvg cynorthwyol y gwaith, dystiolaeth gyda golwg ar y cyrff, a gobeithiai allu parotoi rhestr gyflawn ar gyfer y gohiriad. Rhodd- odd y Cwnstabl Row ei dystiolaeth yntan gyda golwg ar y cyrff Yr oedd 97 wedi eu codi hyd y dyddiad hwnw, a 4 etc yn y pwll. Yna cafwyd tystiolaeth Mr. Rowlands, y manager, gyda golwg ar y pyllau, eu maiutioli, eu pellder oddiwrth eu gilydd, a,'r nifer a weithient yno ddydd a nos-tua 228 y dydd, a 106 y nos Yr oedd y wyutyll yn anfon i lawr 70,000 troedfedd cubic o awyr bob mynyd. Yr oedd y ddau bwll tua 1,200 llath oddiwrth eu gilydd. Ar ol gorphen ei dystiolaeth ef, gohiriwyd yr ymchwiliad hyd yr lleg cyfisol. Boreu dydd Mawrth, yr lleg cyf., cafwyd dau gorff arall o lofa Penygraig. Dim ond un sydd ar ol yn awr yn y pwll.
Twrci a Groeg.
Twrci a Groeg. PAROTOI I RYFEL. .CAERCYSTENYN, Ion. 4.—\ mae darpariad" au yn cael eu gwneyd yn dawel, ond yn ddifrifol, at ryfel, gan fod y Sultan a'i gynghor- wyr agosaf yn cael eu tueddu a'i wrthsefyll yn arfog hawl-ofynion y Groegiaid. Mewn cynghor rhyfel yn y Palas, yn ddiweddar, bu cydymgynghoriad gyda golwg ar adnoddau a phwyntiau ymosodiad ac amddifiyniad. Tebyg mai Hobart Pasha fydd yn llywyddu y llynges Dyrcaidd sydd i'w danfon i ddyfroedd Groeg. ATHENS, nos Fawrth.- Y mae gorchymyn i wysio yr holl ol-lilwyr, 32,000 mewn nifer, wedi ei osod gan y Llywodraeth o flaen y Brenin George. Y mae goruchwylwyr cyffredinol a chonsuliaid tramorawl Groeg wedi derbyn eirchion i osod y gyfraith mewn grym yn ddilaesu yn erbyn pawb a geir yn diystyru y proclamasiwn. Danfonwyd eirch- ion hefyd i Faerod i barotoi rhestrau o'r dynion rhwng 30 a 40 oed yn perthyn i'r Landwehr, y rhai sydd hefyd i gael eu galw allan yn lied fnan. Y mae mabwysiadiad y mesurau hyn yn y Llywodraeth Roegaidd wedi peri anesmwythder mawr yn mysg y gweinidogion tramorawl yn Athens. Ddoe, cafodd gweinidogion Lloegr, Germani. Ffrainc, ac Itali, hir ymddydddan a M. Coumoundouros. Deallwn, oddiar awdurdod ddiamheuol fod y gweinidogion hyn wedi cynyg cy fiafareddiad i Lyvvodraetli Groeg, ac yn unfrydol yn gwasgu ami dderbyn hyny. M. Coumoundouros, mewn atebiad, a ddywedodd wrthynt oll nas gallesid derbyn cyflafereddiad gan Groeg, os yw y bwriad i ymyryd &'r llinell bwyntiwyd gan y Gynad- ledd, neu, os na roddir gwarantiadau y cedwir hono yn ddidoriad.
Advertising
Andrews Hall, Penarth. BYDDED hysbys y cynelir EISTEDDFOD IJ yn y lle uchod dydd GWENEB y GROGLITH, Ebrill 15fed, 1881. Y PRIF DDARN CORAWL. "Rhyfelgan Gwalia" (G-walia's Battle Song), gan D. Emlyn Evans, o'r Gerddorfa, yn Gymraeg neu Saesonaeg. Gwobr, lOp. Am fanylion pellach, gwel program, yr hwn fydd yn barod yn fuan, ac i'w gaal gan yr ysgrif- enydd am y pris arferol. LEWIS WILLIAMS. Ysg., 2425 70, Plassey Street, Penarth. 64 Gorlifiad Gantref y Gwaclod," v SEF Libretto fuddugol Cantawd Eisteddfod Merthyr YN BAROD YR WYTHNOS NESAF, Ac i'w chael ond anfon at MR. EDWARD JENKINS, Gwalia House, 9, Upper Woburn Place, London. PRIS 3c. Ail Gychwyniad Eisteddfod Dewi Sant A GYNELIR yn Temperance Hall Aberdar y dydd olaf yn Chwefror, sef yr 28ain, 1881, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddianus mewn caniadaeth, barddoniaeth, a rhyddiaith. Beirniad y Gerddoriaeth,—Mr. W. JARRETT ROBERTS (Pencerdd Eifion), Carnarvon. Beirniad y Farddoniaeth, y Rhyddiaith, yr Adrodd,-Parch. D. BRTTHONFRTN GRIFFITHS, Aberdare. L I'r c6r heb fod dan 100 mewn nifer a gauo yn oreu Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel" (gan John Thomas); gwobr, 25p., a medal arian gwerth lp. i'r arweinydd, rhoddedig gan Mr. R. Jones jeweller, Canon-street. 2. I r c6r heb fod dan 40 mewn nifer a gano yn oreu Mi p godaf ac a af at fy nhad (Dr. Parry); gwobr, 8p. 3. Am y traethawd goreu ar Y gwastraff o gael galar wisgoedd drudfawr mewn angladdau;" gwobr, Ip. ls. 4. Am y Bryddest oreu ar Haelioni;" gwobr, 8p. 3a. Mae'r programmes yn awr yn barod, ac i'w cael am y pris arferol gan yr ysgrifenydd. Ysgrifenydd—J. M. WILLIAMS (Cynonfryn), 117g 78, Gadlya-road, Aberdar,
Tystiolaethau Pwysij
Tystiolaethau Pwysij f I QUI\INK BITTERS GWILYM EVANS. f .1 Lf.J ,lÁ 1. ;j. Brynhyfryd. ger Abertawe. Anwyl Syr. -Yr ydwyf M-edi bod yn gwerthu y Qu-nine fitters" am rai blynyddau bellach. Y maent wedi gneyd Lawei o ios yn yr ardal yma, c y mae dyf.diad dy«^Iaer iddynt. Yryd.wf wedi sylwi yn fauol ar en heffaich ar walr i'ntl bersonau, ac yr ydwyf wedi gweled rhai o'r dolur- iau gwa«fchaf a allai neb Udyehvmygu yn cael eu ilwyr weMiau trwv ddefuy dio y uj(.,ddyg1YlJ yma. Y, mae plant o bob oedran, dyijion ieuanc a 1-en, gwragedi.1 a marched, oil yn tystiolaetbu i'w heffaith daion'i, Y mae yn drueni up ehid eu dar ostwug > chydig j n eu pris, heb wanydin <-u heffaitl's gan fo eanoedd o bobl weintcn yn svchedu am drein ei heif.-vith, ond eto heb iodd i wneyd hyny.— Yr eiddoch vii serchog. ISAAC OsvEX. Fi oyii Griffith Wdiiams, LlanerchjAngle- sea S>i, Di g nyf gael y cySaus.Ira i anfon gair o ^vii,fio i e h i C'I Quinine Bitters." Y maent vn d l^i Til i ;,wn yn y gysnydoga-ith hon. Gwert' ti a-rer ohonynt yn ystcd y blynyddau diweddaf au y mae y gaiwa." arnynt yn parhau i gy n yd. In Nid oes meJriyginiaeth yn deb., g iddynt at inkier rsbryd, difiyg traul, dychlamiad- an y galou. a char yn y pen. Yr eiddoch yn gywir, Medi 8, :880. GRIFFITH WILLIAMS. Fr"1n 3fr John Llwyd. ([oa" Cynffig), Mynydd- CynffiJ Syr,Bu'm yn dyoddef ilawer oddiwrth ddnlur yn fy m he a, isdder y.-bryd, diffyg arcbvaeth at fwyd, a., ar ol ei fwyta. blinder ma,wr. Pr i 11 5'ls botelaid 4" 6d. oddiwrth Mr. Richard Jenkins, Kenfig Hill, ac at' ol i mi ei chymeryd, teimlais fy hun wedi adferyd i m iechyd arferol, ac yn alluog i ddilyn fv rigtilwedigaeth. Yr ydwyf wedi eu cymeradwyo i ereill, a thystiolaeth y rhai hyny yw eu bod w,'cli derbyn lies annlxraethol trwyddynt, a byddaf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf eu"cadw bob amser fel trysor penaf y teulu. From the Rev J. fl. Williams (Brynfardd), Head Master of the Dowlais Grammar School. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,— The wonderful efficacy of your t; Quinine Bitters to restore health and vigour, after lingering illness and debility, has been recent- ly and sufficient'y proved by my family, and elicits this voluntary and conscientious testimony from me for the benefit of others. F.-om J Ellis Edwa-ds M.B CJ.S. L.S A., Sfc., Saint Clears Carmarthenshire. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,-Having been so frequently asked by my patients as to the desirability of taking your Quinine Bitters," I have for the last two years given it a fair trial, and find it, without exception, the most pieasant ai:d enectual nieans of admin- istering that remedy. (Signed) J. ELLIS EDWARDS, M.R.C.S, r..s.A. Testimonials of the most flattering nature have been recently received from Mr. Joseph Bees, Oardig n; Mr. Griffith Williams, Llanerchymedd; Mr. W. H. Thomas, Dowlais Mr. John Francis, Wrexham Mr. Myrddin Davies, Swansea Mr. Hugh G. Hughes, Holyhea.d; Alr. W. Sims, Aberaman; Mr. E. P. Wynne, Aberystwyth; Mr. Jones, St. Asaph Mr. D. Evans, Cemmaes, Montgomeryshire Mr. J. P. Jones, Aberayron all chemists and gentlemen who have every facility for testing the respective merits of different pre- parations offered to the public by advertisements and other means. Mr. Watkin J. Thomas, Chemist. Aberdare, Aug. 17th, certifies to its extensive sale and good results produced in several case, that came under his immediate notice. To Mr. Gwilym Evans, F.C.S., Manufacturing and Analytical Chemist, Vanelly. Llangadock, August 15, 18S0. Dear Sir.-I am happy to state that the sale of the "Quinipe Bitter? is rapidly increasing in this neighbourhood. All the patients who have tried it speak most highly of its beneficial effects, and very lately two very distinct and remarkable cases came under my own notice. The one was a case of nervous indigestion, and the other was a case of hypochondria, pure and simple. It is one of the few patients I strongly believ in. —Yours &c., E. D. GEORGE. From Robert Watts, Veitrinary Surgeon Peny- groes, Nerth Wales. T August 26th, 1SS0. I have taken your "Quinine Bitters" for in- digestion and the many inconveniences arising therefrom. The benefits derived are great and permanent. ° From Dr. G. A. Jones. Sept. 27th, 1880. I certify that the preparation known as Gwilym Evans's Quinine Bitters is quite free from minerals, and that tr e ingredients contained in it are mixed in the most suitable proportions to ensure its success in cases of Indigestion and Debility. (Signed) G. A. JONES, M.D. From Mr. John David Evans, Post OHce Tra lech. Sept. 15th, 1880. My dear Sir,—Although ycu must be overload- ed with testimonials in favour of your now celebrated "Quinine Bitters," yet I considered it my duty to inform you that many who have obtained it from me have taken it with very bene- ficial results, and those of m. customers who have truly proved its renovating properties always take one, two, or three bottles thereof (as the case may require), every Spring and Autumn, testifying that they dei ive much more benefit thereby than they obtained when spending so many weeks at the seaside. Have kept it on sale for many years, and find the demand for it in this part continually increasing. The last supply arrived safely. Sept. 24 th, 1889. Mr. •. Isgoed Jenes, Chemist, Llanrwst, &as sold grosses of the Quinine Bitters," and frtfm close observation of their effects, can vouch ftr their efficacy as a tonic in cases of extratne cebility, &c., being particularly suitably to patieats rOOf'Te.rag frem long illness.